Amnewidiad y falf aortig

Cyflwyniad

Aortic valve replacement
Aortic valve replacement

Mae amnewid falf aortig yn fath o lawdriniaeth ar y galon a ddefnyddir i drin problemau gyda falf aortig y galon.

Mae'r falf aortig yn rheoli'r llif gwaed allan o'r galon i weddill y corff.

Mae triniaeth amnewid falf aortig yn golygu tynnu falf ddiffygiol neu falf sydd wedi'i niweidio, a gosod falf newydd yn ei lle wedi'i gwneud o ddeunyddiau synthetig neu feinwe anifail.

Mae'n driniaeth fawr nad yw'n addas i bawb, a gall gymryd amser hir i wella ohoni.

Pa bryd mae'n angenrheidiol amnewid y falf aortig?

Gall fod angen newid y falf aortig am 2 reswm:

  • mae'r falf wedi culhau (stenosis aortig) – mae agoriad y falf yn lleihau, gan atal llif y gwaed allan o'r galon
  • mae'r falf yn gollwng (adlifo aortig) - mae'r falf yn gadael i waed lifo'n ôl drwyddi i'r galon

Gall y problemau waethygu dros amser, ac mewn achosion difrifol mae'n gallu arwain at broblemau sy'n bygwth bywyd, fel methiant y galon, os na chânt eu trin.

Nid oes unrhyw feddyginiaethau i drin problemau falf aortig, felly bydd amnewid y falf yn cael ei argymell os ydych yn wynebu risg o gymhlethdodau difrifol, ond fel arall rydych yn ddigon da i gael llawdriniaeth.

Darllenwch fwy am pam mae triniaethau amnewid falf aortig yn cael eu cyflawni.

Sut mae triniaeth amnewid falf aortig yn cael ei chyflawni?

Mae triniaeth amnewid falf aortig yn cael ei chyflawni o dan anaesthetig cyffredinol.

Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cysgu yn ystod y driniaeth, ac na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen yn ystod y driniaeth.

Yn ystod y weithdrefn:

  • mae toriad mawr (endoriad) rhyw 25cm o hyd yn cael ei wneud yn eich brest er mwyn mynd at eich calon - er y gellir gwneud toriad llai weithiau
  • caiff eich calon ei hatal a defnyddir peiriant calon ac ysgyfaint (dargyfeiriol) i wneud gwaith eich calon yn ystod y driniaeth
  • mae'r falf sydd wedi'i niweidio neu'r falf ddiffygiol yn cael ei thynnu, a gosodir y falf newydd yn ei lle
  • bydd eich calon yn cael ei hail-gychwyn, a bydd yr agoriad yn eich brest yn cael ei gau 

Bydd y driniaeth yn cymryd rhai oriau fel arfer. Cewch drafodaeth gyda'ch meddyg neu lawfeddyg cyn y weithdrefn i benderfynu p'un ai falf newydd synthetig neu falf o feinwe anifail sy'n fwyaf addas ar eich cyfer.

Darllenwch fwy am beth sy'n digwydd yn ystod triniaeth amnewid falf aortig.

Gwella o driniaeth amnewid falf aortig

Fel arfer bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ryw wythnos ar ôl cael triniaeth amnewid falf aortig, er y gall gymryd 2 i 3 mis i chi wella'n llwyr.

Dylech gymryd pethau'n ara' deg pan ewch chi adre gyntaf, ond yn raddol gallwch ddechrau mynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Rhoddir cyngor penodol i chi am unrhyw sgil-effeithiau y gallwch eu disgwyl wrth i chi wella, ac am unrhyw weithgareddau y dylech chi eu hosgoi.

Fel arfer ni fyddwch yn gallu gyrru am ryw 4 i 6 wythnos, ac mae'n debygol y bydd angen 6 i 12 wythnos i ffwrdd o'r gwaith arnoch, gan ddibynnu ar eich swydd.

Darllenwch fwy am gwella o driniaeth amnewid falf aortig.

Risgiau triniaeth amnewid falf aortig

Mae triniaeth amnewid falf aortig yn driniaeth fawr, ac fel unrhyw fath o lawdriniaeth, mae perygl y bydd cymhlethdodau.

Mae rhai o brif risgiau triniaeth amnewid falf aortig yn cynnwys:

  • heintiau yn y clwyf, yr ysgyfaint, y bledren neu falf y galon
  • clotiau gwaed
  • strôc
  • curiad calon afreolaidd dros dro (arrhythmia)
  • llai o weithrediad yn yr arennau am ychydig ddyddiau

Mae'r risg o farw o driniaeth amnewid falf aortig o gwmpas 1 i 3%, er bod y risg yn llai o lawer na'r risg o adael problemau difrifol y falf aortig heb eu trin.

Mae disgwyliad oes y rhan fwyaf o bobl sy'n goroesi llawdriniaeth yn agos i'r arferol.

Darllenwch fwy am risgiau triniaeth amnewid falf aortig.

Dewisiadau amgen i driniaeth amnewid falf aortig

Triniaeth amnewid falf aortig yw'r driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer cyflyrau'r falf aortig.

Dim ond os bydd llawdriniaeth ar y galon yn ormod o risg y bydd gweithdrefnau amgen yn cael eu defnyddio fel arfer.

Mae dewisiadau amgen posibl yn cynnwys:

  • mewnblannu falf aortig trawsgathetr (TAVI) – mae'r falf newydd yn cael ei thywys i'w lle drwy'r pibelli gwaed, yn hytrach na thrwy endoriad mawr yn y frest
  • falfwloplasti [valvuloplasty] balwn y falf aortig - mae'r falf yn cael ei lledu gan ddefnyddio balwn
  • triniaeth amnewid falf aortig heb bwythau - nid yw'r falf yn cael ei chysylltu gan ddefnyddio pwythau er mwyn lleihau'r amser a dreulir ar beiriant calon ac ysgyfaint

Darllenwch fwy am y dewisiadau amgen i driniaeth amnewid falf aortig.

Pam mae ei angen?

Defnyddir triniaeth amnewid falf aortig i drin cyflyrau sy'n effeithio ar y falf aortig. Gelwir y rhain yn glefydau'r falf aortig.

Y 2 brif glefyd ar y falf aortig yw:

  • stenosis aortig  – lle mae'r falf yn culhau, ac yn atal llif y gwaed
  • adlifo aortig  – lle mae'r falf yn gadael i waed ollwng yn ôl i mewn i'r galon

Gallwch fod wedi cael eich geni gyda'r problemau hyn, neu gallant ddatblygu'n hwyrach mewn bywyd.

Achosion clefyd y falf aortig

Mae rhai o'r prif achosion yn cynnwys:

  • calcheiddiad aortig mewn henaint - lle mae dyddodion calsiwm yn ffurfio ar y falf wrth i chi fynd yn hyn, gan atal y falf rhag agor a chau'n iawn
  • falf aortig deubwynt - problem sy'n bresennol o enedigaeth lle ceir ond 2 llabed ar y falf aortig yn lle'r 3 arferol, sy'n gallu achosi problemau wrth i chi fynd yn hyn
  • cyflyrau sylfaenol sy'n gallu niweidio'r falf aortig –yn cynnwys syndrom Marfan, syndrom Ehlers-Danlos, twymyn gwynegon, lwpws, arteritis cawrgell ac endocarditis

Problemau a achosir gan glefyd y falf aortig

Os oes gennych glefyd y falf aortig, efallai na fydd gennych unrhyw symptomau ar y dechrau.

Ond gall y cyflwr fynd yn fwy difrifol ymhen amser ac achosi:

  • poen yn y frest yn dod yn sgil gweithgarwch corfforol (angina) – achosir gan eich calon yn gorfod gweithio'n galetach
  • byr o anadl – ar y dechrau efallai mai dim ond pan fyddwch chi'n gwneud ymarfer corff y byddwch yn sylwi ar hyn, ond nes ymlaen efallai y byddwch yn fyr o anadl hyd yn oed wrth orffwys
  • pendro neu benysgafnder - achosir gan lif y gwaed yn cael ei rwystro o'ch calon
  • colli ymwybyddiaeth (llewygu) - o ganlyniad i leihad yn llif y gwaed hefyd

Mewn achosion arbennig o ddifrifol, gall clefyd y falf aortig arwain at broblemau sy'n bygwth bywyd, fel methiant y galon.

Pan fydd llawdriniaeth yn cael ei hargymell

Os oes gennych glefyd y falf aortig ac nid oes gennych unrhyw symptomau neu symptomau ysgafn yn unig sydd gennych, mae'n debyg y cewch eich monitro i wirio a yw'r cyflwr yn gwaethygu.

Os yw eich symptomau yn mynd yn fwy difrifol, mae'n debyg y bydd angen llawdriniaeth arnoch i amnewid y falf.

Heb driniaeth, mae clefyd difrifol y falf aortig yn debygol o waethygu, a gall fod yn angheuol yn y pen draw.

Sut mae'n cael ei wneud?

Mae amnewid falf aortig yn driniaeth fawr a dim ond os ydych chi'n ddigon da i gael llawdriniaeth y byddwch chi'n ei chael.

Paratoi ar gyfer y driniaeth

Yn yr wythnosau cyn y weithdrefn, byddwch yn mynychu clinig cyn-derbyn i gael asesiad i wirio p'un a yw'r driniaeth yn addas.

Mae hwn yn amser da hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau a all fod gennych ynglyn â'r weithdrefn:

Fel rhan o'r asesiad hwn, efallai

  • y cewch archwiliad corfforol
  • y gofynnir i chi am eich hanes meddygol, yn cynnwys unrhyw feddyginiaeth rydych yn ei chymryd, unrhyw alergeddau sydd gennych a ph'un a ydych wedi cael adwaith i anaesthesia yn y gorffennol
  • y cewch brofion i wirio'ch iechyd cyffredinol ac iechyd eich calon - gallai'r rhain gynnwys prawf gwaed, pelydr-X, electrocardiogram (ECG) ac ecocardiogram

Os ydych chi'n ysmygu, cewch eich cynghori i roi'r gorau iddi yn y cyfnod yn arwain at eich llawdriniaeth oherwydd gall hyn leihau'r risg o gymhlethdodau.

Dylid dweud wrthych pa bryd fydd angen i chi beidio â bwyta ac yfed cyn y weithdrefn.

Pan fyddwch chi'n cael y llawdriniaeth, mae'n debygol y byddwch yn yr ysbyty am ryw wythnos, felly bydd angen i chi wneud rhai paratoadau ymarferol ymlaen llaw.

Mae'r rhain yn cynnwys dod â dillad, pethau ymolchi ac unrhyw offer rydych chi'n eu defnyddio, fel ffon gerdded neu gymorth clyw.

Darllenwch fwy am mynd i mewn i'r ysbyty a paratoi ar gyfer llawdriniaeth.

Y llawdriniaeth

Mae triniaeth amnewid falf aortig yn cael ei chyflawni o dan anaesthetig cyffredinol.

Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n cysgu yn ystod y driniaeth ac na fyddwch chi'n teimlo unrhyw boen. Fel arfer bydd y llawdriniaeth yn para rhai oriau.

Yn ystod y weithdrefn:

  • bydd toriad mawr (endoriad) rhyw 25cm o hyd yn cael ei wneud ar hyd canol asgwrn eich brest er mwyn galluogi'r llawfeddyd i fynd at eich calon, er y gellir gwneud toriad llai mewn rhai achosion
  • mewnosodir tiwbiau i'ch calon a'r prif bibellau gwaed, sydd ynghlwm wrth beiriant calon ac ysgyfaint (dargyfeirio) - bydd hwn yn gwneud gwaith eich calon yn ystod y driniaeth
  • defnyddir meddyginiaeth i atal eich calon a bydd eich prif rydweli (aorta) yn cael ei glampio ynghau - mae hyn yn galluogi eich llawfeddyg i agor eich calon a gwneud llawdriniaeth arni heb fod gwaed yn pwmpio drwodd
  • bydd yr aorta yn cael ei hagor a thynnir y falf aortig sydd wedi'i niweidio
  • mae'r falf newydd yn cael ei phwytho i'w lle gydag edau fân
  • caiff ei chalon ei chychwyn eto gan ddefnyddio siociau trydan dan reolaeth cyn i chi gael eich tynnu oddi wrth y peiriant dargyfeirio
  • bydd asgwrn eich brest yn cael ei gysylltu gyda gwifrau, a bydd y clwyf ar eich brest yn cael ei gau gan ddefnyddio pwythau toddadwy

Dewis falf newydd

Cyn cael triniaeth amnewid falf aortig, bydd angen i chi benderfynu ar y math mwyaf addas o falf newydd i chi.

Mae 2 fath o falfiau newydd:

  • falfiau mecanyddol wedi'u gwneud o ddeunyddiau synthetig
  • falfiau biolegol wedi'u gwneud o feinwe anifeiliaid

Mae manteision ac anfanteision i'r ddau fath, a bydd eich meddyg yn trafod y rhain gyda chi.

Falfiau mecanyddol

Prif fantais falfiau mecanyddol yw eu bod yn para'n dda ac mae'n llai tebygol y bydd angen ammnewid y falf.

Golyga hyn eu bod yn aml yn well ar gyfer pobl iau sy'n cael triniaeth amnewid falf.

Ond mae tuedd i glotiau gwaed a allai fod yn beryglus ffurfio ar y falf, felly mae angen triniaeth oes gyda meddyginiaeth gwrthgeulo, fel warffarin, i atal hyn.

Bydd hyn yn cynnwys y siawns y ceir gwaedu gormodol o friw neu anaf, yn enwedig wrth i chi fynd yn hyn, ac efallai na fydd yn addas os ydych chi wedi cael problemau gwaedu sylweddol yn y gorffennol.

Hefyd, gall falfiau mecanyddol wneud swn clicio tawel a all darfu ar y dechrau, ond mae'n hawdd ymgyfarwyddo â hynny.

Falfiau biolegol

Prif fantais falfiau biolegol yw bod llai o risg y bydd clotiau'n ffurfio, felly nid oes angen triniaeth oes gyda meddyginiaeth gwrthgeulo fel arfer.

Ond mae falfiau biolegol yn tueddu gwisgo ychydig yn gyflymach na falfiau mecanyddol, ac yn y pen draw gall fod angen eu hamnewid ar ôl llawer o flynyddoedd.

Mae hyn yn golygu eu bod yn well yn aml ar gyfer pobl hyn sy'n cael triniaeth amnewid falf.

Gwella

Ar ôl cael triniaeth amnewid falf aortig, bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am ryw wythnos fel arfer.

Mae'r amser a gymer i wella'n llwyr yn amrywio gan ddibynnu ar ffactorau fel eich oedran a'ch iechyd cyffredinol.

Fel arfer bydd asgwrn eich brest yn gwella ymhen rhyw 6 i 8 wythnos, ond gall fod yn 2 i 3 mis cyn y byddwch chi'n teimlo fel chi'ch hun eto.

Gwella yn yr ysbyty

Byddwch yn aros mewn uned gofal dwys am y diwrnod neu ddau cyntaf ar ôl eich llawdriniaeth fel arfer, cyn symud i ward llawfeddygol.

Aros mewn Uned Gofal Dwys

Tra byddwch yn yr Uned Gofal Dwys:

  • efallai y cewch eich cadw ynghwsg am yr ychydig oriau cyntaf, neu hyd nes y bore canlynol
  • bydd gweithgarwch eich calon, eich ysgyfaint a gweithrediadau'r corff yn cael eu monitro'n fanwl
  • byddwch yn cael poenladdwyr ar gyfer y cyfnod pan fydd eich anaesthetig yn dod i ben - rhowch wybod i nyrs neu'r meddyg sydd â gofal ohonoch os nad yw'r rhain yn helpu
  • bydd tiwb sy'n sownd wrth beiriant anadlu yn cael ei roi i lawr eich gwddf hyd nes eich bod yn gallu anadlu ar eich pen eich hun - gall hyn fod yn anesmwyth ac ni fyddwch yn gallu siarad, bwyta nac yfed tra bydd y tiwb yn ei le

Pan fyddant yn eich tynnu oddi ar y peiriant anadlu, rhoddir mwgwd dros eich ceg a'ch trwyn i ddarparu ocsigen er mwyn i chi anadlu.

Symud i ward

Cewch eich symud o'r uned gofal dwys i ward llawfeddygol pan fydd y meddygon sy'n eich trin yn meddwl eich bod yn barod.

Efallai y bydd gennych nifer o diwbiau a monitorau ynghlwm wrthoch yn ystod ychydig ddiwrnodau cyntaf eich arhosiad.

Gallai'r rhain gynnwys:

  • draeniau'r frest - tiwbiau bach o'ch brest i ddraenio unrhyw waed neu hylif sy'n cronni
  • gwifrau amseru (pacing wires) - os oes angen, bydd y rhain yn cael eu gosod gerllaw draeniau'r frest i reoli cyfradd curiad eich calon
  • gwifrau wedi'u hatodi at badiau synhwyro - gellir defnyddio'r rhain i fesur cyfradd curiad eich calon, pwysedd gwaed a llif gwaed, a llif yr aer i'ch ysgyfaint
  • cathetr - tiwb a osodir i mewn i'ch pledren fel eich bod yn gallu pasio wrin

Bydd eich tîm gofal yn canolbwyntio ar gynyddu eich archwaeth a'ch cael chi nôl ar eich traed.

Bydd rhywun o'r tîm adsefydlu cardiaidd neu'r adran ffisiotherapi yn rhoi cyngor i chi ar sut i fynd yn ôl i'r arfer, a ble ceir rhaglen adsefydlu cardiaidd neu grwp cymorth yn eich ardal.

Y nod yw eich helpu i wella'n gyflym a mynd yn ôl i fyw bywyd mor llawn a gweithgar ag y gallwch, ar yr un pryd ag atal problemau pellach y galon.

Mynd adref

Gan ddibynnu ar ba mor dda rydych chi'n gwneud cynnydd, dylech allu gadael yr ysbyty ryw wythnos ar ôl eich triniaeth.

Cyn mynd adref, rhoddir cyngor i chi ynglyn â gofalu am eich clwyf ac unrhyw weithgareddau y mae angen i chi eu hosgoi hyd nes eich bod wedi gwella.

Mynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol

Bydd rhaid i chi gymryd pethau'n araf deg i gychwyn. Gall dechrau gydag ymarfer ysgafn, fel cerdded, fod o gymorth pan fyddwch chi'n teimlo fel gwneud, ond peidiwch â cheisio gwneud gormod yn rhy gyflym.

Gall eich meddyg neu lawfeddyg roi cyngor penodol i chi ynglyn â phryd y gallwch chi fynd yn ôl i wneud eich gweithgareddau arferol, ond yn gyffredinol:

  • gallwch fod yn deithiwr mewn car ar unwaith
  • efallai na fyddwch yn gallu gyrru am ryw 6 wythnos - arhoswch hyd nes y gallwch wneud stop brys yn esmwyth
  • gallwch gael rhyw ar ôl 4 i 6 wythnos - gwnewch yn siwr eich bod yn teimlo'n ddigon cryf yn gyntaf
  • o ran pryd y gallwch chi ddychwelyd i'r gwaith, mae hynny'n dibynnu ar y math o waith fyddwch chi'n ei wneud - gallai hyn fod mor fuan â 6 i 8 wythnos os mai gwaith ysgafn yw eich swydd yn bennaf, ond efallai na fydd am 3 mis os yw'n golygu gwneud gwaith llaw
  • dylech osgoi ymarfer corff egnïol, ysigiadau sydyn a chodi pethau trwm am 3 mis

Sgîl-effeithiau posibl

Tra byddwch chi gartref, gallwch gael rhai sgîl-effeithiau dros dro a ddylai ddechrau gwella wrth i chi ymadfer.

Gall y rhain gynnwys:

  • poen ac anesmwythder - gallwch gymryd poenladdwyr i leddfu hyn, er y dylai wella wrth i'ch clwyf wella
  • chwyddo a chochni o amgylch eich clwyf, a ddylai bylu'n raddol
  • colli archwaeth
  • anhawster cysgu (anhunedd)
  • rhwymedd - gall yfed digon o hylifau a bwyta ffrwythau a llysiau helpu hyn; gall eich meddyg awgrymu eich bod yn cymryd ffisig gweithio'r corff hefyd
  • amrywiadau hwyl, natur flin, gorbryder ac iselder - mae'r rhain yn gwbl normal ar ôl llawfeddygaeth fawr; gall siarad â'ch ffrindiau a theulu helpu, a gall eich nyrs cardiaidd gynnig cefnogaeth hefyd
  • colli diddordeb mewn rhyw - mae hyn yn gyffredin mewn pobl â salwch difrifol; mewn dynion, gall y straen emosiynol cysylltiedig arwain at broblemau gyda chodiad hefyd

Siaradwch â'ch meddyg teulu neu nyrs cardiaidd i gael cyngor os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag ôl-effeithiau eich triniaeth, neu os nad yw'n ymddangos eu bod yn gwella.

Pa bryd i gael cyngor meddygol

Cysylltwch â'ch meddyg teulu os cewch y canlynol:

  • mwy o gochni, chwyddo neu dynerwch o amgylch y clwyf
  • crawn neu hylif yn diferu allan o'r clwyf
  • poen sy'n gwaethygu
  • tymheredd uchel o 38C (100.4F) neu'n uwch
  • mwy byr o anadl
  • y symptomau a oedd gennych cyn y driniaeth yn dychwelyd

Gallai'r symptomau hyn fod yn arwydd o broblem, fel haint.

Darllenwch fwy am risgiau triniaeth amnewid falf aortig.

Risgiau

Fel unrhyw fath o lawfeddygaeth, mae triniaeth amnewid falf aortig yn gysylltiedig â nifer o gymhlethdodau.  Yn ffodus, mae problemau difrifol yn anghyffredin.

Mae'r risgiau o gael cymhlethdodau yn uwch yn gyffredinol i bobl hyn a'r rheiny ag iechyd gwael yn gyffredinol.

Mae problemau posibl yn cynnwys:

  • Haint – mae risg o gael heintiau clwyf, heintiau'r ysgyfaint, heintiau'r bledren a heintiau falf y galon (endocarditis). Efallai y rhoddir gwrthfiotigau i chi er mwyn lleihau'r risg hon.
  • Gwaedu gormodol – gellir gosod tiwbiau i mewn i'r frest i ddraenio'r gwaed, ac weithiau mae angen llawdriniaeth arall i atal y gwaedu.
  • Clotiau gwaed – mae hyn yn fwy tebygol os ydych chi wedi cael falf fecanyddol wedi'i gosod. Cewch bresgripsiwn am meddyginiaeth wrthgeulol os ydych chi'n wynebu risg.
  • Strôc neu pwl o isgemia dros dro (TIA) – lle mae'r cyflenwad gwaed i'r ymennydd yn cael ei rwystro.
  • Gallai'r falf wisgo – mae hyn yn fwy tebygol ymhlith pobl sydd wedi cael falf fiolegol wedi'i gosod ers cryn amser
  • Curiad afreolaidd y galon (arrhythmia) – mae hyn yn effeithio ar ryw 25% o bobl ar ôl triniaeth amnewid falf aortig, ac fel arfer bydd yn pasio gydag amser. Fodd bynnag, bydd angen gosod rheoliadur ar 1-2% o bobl i reoli curiad eu calon.
  • Problemau'r arennau - mewn hyd at 5% o bobl, nid yw'r arennau yn gweithio gystal ag y dylent am yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl llawfeddygaeth. Mewn ychydig o achosion, gall fod angen dialysis dros dro.

Mae triniaeth amnewid falf aortig yn driniaeth fawr ac weithiau gall y cymhlethdodau fod yn angheuol.

Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y risg o farw o ganlyniad i'r weithdrefn yn rhyw 1 i 3%.

Ond mae'r risg hon yn is o lawer na'r risg sy'n gysylltiedig â pheidio â thrin afiechyd aortig difrifol.

Dewisiadau Arall

Triniaeth amnewid falf aortig yw'r driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer clefydau'r falf aortig. Ond gall roi straen aruthrol ar y corff, a gall fod angen gweithdrefnau amgen.

Yn yr adran hon, amlinellir y prif weithdrefnau y gellir eu hargymell ar gyfer pobl nad yw eu hiechyd cyffredinol yn ddigon da i gael triniaeth gonfensiynol amnewid falf aortig.

Falfwloplasti [valvuloplasty] balŵn y falf aortig 

Mae falfwloplasti balŵn y falf aortig yn cynnwys pasio tiwb plastig tenau o'r enw cathetr trwy bibell waed fawr, i mewn i'r galon.

Wedyn, caiff balŵn ei chwyddo i agor y falf aortig.

Gall hyn helpu trin falf aortig sydd wedi culhau (stenosis aortig), ond nid yw'n helpu gyda falf aortig sy'n gollwng (adlifo aortig).

Mae canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi argymell mai dim ond mewn pobl nad ydynt yn addas i gael llawfeddygaeth agored gonfensiynol y dylid defnyddio falfwloplasti balŵn y falf aortig.

Gellir ei ddefnyddio fel triniaeth tymor byr ar gyfer babanod a phlant hyd nes eu bod yn ddigon hen i gael triniaeth amnewid falf.

Y brif anfantais gyda'r math hwn o driniaeth yw y gall yr effeithiau ond para hyd at flwyddyn. Ar ôl hyn, mae angen triniaeth bellach.

Mewnblannu falf aortig trawsgathetr (TAVI)

Mae mewnblannu falf aortig trawsgathetr (TAVI) yn golygu mewnosod cathetr i mewn i bibell waed yn rhan uchaf eich coes neu frest a'i basio tuag at eich falf aortig.

Wedyn defnyddir y cathetr i dywys a gosod falf newydd dros ben yr hen un.

Prif fanteision y dechneg hon yw nad oes angen atal y galon, felly nid oes angen defnyddio peiriant calon ac ysgyfaint (dargyfeirio), ac mae'n osgoi gwneud toriad mawr (endoriad) yn eich brest.

Mae hyn yn rhoi llai o straen ar y corff a gall olygu bod TAVI yn fwy addas i bobl sy'n rhy fregus i gael triniaeth gonfensiynol amnewid falf.

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai'r weithdrefn fod mor effeithiol â llawfeddygaeth i bobl y byddai llawfeddygaeth yn anodd neu'n peri risg iddynt, a gall arwain at wella'n gyflymach.

Ond nid oes llawer o dystiolaeth i awgrymu ei fod yn briodol ar gyfer pobl sy'n addas i gael llawfeddygaeth ac y mae risg isel iddynt ddioddef cymhlethdodau.

Mae cymhlethdodau posibl TAVI yn debyg i gymhlethdodau triniaeth gonfensiynol amnewid falf, er bod y risg o gael strôc ar ôl TAVI yn uwch.

Triniaeth amnewid falf aortig heb bwythau 

Triniaeth amnewid falf aortig heb bwythau yw'r driniaeth amgen fwyaf newydd i lawfeddygaeth agored draddodiadol.

Y prif wahaniaeth rhwng y 2 weithdrefn yw nad oes unrhyw bwythau yn cael eu defnyddio i gysylltu'r falf newydd yn ei lle.

Nod y weithdrefn hon yw lleihau faint o amser y mae'r driniaeth yn ei chymryd, felly treulir llai o amser ar beiriant dargyfeirio.

Gall fod yn opsiwn i bobl sydd â risg uchel o gael cymhlethdodau yn ystod y weithdrefn safonol.

Prif risgiau'r driniaeth hon yw gwaed yn gollwng o amgylch y falf newydd neu glot gwaed yn ffurfio.

Gall gollyngiad olygu bod rhaid ailadrodd y weithdrefn er mwyn cywiro'r broblem, neu efallai y defnyddir triniaeth arall.

Os oes clot gwaed yn ffurfio, gallai'r unigolyn gael strôc.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/05/2024 11:00:20