Dermatitis, Cyffyrddiad

Cyflwyniad

Contact dermatitis

Math o ecsema yw dermatitis cyswllt, sy'n digwydd pan fyddwch yn dod i gysylltiad â sylwedd penodol.

Ecsema yw'r enw am grwp o gyflyrau sy'n achosi i'r croen lidio a sychu.

Gyda thriniaeth, mae'r rhan fwyaf o bobl â dermatitis cyswllt yn gallu disgwyl i'w symptomau wella. Bydd rhai achosion yn clirio'n gyfan gwbl.

Mae'r testun hwn yn cwmpasu:

Symptomau dermatitis cyswllt

Mae dermatitis cyswllt yn achosi i'r croen fynd yn goch, yn bothellog, yn sych ac wedi cracio.

Mae'r adwaith hwn fel arfer yn digwydd o fewn ychydig o oriau neu ddyddiau i chi fod yn agored i lidiwr neu alergen.

Gall symptomau effeithio ar unrhyw ran o'r corff, ond mae'n effeithio gan amlaf ar y dwylo a'r wyneb.

Darllenwch am symptomau dermatitis cyswllt.

Pryd i gael cyngor meddygol

Dylech chi fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych chi symptomau parhaus, mynych neu ddifrifol dermatitis cyswllt. Gall geisio nodi'r achos ac awgrymu triniaethau priodol.

Gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio at ddermatolegydd (meddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau'r croen) i gael rhagor o brofion:

  • os na ellir adnabod y sylwedd sy'n achosi eich dermatitis cyswllt
  • os nad yw eich symptomau yn ymateb i driniaeth

Darllenwch ynghylch gwneud diagnosis o ddermatitis cyswllt.

Achosion dermatitis cyswllt

Gall dermatitis cyswllt gael ei achosi gan y canlynol:

  • llidiwr - sylwedd sy'n niweidio haen allanol y croen yn uniongyrchol
  • alergen - sylwedd sy'n achosi i'r system imiwnedd adweithio mewn ffordd sy'n effeithio ar y croen

Gan amlaf, caiff dermatitis cyswllt ei achosi gan lidwyr fel sebonau a glanedyddion, toddyddion neu gyswllt rheolaidd â dwr.

Darllenwch am achosion dermatitis cyswllt.

Trin dermatitis cyswllt

Os gallwch lwyddo i osgoi'r llidwyr neu'r alergenau sy'n sbarduno eich symptomau, bydd eich croen yn gwella yn y pen draw.

Fodd bynnag, gan nad yw hyn bob amser yn bosibl, gellir eich cynghori hefyd i ddefnyddio:

Darllenwch fwy ynghylch trin dermatitis cyswllt.

Atal dermatitis cyswllt

Y ffordd orau i atal dermatitis cyswllt yw osgoi dod i gysylltiad â'r alergenau neu'r llidwyr sy'n achosi eich symptomau.

Os na allwch osgoi cyswllt, gallwch gymryd camau i leihau'r risg y bydd yr alergenau neu'r llidwyr yn achosi symptomau, gan gynnwys:

  • glanhewch eich croen - os byddwch yn dod i gysylltiad ag alergen neu lidiwr, rinsiwch y croen sydd wedi'i effeithio â dwr cynnes ac esmwythydd cyn gynted ag y bo modd
  • defnyddiwch fenyg i amddiffyn eich dwylo - ond tynnwch nhw i ffwrdd bob hyn a hyn, oherwydd gall chwysu waethygu unrhyw symptomau; gallai fod yn ddefnyddiol i chi wisgo menyg cotwm o dan fenyg rwber os yw'r rwber yn llidio eich croen hefyd
  • newidiwch gynhyrchion sy'n llidio eich croen - gwiriwch y cynhwysion ar golur neu sebon i wneud yn siwr nad yw'n cynnwys unrhyw lidwyr neu alergenau; mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r gwneuthurwr, neu edrych ar-lein i gael y wybodaeth hon
  • defnyddiwch esmwythyddion yn aml gan ddefnyddio llawer ohonyn nhw ar y tro - mae'r rhain yn cadw eich croen wedi hydradu ac yn helpu i'w amddiffyn rhag alergenau a llidwyr; gallech chi hefyd ddefnyddio sebonau esmwythaol yn hytrach na sebonau bar neu hylif arferol, oherwydd gall y rhain sychu eich croen.

Mathau eraill o ecsema

Mae mathau eraill o ecsema yn cynnwys:

  • ecsema atopig (gelwir yn ddermatitis atopig hefyd) - y math mwyaf cyffredin o ecsema; mae'n aml yn rhedeg mewn teuluoedd ac yn gysylltiedig â chyflyrau eraill fel asthma a clefyd y gwair
  • ecsema disgennol - darnau cylchol neu hirgrwn o ecsema ar y croen
  • ecsema faricos - mae hyn gan amlaf yn effeithio ar waelod y coesau; caiff ei achosi gan broblemau â llif y gwaed trwy wythiennau'r coesau

 

Symptomau

Mae dermatitis cyswllt yn gallu achosi i groen fynd yn goch, yn llidiog, yn bothellog, yn sych, yn drwchus ac wedi cracio.

Gall y symptomau hyn ddatblygu ar unrhyw ardal o'r corff, er mai'r dwylo a'r wyneb sy'n cael eu heffeithio gan amlaf. 

Mae symptomau sy'n cael eu hachosi gan lidiwr fel arfer yn ymddangos o fewn 48 awr, neu hyd yn oed ar unwaith. Efallai na fydd llidwyr ysgafnach (fel sebon a glanedyddion) yn achosi problemau ar unwaith - gallai fod angen i chi gael eich amlygu'n aml i'r rhain cyn iddynt achosi problemau.

Mae symptomau sy'n cael eu hachosi gan alergen, fel colur neu emwaith metel, yn aml yn cymryd sawl diwrnod i ddatblygu.

Os gallwch osgoi cael eich amlygu eto i'r sylwedd sy'n gyfrifol am yr adwaith, bydd eich croen fel arfer yn gwella o fewn ychydig ddyddiau neu wythnosau.

Fodd bynnag, bydd rhai pobl yn cael symptomau difrifol a hirbarhaus, a allai effeithio ar ansawdd eu bywyd.

Symptomau ychwanegol

Yn dibynnu ar y sylwedd a achosodd yr adwaith, gallech gael symptomau ychwanegol hefyd.

Er enghraifft, gallai alergenau achosi cosi ar ardaloedd o'r croen sydd wedi'u heffeithio a gallai llidwyr achosi teimlad o losgi neu bigo.

Yn achlysurol, gall ardaloedd o groen sydd wedi'u heffeithio gan ddermatitis cyswllt gael eu heintio. Mae arwyddion haint yn gallu cynnwys:

  • mae eich symptomau presennol yn gwaethygu'n gyflym
  • rhedlif o'ch croen
  • poen cynyddol
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol
  • cael tymheredd uchel (twymyn)

Gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith os ydych yn credu y gallai eich croen fod wedi'i heintio, oherwydd gallai fod angen i chi gymryd gwrthfiotigau.

 

Achosion

Bydd dermatitis cyswllt yn digwydd pan fydd eich croen yn adweithio i sylwedd penodol.

Gall hyn fod naill ai:

  • yn llidiwr - sylwedd sy'n niweidio haen allanol y croen yn uniongyrchol
  • yn alergen - sylwedd sy'n achosi i'ch system imiwnedd adweithio mewn ffordd sy'n effeithio ar y croen

Dermatitis cyswllt llidus

Gall dermatitis cyswllt llidus gael ei achosi pan fyddwch yn cael eich amlygu'n rheolaidd i lidiwr gwan, fel sebon neu lanedydd. Gall ddatblygu hefyd os ydych wedi dod i gysylltiad â llidiwr cryfach am gyfnod byr.  

Bydd mwy o risg dermatitis cyswllt llidus gennych os ydych chi'n dioddef o ecsema atopig hefyd, sef y math mwyaf cyffredin o ecsema.

Mae llidwyr cyffredin yn cynnwys: 

  • sebonau a glanedyddion
  • sylweddau antiseptig a gwrthfacterol
  • persawrau a chadwolion mewn pethau ymolchi neu gosmetigau
  • toddyddion
  • olewau a ddefnyddir mewn peiriannau
  • diheintyddion
  • asidau ac alcalïau
  • sment
  • powdrau, llwch a phridd
  • dwr - yn enwedig dwr caled, calchog neu ddwr sy'n cynnwys lefel uchel o glorin
  • llawer o blanhigion - fel Ranunculus, llaethlys, Boraginaceae a mwstard.

Os oes gennych symptomau dermatitis cyswllt llidus eisoes, gallant gael eu gwaethygu gan wres, oerfel, ffrithiant (rhwbio yn erbyn y llidiwr) a lleithder isel (aer sych).

Bod yn agored i ddermatitis llidus yn y gwaith

Gall fod mwy o risg i chi ddatblygu dermatitis cyswllt llidus os ydych yn gweithio gyda llidwyr fel rhan o'ch gwaith neu os yw eich gwaith yn cynnwys llawer o waith gwlyb.

Os byddwch yn datblygu'r cyflwr oherwydd sylwedd rydych chi'n gweithio gydag ef, gall hyn gael ei alw'n ddermatitis llidus galwedigaethol.

Mae'r math hwn o ddermatitis yn fwy cyffredin mewn rhai galwedigaethau, gan gynnwys:

  • gweithwyr amaethyddol
  • gweithwyr harddwch a phobl sy'n trin gwallt
  • gweithwyr cemegol
  • glanhawyr 
  • gweithwyr adeiladu
  • cogyddion ac arlwywyr  
  • gweithwyr metel ac electroneg
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
  • gweithredwyr peiriannau 
  • mecanyddion a chyfosodwyr cerbydau

Dermatitis cyswllt alergaidd 

Pan fyddwch yn dod i gysylltiad ag alergen am y tro cyntaf, caiff eich corff ei sensiteiddio iddo, ond nid yw'n adweithio iddo. Dim ond pan fyddwch yn cael eich amlygu i'r sylwedd eto y bydd eich system imiwnedd yn adweithio ac yn achosi i'r croen fynd yn goch a chosi.

Mae alergenau sy'n aml yn achosi dermatitis cyswllt alergaidd yn cynnwys:

  • cynhwysion cosmetig - fel cadwolion, perarogleuon, lliw gwallt a chaledyddion paent ewinedd
  • metalau - fel nicel neu gobalt mewn gemwaith
  • rhai meddyginiaethau argroenol (meddyginiaethau sy'n cael eu rhoi yn syth ar y croen) - gan gynnwys corticosteroidau argroenol, mewn achosion prin
  • rwber - gan gynnwys latecs, math o rwber naturiol
  • tecstilau - yn enwedig y lliwiau a'r resinau sydd wedi'u cynnwys ynddynt
  • gludion cryf - fel adlynion resin epocsi
  • rhai planhigion - fel eurflodau, blodau haul, cennin Pedr, tiwlipau a briallu'r gerddi

 

Diagnosis

Fel arfer, bydd eich meddyg teulu'n gallu gwneud diagnosis o ddermatitis cyswllt o olwg eich croen a thrwy ofyn i chi am eich symptomau.

Bydd eisiau gwybod pryd ymddangosodd y symptomau am y tro cyntaf a pha sylweddau y buoch mewn cysylltiad â nhw.

Adnabod alergenau a llidwyr

Os bydd eich meddyg teulu wedi gwneud diagnosis o ddermatitis cyswllt, bydd yn ceisio pennu'r hyn sydd wedi ysgogi'ch symptomau. Os yw'n gallu dod i wybod beth yw'r alergenau neu'r llidwyr, gallwch gymryd camau i osgoi'r sylweddau hynny a lleihau'r risg y bydd eich symptomau'n ymddangos yn sydyn.

Bydd eich meddyg teulu'n edrych ar eich hanes meddygol ac yn gofyn cwestiynau i chi am eich ffordd o fyw a'ch galwedigaeth. Gallai hefyd ofyn i chi a oes hanes o ddermatitis neu ecsema yn eich teulu.

Cyfeirio at arbenigwr

Os nad oes modd adnabod yr alergenau neu'r llidwyr sy'n achosi'ch dermatitis cyswllt, efallai y cewch eich cyfeirio at ddermatolegydd (meddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau'r croen).

Os nad yw eich symptomau'n ymateb i driniaeth, ond mae'r achos yn hysbys, gallech gael eich cyfeirio at ddermatolegydd hefyd.

Profion am alergenau

Y ffordd orau o gynnal prawf am adwaith i alergenau yw trwy 'brawf patsys'. Yn ystod prawf patsys, bydd meintiau bach iawn o alergenau hysbys yn cael eu rhoi ar eich croen. Bydd y sylweddau'n cael eu rhoi ar eich cefn gan ddefnyddio math arbennig o dâp analergaidd. Weithiau, gallant gael eu rhoi ar ran uchaf y breichiau.

Ar ôl dau ddiwrnod, bydd y patsys yn cael eu tynnu a'ch croen yn cael ei asesu i weld a fu unrhyw adwaith.

Bydd eich croen hefyd yn cael ei archwilio eto ar ôl rhyw ddau ddiwrnod fel arfer, gan fod y rhan fwyaf o adweithiau dermatitis cyswllt alergaidd yn cymryd cyfnod mor hir â hyn i ddatblygu.

Profion am lidwyr

Mae'n anodd iawn profi a yw cynhyrchion penodol yn llidio eich croen, gan fod profion ar gyfer y rhain yn annibynadwy iawn. 

Mewn ambell achos, mae profion defnydd agored mynych (repeated open application - ROAT) yn ddefnyddiol, yn enwedig i asesu cosmetigau. Mewn prawf ROAT, caiff y sylwedd ei roi ar yr un ardal o groen ddwywaith y dydd am 5-10 niwrnod i weld sut mae eich croen yn adweithio.

Mae hyn yn ffordd arbennig o ddefnyddiol i chi edrych gartref ar eich cosmetigau eich hun i weld a oes adwaith iddynt. 

Triniaeth

Mae triniaeth ar gyfer dermatitis cyswllt yn gallu helpu'r rhan fwyaf o bobl i reoli eu symptomau. Bydd rhai pobl yn gweld bod eu symptomau'n clirio'n gyfan gwbl. 

Mae yna sawl ffordd wahanol o drin dermatitis cyswllt, gan gynnwys:

  • lleihau faint rydych yn cael eich amlygu i lidwyr
  • osgoi alergenau
  • esmwythyddion
  • corticosteroidau argroenol (elïau a hufenau steroid)
  • tabledi steroid

Caiff y rhain eu hesbonio isod.

Osgoi'r achos

Un o'r camau pwysicaf wrth drin dermatitis cyswllt yw nodi ac osgoi'r alergenau neu lidwyr sy'n effeithio arnoch chi. Os gallwch lwyddo i osgoi'r achos, neu leihau faint rydych yn cael eich amlygu iddo, ni ddylech gael unrhyw symptomau.

Nid yw'n hawdd bob amser osgoi llidwyr neu alergenau sy'n effeithio arnoch chi. Gall eich meddyg teulu neu ddermatolegydd (arbenigwr ar drin cyflyrau'r croen) ddod o hyd i ffyrdd o leihau eich cyswllt â nhw.

Os cewch eich amlygu i lidwyr fel rhan o'ch swydd, gwisgwch ddillad amddiffynnol digonol er mwyn lleihau unrhyw gyswllt â nhw. Dywedwch wrth eich cyflogwr am eich cyflwr fel y gall eich helpu i osgoi'r achosion cymaint ag y bo modd.

Esmwythyddion

Triniaethau lleithio yw esmwythyddion sy'n cael eu rhoi yn syth ar y croen i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli a'i orchuddio â haenen amddiffynnol. Maen nhw'n cael eu defnyddio'n aml i helpu i reoli cyflyrau croen sych neu gennog fel ecsema. 

Dewis esmwythydd

Mae nifer o wahanol esmwythyddion ar gael. Gall fod angen i chi roi cynnig ar sawl un cyn dod o hyd i un sy'n addas i chi. Efallai hefyd y cewch eich cynghori i ddefnyddio amrywiaeth o esmwythyddion, fel:

  • eli ar gyfer croen sych iawn
  • hufen neu drwyth ar gyfer croen llai sych
  • un esmwythydd i'w ddefnyddio ar eich wyneb a'ch dwylo, ac esmwythydd gwahanol i'w ddefnyddio ar eich corff
  • esmwythydd i'w ddefnyddio yn lle sebon
  • esmwythydd i'w ychwanegu at ddŵr baddon neu i'w ddefnyddio yn y gawod

Y gwahaniaeth rhwng trwythau, hufenau ac elïau yw faint o olew sydd ynddynt. Elïau sy'n cynnwys y mwyaf o olew, felly gallant fod yn eithaf seimlyd ond nhw yw'r mwyaf effeithiol wrth gadw lleithder yn y croen. Trwythau sydd â'r lleiaf o olew ynddynt, felly nid ydynt yn seimlyd ond gallant fod yn llai effeithiol. Mae hufenau'n disgyn rhwng y ddau.

Mae hufenau a thrwythau yn tueddu i fod yn fwy addas ar gyfer ardaloedd o groen coch, llidiog (chwyddedig). Mae elïau yn fwy addas ar gyfer ardaloedd o groen sych nad ydynt yn llidiog.

Os ydych chi wedi bod yn defnyddio esmwythydd penodol ers tro, gallai fynd yn llai effeithiol yn y pen draw neu gallai ddechrau llidio'r croen. Os yw hyn yn digwydd, gall eich meddyg teulu roi cynnyrch arall i chi ar bresgripsiwn.

Sut i ddefnyddio esmwythyddion

Defnyddiwch eich esmwythydd yn fynych a defnyddiwch lawer ohono. Mae'n ddefnyddiol i lawer o bobl gadw cyflenwadau ar wahân o esmwythyddion yn y gwaith neu'r ysgol.

I roi'r esmwythydd ar y croen:

  • defnyddiwch lawer ohono
  • peidiwch â'i rwbio i mewn i'r croen; yn lle, dylech daenu'r esmwythydd ar y croen i'r un cyfeiriad ag y bo'r blew yn tyfu
  • yn achos croen sych iawn, rhowch yr esmwythydd ar y croen bob dwy i dair awr
  • ar ôl cael bath neu gawod, sychwch y croen yn dyner ac yna rhowch yr esmwythydd arno'n syth tra bo'r croen yn llaith 

Os ydych yn dod i gysylltiad â llidwyr yn y gwaith sy'n achosi eich dermatitis cyswllt, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi esmwythyddion ar y croen yn rheolaidd yn ystod eich diwrnod gwaith ac ar ôl gwaith.

Peidiwch â rhannu esmwythyddion gyda phobl eraill.

Sgîl-effeithiau?

Weithiau, gall rhai esmwythyddion lidio'r croen. Os oes gennych ddermatitis cyswllt, bydd eich croen yn sensitif a gall weithiau adweithio i gynhwysion penodol fel persawr mewn esmwythyddion a brynir dros y cownter. Os bydd eich croen yn adweithio i'r esmwythydd, rhowch y gorau i'w ddefnyddio a siaradwch â'ch meddyg teulu, a fydd yn gallu argymell esmwythydd arall.

Cofiwch fod rhai esmwythyddion yn cynnwys paraffin a gallant achosi perygl tân, felly ni ddylid eu defnyddio ger fflam noeth. Mae esmwythyddion sy'n cael eu hychwanegu at ddŵr bath yn gallu gwneud y bath yn llithrig iawn, felly byddwch yn ofalus wrth i chi fynd i mewn ac allan o'r bath. 

Corticosteroidau argroenol

Os bydd eich croen yn goch iawn, yn ddolurus ac yn llidus, gall eich meddyg teulu roi presgripsiwn am gorticosteroid argroenol (hufen neu eli sy'n cael ei roi'n uniongyrchol ar y croen) sy'n gallu lleihau'r llid yn gyflym.

O'u defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau eich fferyllydd neu feddyg, mae corticosteroidau yn driniaeth ddiogel ac effeithiol ar gyfer dermatitis cyswllt.

Dewis corticosteroid argroenol

Gellir rhoi corticosteroidau argroenol o wahanol gryfder ar bresgripsiwn, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw'ch dermatitis cyswllt a lle mae'r croen sydd wedi'i effeithio. Gallech gael y canlynol ar bresgripsiwn:

  • hufen cryfach i'w ddefnyddio am gyfnod byrdymor yn achos dermatitis cyswllt difrifol
  • hufen gwannach os yw'r ecsema yn ysgafn
  • hufen gwannach i'w ddefnyddio ar eich wyneb, yr organau cenhedlu neu ym mhlyg eich cymalau (fel eich penelinoedd), gan fod y croen yn deneuach yn yr ardaloedd hynny
  • corticosteroid argroenol cryfach i'w ddefnyddio ar gledrau'ch dwylo ac ar wadnau eich traed, gan fod y croen yn fwy trwchus yno

Sut i ddefnyddio corticosteroidau argroenol 

Pan fyddwch yn defnyddio corticosteroidau argroenol, rhowch haen denau dros bob ardal sydd wedi'i heffeithio. Oni bai y cewch gyfarwyddyd fel arall gan eich dermatolegydd, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y daflen wybodaeth i gleifion a ddaw gyda'r corticosteroid. Bydd hon yn rhoi manylion am faint i'w daenu.

Yn ystod pwl o ddermatitis cyswllt difrifol, peidiwch â rhoi'r corticosteroid ar eich croen fwy na dwywaith y dydd. Bydd y rhan fwyaf o bobl ond yn ei daenu unwaith y dydd.

Dylech roi eich esmwythydd ar y croen yn gyntaf ac aros tua 30 munud cyn defnyddio'r corticosteroid argroenol.

Bydd y feddyginiaeth fel arfer yn dechrau cael effaith o fewn ychydig ddyddiau. Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych chi wedi bod yn defnyddio corticosteroid argroenol ac nad yw eich symptomau wedi gwella.

Sgîl-effeithiau

Pan fyddwch yn rhoi corticosteroid argroenol ar y croen, gallech deimlo ychydig o bigo a llosgi am gyfnod byr. Mewn rhai achosion, gallant hefyd achosi:

  • teneuo'r croen
  • newidiadau yn lliw'r croen
  • acne (plorod) 
  • mwy o flew yn tyfu

Bydd y rhan fwyaf o'r sgîl-effeithiau hyn yn gwella wedi i'r driniaeth ddod i ben.

Yn gyffredinol, bydd defnyddio corticosteroid argroenol cryfach neu ddefnyddio llawer o gorticosteroid argroenol yn cynyddu eich risg o gael sgîl-effeithiau. Dylech ddefnyddio'r maint gwannaf a lleiaf sy'n bosibl i reoli eich symptomau.

Tabledi corticosteroid

Os ydych yn cael pwl difrifol o ddermatitis cyswllt a'i fod yn gorchuddio ardal fawr o'ch croen, gallai eich meddyg roi tabledi corticosteroid ar bresgripsiwn.

Gallech gael tabledi corticosteroid ar bresgripsiwn i'w cymryd am rhwng pump a saith niwrnod. Yn ddibynnol ar ba mor effeithiol yw hwn, gallai eich dos gael ei ostwng yn raddol wedyn dros ddwy i dair wythnos.

Os caiff tabledi corticosteroid eu cymryd yn aml neu am amser hir, gallant achosi nifer o sgîl-effeithiau, fel:

  • gostyngiad yng nghyflymder twf plant
  • pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd)
  • osteoporosis (esgyrn brau)
  • diabetes

Am y rheswm hwn, mae eich meddyg teulu yn annhebygol o roi tabledi corticosteroidau ar bresgripsiwn amlroddadwy heb eich cyfeirio at arbenigwr.

Triniaethau pellach

Os nad yw'r triniaethau sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu yn rheoli'ch symptomau'n llwyddiannus, gallai eich cyfeirio i gael eich asesu a chael triniaeth gan ddermatolegydd.

Mae triniaethau pellach a allai fod ar gael gan ddermatolegydd yn cynnwys:

  • ffototherapi, pan fydd yr ardal o'r croen sydd wedi'i heffeithio yn cael ei hamlygu i olau uwchfioled (UV) i helpu i wella'i golwg
  • therapi imiwnolethu - meddyginiaethau sy'n lleihau llidio trwy lethu eich system imiwnedd 
  • alitretinoin - tabledi capsiwl sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer ecsema difrifol sy'n effeithio ar y dwylo

Therapïau cyflenwol

Gall rhai pobl ddewis defnyddio therapïau cyflenwol ar gyfer dermatitis cyswllt, fel atchwanegiadau bwyd neu feddyginiaethau llysieuol. Mae diffyg tystiolaeth i ddangos eu bod yn trin cyflyrau fel ecsema yn effeithiol.

Os ydych yn ystyried defnyddio therapi cyflenwol, siaradwch â'ch meddyg teulu i ddechrau i sicrhau bod y therapi'n ddiogel i chi ei ddefnyddio. Hefyd, peidiwch â rhoi'r gorau i ddefnyddio unrhyw driniaethau a gawsoch ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/11/2022 10:27:29