Cyflwyniad
Sylwch, mae’r pwnc hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd, felly rydym yn argymell eich bod chi’n croesgyfeirio at y fersiwn Saesneg hefyd i sicrhau eich bod chi’n cael gwybodaeth gywir a chyfredol.
Grwp o heintiau a achosir gan y bacteriwm Staphylococcus yw heintiau staffylococol. Mae'n bosibl y byddwch wedi clywed pobl yn cyfeirio atynt fel "heintiau staff'".
Gall bacteria staff achosi amrywiaeth eang o heintiau, o heintiau cymharol fach fel cornwydydd, i heintiau mwy difrifol y gwaed, yr ysgyfaint a'r galon.
Mae llawer o fathau o Staphylococci, ond caiff y rhan fwyaf o heintiau eu hachosi gan grwp o'r enw Staphylococcus aureus.
Mae'r grwp hwn o facteria yn cynnwys Staphylococcus aureus sy'n wrthiannol i'r cyffur meticillin (MRSA), sy'n wrthiannol i wrthfiotigau penodol a ddefnyddir yn aml ar gyfer heintiau staff, fel flucloxacillin.
Mae hefyd yn cynnwys PVL-Staphylococcus aureus, sy'n cynhyrchu tocsin o'r enw Panton-Valentine leukocidin (PVL), sy'n lladd celloedd gwynion sy'n ymladd heintiau ac yn gallu achosi heintiau croen yn rheolaidd, fel cornwydydd a chrawniadau.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu rhai o brif fathau haint staff, gan gynnwys gwybodaeth am y modd y mae'r heintiau hyn yn cael eu lledaenu a'u trin.
Mathau o heintiau staff
Mae heintiau staff yn gallu cael eu dosbarthu'n fras mewn dau grwp: heintiau'r croen a meinwe feddal, a heintiau ymledol. Rhoddir enghreifftiau isod.
Heintiau'r croen a meinwe feddal
Mae'r rhan fwyaf o heintiau sy'n cael eu hachosi gan facteria staff yn gymharol fach, ac yn effeithio ar y croen neu'r feinwe waelodol yn unig. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:
- cornwydydd - lympiau coch, poenus ar y croen sydd fel arfer yn datblygu ar y gwddf, yr wyneb, y gesail neu'r ffolennau
- impetigo - haint ymledol iawn sy'n effeithio ar blant yn bennaf, sy'n gallu achosi doluriau, pothelli a chrachod ar y croen
- llid yr isgroen - haint yn haenau dwfn y croen, sy'n gallu achosi i ardaloedd wedi eu heffeithio fynd yn goch, yn boenus, yn chwyddedig a phoeth yn gyflym
- crawniad ar y croen - croniad o grawn sy'n ymddangos fel lwmpyn poenus o dan wyneb y croen
- follicwlitis - haint mewn ffoligl gwallt (coden fach yn y croen y mae gwallt yn tyfu ohoni), sy'n achosi i lwmpyn coslyd yn llawn crawn ddatblygu
- heintiau clwyf - haint mewn toriad neu grafiad neu glwyf llawfeddygol, sy'n achosi cochni, chwyddo, poen a chrawn
- syndrom croen sgaldiedig staffylococol (SSSS) - cyflwr mwy difrifol sy'n effeithio ar fabanod a phlant ifanc yn bennaf, lle mae bacteria staff yn rhyddhau tocsin sy'n niweidio'r croen, gan arwain at bothelli helaeth sy'n gwneud i'r croen edrych fel pe bai wedi cael ei sgaldio
Cliciwch ar y dolenni uchod i gael mwy o wybodaeth am y cyflyrau hyn, gan gynnwys eu symptomau a thriniaethau ar eu cyfer.
Heintiau ymledol
Mewn nifer fach o bobl, gall haint staff ar y croen arwain at haint fwy difrifol ac ymledol yn ddyfnach o fewn y corff. Mae enghreifftiau'n cynnwys:
- arthritis septig - haint ar y cymalau sy'n achosi poen, chwyddo, cochni a thynerwch mewn cymalau sydd wedi eu heffeithio
- osteomyelitis - haint ar yr esgyrn, sydd fel arfer yn effeithio ar un o'r coesau, gan achosi poen yn yr esgyrn, symud cyfyngedig, a chwyddo, cochni a chynhesrwydd yn y man sydd wedi'i effeithio
- niwmonia - haint yn yr ysgyfaint sy'n achosi pesychu parhaus, anawsterau anadlu a poen yn y frest; mae hyn yn aml yn digwydd ar ôl salwch firaol fel y ffliw
- endocarditis - haint ar leinin mewnol y galon, sy'n achosi twymyn, poen yn y frest, pesychu, gwendid a prinder anadl
- sepsis - haint yn y gwaed sy'n achosi tymheredd uchel (twymyn), curiad calon cyflym ac anadlu cyflym
- syndrom sioc wenwynig - pan fydd bacteria'n rhyddhau tocsinau i'r gwaed, sy'n gallu achosi twymyn sydyn, chwydu, dolur rhydd, llewygu, pendro, dryswch a brech
Cliciwch ar y dolenni cyswllt uchod i gael mwy o wybodaeth am y cyflyrau hyn, gan gynnwys eu symptomau, a thriniaethau ar eu cyfer.
Sut rydych yn cael haint staff
Mae bacteria staff yn gyffredin. Mae rhyw un o bob tri o bobl yn cario'r bacteria yn ddiberygl ar eu croen, fel arfer y tu mewn i'w trwyn ac ar arwyneb eu ceseiliau a'u ffolennau.
Fodd bynnag, gall y bacteria achosi problemau os byddant yn mynd i mewn i'r corff trwy doriad yn y croen, fel toriad neu grafiad, llosg neu brathiad gan bryfyn. Gallant hefyd fynd i mewn i'ch corff trwy offer meddygol, fel cathetrau wrinol, agoriadau yn y croen lle caiff diferwyr eu gosod, a thiwbiau bwydo.
Mae bacteria staff fel arfer yn lledaenu rhwng pobl trwy gyswllt croen agos neu drwy rannu gwrthrychau wedi eu halogi, fel tywelion neu frwshys dannedd. O bryd i'w gilydd, gallant ledaenu mewn defnynnau wrth i rywun sy'n cario'r bacteria besychu neu disian.
Mae bwyta bwyd wedi ei halogi â bacteria staff yn gallu rhoi gwenwyn bwyd i chi. Mae hyn fel arfer yn datblygu ar ôl bwyta bwyd, fel arfer cig, nad yw wedi cael ei goginio neu'i storio'n gywir.
Pwy sy'n cael ei effeithio
Mae heintiau staff ar y croen yn gyffredin, yn enwedig ymhlith plant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Mae heintiau ymledol yn llawer mwy anghyffredin.
Gall y ddau fath o haint effeithio ar bobl iach, ond mae heintiau mwy difrifol yn tueddu i effeithio ar y rheiny sydd:
- â system imiwnedd wan oherwydd cyflwr meddygol gwaelodol neu sgil-effaith triniaeth, fel cemotherapi
- yn defnyddio offer meddygol sy'n mynd yn syth i mewn i'w corff, fel cathetr wrinol
- wedi dioddef trawma difrifol i'r croen, fel clwyf dwfn neu losgiad mawr
Trin heintiau staff
Nid oes angen triniaeth benodol ar rai mân heintiau staff, gan gynnwys cornwydydd bach a gwenwyn bwyd, a byddant yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn ychydig ddyddiau neu wythnosau.
Mewn rhai achosion, gall tabledi neu hufennau gwrthfiotig gael eu hargymell i drin yr haint, ac efallai y bydd angen gweithdrefn fach arnoch i ddraenio unrhyw grawn sydd o dan eich croen oddi yno, gan ddefnyddio nodwydd neu fflaim.
Hyd nes bydd yr haint yn clirio, dylech ofalu eich bod yn osgoi lledaenu'r haint i bobl eraill. Mae'r rhain yn cynnwys golchi eich dwylo'n rheolaidd, peidio â rhannu gwrthrychau a allai gael eu halogi, glanhau unrhyw grawn oddi ar eich croen yn rheolaidd, a gorchuddio'r man sydd wedi ei heintio gyda gorchudd neu blastar.
Yn aml, bydd angen triniaeth yn yr ysbyty ar gyfer heintiau staffylococol, oherwydd gallai fod angen cynnal gweithrediadau'r corff tra caiff yr haint ei thrin. Bydd yr haint fel arfer yn cael ei thrin â chwistrelliadau gwrthfiotig am sawl diwrnod.
Atal heintiau staff
Gallwch leihau eich tebygolrwydd o ddatblygu heintiau staff trwy:
- olchi eich dwylo â sebon a dwr cynnes yn rheolaidd - yn enwedig os byddwch yn dod i gysylltiad â rhywun sydd â haint staff ar y croen
- cadw eich croen yn lân trwy gael bath neu gawod bob dydd
- cadw unrhyw doriadau yn lân ac wedi eu gorchuddio
- peidio â rhannu tywelion, cadachau ymolchi, dillad gwely, brwshys dannedd a raseli
- sicrhau bod bwyd yn cael ei goginio'n gywir a'i oeri'n gywir - darllenwch fwy ynghylch atal gwenwyn bwyd
Os byddwch yn cael heintiau staff dro ar ôl tro ac y canfyddir eich bod yn cario'r bacteria ar eich croen, gallai eich meddyg argymell y dylech ddefnyddio siampw gwrthfacterol a hufen trwynol i ladd y bacteria a lleihau'r risg o gael rhagor o heintiau.