Brechlyn rotafirws
Mae brechlyn geneuol yn erbyn yr haint rotafeirws, sef un o achosion cyffredin dolur rhydd a chyfog, yn cael ei roi mewn dau ddos i fabanod deufis a thri mis oed, ochr yn ochr â’u brechiadau plentyndod arferol eraill.
Rhoddir y brechlyn ar ffurf hylif o ddiferydd yn syth i geg y baban er mwyn iddo ei lyncu.
Byg stumog heintus iawn yw rotafeirws sy’n effeithio ar fabanod a phlant ifanc yn nodweddiadol, gan achosi pwl annymunol o ddolur rhydd, weithiau gyda chwydu, poen yn y bol a thwymyn. Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwella gartref o fewn ychydig ddiwrnodau, ond bydd angen i bron i un o bob pump weld ei feddyg, a bydd un o bob 10 o’r rhain yn gorfod mynd i’r ysbyty o ganlyniad i gymhlethdodau fel dadhydradu eithafol. Mae nifer fach iawn o blant yn marw o rotafeirws bob blwyddyn.
Ers i’r brechlyn rotafeirws gael ei gynnwys yn y rhaglen frechu, mae wedi atal mwy na 70% o achosion.
Enw brand y brechlyn rotafeirws a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig yw Rotarix.
Pa fabanod sy’n gallu cael y brechiad rotafeirws?
Mae’r brechiad rotafeirws ar gael fel mater o drefn trwy’r GIG yn rhan o’r rhaglen brechiadau plentyndod i fabanod deufis a thri mis oed.
Sut mae’r brechlyn rotafeirws yn gweithio?
Mae rhywfaint o’r rotafeirws yn y brechlyn ac mae hyn yn helpu eich baban i ddatblygu imiwnedd, fel na fydd yn cael y clefyd y tro nesaf y daw i gysylltiad â rotafeirws. Mae’r rotafeirws yn y brechlyn wedi’i wanhau, felly ni fydd eich baban yn cael clefyd rotafeirws o ganlyniad i gael y brechiad yn unig.
Pa mor effeithiol yw’r brechlyn rotafeirws?
Mae’r brechlyn rotafeirws yn effeithiol iawn ac yn rhoi imiwnedd da i’r haint rotafeirws. Ers i’r brechlyn rotafeirws gael ei gyflwyno yn 2013, mae achosion wedi gostwng 69%.
Rhoddir y brechlyn fel mater o drefn i blant yn yr Unol Daleithiau a llawer o wledydd eraill o amgylch y byd yn Ewrop, Asia ac America Ladin.
Pa mor ddiogel yw’r brechlyn rotafeirws?
Ceir llawer o dystiolaeth sy’n dangos bod y brechlyn rotafeirws yn ddiogel. Mae Rotarix wedi’i ddefnyddio’n helaeth mewn llawer o wledydd, gan gynnwys Gwlad Belg, y Ffindir, Awstria a Chanada ers pedair i bum mlynedd, ac nid oes unrhyw bryderon diogelwch wedi’u codi.
Beth yw sgil-effeithiau’r brechlyn rotafeirws?
Ni fydd y mwyafrif helaeth o fabanod yn cael unrhyw broblemau o gwbl ar ôl cael eu brechiad rotafeirws, er y bydd rhai babanod sy’n cael y brechlyn yn mynd yn aflonydd ac yn bigog, a gallai rhai ddatblygu dolur rhydd ysgafn.
Mae’n bosibl i faban gael haint rotafeirws ar ôl cael ei frechu – ond, fel arfer, bydd yn ysgafnach na phe na byddai wedi cael ei frechu. Gall hefyd gael prawf rotafeirws cadarnhaol ar ôl cael ei frechu, ond ni fydd hyn yn para’n hir fel arfer – ni fydd eich meddyg yn gallu dweud a yw’r prawf cadarnhaol o ganlyniad i’r brechlyn neu’r haint naturiol.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk