Cyflwyniad
Clefyd Alzheimer yw’r achos mwyaf cyffredin o ddemensia, sy'n effeithio ar bron 500,000 o bobl yn y DU.
Casgliad o symptomau ydy dementia sydd yn gysylltiedig â dirywiad yn y ffordd bydd eich ymenydd yn gweithredu, gan effeithio ar eich cof a'ch ymddygiad.
Bydd clefyd Alzheimer yn peri colled cynyddol o gelloed yr ymenydd.
Mae union achos am hyn yn anhysbys. Fodd bynnag, Credir bod nifer o bethau sydd yn gallu cynyddu'r risg y byddwch yn dioddef o'r cyflwr, gan gynnwys:
- mynd yn hyn
- hanes teuluol o'r cyflwr
- anafiadau difrifol blaenorol i'r pen
- ffactorau ffordd o fyw a chyflyrau a gysylltir â chlefyd cardiofasgwlaidd
Darllenwch ragor am achosion clefyd Alzheimer.
Nodweddion a symptomau clefyd Alzheimer
Cyflwr esgynnol ydy clefyd Alzheimer, sydd yn feddwl y bydd yn parhau i waethygu gydag amser wrth iddo ddatblygu. Bydd symptomau cynnar yn cynnwys:
- problemau bach â'r cof
- anhawster â dweud y geiriau iawn
Bydd y symptomau hyn yn newid wrth i glefyd Alzheimer ddatblygu, ac fe all arwain at:
- colli cyswllt â'r amgylchedd a dryswch
- newidiadau mewn personoliaeth, megis mynd yn ymosodol, bod yn anodd eich trin a drwgdybus o eraill
- rhithweledigaeth (gweld pethau nad ydynt yno) a rhithdybiau (credu pethau nad ydynt yn wir)
- problemau â siarad ac iaith
- problemau symud heb gymorth
Darllenwch ragor am symptomau clefyd Alzheimer.
Canfod diagnosis
Gan fod symptomau clefyd Alzheimer yn cynyddu'n araf, gall fod yn anodd deall bod problem yn bod. Bydd llawer o bobl yn ystyried nid ydy problemau â'r cof ond yn rhan o heneiddio.
Fodd bynnag, bydd diagnosis cynnar o glefyd Alzheimer yn cynnig y cyfle gorau ichi baratoi a chynllunio at y dyfodol, yn ogystal a derbyn unrhyw driniaeth a all fod o fudd.
Os byddwch yn poeni am eich cof neu'n amau ei bod yn bosib bod dementia arnoch, mae hi'n syniad da siarad â'ch meddyg teulu. Os byddwch yn poeni am rywun arall dylech ei annog i drefnu apwyntiad ac efallai cynnig ei fynychu gydag ef.
Nid oes un prawf y gellid ei ddefnyddio ar ei ben ei hun er adnabod clefyd Alzheimer. Bydd eich meddyg teulu yn holi cwestiynnau am unrhyw broblemau y byddwch chi'n eu profi a gallai gynnal profion eraill er mwyn diystyru cyflyrau eraill. Os caiff clefyd Alzheimer ei amau, mae'n bosib y cewch chi eich cyfeirio at arbenigwr a fydd yn cadarnhau'r diagnosis a threfnu cynllun triniaeth.
Darllenwch ragor am adnabod clefyd Alzheimer.
Trin clefyd Alzheimer
Nid oes iachâd am glefyd Alzheimer, er bod meddyginiaeth ar gael sydd yn medru arafu datblygiad y cyflwr mewn rhai pobl.
Mae mathau amrywiol eraill o gymorth ar gael i gynorthwyo pobl, sydd yn dioddef ag Alzheimer, byw mor annibynnol a phosib, fel gwneud newidiadau i'ch cartref i'w wneud hi haws ichi symud o'i amgylch.
Gallwch, o bosib, dderbyn triniaethau megis symbyliad gwybyddol i wella eich cof, doniau dehongli problemau a gallu ieithyddol.
Darllenwch ragor am sut y caiff clefyd Alzheimer ei drin.
Pwy sydd yn cael eu heffeithio
Mae clefyd Alzheimer yn fwyaf cyffredin mewn pobl dros 65 mlwydd oed, ac yn effeithio yn ychydig yn fwy o fenywod na dynion.
Mae dementia mewn pobl o dan 65 mlwydd oed, yn llai cyffredin, ac fe'i gelwir yn dementia cychwyn-cynnar. Yn y DU, mae tua 2% o holl achosion dementia yn rhai dementia cychwyn-cynnar.
Mae'r risg yn cynyddu ag oedran, a chredir bod pobl sydd dros eu 80 oed ag un siawns mewn chwech o ddatblygu'r cyflwr.
Fodd bynnag, bydd tuag un achos ymhob 20 o glefyd Alzheimer yn effeithio ar bobl sydd rhwng 40 a 65 mlwydd oed.
Atal clefyd Alzheimer
Gan nad yw union achos clefyd Alzheimer yn eglur, nid wyddys sut mae atal y cyflwr. Mae sawl cam y gallwch chi ei gymryd er mwyn gohirio cychwyn dementia, megis:
Mae gan y camre hyn fanteision iechyd eraill, fel lleihau eich risg o glefyd cardiofasgwlaidd a gwella eich iechyd meddyliol cyffredinol.
Darllenwch ragor o wybodaeth am atal clefyd Alzheimer.
Gyrru
Os oes clefyd Alzheimer arnoch chi, gallai effeithio ar eich gallu gyrru. Mae hi'n rheidrwydd cyfreithiol arnoch chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Ewch at wefan GOV.UK i ddarganfod sut mae dweud wrth y DVLA am gyflwr meddygol.
Symptomau
Mae llawer o symptomau clefyd Alzheimer yn debyg i symptomau afiechydon eraill.
Bydd symptomau clefyd Alzheimer yn datblygu'n araf dros nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, bydd sut mor gyflym y byddant yn datblygu yn wahanol ymhob unigolyn.
Mewn rhai achosion, fe all heintiau a meddyginiaethau fod yn gyfrifol am wneud symptomau yn waeth. Dylai rhywun â chlefyd Alzheimer sydd yn profi dirywiad cyflym yn eu symptomau cael ei weld gan feddyg er mwyn diystyru'r rhesymmau hyn.
Nid yw'r un achos o glefyd Alzheimer fyth yr un fath ag achos arall, gan fod gwahanol bobl yn ymateb i'r cyflwr mewn ffyrdd gwahanol. Fodd bynnag, mae tri chyfnod i'r cyflwr, yn gyffredin:
Disgrifir y cyfnodau hyn isod:
Clefyd Alzheimer ysgafn
Mae symptomau cyffredin clefyd Alzheimer ysgafn yn cynnwys:
- colli cof am sgyrsiau neu ddigwyddiadau diweddar
- anghofio enwau llefydd a phethau
- ail-adrodd pethau yn rheolaidd, megis gofyn yr un cwestiwn sawl tro
- diffyg asesu'r sefyllfa neu ei chael hi'n anos dod i benderfyniad
- bod yn anfodlon ceisio pethau newydd neu ymdopi â newid
Gall fod arwyddion cynnar o newid hwyliau, fel cynydd mewn pryder, cynnwrf neu byliau o ddryswch.
Clefyd Alzheimer cymedrol
Wrth i glefyd Alzheimer ddatblygu i'r cyfnod cymedrol, gall hefyd achosi:
- cynydd mewn dryswch a phenbleth - er enghraifft, heb yn wybod ymhle mae dyn; a cherdded i ffwrdd a mynd ar goll
- cael hi'n anodd barnu gofod (fel amcangyfrif pellter neu ddod o hyd i'ch ffordd wrth fynd o le i le)
- problemau â'r golwg a all arwain a golwg gwael, neu mewn rhai achosion lledrithiau (lle y gwelwch neu clywch chi bethau nad ydynt yno)
- rhithdybiau - credu pethau nad ydynt yn wir
- ymddygiad obsesiynol neu ailadroddus,
- cwsg cythryblus
- newid mewn hwyl, fel bod yn oriog, iselder a theimlo yn fwy ac yn fwy pryderus, rhwystredig ac anniddig
- problemau gyda llefarydd neu iaith (affasia)
Erbyn y cyfnod hwn, fel arfer fe fydd angen cymorth ar y person â chlefyd Alzheimer gyda byw bob dydd. Er enghraifft gallai angen cymorth â bwyta, ymolchi, gwisgo a defnyddio'r ty bach.
Clefyd Alzheimer difrifol
Gall rhywun sydd yn dioddef clefyd Alzheimer difrifol ymddangos yn ffwndrus iawn ac mae'n debyg y bydd yn profi lledrithiau a rhithdybiau. Bydd yn meddwl ei fod yn arogli, gweld neu glywed pethau nad ydynt yno, neu gredu bod rhywun wedi dwyn ohono, neu wedi ymosod arno er nad yw hyn yn wir. Gall hyn peri loes i gyfeillion a'r teulu, yn ogystal â'r sawl sydd yn dioddef â chlefyd Alzheimer.
Yn aml bydd y rhithdybiau a'r lledrithiau yn waeth yn ystod y nos, a bydd y sawl sydd â chlefyd Alzheimer yn dechrau mynd yn dreisgar, yn mynnu sylw ac yn ddrwgdybus o'r rhai sydd o'i gwmpas.
Wrth i glefyd Alzheimer droi'n ddifrifol, gall hefyd achosi sawl symptom arall, fel:
- dysffagia (anhawster llyncu)
- anhawster newid safle neu symud o le i le heb gymorth
- colli archwaeth neu golli pwysau
- gwneud dwr heb yn wybod (anymataliad wrinol) neu ysgarthu (anymataliad ysgarthion)
- colli'r gallu siarad yn raddol
- problemau sylweddol â chofio byr- a hir-dymor
Yn ystod y cyfnod difrifol, bydd pobl yn aml yn dechrau anwybyddu eu hylendid personol. Dyma'r adeg pan fydd angen gofal amser llawn ar y rhan fwyaf o bobl sydd â chlefyd Alzheimer, gan mai ychydig iawn y byddant yn gallu'i wneud drostynt eu hunain.
Darllenwch ragor am sut mae trin clefyd Alzheimer.
Chwilio am gyngor meddygol
Os byddwch yn poeni am eich cof neu yn amau ei bod yn bosib bod dementia arnoch byddai hi'n syniad da siarad â'ch meddyg teulu. Os byddwch yn poeni am rywun arall dylech ei annog i drefnu apwyntiad ac efallai cynnig ei fynychu gydag ef.
Nid dementia yw'r unig achos o broblemau â'r cof - gall iselder, straen, meddyginiaethau neu broblemau iechyd eraill eu hachosi. Bydd eich meddyg teulu yn gwneud rhai profion hawdd er mwyn ceisio dod o hyd i achos y problemau, a'ch cyfeirio at arbenigwr am brofion pellach os bydd rhaid.
Achosion
Achosir clefyd Alzheimer wrth i rannau o'r ymenydd grebachu (gwywo), sydd yn niweidio strwythur yr ymenydd a sut bydd yn gweithio.
Nid yw union achos dechrau'r broses hon yn hysbys, ond darganfuwyd bod pobl sydd yn dioddef clefyd Alzheimer â symiau anarferol o brotein (placiau amyloid) a ffibrau (cylymau tau) yn yr ymenydd.
Mae'r rhain yn lleihau effeithlonrwydd y niwronau (celloedd nerf sydd yn cario negeseuon i ac o'r ymenydd) iach, gan eu dinistrio yn raddol.
Dros amser, bydd y niwed yn lledaenu i fannau eraill yn yr ymenydd, fel y mater llwyd (sydd yn prosesu meddyliau) a'r hipocampws (sydd yn gyfrifol am y cof).
Ffactorau risg
Er nad yw’n hysbys o hyd beth yn union sy’n achosi dirywiad yng nghelloedd yr ymennydd, mae nifer o ffactorau a wyddys eu bod yn cael effaith ar ddatblygiad clefyd Alzheimer. Caiff y rhain eu disgrifio isod.
Oedran
Oedran yw’r ffactor mwyaf yn natblygiad clefyd Alzheimer. Mae’r risg o ddatblygu'r cyflwr yn dyblu pob pum mlynedd ar ôl i chi gyrraedd 65 oed. Fodd bynnag, nid pobl hyn yn unig sy'n wynebu risg o ddatblygu'r clefyd Alzheimer. Mae tuag un o bob pump sydd yn dioddef â'r cyflwr o dan 65 oed. Fe'i gelwir yn glefyd Alzheimer cychwyn-cynnar ac mae hi'n gallu effeithio ar bobl o tua 40 mlwydd oed
Hanes Teuluol
Mae ffactorau genetig yn cyfrannu at y risg o ddatblygu clefyd Alzheimer. Er yn y rhan fwyaf o achosion, os bydd aelod agos o'r teulu yn dioddef o'r cyflwr, bydd eich risg o'i ddatblygu ond ychydig yn uwch.
Fodd bynnag, mewn ychydig o deuluoedd, ceir clefyd Alzheimer ei achosi gan etifeddu un genyn neilltuol, ac mae'r risgiau yn llawer mwy. Os datblygodd sawl aelod o'ch teulu dros y cenhedloedd ddementia, byddai'n briodol i chi chwilio am gyngor a chynghori genetig o bosib.
Mae gan Gymdeithas Alzheimer mwy o wybodaeth am eneteg a chynghori ar ei gwefan.
Syndrom Down
Mae gan bobl sydd â Syndrom Down fwy o risg o ddatblygu clefyd Alzheimer.
Y rheswm dros hyn yw bod yr un nam genetig sydd yn achosi Syndrom Down yn gallu achosi i blaciau amyloid cynyddu yn yr ymenydd dros amser, a all arwain at glefyd Alzheimer mewn rhai pobl.
Chwiplach ac anafiadau i'r pen
Darganfuwyd bod pobl sydd wedi cael anaf difrifol i'r pen neu chwiplach difrifol (anaf i'r gwddf a achosir gan symudiad sydyn o'r pen ymlaen, i'r cefn neu i'r ochr) risg uwch o ddatblygu clefyd Alzheimer.
Clefyd fasgwlaidd
Mae ymchwil wedi dangos y gall sawl ffactor ffordd o fyw, a chyflyrau a gysylltir â chlefyd fasgwlaidd, godi'r risg o glefyd Alzheimer.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Fe fedrwch chi leihau eich risg trwy roi'r gorau i ysmygu, fwyta'n diet cytbwys iach a mynychu profion iechyd rheolaidd wrth ichi fynd yn hyn. Mae hi'n bwysig eich bod yn cadw yn heini yn feddyliol ac yn gorfforol er mwyn lleihau'r risg o glefyd Alzheimer.
Darllenwch ragor o wybodaeth am atal clefyd Alzheimer.
Diagnosis
Ewch at eich meddyg teulu os byddwch yn poeni am eich iechyd ac yn amau eich bod chi neu fod rhywun sydd yn agos atoch chi yn dioddef o glefyd Alzheimer.
Os byddwch yn poeni am rywun arall dylech ei annog i drefnu apwyntiad ac efallai cynnig ei fynychu gydag ef.
Bydd diagnosis cynnar o glefyd Alzheimer yn cynnig y cyfle gorau ichi baratoi a chynllunio at y dyfodol, yn ogystal â derbyn unrhyw driniaeth a all fod o fudd.
Ymweld â'ch meddyg teulu
Nid dementia yw'r unig achos o broblemau â'r cof - gall iselder, straen, meddyginiaethau neu broblemau iechyd eraill eu hachosi. Darllenwch ragor am achosion cyffredin o ddiffyg cofio.
Bydd eich meddyg teulu yn gwneud rhai profion hawdd er mwyn ceisio dod o hyd i achos y problemau. Gall eich cyfeirio at arbenigwr am brofion pellach os bydd rhaid.
Bydd eich meddyg teulu yn eich holi am eich symptomau ac am eich iechyd yn gyffredinol, a bydd yn gwneud archwiliad corfforol. Mae'n bosib y bydd yn trefnu profion gwaed hefyd, ac yn gofyn am unrhyw feddyginiaeth y byddwch yn ei chymryd er mwyn diystyru achosion eraill i'ch symptomau.
Mae'n bosib bydd yn gofyn rhai cwestiynnau ichi a gofyn ichi wneud ychydig o weithgareddau hawdd er mwyn gwneud asesiad o unrhyw broblemau sydd â'ch cof neu eich gallu meddwl. Gall hyn fod o gymorth i'ch meddyg teulu benderfynu os bydd angen eich cyfeirio at arbenigwr am asesiad pellach.
Asesu eich gallu meddyliol
Fel arfer, bydd arbenigwr yn asesu eich gallu meddyliol trwy ddefnyddio holiadur arbennig.
Un prawf a ddefnyddir yn eang ydy'r archwiliad stad meddyliol byr (MMSE). Bydd hyn yn gofyn ichi wneud gweithgareddau fel cofio rhestr fer o bethau yn iawn a nodi pa ddiwrnod o'r wythnos ydy hi, y mis ar flwyddyn.
Nid yw'r MMSE yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwneud diagnosis o glefyd Alzheimer, ond mae ef yn ddefnyddiol wrth asesu lefel yr amhariaeth feddyliol a all fod ar rywun sydd yn dioddef o'r cyflwr. Bydd hyn yn gymorth i'r arbeniger wrth wneud penderfyniadau am driniaeth ac a oes angen profion pellach.
Profion
Nid oes prawf hawdd, dibynadwy am glefyd Alzheimer, felly fel arfer caiff y diagnosis ei gyrraedd trwy ddiystyru cyflyrau eraill. Mae'n bosib y cewch chi brofion gwaed ac archwiliad corfforol er mwyn diystyru cyflyrau meddygol eraill a all fod yn achos i'ch symptomau.
Os bydd eich meddyg teulu yn amau clefyd Alzheimer, mae'n bosib y cewch chi sgan o'r ymenydd hefyd, a fydd yn chwilio am newidiadau yn eich ymenydd. Gall hyn fod:
Am fwy o wybodaeth am y profion gwahanol y gallech chi eu cael darllenwch sut mae adnabod dementia.
Cyfeirio
Gallai eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr i gynorthwyo gyda'r diagnosis. Er enghraifft mae'n bosib y gwelwch chi:
- seicolegydd clinigol - gweithiwr iechyd proffesiynol sydd yn arbenigo mewn asesu a thrin cyflyrau iechyd meddwl
- seiciatrydd - meddyg meddygol cymwysedig sydd wedi derbyn hyfforddiant pellach mewn trin cyflyrau iechyd meddwl
- niwrolegydd - arbenigwr mewn trin cyflyrau sydd yn effeithio ar y system nerfol (yr ymenydd a madruddyn y cefn)
Mae hi'n debyg y bydd eich arbenigwr yn gwneud rhai profion er mwyn asesu eich cof a'ch gallu meddyliol. Caiff un enghraifft ei hesbonio isod.
Ar ôl y diagnosis
Fe all hi gymryd sawl apwyntiad a sawl prawf dros fisoedd neu hyd yn oed blynyddoedd, cyn gellir cadarnhau diagnosis o glefyd Alzheimer.
Am rai, bydd derbyn diagnosis o glefyd Alzheimer yn sioc enfawr, am eraill fe fydd yn cadarnhau yr hyn y buon nhw'n amau am amser hir.
Os ydych newydd dderbyn diagnosis o ddementia, mae hi'n debyg y byddwch yn teimlo'n ddiffrwyth, ofnus ac yn methu ei ddirnad yn iawn, rhowch ychydig o amser ichi eich hun er mwyn ymdopi. Gall fod o fudd siarad amdano gyda theulu neu gyfeillion.
Unwaith bydd y teimladau cyntaf wedi mynd heibio, mae hi'n bwysig ystyried mynd yn eich blaen ac i greu cynllun gweithredol at y dyfodol. Clefyd cynyddol ydy dementia, ac felly gorau po gyntaf y byddwch yn penderfynu ar faterion cyfreithiol, cyllidol a gofal iechyd.
Triniaeth
Nid oes iachâd ar gyfer clefyd Alzheimer ar hyn o bryd, er bod amrywiol feddyginiaethau ar gael ar bresgripsiwn a all, dros dro, leddfu ar rai o'r symptomau neu arafu cynydd y cyflwr mewn pobl eraill.
Bydd triniaeth am glefyd Alzheimer hefyd yn cynnwys paratoi cynllun gofal. Bydd hwn yn cydnabod y math o gymorth y gall fod arnoch chi ei angen gan ganolbwyntio ar y ffyrdd y caiff y cymorth yma ei ddarparu.
Meddyginiaeth
Mae'r feddyginiaeth a all gael ei ragnodi er mwyn lleddfu, dros dro, ar rai o'r symptomau, neu arafu cynydd y cyflwr yn cynnwys.:
- donepezil (enw brand - Aricept)
- galantamine (enw brand - Reminyl)
- rivastigmine (enw brand - Exelon)
- memantine (enw brand - Ebixa)
Mae'r defnydd o'r meddyginiaethau hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich clefyd Alzheimer.
Caiff donepezil, galantamine a rivastigmine (atalyddion ACE) eu rhagnodi i bobl sydd â chlefyd Alzheimer ysgafn hyd gymhedrol. Caiff memantine ei ragnodi i bobl sydd â chlefyd Alzheimer ac nid ydynt yn gallu cymryd atalyddion, neu ar gyfer pobl sydd â chlefyd Alzheimer difrifol.
Nid oes gwahaniaeth yn effeithlonrwydd y tri atalydd ACE gwahanol, er gall rhai pobl yn ymateb yn well i fathau neilltuol neu ddioddef llai o sgil effeithiau.
Ni ddylai'r meddyginiaethau hyn gael eu rhagnodi gan neb ond arbennigwr, fel seiciatryddion, niwrolegwyr a meddygon sydd yn arbenigo mewn gofalu am bobl hyn.
Os byddwch yn gofalu am unigolyn sydd yn dioddef â chlefyd Alzheimer, dylid cymryd eich barn chi dan ystyriaeth wrth ragnodi meddyginiaethau a hefyd yn ystod yr adolygiadau rheolaidd. Mae'r adolygiadau hyn yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y feddyginiaeth yn cael effaith buddiol.
Darllenwch gyfarwyddyd llawn NICE ar TA217 Donepezil, galantamine, rivastigmine a memantine ar gyfer clefyd Alzheimer: deall canllawiau NICE (fformat MS Word)
Sgil effeithiau
Gall donepezil, galantamine a rivastigmine (atalyddion ACE) achosi sgil effeithiau gan gynnwys:
- cyfog (teimlo eich bod am chwydu)
- chwydu
- dolur rhydd
- pen tost / cur pen
- syrthni
- diffyg cwsg (anhawster mynd i gysgu, methu cysgu)
- crampiau yn y cyhyrau (pan fydd eich cyhyrau yn caledu gan achosi poen)
Mae sgil effeithiau memantine yn cynnwys pendro, cur pen, blinder, rhwymedd, problemau cydbwysedd a diffyg anadl.
Am ragor o wybodaeth am y sgil effeithiau meddyginiaeth neilltuol, cyfeiriwch at y daflen wybodaeth i gleifion sydd yn dod â'ch meddyginiaeth.
Dementia
Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Syndrom (casgliad o symptomau) ydy dementia sydd yn cael ei gysylltu â lleihâd parhaol o alluoedd meddyliol. Bydd y driniaeth am glefyd Alzheimer yn dilyn yr un patrwm â thriniaeth am ddementia.
Os cewch chi ddiagnosis o gyflyrau eraill yn ogystal â chlefyd Alzheimer, er enghraifft, iselder, neu anymataledd (pan fyddwch yn pasio dwr neu ysgarthion heb yn wybod ichi), mae'n bosib y caiff y rhain eu trin ar wahan.
Asesiad gofal
Os cewch chi ddiagnosis â chlefyd Alzheimer, caiff eich anghenion gofal iechyd a chymdeithasol eu hasesu a chaiff cynllun gofal ei ysgrifennu. Caiff hyn ei gydlynu gan:
- gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, fel eich meddyg teulu neu'ch seiciatrydd
- gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd fel arfer eich cyngor lleol yn gweithio ynghyd â'r GIG
Fel rhan o'ch asesiad gofal caiff eich gallu gweithredol ei asesu. Bydd hyn yn cynnwys dod o hyd i le bydd angen cymorth gyda'ch gweithgareddau beunyddiol. Er enghraifft, gall y pethau hyn cael eu hasesu:
- Pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi neu eich gofalwr er mwyn ichi aros mor anibynnol â phosibl?
- A oes angen adnewyddu eich cartref er mwyn ei gwneud yn haws byw ynddo?
- A oes angen cymorth ariannol arnoch chi?
Yn dilyn yr asesiad gofal, caiff cynllun gofal ei baratoi er mwyn trefnu cymorth lle bydd angen help arnoch chi. Bydd y math o ofal a gewch chi yn dibynnu ar beth sydd ar gael o'ch Bwrdd Iechyd lleol.
Cymorth
Bydd y gweithwyr iechyd proffesiynol sydd yn eich trin chi yn anelu at eich cadw mor annibynnol ag sydd yn bosib. Gellid darparu'r cymorth mewn sawl ffordd wahanol. Er enghraifft:
- gosod canllawiau bach a mawr o amgylch eich cartref, er enghraifft i'ch helpu mynd i a dod o'r bath
- gall therapydd galwedigaethol ddod o hyd i bethau sydd yn achosi problemau yn eich bywyd beunyddiol, fel gwisgo amdanoch eich hun, a gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion ymarferol
- gellid trefnu rhaglenni symbylu gwybyddol - bydd hyn yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymarferion sydd yn gwella eich cof, eich doniau datrys problemau a'ch gallu ieithyddol
Darllenwch ragor am drin dementia
Dewch o hyd i wasanaethau cynnal am glefyd Alzheimer a Dementia yn eich ardal chi.
Materion i ofalwyr
Os bydd pryderon arnoch chi am unrhyw beth sydd yn ymwneud â'ch gofal, neu os byddwch yn gofalu am unigolyn sydd â chlefyd Alzheimer, fedrwch chi ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar adran Gofalwyr Cymru o'r wefan. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar:
Cynghorion ymarferol
Os bydd clefyd Alzheimer arnoch chi, gall fod yn ddefnyddiol i:
- gadw dyddiadur a nodi'r pethau y hoffech chi eu cofio
- roi amserlen wythnosol ar y wal
- roi eich allweddi / agoriadau mewn lle amlwg, fel mewn powlen fawr yn eich ystafell fyw
- dderbyn papur newydd i'r ty bob dydd i'ch atgoffa o'r dydd a'r dyddiad
- roi labeli ar y cypyrddau a'r droriau
- gadw rhifau ffôn defnyddiol ar bwys y ffôn
- ysgrifennu nodau atgoffa i chi eich hunan: er enghraifft, rhowch nodyn ar eich drws ffrynt i'ch atgoffa mynd â'ch allweddi / agoriadau gyda chi wrth ymadael â'r ty
- roi enwau pobl a'u rhifau yn eich ffôn
- osod larwm ar eich oriawr i'ch atgoffa o rywbeth
- osod taclau diogelwch trwy eich cartref, fel synhwyrydd nwy a larwm mwg
Gofal diwedd oes
Yn aml bydd pobl sydd yn dioddef â dementia yn byw am flynyddoedd llawr ar ôl derbyn diagnosis. Fodd bynnag, gan ei fod yn gyflwr cynyddol, bydd hi'n ddoeth gwneud cynlluniau cyn cyrraedd cyfnod diwedd oes.
Bydd gofal diwedd oes, neu ofal lliniarol, yn cynnig cefn i bobl sydd yn dioddef o salwch na ellid ei wella ohono fel eu bod yn gallu byw yn y ffordd orau bosib hyd at eu marwolaeth. Bydd hefyd yn cynnwys cynnal aelodau o'r teulu. Gall y gofal gael ei ddarparu yn y cartref, mewn hosbis, mewn cartref gofal neu ysbyty.
Am bobl sydd yn dod at derfyn eu hoes, bydd eu tim gofal yn asesu eu hanghenion, eu gwneud yn gyfforddus gan eu galluogi i farw gydag urddas mewn lle o'u dewis.
Atal
Gan fod achos clefyd Alzheimer yn dal yn anhysbys, nid oes unrhyw ffordd o atal y cyflwr. Fodd bynnag, mae pethau y gallwch eu gwneud a all fod o gymorth i ohirio pan fydd dementia yn cychwyn.
Er enghraifft , fe allwch chi helpu atal dementia fasgwlaidd, ynghyd â chlefydau cardiofasgwlaidd megis strôc a thrawiad ar y galon trwy:
- rhoi'r gorau i ysmygu
- osgoi yfed llawer o alcohol
- fwyta diet iachus cytbwys, gan gynnwys o leiaf pum cyfran o ffrwyth a llysiau bob dydd
- wneud ymarfer corff am o leiaf 150 munud (2 awr a 30 munud) bob wythnos, gan wneud gweithgareddau aerobig dwyster-cymhedrol (megis beicio neu gerdded yn gyflym) a fydd yn cynyddu eich iechyd corfforol a meddyliol
- sirchau bod eich pwysedd gwaed yn cael ei fesuro a'i reoli efo phrofion iechyd rheolaidd
- gadw at eich diet a chymryd eich meddyginiaethau os bydd diabetes arnoch chi
Darllenwch ragor am atal dementia.
Cadw yn heini yn feddyliol
Mae peth tystiolaeth sydd yn awgrymu bod cyfraddau dementia yn is mewn pobl sydd yn cadw yn actif yn feddyliol, corfforol a chymdeithasol ar hyd eu bywydau, a hefyd ymysg rhai sydd yn mwynhau ystod eang o ddiddordebau a hobïau.
Rhai gweithgareddau a all leihau'r risg o ddatblygu dementia ydy:
- darllen
- ysgrifennu am hwyl
- dysgu ieithoedd estron
- canu offerynnau cerdd
- cymryd rhan mewn cyrsiau addysg i oedolion
- chwarae tenis
- chwarae golff
- nofio
- campau torfol, megis powlio
- cerdded
Nid oes tystiolaeth bod chwarae gemau cyfrifiadurol 'hyfforddi ymenydd' yn lleihau'r risg o ddementia.
Ymchwil at y dyfodol
Mae'r ymchwil i glefyd Alzheimer yn parhau, ac wrth i ragor gael ei ddatgelu am y cyflwr, mae'n bosib y deuir o hyd i ffyrdd eraill o'i drin neu ei atal. Fodd bynnag nid yw ymchwil bob tro yn cynhyrchu canlyniadau llwyddianus.
Medrwch chi ddarllen rhagor am yr ymchwil cyfredol i glefyd Alzheimer ar wefan Cymdeithas Alzheimer.
Mae Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) wedi dweud nad oes tystiolaeth eto i gefnogi'r defnydd o'r pethau canlynol er mwyn atal dementia:
Yng Nghymru
Mae pecyn dwyieithog, sydd yn rhoi gwybodaeth i bobl yng Nghymru sydd newydd eu diagnosio â dementia, yn awr ar gael arlein.
Teitl y pecyn ydy ‘Byw yn dda gyda dementia ar ôl diagnosis/Living well with dementia after diagnosis’. Mae hi'n hawdd i'w ddefnyddio ac wedi ei dosbarthu yn rhannau sydd yn cyfeirio pobl at wasanaethau iechyd a chymdeithasol, gwasanaethau lleol ac asiantaethau eraill o'r trydydd sector sydd yn cynnig cymorth.
Gellid lawrlwytho taflenni gwybodaeth unigol o'r pecyn am ddim o wefan Cymdeithas Alzheimer. http://www.alzheimers.org.uk/livingwellwithdementia
Datblygwyd y pecyn gan Gymdeithas Alzheimer ar ôl derbyn grant o Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r Weledigaeth Genedlaethol am Ddementia yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymroddi i wella gwybodaeth ar ddementia trwy ddatblygu pecynnau dwyieithog i bobl sydd â diagnosis o ddementia, eu teuluoedd, eu cyfeillion a'u gofalwyr; gan greu llinell gymorth gwybodaeth ddementia bwrpasol dros Gymru a chan estyn rhaglen Presgripsiwn Llyfrau Cymru er mwyn gynnwys gofal dementia.
Dywedodd Cheryl Williams, Swyddog Cyswllt Gwybodaeth Dementia dros Gymdeithas Alzheimer:
'Gall diagnosis o ddementia fod yn sioc ac efallai byddwch angen sicrwydd a chymorth gan fe fydd llawer y gellid ei wneud yn ystod y cyfnod cynnar a all wneud bywyd yn haws a brafiach. Mae'r pecyn yn hawdd i'w ddefnyddio ac wedi ei dosbarthu yn rhannau sydd yn eich cyfeirio chi at wasanaethau iechyd a chymdeithasol, gwasanaethau lleol ac asiantaethau eraill o'r trydydd sector a all gynnig cymorth ichi.'
Ewch i'n Canllaw Dementia i gael rhagor o wybodaeth am Ddementia.
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
05/09/2024 14:08:55