Niwropathi'r ymylon

Cyflwyniad

Mae niwropathi perifferol yn datblygu pan fydd difrod i'r nerfau yn y dwylo, y traed a'r breichiau. Mae'r symptomau yn dibynnu ar ba nerfau sydd wedi'u heffeithio.

Yn ôl yr amcan yn y DU, mae niwropathi perifferol yn effeithio ar bron i 1 o bob 10 o bobl 55 oed neu hyn.

Y system nerfol berifferol

Y system nerfol berifferol yw'r rhwydwaith o nerfau y tu allan i'r prif system nerfol (yr ymennydd a madruddyn y cefn).

Mae'n cynnwys mathau gwahanol o nerfau, gyda'u swyddogaethau penodol eu hunain, gan gynnwys:

  • y nerfau synhwyraidd – sy'n gyfrifol am drosglwyddo synhwyrau, fel poen a chyffyrddiad
  • y nerfau echddygol – sy'n gyfrifol am reoli'r cyhyrau
  • y nerfau awtonomig – sy'n gyfrifol am reoleiddio gweithrediadau awtomatig y corff, fel pwysedd gwaed a' gweithrediad y bledren

Symptomau niwropathi perifferol

Gall prif symptomau niwropathi perifferol gynnwys:

  • fferdod a theimlad gogleisiol yn y traed neu'r dwylo
  • poen llosgi neu wayw yn y mannau sydd wedi'u heffeithio
  • colli cydbwysedd a chydsymud
  • gwendid cyhyrol, yn enwedig yn y traed

Mae'r symptomau hyn yn gyson fel arfer, ond gallant fynd a dod.

Darllenwch fwy am symptomau niwropathi perifferol.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Mae'n bwysig mynd i weld eich meddyg teulu os cewch symptomau cynnar niwropathi perifferol, fel:

  • poen, teimlad gogleisiol neu golli teimlad yn y traed
  • gwendid neu golli cydbwysedd
  • clwyf neu wlser ar eich troed, ac nid yw'n gwella

Hefyd, argymhellir bod y bobl â risg fwyaf niwropathi perifferol, fel pobl â diabetes, yn cael archwiliadau rheolaidd.

Bydd eich meddyg teulu yn gofyn am eich symptomau a gall drefnu rhai profion i helpu darganfod yr achos sylfaenol.

Gallwch gael eich atgyfeirio i ysbyty i weld niwrolegydd, sef arbenigwr ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar y system nerfol.

Yn gyffredinol, gorau po gyntaf y gwneir diagnosis o niwropathi perifferol er mwyn cael gwell siawns o gyfyngu ar y difrod ac atal cymhlethdodau pellach.

Darllenwch fwy am wneud diagnosis o niwropathi perifferol.

Achosion niwropathi perifferol 

Yn y DU, diabetes (math 1 a math 2) yw prif achos niwropathi perifferol.

Gydag amser, gall y lefelau siwgr gwaed uchel sy'n gysylltiedig â diabetes ddifrodi'r nerfau.

Yr enw ar y math hwn o ddifrod i'r nerfau yw polyniwropathi diabetig.

Mae amrywiaeth fawr o bethau eraill yn gallu achosi niwropathi perifferol hefyd.

Er enghraifft, gall y canlynol ei achosi:

  • anaf corfforol i'r nerfau
  • haint firaol, fel yr eryr
  • sgil-effaith meddyginiaethau penodol neu yfed gormod o alcohol

Os yw'n hysbys bod risg rhai pobl o gael niwropathi perifferol yn uwch, gallent gael archwiliadau rheolaidd er mwyn asesu gweithrediad y nerfau.

Darllenwch fwy am achosion niwropathi perifferol.

Trin niwropathi perifferol

Mae triniaeth niwropathi perifferol yn dibynnu ar y symptomau a'r achos sylfaenol.

Nid yw'n bosibl trin holl achosion sylfaenol niwropathi.

Er enghraifft, os oes diabetes arnoch, gallai cael rheolaeth well ar eich lefel siwgr gwaed, rhoi'r gorau i ysmygu ac yfed llai o alcohol helpu.

Gall poen nerfol gael ei drin gyda meddyginiaethau ar bresgripsiwn, sef cyfryngau poen niwropathig, oherwydd yn aml, ni fydd cyffuriau lleddfu poen arferol yn gweithio.

Os oes gennych unrhyw symptomau eraill sy'n gysylltiedig â niwropathi perifferol, gall fod angen trin y rhain yn unigol.

Er enghraifft, gall triniaeth ar gyfer gwendid y cyhyrau gynnwys ffisiotherapi a defnyddio cymhorthion cerdded.

Darllenwch fwy am drin niwropathi perifferol.

Cymhlethdodau niwropathi perifferol 

Mae'r rhagolwg ar gyfer niwropathi perifferol yn amrywio, yn dibynnu ar yr achos sylfaenol a pha nerfau sydd wedi cael difrod.

Gallai rhai achosion wella gydag amser os caiff yr achos sylfaenol ei drin, ond gall y difrod fod yn barhaol ymhlith rhai pobl, neu waethygu'n raddol gydag amser.

Oa na chaiff achos sylfaenol y niwropathi perifferol ei drin, mae risg bosibl y gallech ddatblygu cymhlethdodau difrifol posibl, fel wlser y droed sy'n datblygu haint.

Gall hyn arwain at fadredd (marwolaeth meinwe) os na chaiff ei drin ac, mewn achosion difrifol, gall olygu bod rhaid torri'r droed i ffwrdd.

Gall niwropathi perifferol effeithio ar y nerfau sy'n rheoli swyddogaethau awtomatig y galon a'r system gylchrediad (niwropathi awtonomig cardiofasgwlar).

Gall fod angen triniaeth arnoch i godi'ch pwysedd gwaed neu, mewn achosion prin, rheoliadur y galon.

Darllenwch fwy am gymhlethdodau niwropathi perifferol.

Polyniwropathi

Gall niwropathi perifferol effeithio ar:

  • un nerf yn unig (mononiwropathi)
  • nifer o nerfau (mononiwritis amryfal)
  • yr holl nerfau yn y corff (polyniwropathi)

Polyniwropathi yw'r math mwyaf cyffredin ac mae'n dechrau trwy effeithio ar y nerfau hiraf yn gyntaf, felly yn nodweddiadol, mae'r symptomau'n dechrau yn y traed.

Gydag amser, mae'n dechrau effeithio ar y nerfau byrrach yn raddol, felly mae'n teimlo fel petai'n lledaenu tuag at i fyny, gan effeithio'n ddiweddarach ar y dwylo.

Symptomau

Mae symptomau'n amrywio yn ôl y math o niwropathi perifferol a gall ddatblygu'n gyflym neu yn araf.

Mae'r prif fathau o niwropathi perifferol yn cynnwys:

  • niwropathi synhwyraidd – difrod i'r nerfau sy'n cludo negeseuon cyffyrddiad, tymheredd, poen a synhwyrau eraill i'r ymennydd
  • niwropathi echddygol – difrod i'r nerfau sy'n rheoli symudiadau
  • niwropathi awtonomig – difrod i'r nerfau sy'n rheoli prosesau anwirfoddol y corff, fel traul, gweithrediad y bledren a rheoli pwysedd gwaed
  • mononiwropathi – difrod i un nerf y tu allan i'r prif system nerfol

Mewn llawer o achosion, gall rhywun â niwropathi perifferol gael mwy nag un o'r mathau hyn ar yr un pryd.

Mae cyfuniad o niwropathi synhwyraidd ac echddygol yn arbennig o gyffredin (polyniwropathi synhwyraidd weithredol).

Niwropathi synhwyraidd 

Gall symptomau niwropathi synhwyraidd gynnwys:

  • ymdeimlad pigog a gogleisiol yn y rhan o'r corff sydd wedi'i heffeithio (pinnau bach)
  • fferdod a llai o allu i deimlo poen neu newidiadau mewn tymheredd, yn enwedig yn eich traed
  • poen miniog neu losgi, yn y traed fel arfer
  • teimlo poen gan rywbeth na ddylai fod yn boenus o gwbl, fel cyffyrddiad ysgafn iawn (allodynia)
  • colli cydbwysedd neu gydsymud, wedi'i achosi oherwydd bod llai o allu i wybod ble mae'r traed a'r dwylo (atacsia synhwyraidd)

Niwropathi echddygol

Gall symptomau niwropathi echddygol gynnwys:

  • gwingo a chrampiau'r cyhyrau
  • gwendid cyhyrol neu barlys sy'n effeithio ar un cyhyr neu fwy
  • teneuo (nychdod) y cyhyrau
  • troed lipa – cael trafferth codi rhan flaen eich troed a bysedd y droed, sy'n arbennig o amlwg wrth gerdded

Niwropathi awtonomig

Gall symptomau niwropathi awtonomig gynnwys:

Mononiwropathi

Yn dibynnu ar ba nerf benodol sydd wedi'i heffeithio, gall symptomau mononiwropathi gynnwys:

  • newid yn y teimlad yn y bysedd, neu wendid yn y bysedd
  • golwg dwbl neu broblemau eraill wrth ffocysu'r llygaid, gyda phoen yn y llygaid weithiau
  • gwendid ar un ochr eich wyneb (parlys Bell)
  • poen yn y droed neu'r grimog, gwendid neu newid mewn ymdeimlad

Y math mwyaf cyffredin o fononiwropathi yw syndrom twnnel carpal (CTS). Mae'r twnnel carpal yn dwnnel bach yn eich arddwrn.

Yn CTS, mae'r nerf ganol yn cael ei chywasgu lle'r aiff drwy'r twnnel, sy'n gallu achosi goglais, poen neu fferdod yn y bysedd.

Achosion

Diabetes yw achos mwyaf cyffredin niwropathi perifferol yn y DU.

Gall niwropathi gael ei achosi gan gyflyrau iechyd eraill a rhai meddyginiaethau hefyd.

Mewn rhai achosion, nid yw'n bosibl canfod achos a'r enw ar hyn yw niwropathi idiopathig.

Diabetes

Yr enw ar niwropathi perifferol sydd wedi'i achosi gan ddiabetes math 1 neu ddiabetes math 2 yw polyniwropathi diabetig.

Yn ôl pob tebyg, caiff ei achosi gan lefelau uchel o glwcos yn y gwaed, sy'n difrodi'r pibellau gwaed mân iawn sy'n cyflenwi'ch nerfau.

Daw niwropathi perifferol yn fwy tebygol, po hirach y mae diabetes wedi bod arnoch chi.

Mae hyd at un o bob pedwar o bobl sydd â'r cyflwr yn cael rhywfaint o boen sydd wedi'i achosi gan ddifrod i nerfau.

Os oes diabetes arnoch, mae risg uwch i chi gael polyniwropathi os nad oes rheolaeth dda ar eich siwgr gwaed neu os ydych chi:

  • yn ysmygu
  • yn yfed llawer iawn o alcohol yn rheolaidd
  • dros 40 oed

Os oes diabetes arnoch, dylech archwilio'ch traed yn rheolaidd i chwilio am wlserau (clwyfau neu friwiau agored) neu losg eira.

Achosion eraill 

Yn ogystal â diabetes, mae sawl achos posibl arall i niwropathi perifferol.

Cyflyrau iechyd 

Mae rhai o'r cyflyrau iechyd sy'n gallu achosi niwropathi perifferol yn cynnwys:

  • yfed gormod o alcohol, am flynyddoedd
  • lefelau isel o fitamin B12 neu fitaminau eraill
  • difrod corfforol i'r nerfau – er enghraifft o anaf neu yn ystod llawdriniaeth
  • chwarren thyroid tanweithredol (isthyroidedd)
  • heintiau penodol – fel yr eryr, clefyd Lyme, difftheria, botwliaeth a HIV
  • llid y pibellau gwaed (fasgwlitis)
  • clefyd cronig yr afu/iau neu glefyd cronig yr arennau
  • gamopathi monoclonaidd o arwyddocâd amhendant (MGUS) – presenoldeb protein annormal yn y gwaed
  • mathau penodol o ganser, fel lymffoma (canser y system lymffatig) a myeloma ymledol (math o ganser y mêr esgyrn)
  • clefyd Charcot-Marie-Tooth (CMT) a mathau eraill o niwropathi echddygol synhwyraidd etifeddol – cyflyrau genetig sy'n achosi difrod nerfol, yn enwedig yn y traed
  • lefelau uchel o docsinau yn eich corff, fel arsenig, plwm neu fercwri
  • Syndrom Guillain-Barré – cyflwr prin sy'n achosi i barlys ddatblygu'n gyflym, o fewn ychydig ddiwrnodau
  • amyloidosis – grwp o gyflyrau prin ond difrifol wedi'u hachosi pan fydd protein annormal o'r enw amyloid yn cael ei adael mewn meinweoedd ac organau ledled y corff
  • cyflyrau sy'n cael eu hachosi gan system imiwnedd orweithgar – fel arthritis gwynegol, lwpws neu syndrom Sjogren 

Meddyginiaeth

Weithiau, gall rhai meddyginiaethau achosi niwropathi perifferol fel sgîl-effaith ymhlith rhai pobl. Gall y meddyginiaethau hyn gynnwys:

  • rhai mathau o gemotherapi ar gyfer canser – yn enwedig canser y coluddyn, lymffoma neu fyeloma
  • rhai gwrthfiotigau, os byddant yn cael eu cymryd am fisoedd – fel metronidazole neu nitrofurantoin
  • phenytoin – a ddefnyddir i drin epilepsi – os caiff ei gymryd am gyfnod hir
  • amiodarone a thalidomide

Diagnosis

Gall nifer o brofion gael eu defnyddio i wneud diagnosis o niwropathi perifferol a'i achos sylfaenol.

Pan fyddwch yn gweld eich meddyg teulu, bydd yn eich holi am eich symptomau ac yn archwilio'r rhan o'ch corff sydd wedi'i heffeithio. Gallai hyn gynnwys profi teimlad, nerth ac atgyrchoedd.

Gallai eich meddyg drefnu profion gwaed hefyd, yn enwedig i wirio am achosion fel diabetes neu ddiffyg fitamin B12.

Cadarnhau p'un a oes gennych niwropathi

Bydd angen i rai pobl weld niwrolegydd (arbenigwr ar gyflyrau sy'n effeithio ar y system nerfol) mewn ysbyty i gael profion pellach, fel:

  • prawf dargludiad nerfol (NCS) – caiff weiars metel bach o'r enw electrodau eu gosod ar eich corff a byddant yn rhyddhau siociau trydan bach sy'n ysgogi'ch nerfau; bydd cyflymder a chryfder signal y nerf yn cael eu mesur
  • electromyograffeg (EMG) – caiff nodwydd fechan ei rhoi drwy'ch croen i'r cyhyr a chaiff ei defnyddio i fesur gweithgarwch trydanol eich cyhyrau

Fel arfer, bydd NCS ac EMG yn cael eu cyflawni ar yr un pryd.

Nodi achos niwropathi

Fel arfer, gall eich meddyg teulu nodi achos sylfaenol niwropathi perifferol.

Os bydd diabetes yn cael ei amau, fel arfer, gall wneud diagnosis hyderus ar sail eich symptomau, archwiliad corfforol a gwirio lefelau'r glwcos yn eich gwaed a'ch wrin.

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth ac mae'n hysbys ei bod yn achosi niwropathi perifferol, gallai eich meddyg teulu atal y dos neu ei leihau dros dro i weld p'un a fydd eich symptomau yn gwella.

Os yw'r achos yn ansicr, gallech gael eich atgyfeirio i weld niwrolegydd i gael profion gwaed mwy helaeth, i wirio'r canlynol:

Gall fod angen pigiad meingefnol arnoch i brofi'r hylif serebro-sbinol (sef hylif clir, di-liw, sy'n amgylchynu ac yn cynnal yr ymennydd a madruddyn y cefn) am lid.

Profion pellach 

Weithiau, gall biopsi'r nerfau gael ei wneud fel rhan o'ch diagnosis. Dyma lawdriniaeth fechan sy'n tynnu sampl fechan o nerf berifferol gerllaw eich migwrn er mwyn ei harchwilio o dan ficrosgop.

Yna, caiff ei gwirio am newidiadau a all fod yn arwydd o fathau penodol o niwropathi perifferol. Fodd bynnag, yn anaml iawn y mae angen biopsïau'r nerfau.

Hefyd, gall fod angen sgan arnoch i chwilio am unrhyw achos sylfaenol i'ch niwropathi, fel:

Triniaeth

Gall y driniaeth ar gyfer niwropathi perifferol gynnwys trin unrhyw achos sylfaenol neu unrhyw symptomau rydych chi'n eu cael.

Gall triniaeth fod yn fwy llwyddiannus ar gyfer rhai achosion sylfaenol. Er enghraifft, gallai sicrhau bod diabetes yn cael ei reoli'n dda helpu i wella niwropathi neu o leiaf ei atal rhag gwaethygu.

Trin yr achos sylfaenol

Mae nifer o wahanol achosion niwropathi perifferol, y gall rhai ohonynt gael eu trin mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft:

  • gall diabetes weithiau gael ei reoli gan newidiadau i ffordd o fyw, fel rhoi'r gorau i ysmygu, yfed llai o alcohol, cynnal pwysau iach a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • gall diffyg fitamin B12 gael ei drin gyda phigiadau neu dabledi B12
  • gall niwropathi perifferol sy'n cael ei achosi gan feddyginiaeth wella o roi'r gorau i'r feddyginiaeth 

Gall rhai mathau llai cyffredin o niwropathi perifferol gael eu trin gyda meddyginiaeth, fel:

  • corticosteroidau – meddyginiaeth wrth-lid nerthol
  • cyffuriau gwrthimiwnaidd – meddyginiaethau sy'n gostwng gweithgarwch y system imiwnedd
  • pigiadau o imiwnoglobwlin – cymysgedd o broteinau'r gwaed o'r enw gwrthgyrff, a wneir gan y system imiwnedd

Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd modd trin yr achos sylfaenol bob amser.

Lleddfu poen nerfol

Gall fod angen meddyginiaeth arnoch hefyd i drin unrhyw boen nerfol (poen niwropathig) rydych chi'n ei gael.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o fathau eraill o boen, nid yw poen niwropathig yn gwella fel arfer trwy gymryd cyffuriau lleddf upoen cyffredin, fel parasetamol ac ibuprofen, a bydd meddyginiaethau eraill yn cael eu defnyddio'n aml.

Fel arfer, dylid dechrau cymryd y rhain ar y dos lleiaf a chynyddu'r dos yn raddol hyd nes byddwch yn sylwi ar effaith.

Gall dosys uwch fod yn well i reoli'r poen, ond maent yn fwy tebygol o achosi sgîl-effeithiau hefyd.

Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw blinder, pendro neu deimlo "yn chwil". Os cewch chi'r rhain, gall fod angen lleihau eich dos.

Peidiwch gyrru na rhedeg peiriannau os byddwch yn teimlo'n gysglyd neu os bydd eich golwg yn aneglur. Hefyd, gallech fynd yn fwy sensitif i effeithiau alcohol.

Dylai'r sgîl-effeithiau wella ymhen wythnos neu ddwy wrth i'ch corff ddod i arfer â'r feddyginiaeth. Fodd bynnag, os bydd eich sgîl-effeithiau yn parhau, rhowch wybod i'ch meddyg teulu, oherwydd gallai fod yn bosibl newid i feddyginiaeth wahanol, sy'n fwy addas i chi.

Hyd yn oed os na fydd y feddyginiaeth gyntaf yn helpu, gallai eraill wneud.

Gall llawer o'r meddyginiaethau hyn gael eu defnyddio hefyd i drin cyflyrau eraill, fel iselder, epilepsi, gorbryder neu gur pen.

Os cewch gyffuriau gwrthiselder, gallai'r rhain drin poen hyd yn oed os nad oes iselder arnoch. Nid yw hyn yn golygu bod eich meddyg yn amau bod iselder arnoch.

Mae'r prif feddyginiaethau sy'n cael eu hargymell ar gyfer poen niwropathig yn cynnwys:

  • amitriptyline – sy'n cael ei defnyddio i drin cur pen ac iselder hefyd
  • duloxetine – sy'n cael ei defnyddio i drin problemau'r bledren ac iselder hefyd
  • pregabalin a gabapentin – sy'n cael eu defnyddio i drin epilepsi, cur pen neu orbryder hefyd

Mae rhai meddyginiaethau ychwanegol hefyd yn gallu cael eu defnyddio i leddfu poen mewn rhan benodol o'r corff neu leddfu poen arbennig o ddifrifol am gyfnodau byr. Mae'r rhain yn cael eu disgrifio isod.

Hufen Capsaisin 

Os yw'ch poen wedi'i gyfyngu i ran benodol o'ch corff ac ni allwch gymryd y meddyginiaethau uchod, neu byddai'n well gennych beidio â'u cymryd, gallech gael budd o ddefnyddio hufen capsaisin.

Capsaisin yw'r sylwedd sy'n gwneud puprynnau tsili yn boeth a chredir ei fod yn gweithio yn achos poen niwropathig trwy atal y nerfau rhag anfon negeseuon poen i'r ymennydd.

Bydd maint pysen o hufen capsaisin yn cael ei rwbio ar ddarn poenus o groen dair neu bedair gwaith y dydd.

Gall sgîl-effeithiau hufen capsaisin gynnwys llid y croen ac ymdeimlad o losgi yn yr ardal sydd wedi'i thrin, pan fyddwch yn dechrau ar y driniaeth.

Peidiwch defnyddio hufen capsaisin ar groen llidiog neu groen wedi torri, a golchwch eich dwylo bob amser ar ôl ei roi ar y croen.

Tramadol

Mae tramadol yn gyffur nerthol i leddfu poen ac mae'n perthyn i forffin. Gall gael ei ddefnyddio i drin poen niwropathig nad yw'n ymateb i driniaethau eraill a roddir ar bresgripsiwn gan eich meddyg teulu.

Fel pob opioid, gall pobl fynd yn gaeth i tramadol os caiff ei gymryd am gyfnod hir. Dim ond am gyfnod byr y caiff ei roi ar bresgripsiwn fel arfer. Gall fod yn ddefnyddiol cymryd tramadol ar adegau, pan fydd eich poen yn waeth.

Mae sgîl-effeithiau cyffredin tramadol yn cynnwys:

  • teimlo'n gyfoglyd neu chwydu
  • pendro
  • rhwymedd

Trin symptomau eraill 

Yn ogystal â thrin poen, gall fod angen triniaeth arnoch hefyd i'ch helpu i reoli symptomau eraill rydych chi'n eu cael o ganlyniad i niwropathi perifferol.

Er enghraifft, os yw'ch cyhyrau yn wan, gall fod angen ffisiotherapi arnoch i ddysgu ymarferion i wella nerth eich cyhyrau. Hefyd, gall fod angen i chi wisgo sblintiau i gynnal migyrnau gwan neu ddefnyddio cymhorthion cerdded i'ch helpu i symud o gwmpas.

Gallai problemau eraill sy'n gysylltiedig â niwropathi perifferol gael eu trin gyda meddyginiaeth, fel:

Mewn rhai achosion, gall fod angen triniaeth fwy ymyrrol arnoch, fel pigiadau'r tocsin botwlinwm ar gyfer hyperhidrosis neu gathetreiddio wrinol os ydych chi'n cael problemau wrth wacáu'r bledren.

Triniaethau cyflenwol a thriniaethau eraill

Oherwydd bod niwropathi perifferol yn gallu bod yn gyflwr poenus a thrafferthus iawn, a all gael ei leddfu'n rhannol yn unig gan feddyginiaeth, gall rhai pobl gael eu temtio i roi cynnig ar driniaethau eraill, fel:

  • aciwbigo
  • meddyginiaeth lysieuol
  • atchwanegion benfotiamine (math o fitamin B1)
  • atchwanegion asid alffa-lipöig (gwrthocsidydd)

Fodd bynnag, er y gall y rhain fod yn ddefnyddiol i rai pobl, nid yw'r dystiolaeth ar eu cyfer yn glir bob amser. Byddai'n ddoeth siarad â'ch meddyg cyn rhoi cynnig ar y triniaethau hyn, rhag ofn y gallent ymyrryd â'ch triniaeth barhaus.

Cymhlethdodau

Weithiau, gall niwropathi perifferol achosi problemau meddygol eraill, fel wlserau'r traed a newidiadau i rythm y galon, a phroblemau cylchrediad y gwaed.

Gall y cymhlethdodau hyn amrywio yn dibynnu ar achos sylfaenol y cyflwr.

Wlser diabetig y droed

Mae wlser diabetig y droed yn glwyf neu friw agored ar y croen, sy'n araf i wella. Mae'r rhain yn gyffredin ymhlith pobl sydd â pholyniwropathi diabetig.

Os oes gennych draed fferllyd, mae'n hawdd torri'ch traed trwy sefyll ar rywbeth miniog.

Gall wlser ddigwydd hefyd os byddwch yn datblygu pothell yn ddiarwybod oherwydd esgidiau anghyfforddus. Os nad ydych cyn teimlo poen, gallech barhau i gerdded heb ofalu am y bothell. Os bydd y clwyf neu'r bothell yn gwaethygu, gallai ddatblygu'n wlser.

Gall siwgr gwaed uchel ddifrodi'ch pibellau gwaed, gan gyfyngu cyflenwad y gwaed i'ch traed. Mae cyflenwi llai o waed i groen eich traed yn golygu bod y croen yn cael llai o gelloedd sy'n brwydro yn erbyn heintiau, felly gall clwyfau gymryd mwy o amser i wella, a gall hyn arwain at fadredd.

Madredd

Os byddwch yn datblygu haint mewn clwyf ar un o'ch traed o ganlyniad i niwropathi perifferol, mae risg y gallai hyn arwain at fadredd (marwolaeth rhan o'r croen neu feinweoedd gwaelodol).

Os bydd madredd yn datblygu, gall fod angen llawdriniaeth arnoch i gael gwared ar y feinwe sydd wedi'i difrodi (digramennu yw'r enw ar hyn) a gwrthfiotigau i drin unrhyw haint sylfaenol. Mewn achosion difrifol, gallai fod angen torri bys troed neu droed i ffwrdd.

Os oes diabetes arnoch, dylech gymryd gofal ychwanegol o'ch traed. Sicrhewch bod eich traed yn cael eu harchwilio'n rheolaidd gan bodiatrydd (gweithiwr meddygol proffesiynol, a elwir yn giropodydd hefyd, sy'n arbenigo ar ofal traed).

Darllenwch fwy am:

atal madredd

Problemau'r galon a chylchrediad y gwaed - Niwropathi awtonomig cardiofasgwlar (CAN)

Mae niwropathi awtonomig cardiofasgwlar (CAN) yn broblem ddifrifol bosibl arall sy'n gyffredin ymhlith pobl â pholyniwropathi diabetig.

Bydd CAN yn digwydd pan fydd difrod i'r nerfau perifferol yn tarfu ar y gweithrediadau awtomatig sy'n rheoli cylchrediad eich gwaed a churiad eich calon.

Dau brif symptom amlycaf CAN yw:

  • methu gwneud ymarfer corff am fwy na chyfnod byr iawn
  • isbwysedd orthostatig – math o bwysedd gwaed isel sy'n gallu gwneud i chi deimlo llewyg neu deimlo'r bendro pan fyddwch yn sefyll

Trin CAN

Mae'n bosibl y gallwch reoli symptomau isbwysedd orthostatig gan ddefnyddio nifer o dechnegau hunanofal, fel:

  • sefyll neu eistedd yn araf ac yn raddol
  • yfed digon o hylifau i gynyddu cyfaint eich gwaed a chodi'ch pwysedd gwaed
  • gwisgo hosanau cywasgu i atal gwaed rhag llifo'n ôl i'ch coesau
  • gosod eich gwely ar ogwydd trwy godi ochr y pen yn uwch

Mewn rhai achosion, gall fod angen meddyginiaeth i drin isbwysedd orthostatig.

Dyma ddwy feddyginiaeth sy'n cael eu defnyddio'n helaeth:

  • fludrocortisone – sy'n gweithio trwy gynyddu cyfaint eich gwaed
  • midodrine – sy'n gweithio trwy dynhau eich pibellau gwaed

Pryder mwy difrifol gyda CAN yw y gallai eich calon ddatblygu patrwm curo annormal (arrhythmia), a allai arwain at ataliad y galon, sef pan fydd eich calon yn rhoi'r gorau i guro yn gyfan gwbl.

I atal hyn, gallech gael meddyginiaeth ar bresgripsiwn i helpu rheoleiddio curiad eich calon, fel flecainide, beta-atalyddion neu amiodarone.

Os oes CAN arnoch, hwyrach y bydd angen i chi gael archwiliadau rheolaidd i fonitro gweithrediad eich calon.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/03/2024 13:31:03