Brechlyn BCG (TB) (genedigaeth i 35 blwydd)
Haint ddifrifol yw twbercwlosis (TB) sy’n effeithio ar yr ysgyfaint, ond fe all effeithio ar rannau eraill o’r corff fel yr esgyrn, y cymalau a’r arennau. Fe all achosi meningitis hefyd.
Er bod TB yn gallu bod yn glefyd difrifol iawn, mae’n bosibl gwella’n llwyr o’r rhan fwyaf o fathau o TB gyda thriniaeth.
Pwy ddylai gael y brechlyn BCG?
Mae’r brechlyn BCG (sef y brechlyn Bacillus Calmette-Guérin) yn diogelu yn erbyn TB. Nid yw’n cael ei roi yn rhan o raglen brechiadau plentyndod arferol y GIG oni bai y credir bod baban mewn perygl uwch o ddod i gysylltiad â TB.
Gallai’r brechiad BCG gael ei argymell hefyd ar gyfer plant hŷn sydd mewn perygl uwch o ddatblygu TB, fel:
- plant sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar o wledydd lle y ceir lefelau uchel o TB
- plant sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi’i heintio â TB anadlol
Mae’n anghyffredin i’r brechiad BCG gael ei roi i unrhyw un dros 16 oed - a byth dros 35 oed, oherwydd nad yw’n gweithio’n dda mewn oedolion. Fodd bynnag, fe’i rhoddir i oedolion rhwng 16 a 35 oed sydd mewn perygl o TB yn sgil eu gwaith, fel rhai gweithwyr gofal iechyd.
Sut mae’r brechiad BCG yn cael ei roi?
Gall baban sydd mewn perygl o TB gael ei frechu yn yr ysbyty yn fuan ar ôl iddo gael ei eni. Neu gellir ei atgyfeirio i feddyg teulu ar gyfer y brechiad ar ôl iddo adael yr ysbyty. Mae’n bosibl nad y feddygfa leol fydd hon o reidrwydd oherwydd nid yw pob meddygfa’n gallu darparu’r gwasanaeth hwn.
Os cynigir y brechiad BCG i chi fel oedolyn, fe’i trefnir gan feddyg teulu.
Pa mor effeithiol yw’r brechiad BCG?
Mae’r brechlyn BCG yn cael ei wneud o ffurf wedi’i gwanhau o facteriwm sydd â chysylltiad agos â TB dynol. Oherwydd bod y bacteriwm yn wan, nid yw’r brechlyn yn achosi unrhyw glefyd, ond mae’n dal i sbarduno’r system imiwnedd i ddiogelu yn erbyn y clefyd, gan roi imiwnedd da i bobl sy’n ei dderbyn.
Mae’r brechlyn 70-80% yn effeithiol yn erbyn y ffurfiau mwyaf difrifol o TB, fel meningitis TB mewn plant. Mae’n llai effeithiol wrth atal clefyd anadlol, sef y ffurf fwy cyffredin mewn oedolion.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk