Vaccination menu links


Brechlyn brech yr ieir (unrhyw oedran)

Mae’r brechlyn brech yr ieir (varicella) yn diogelu yn erbyn y feirws varicella zoster sy’n achosi brech yr ieir.

Nid yw’r brechlyn brech yr ieir yn rhan o’r rhaglen brechiadau plentyndod arferol. Fe’i cynigir gan y GIG ar hyn o bryd i bobl sydd mewn cysylltiad agos â rhywun sy’n arbennig o agored i frech yr ieir neu ei chymhlethdodau yn unig.

Pwy sydd mewn perygl o frech yr ieir?

Haint blentyndod gyffredin yw brech yr ieir. Fel arfer, mae’n ysgafn ac mae cymhlethdodau’n anghyffredin. Bydd bron pob plentyn yn datblygu imiwnedd i frech yr ieir ar ôl cael eu heintio, felly bydd y rhan fwyaf yn ei dal unwaith yn unig. Gall y clefyd fod yn fwy difrifol mewn oedolion.

Fodd bynnag, mae rhai grwpiau o bobl mewn perygl uwch o gymhlethdodau difrifol o ganlyniad i frech yr ieir. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pobl sydd â systemau imiwnedd gwannach o ganlyniad i afiechydon fel HIV, neu driniaethau fel cemotherapi
  • menywod beichiog. Gall brech yr ieir fod yn ddifrifol iawn i faban heb ei eni pan fydd menyw feichiog yn dal yr haint. Fe all achosi amrywiaeth o namau geni difrifol, yn ogystal â chlefyd difrifol yn y baban pan gaiff ei eni.

Sut mae’r brechlyn brech yr ieir yn gweithio

Brechlyn byw yw’r brechlyn brech yr ieir ac mae’n cynnwys swm bach o’r feirws varicella zoster wedi’i wanhau.

Mae’r brechlyn yn achosi i’ch system imiwnedd gynhyrchu gwrthgyrff a fydd yn helpu i ddiogelu yn erbyn brech yr ieir.

Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau’r brechlyn brech yr ieir.

Sut mae’r brechlyn brech yr ieir yn cael ei roi?

Mae’r brechlyn yn cael ei roi mewn dau bigiad ar wahân, fel arfer i ran uchaf y fraich, gyda bwlch o bedair i wyth wythnos rhyngddynt.

Pwy ddylai gael y brechlyn brech yr ieir?

Fe’i hargymhellir ar gyfer rhai unigolion, fel gweithwyr gofal iechyd a phobl sy’n dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Diben hyn yw lleihau’r tebygolrwydd o heintio’r rhai hynny sydd mewn perygl.

Er enghraifft, petaech chi’n cael triniaeth gemotherapi, byddai’r brechlyn brech yr ieir yn cael ei argymell i blant sy’n agos atoch nad oes ganddynt imiwnedd i’r clefyd.

Byddai’r brechlyn yn cael ei argymell hefyd petaech chi ar fin dechrau gweithio mewn adran radiotherapi ac nad oedd gennych hanes blaenorol o frech yr ieir.

Darllenwch fwy ynghylch pwy ddylai gael y brechlyn brech yr ieir.

Pa mor effeithiol yw’r brechlyn brech yr ieir?

Dangoswyd y bydd 9 o bob 10 o blant sy’n cael eu brechu ag un dos yn datblygu imiwnedd yn erbyn brech yr ieir. Argymhellir rhaglen dau ddos oherwydd ei bod yn cynhyrchu ymateb imiwnedd gwell fyth.

Nid yw’r brechiad mor effeithiol ar ôl plentyndod. Amcangyfrifir y bydd tri chwarter y rhai yn eu harddegau a’r oedolion sy’n cael eu brechu yn datblygu imiwnedd i frech yr ieir.

Os ydych yn pryderu bod gan eich plentyn frech a allai fod yn frech yr ieir, edrychwch ar y sioe sleidiau brechau plentyndod i weld a yw’r frech yn symptom nodweddiadol o frech yr ieir neu’n gyflwr plentyndod arall.

Darllenwch atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r brechlyn brech yr ieir.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk