Brechlyn ffliw (oedolion)

Mae brechiad ffliw rhad ac am ddim y GIG ar gael bob blwyddyn i bobl sydd mewn perygl o fynd yn sâl iawn gyda’r ffliw a’r rhai sy’n gofalu amdanynt, i’w hamddiffyn rhag y ffliw a’i gymhlethdodau.

Gall ffliw fod yn annymunol, ond os ydych yn iach fel arall bydd yn gwella ar ei ben ei hun o fewn wythnos. Fodd bynnag, gall ffliw fod yn ddifrifol i rai pobl, felly mae angen i ni i gyd wneud yr hyn a allwn i amddiffyn ein hunain a’n teuluoedd, ac mae cael brechlyn ffliw yn rhan bwysig o yr amddiffyniad hwnnw.

Mae ffliw yn debygol o fod yn fwy difrifol mewn rhai pobl, fel:

  • pobl hŷn
  • merched beichiog
  • plant ac oedolion â chyflyrau iechyd hirdymor penodol (yn enwedig clefyd y galon, yr afu, yr arennau, clefyd anadlol neu ddiabetes hirdymor)
  • plant ac oedolion â systemau imiwnedd gwan
  • unrhyw un sydd wedi cael strôc neu strôc fach

Am fwy o wybodaeth ymwelwch a phw.nhs.wales/fluvaccine


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk