Vaccination menu links


Brechlyn HPV

Caiff y brechlyn HPV (feirws papiloma dynol) ei gynnig yn rhad ac am ddim ar y GIG i bob person rhwng 12 ac 13 oed (blwyddyn ysgol 8).

Mae'n helpu i amddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys:

  • canser ceg y groth
  • rhai canserau'r geg a'r gwddf (pen a gwddf)
  • rhai canserau'r ardaloedd rhefrol ac organau cenhedlu

Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag defaid gwenerol.

Yng Nghymru, mae merched a bechgyn 12 i 13 oed yn cael cynnig y brechlyn HPV fel dos unigol pan fyddant ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol. Wedi iddynt gael un dos o'r brechlyn HPV i'w hamddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, ystyrir eu bod nhw wedi cael eu brechu'n llawn ac nid oes angen dosau pellach arnynt. Bydd angen i nifer fach o bobl ifanc sydd â system imiwnedd wan neu sydd â HIV gael mwy nag un dos o frechlyn HPV i'w gwarchod.

Os gwnaethoch chi fethu eich brechlyn HPV pan gafodd ei gynnig i chi yn yr ysgol, gallwch gael y brechlyn hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed. Ar gyfer bechgyn, mae hyn ond yn berthnasol os cawsoch eich geni ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

Beth yw HPV?

HPV yw'r enw a roddir ar grŵp cyffredin iawn o firysau.

Mae llawer o fathau o HPV, a chaiff rhai ohonynt eu galw'n "risg uchel" oherwydd eu bod yn gysylltiedig â datblygiad canserau fel canser ceg y groth, canser rhefrol, canser yr organau cenhedlu, a chanserau'r pen a'r gwddf.

Gall mathau eraill achosi cyflyrau fel defaid neu ddafadennau.

Mae bron pob canser ceg y groth (mwy na 99%) yn cael eu hachosi gan haint gyda math risg uchel o HPV.

Ond dim ond rhai mathau o ganserau rhefrol ac organau cenhedlu, a chanserau'r pen a'r gwddf, sy'n cael eu hachosi gan haint HPV.

Mae gweddill y canserau hyn yn cael eu hachosi gan ffactorau risg eraill fel ysmygu ac yfed alcohol.

Nid yw heintiau HPV fel arfer yn achosi unrhyw symptomau, ac ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod eu bod wedi'u heintio.

Sut caiff haint HPV ei ledaenu?

Mae'r feirws HPV yn gyffredin iawn ac mae'n hawdd ei ledaenu trwy gyswllt croen i groen, gan gynnwys unrhyw fath o gyswllt rhywiol, gyda pherson arall sydd eisoes â’r feirws.

Mae mwy na 100 o wahanol fathau o HPV, a thua 40 sy'n effeithio ar ardal yr organnau cenhedlu.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu heintio â HPV ar ryw adeg yn eu bywyd. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'r feirws yn gwneud unrhyw niwed oherwydd bod eich system imiwnedd yn cael gwared â'r haint. Ond mewn rhai achosion, mae'r haint yn parhau a gall arwain at broblemau iechyd.

Er nad yw'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dechrau gweithgaredd rhywiol tan ar ôl iddyn nhw gyrraedd 16 oed, mae'n bwysig eu bod yn cael yr amddiffyniad hwn yn ddigon cynnar, a chyfnod da yw ym mlynyddoedd cynnar yr arddegau - bydd cael y brechlyn mor gynnar â phosibl yn eu diogelu yn y dyfodol.

Gall defnyddio condom yn ystod rhyw helpu i atal haint HPV. Fodd bynnag, gan nad yw condomau'n gorchuddio'r ardal organau rhywiol gyfan ac yn aml yn cael eu rhoi ymlaen ar ôl i gyswllt rhywiol ddechrau, nid yw condom yn warant yn erbyn lledaeniad HPV.

Beth yw'r gwahanol fathau o HPV a beth maen nhw'n ei wneud?

Mae mwy na 100 o wahanol fathau o HPV, a thua 40 sy'n effeithio ar ardal yr organau cenhedlu. Mae HPV yn gyffredin iawn a gellir ei ddal trwy unrhyw fath o gyswllt rhywiol â pherson arall sydd eisoes â HPV.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael haint HPV ar ryw adeg yn eu bywydau a bydd eu cyrff yn cael gwared ohono yn naturiol heb driniaeth.

Ond bydd rhai pobl sydd wedi'u heintio â math risg uchel o HPV yn methu ei glirio.

Dros gyfnod, gall hyn achosi twf meinwe annormal yn ogystal â newidiadau eraill, a all arwain at ganser os na chaiff ei drin.

Mae mathau risg uchel o HPV yn gysylltiedig â gwahanol fathau o ganser, gan gynnwys:

  • canser ceg y groth
  • canser y fagina
  • canser fylfol
  • canser rhefrol
  • canser y pidyn
  • rhai canserau'r pen a'r gwddf

Gall haint gyda mathau eraill o HPV achosi:

  • defaid gwenerol – tyfiannau bach neu newidiadau i'r croen ar neu o gwmpas ardal yr organau cenhedlu neu'r ardal rhefrol; dyma'r haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn fwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig.
  • defaid y croen a dafadennau – heb fod yn ardal yr organau cenhedlu
  • defaid ar y blwch llais neu gordiau lleisiol (laryngeal papillomas)

Sut mae'r brechlyn HPV yn gweithio?

Gardasil 9 yw'r brechlyn HPV a roddir yng Nghymru. Mae'n darparu amddiffyniad yn erbyn 9 math o HPV: 6, 11, 16, 18, 31, 33, 45, 52, 58.

HPV math 16 a 18 yw achos y rhan fwyaf o ganserau ceg y groth yn y DU (rhyngddynt, maent yn gyfrifol am fwy na 70%). Mae'r mathau hyn o HPV hefyd yn achosi rhai canserau rhefrol a’r organau cenhedlu, a rhai canserau'r pen a'r gwddf.

Mae HPV math 6 ac 11 yn achosi tua 90% o ddefaid gwenerol, felly mae defnyddio Gardasil 9 yn helpu i amddiffyn bechgyn a merched rhag rhai mathau o ganser, a defaid gwenerol, hefyd.

Nid yw brechlyn HPV yn amddiffyn rhag heintiau eraill a ledaenir yn ystod rhyw, fel clamydia, ac ni fydd yn atal merched rhag beichiogi, felly mae'n bwysig iawn o hyd ymarfer rhyw diogel.

Pwy all gael y brechlyn HPV drwy raglen frechu'r GIG?

Mae'r brechlyn HPV yn cael ei gynnig fel dos unigol i ferched a bechgyn 12 a 13 oed ym Mlwyddyn 8 yr ysgol.

Dylai pobl sy'n colli eu brechlyn HPV yn yr ysgol siarad â'u tîm imiwneiddio ysgol neu feddygfa a gwneud apwyntiad i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl.

Gall pobl a gollodd eu brechiad HPV ac sydd yn y grwpiau cymwys barhau i gael eu brechu trwy’r GIG hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed. Ar gyfer bechgyn, mae hyn ond yn berthnasol os cawsant eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

Pam mae'r brechlyn HPV yn cael ei roi mor ifanc?

Gall heintiau HPV gael eu lledaenu gan unrhyw gyswllt croen-i-groen ac fel arfer maent i'w cael ar y bysedd, dwylo, ceg ac organau cenhedlu.

Mae hyn yn golygu y gellir lledaenu'r feirws yn ystod unrhyw fath o weithgarwch rhywiol, gan gynnwys cyffwrdd.

Mae'r brechlyn HPV yn gweithio orau os yw merched a bechgyn yn ei gael cyn iddynt ddod i gysylltiad â HPV (mewn geiriau eraill, cyn iddynt ddod yn weithgar yn rhywiol).

Felly, bydd cael y brechlyn a gaiff ei argymell yn helpu i'w diogelu yn ystod eu harddegau a thu hwnt.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd heb dderbyn y brechlyn HPV yn cael eu heintio â rhyw fath o HPV ar ryw adeg yn eu bywyd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw'r feirws yn gwneud unrhyw niwed oherwydd bod eu system imiwnedd yn clirio'r haint.

Ond mewn rhai achosion, mae'r haint yn aros yn y corff am flynyddoedd lawer ac yna, am ddim rheswm amlwg, fe allai ddechrau achosi niwed.

Brechlyn HPV ar gyfer dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM)

O fis Ebrill 2017, daeth dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) hyd at a gan gynnwys 45 oed yn gymwys i gael brechlyn HPV am ddim ar y GIG pan fyddant yn ymweld â chlinigau iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: Pwy ddylai gael y brechlyn HPV?

Gofynnwch i'r meddyg neu'r nyrs yn y clinig am fwy o fanylion.

Brechlyn HPV i bobl drawsryweddol

Mae menywod traws (pobl a bennwyd yn wrywaidd adeg eu geni) yn gymwys yn yr un modd â GBMSM os yw eu risg o gael HPV yn debyg i'r risg o GBMSM sy'n gymwys i gael y brechlyn HPV.

Mae dynion traws (pobl a bennwyd yn fenywaidd adeg eu geni) yn gymwys os ydynt yn cael rhyw gyda dynion eraill ac yn 45 oed neu'n iau.

Nid oes angen dosau pellach o'r brechlyn HPV os yw dynion traws wedi cwblhau cwrs o’r brechlyn HPV o'r blaen fel rhan o raglen brechlyn HPV i ferched.

Sut mae'r brechlyn HPV yn cael ei roi?

Caiff y brechlyn HPV ei roi fel un pigiad yn rhan uchaf y fraich.

Cynigir 1 dos ar y rhaglen glasoed arferol.

Gall pobl ifanc a gafodd gynnig brechlyn HPV yn yr ysgol, ond a fethodd ei gael, gael y brechlyn am ddim hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed. Ceir mwy o wybodaeth yma: Sut mae’r brechlyn HPV yn cael ei roi?

Cynigir 1 dos i GBMSM sy’n cael eu brechu cyn eu pen-blwydd yn 25 oed ar y rhaglen GBMSM.

Cynigir 2 ddos i GBMSM rhwng 25 a 45 oed, os rhoddir y brechlyn cyntaf ar neu ar ôl pen-blwydd yr unigolyn yn 25 oed. Dylid rhoi'r ail ddos o leiaf 6 mis ar ôl y cyntaf.

Cynigir 3 dos i bobl sydd â system imiwnedd wan ar adeg y brechiad. Er enghraifft, unigolion sydd â HIV a'r rheiny sy'n cymryd meddyginiaethau sy'n gwanhau eu system imiwnedd.

Ar gyfer y rheiny sydd angen 3 dos o'r brechlyn:

  • dylai'r ail ddos gael ei roi o leiaf 1 mis ar ôl y cyntaf
  • dylid rhoi'r trydydd dos o leiaf 3 mis ar ôl yr ail ddos

Os ydych chi'n HIV positif neu os oes gennych system imiwnedd wan, mae'n bwysig eich bod chi’n cael pob dos o’r brechlyn fel eich bod chi wedi cael eich ddiogelu'n iawn.

Am ba hyd y mae'r brechlyn HPV yn amddiffyn?

Mae astudiaethau eisoes wedi dangos bod y brechlyn yn amddiffyn rhag haint HPV am o leiaf 10 mlynedd, er bod arbenigwyr yn disgwyl i'r amddiffyniad bara am gyfnod llawer hirach.

Ond gan nad yw'r brechlyn HPV yn amddiffyn rhag pob math o HPV a all achosi canser ceg y groth, mae'n bwysig bod pob merch sy'n derbyn y brechlyn HPV hefyd yn cael profion sgrinio serfigol rheolaidd ar ôl iddynt gyrraedd 25 oed.

Darllenwch fwy am sgrinio serfigol


Last Updated: 14/03/2023 10:12:50
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk