Brechlyn Hepatitis B (genediaeth ymlaen)

Mae’r brechlyn hepatitis B ar gael trwy’r GIG i unrhyw un sydd mewn perygl uwch o gael hepatitis B neu ei gymhlethdodau.

Pwy ddylai gael ei frechu yn erbyn hepatitis B?

Gallwch gael eich heintio â hepatitis B os ydych yn dod i gysylltiad â gwaed unigolyn sydd wedi’i heintio neu hylifau eraill ei gorff. Felly, y bobl sydd mewn perygl o gael eu heintio â hepatitis B ac a ddylai ystyried cael eu brechu yw:

  • pobl sy’n chwistrellu cyffuriau neu sydd â phartner sy’n chwistrellu cyffuriau
  • pobl sy’n newid eu partneriaid rhywiol yn aml
  • dynion sy’n cael rhyw gyda dynion
  • babanod a anwyd i famau heintiedig
  • teulu agos a phartneriaid rhywiol rhywun sydd â hepatitis B
  • unrhyw un sy’n cael trallwysiadau gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd
  • pobl sydd ag unrhyw fath o glefyd yr afu/iau
  • pobl sydd â chlefyd cronig yr arennau
  • pobl sy’n teithio i wledydd risg uchel
  • gweithwyr rhyw gwrywaidd a benywaidd
  • pobl sy’n gweithio yn rhywle lle y maent mewn perygl o ddod i gysylltiad â gwaed neu hylifau’r corff, fel nyrsys, staff carchar, meddygon, deintyddion a staff labordy
  • carcharorion
  • teuluoedd sy’n mabwysiadu/maethu plant o wledydd risg uchel

Sut i gael eich brechu yn erbyn hepatitis B

Gofynnwch i’ch meddyg teulu eich brechu, neu ewch i unrhyw glinig iechyd rhywiol neu feddygaeth genhedlol-droethol (GUM) i gael y brechiad hepatitis B.

Dewch o hyd i glinig meddygaeth genhedlol-droethol lleol.

Os yw’ch swydd yn golygu eich bod mewn perygl o gael haint hepatitis B, eich cyflogwr sy’n gyfrifol am drefnu brechiad i chi yn hytrach na’ch meddyg teulu. Cysylltwch â’ch adran iechyd galwedigaethol.

Beth mae imiwneiddio rhag hepatitis B yn ei olygu?

I gael eich diogelu’n llawn, bydd angen i chi gael tri phigiad o’r brechlyn hepatitis B yn ystod cyfnod o bedwar i chwe mis.

Os ydych yn weithiwr gofal iechyd neu’n dioddef methiant yr arennau, cynhelir profion dilynol i weld a ydych wedi ymateb i’r brechlyn. Gall unrhyw un sy’n cael ei frechu gan ei wasanaeth iechyd galwedigaethol ei hun ofyn am gael prawf gwaed hefyd i weld a yw wedi ymateb i’r brechlyn.

Argymhellir bod unrhyw un y credir ei fod mewn perygl parhaus o’i heintio yn cael brechlyn atgyfnerthu bob pum mlynedd.

Y brechlyn hepatitis B trwy’r GIG

Mae meddygfeydd teulu a chlinigau iechyd rhywiol neu GUM fel arfer yn darparu’r brechiad hepatitis B yn rhad ac am ddim os ydych mewn grŵp sydd mewn perygl.

Nid oes rhaid i feddygon teulu ddarparu’r brechlyn hepatitis B trwy’r GIG os na chredir eich bod mewn perygl.

Gallai meddygon teulu godi tâl arnoch am y brechlyn os ydych eisiau ei gael fel brechlyn teithio, neu fe allent eich atgyfeirio i glinig teithio er mwyn i chi gael eich brechu’n breifat. Cost gyfredol y brechlyn (yn 2013) yw oddeutu £30 fesul dos.

Pa mor ddiogel yw’r brechlyn hepatitis B?

Mae’r brechlyn hepatitis B yn ddiogel iawn a heblaw am ychydig o gochni a dolur yn y man lle y rhoddwyd y pigiad, mae sgil-effeithiau o ganlyniad iddo yn anghyffredin.

Brechiad hepatitis B mewn argyfwng

Os ydych wedi cael eich amlygu i’r feirws hepatitis B a heb gael eich brechu o’r blaen, dylech geisio cyngor meddygol ar unwaith oherwydd fe allai fod yn fuddiol i chi gael y brechlyn hepatitis B.

Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael pigiad gwrthgyrff o’r enw imiwnoglobwlin hepatitis B (HBIG) penodol ynghyd â’r brechlyn hepatitis B.

Yn ddelfrydol, dylai HBIG gael ei roi o fewn 48 awr, ond mae’n dal i fod yn bosibl i chi ei gael hyd at wythnos ar ôl yr amlygiad.

Brechiad hepatitis B yn ystod beichiogrwydd

Gallai haint hepatitis B mewn menywod beichiog arwain at glefyd difrifol i’r fam a haint cronig i’r baban, felly cynghorir na ddylai menyw feichiog gael ei hatal rhag cael brechiad hepatitis B os yw hi mewn categori risg uchel.

Nid oes tystiolaeth o unrhyw risg yn gysylltiedig â brechu menywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B. Brechlyn anweithredol (lladdedig) ydyw, felly mae’r risgiau i’r baban heb ei eni’n debygol o fod yn ddibwys.

Babanod a’r brechiad hepatitis B

Mae angen i fabanod a anwyd i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B gael dos o’r brechlyn hepatitis B ar ôl iddynt gael eu geni. Dylai gael ei roi o fewn 24 awr o enedigaeth a’i ddilyn gan ddos arall o’r brechlyn fis, deufis a deuddeg mis ar ôl genedigaeth.

Ystyrir bod risg arbennig o uchel yn gysylltiedig â rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B oherwydd eu bod yn heintus iawn. Dylai babanod a anwyd i’r mamau risg uchel hyn gael pigiad HBIG hefyd ar adeg eu geni (yn ogystal â’r brechiad hepatitis B) i roi amddiffyniad cyflym iddynt yn erbyn haint.

Dylai pob baban a anwyd i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B gael prawf pan fyddant yn 12 mis oed i wirio a ydynt wedi cael eu heintio â hepatitis B.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk