Vaccination menu links


Brechlyn pneumococcal (2 blwydd i 65 blwydd)

Mae’r brechlyn niwmococol (a adwaenir hefyd fel y ‘pigiad niwmo’ neu’r brechlyn niwmonia) yn diogelu yn erbyn heintiau niwmococol.

Achosir heintiau niwmococol gan y bacteriwm Streptococcus pneumoniae a gallant arwain at niwmonia, septisemia (math o wenwyn gwaed) a meningitis.

Darllenwch fwy ynghylch pam mae angen y brechiad niwmococol.

Pwy ddylai gael y brechlyn niwmococol?

Gall haint niwmococol effeithio ar unrhyw un. Fodd bynnag, mae angen y brechiad niwmococol ar rai pobl oherwydd bod ganddynt risg uwch o gymhlethdodau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pob plentyn iau na dwyflwydd oed
  • oedolion 65 oed neu hŷn
  • plant ac oedolion sydd â rhai cyflyrau iechyd tymor hir, fel cyflwr difrifol yn ymwneud â’r galon neu’r arennau

Darllenwch fwy ynghylch pwy ddylai gael y pigiad niwmo.

Pa mor aml y rhoddir y brechlyn niwmococol?

Mae babanod yn cael y brechlyn niwmococol ar ffurf dau phigiad ar wahân pan fyddant yn 3 mis oed ac yn 12-13 mis oed.

Un brechiad niwmococol sydd ei angen ar bobl hŷn na 65 oed, a fydd yn eu diogelu am oes. Ni chaiff ei roi’n flynyddol fel y pigiad ffliw.

Mae’n bosibl y bydd angen i bobl sydd â chyflwr iechyd tymor hir gael un brechiad niwmococol yn unig neu frechiad bob pum mlynedd, yn dibynnu ar eu problem iechyd sylfaenol.

Darllenwch fwy ynghylch pa mor aml i gael y brechlyn niwmococol.

Dau fath o frechlyn niwmonia

Ceir dau fath gwahanol o frechlyn niwmococol:

  • brechlyn cyfunol niwmococol (PCV) – rhoddir hwn i bob plentyn iau na dwyflwydd oed yn rhan o raglen brechiadau plentyndod y GIG. Fe’i hadwaenir yn ôl yr enw brand Prevenar 13
  • brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) – rhoddir hwn i bobl 65 oed a hŷn, a phobl sydd mewn perygl uchel o ddal yr haint o ganlyniad i gyflyrau iechyd tymor hir

Mae mwy na 90 o wahanol rywogaethau o’r bacteriwm niwmococol wedi’u hamlygu, er bod yr heintiau mwyaf difrifol yn cael eu hachosi gan rhwng wyth a 10 ohonynt yn unig.

Mae’r brechlyn plentyndod (PCV) yn diogelu yn erbyn 13 rhywogaeth o’r bacteriwm niwmococol tra bod y brechlyn i oedolion (PPV) yn diogelu yn erbyn 23 rhywogaeth.

Credir bod y brechlyn niwmococol oddeutu 50 i 70% yn effeithiol o ran atal clefyd niwmococol.

Darllenwch ynghylch sut mae’r brechlyn niwmococol yn gweithio.

Pwy na ddylai gael y pigiad niwmo?

Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi neu eich plentyn ohirio cael y brechiad neu ei osgoi yn gyfan gwbl:

Alergedd i frechlyn

Dywedwch wrth eich meddyg teulu os ydych chi neu eich plentyn wedi cael adwaith gwael i unrhyw frechlyn yn y gorffennol. Os bu adwaith alergaidd difrifol a gadarnhawyd, a elwir yn adwaith anaffylactig, i’r brechlyn niwmococol neu unrhyw un o’i gynhwysion, mae’n well peidio â’i gael. Fodd bynnag, os oedd yr adwaith yn ysgafn yn unig, fel brech, mae’n ddiogel cael y brechlyn fel arfer.

Yn anhwylus gyda thwymyn

Os ydych chi neu eich plentyn ychydig yn anhwylus ar adeg y brechiad, mae’n ddiogel cael y brechlyn. Fodd bynnag, os ydych chi neu eich plentyn yn fwy difrifol wael – er enghraifft, gyda thymheredd uchel – mae’n well gohirio’r brechiad hyd nes y byddwch chi neu eich plentyn wedi gwella.

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Credir ei bod yn ddiogel cael y brechlyn niwmococol yn ystod beichiogrwydd a thra eich bod yn bwydo ar y fron. Ond, i fod yn ofalus, os ydych yn feichiog, fe allech ddymuno aros hyd nes y byddwch wedi cael eich baban (oni bai bod buddion cael y brechlyn yn drech na’r risgiau i’ch plentyn).

Sgil-effeithiau’r brechlyn niwmococol

Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o frechlynnau, gall y brechlyn niwmococol i blant ac oedolion achosi sgil-effeithiau ysgafn weithiau, gan gynnwys:

  • twymyn ysgafn
  • cochni yn y man lle y rhoddwyd y pigiad
  • caledwch neu chwyddo yn y man lle y rhoddwyd y pigiad

Nid oes unrhyw sgil-effeithiau difrifol wedi’u rhestru ar gyfer y brechlyn i blant nac oedolion heblaw am risg eithriadol o fach o adwaith alergaidd difrifol.

Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau’r brechiad niwmococol.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk