Ar 1 Hydref 2009, disodlwyd y 22 Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) a’r 7 Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru gan strwythur newydd sy’n cynnwys 7 Bwrdd Iechyd newydd.
Roedd y strwythur BILl blaenorol a gyflwynwyd yn 2003 yn seiliedig ar y syniad o “farchnad fewnol” ble’r oedd cyrff GIG yn gweithredu fel naill ai “comisiynwyr” neu “ddarparwyr” gwasanaethau GIG ar wahan. Teimlwyd nad yw’r system hon yn effeithiol mwyach, nid oedd yn annog cydweithio ac yn holl bwysig, nid oedd yn rhoi digon o sylw i anghenion cleifion.
Mae aildrefnu’r GIG yng Nghymru felly’n anelu i greu gwasanaeth mwy syml gyda mwy o bwyslais ar anghenion cleifion, lleihau anghysondebau ac aneffeithiolrwydd mewn comisiynu a darpariaeth gwasanaeth ar draws Cymru a chaniatau i arian gael ei dargedu’n fwy effeithiol ble mae’r angen.
Bydd y Byrddau Iechyd newydd yn gyfrifol o fewn eu hardaloedd am gynllunio, cyllido a darparu:
• Gwasanaethau gofal iechyd- MTon, fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion
• Gwasanaethau Ysbyty ar gyfer cleifion preswyl a chleifion allanol
• Gwasanaethau cymuned, gan gynnwys y rhai a ddarperir trwy ganolfannau iechyd cymuned a gwasanaethau iechyd meddwl.
Bydd byrddau iechyd yn gallu cynnig gwybodaeth i gleifion a’r cyhoedd am yr amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir.
Bydd eu rôl o fewn y weithdrefn gwynion GIG safonol yr un fath â’r strwythur blaenorol, gan gynnwys edrych ar unrhyw gwynion yn erbyn MTon, deintyddion, fferyllwyr neu optometryddion nad ydynt wedi eu datrys yn foddhaol.
I gael gwybodaeth bellach am eich Bwrdd Iechyd newydd, gallwch ymweld â’r cysylltiadau isod.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Bwrdd Iechyd Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Hefyd, gallwch weld map o ardaloedd y byrddau iechyd newydd.
Cysylltau Allanol
Wefan Diwygio'r GIG