Gwybodaeth beichiogrwydd


Toriad Cesaraidd

Cael toriad cesaraidd

Mae yna sefyllfaoedd lle mae'r opsiwn mwyaf diogel i chi neu eich babi, neu'r ddau ohonoch yw cael toriad cesaraidd. Gan fod toriad cesaraidd yn golygu llawdriniaeth fawr, nid yw e'n cael ei berfformio ond pan fo angen clinigol go iawn am y math hwn o enedigaeth.

Bydd eich babi yn cael ei eni drwy doriad yn eich abdomen ac yna i mewn i'ch croth. Mae'r toriad yn cael ei wneud fel arfer ar draws eich abdomen, ychydig yn is na'ch llinell bicini. Mae'r graith yn cael ei guddio fel arfer gan flew eich cedor.

Os ydych yn disgwyl gefeilliaid, tripledi neu fwy, mae'n fwy tebygol y byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer toriad cesaraidd. Bydd hyn yn dibynnu ar sut y mae eich beichiogrwydd yn mynd yn ei flaen, lleoliad eich babanod ac os yw'r babanod yn rhannu brych. Pryd bynnag mae toriad cesaraidd yn cael ei awgrymu, bydd eich meddyg yn esbonio pam y mae'n cael ei gynghori, ac unrhyw sgil-effeithiau posibl. Peidiwch ag oedi rhag gofyn cwestiynau.

Toriad cesaraidd brys (argyfwng)

Mae toriad cesaraidd brys (argyfwng) yn angen rheidiol pan fydd cymhlethdodau yn datblygu ac mae angen i'r enedigaeth fod yn un gyflym. Gall hyn fod cyn neu yn ystod y cyfnod esgor. Os yw eich bydwraig a'ch meddyg yn poeni am eich diogelwch chi neu eich babi, byddant yn awgrymu eich bod yn cael toriad cesaraidd yn syth. Weithiau, bydd eich meddyg neu fydwraig yn awgrymu cesaraidd argyfwng os nad yw ceg eich croth wedi ymledu'n llawn yn ystod y cyfnod esgor.

Toriad cesaraidd arfaethedig (etholedig)

Mae toriad cesaraidd yn un etholedig os caiff ei gynllunio ymlaen llaw. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan fydd eich meddyg neu fydwraig yn credu y bydd esgor yn beryglus i chi neu i'ch babi.

Os byddwch yn gofyn am gael toriad cesaraidd pan nad oes rhesymau meddygol, dylai eich meddyg neu'ch bydwraig esbonio'r risgiau a manteision cyffredinol o doriad cesaraidd o gymharu â genedigaeth trwy'r wain. Dylech hefyd fod yn gallu siarad ag aelodau eraill o'ch tim gofal iechyd, megis yr obstetregydd, er mwyn gwneud yn siwr eich bod yn cael yr wybodaeth gywir.

Os byddwch yn gofyn am doriad cesaraidd oherwydd eich bod yn bryderus am roi genedigaeth, dylai eich bydwraig neu feddyg gynnig cyfle i chi drafod eich pryderon gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a all gynnig cymorth yn ystod eich beichiogrwydd ac esgor. Os, ar ôl trafodaeth a chynghori, rydych yn dal i deimlo nad ydych am gael genedigaeth trwy'r wain, dylech gael eich cynnig toriad cesaraidd.

Y llawdriniaeth cesaraidd

Yn y DU, mae'r rhan fwyaf o doriadau cesaraidd yn cael eu perfformio o dan epidwral neu anesthesia sbinol, sy'n lleihau'r risg ac yn golygu eich bod yn effro ar gyfer genedigaeth eich baban. Weithiau bydd anesthetig cyffredinol (sy'n eich rhoi i gysgu) yn cael ei ddefnyddio , yn enwedig os bydd angen geni'r baban yn gyflym.

Os gewch chi epidwral neu anesthesia sbinol, ni fyddwch yn teimlo poen, dim ond ambell ei 'blwc' wrth i'ch baban gael ei eni. Bydd sgrin yn cael ei defnyddio fel na allwch weld beth sy'n cael ei wneud. Bydd y meddygon yn siarad â chi a gadael i chi wybod beth sy'n digwydd.

Bydd hi'n cymryd tua phump i 10 munud i eni eich baban, a bydd y llawdriniaeth gyfan yn cymryd tua 40-45 munud. Un fantais o gael epidwral neu anesthetig sbinol yw eich bod yn effro pryd mae eich baban yn cael ei eni ac yn gallu gweld a dal eich baban ar unwaith. Gall eich partner geni fod gyda chi.

Ar ôl toriad cesaraidd

Ar ôl toriad cesaraidd, byddwch yn teimlo'n anghyfforddus a bydd poen laddwyr yn cael eu cynnig i chi. Fel arfer bydd cathetr yn cael ei osod (tiwb bach sy'n ffitio i mewn i'ch pledren) am hyd at 24 awr. O bosib bydd pigiadau dyddiol yn cael eu rhagnodi i atal clotiau gwaed (thrombosis).

Gan ddibynnu ar y cymorth sydd gennych gartref, dylech fod yn barod i adael yr ysbyty o fewn dau i bedwar diwrnod. 

Byddwch yn cael eich annog i symud cyn gynted ag y bo modd, a bydd eich bydwraig neu ffisiotherapydd yn yr ysbyty yn rhoi cyngor i chi am ymarferion ôl-enedigol a fydd yn helpu yn eich adferiad. Cyn gynted ag y gallwch symud heb boen, gallwch yrru - cyn belled ag y gallwch wneud stop brys. Gall hyn fod ar ôl chwe wythnos neu'n gynt.

Genedigaeth o'r wain ar ôl toriad cesaraidd (VBAC) 

Os ydych yn cael baban trwy doriad cesaraidd, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd unrhyw faban y cewch chi yn y dyfodol yn cael ei eni trwy doriad cesaraidd. Gall y rhan fwyaf o fenywod, sydd wedi cael toriad cesaraidd, roi genedigaeth i'w baban nesa trwy'r wain. Bydd hyn yn dibynnu ar pam cawsoch doriad cesaraidd y tro cyntaf.

Mae hi'n bosib y bydd merched sydd â phelfis bach, er enghraifft, yn cael eu cynghori i gael toriad cesaraidd arfaethedig (dewisol) y tro nesaf. Bydd eich meddyg teulu neu'ch bydwraig yn gallu rhoi cyngor i chi. Caiff y rhan fwyaf o fenywod, a gynghorir i geisio am enedigaeth trwy'r wain mewn beichiogrwydd canlynol, enedigaeth normal. 


Last Updated: 13/06/2023 09:07:01
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk