Gwybodaeth beichiogrwydd


Beichiogrwydd Lluosog Iach

Os ydych yn feichiog gyda mwy nag un baban (beichiogrwydd lluosog), gall ffordd o fyw iach a diet iach eich helpu i ymdopi â'ch beichiogrwydd a rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i'ch babanod.

Mae'r cyngor ar gyfer cadw'n iach yn ystod beichiogrwydd yn debyg p'un a ydych yn disgwyl gefeilliaid, tripledi neu dim ond un baban. Bwytewch yn iach, gwnewch ymarfer corff cymhedrol, yfwch lawer o hylif ac, os ydych yn teimlo dan straen, gofynnwch am gymorth gan ffrindiau a theulu neu siaradwch â'ch bydwraig.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am:

Mae ychydig iawn o ymchwil wedi ei wneud ar faeth yn ystod beichiogrwydd lluosog, felly'r cyngor gorau yw bwyta diet cytbwys ac iach. Os ydych yn teimlo'n llwglyd, bwytwch fyrbrydau iach, fel ffrwythau ffres, iogwrt braster isel neu frechdanau wedi'u llenwi â chaws wedi'i ferwino, ham di-fraster neu diwna stwnsh. Dydy disgwyl dau faban ddim yn golygu bod rhaid i chi fwyta llawer mwy nag yn ystod beichiogrwydd baban sengl.

Efallai y cewch eich cynnig atchwanegiadau haearn yn ystod eich beichiogrwydd gan eich bod mewn mwy o berygl o anemia os ydych yn cario gefeilliaid. Trafodwch hyn gyda'ch bydwraig neu feddyg.

Pa ofal cyn geni gallaf i ddisgwyl?

Oherwydd bod mwy o risg yn gysylltiedig â beichiogrwydd lluosog, yn enwedig os ydych eich babanod yn rhannu'r un brych, mae gofal cyn geni da yn hanfodol.

Mae'n bwysig i chi fynychu'r sgan uwchsain a gynigir i chi rwng 8 a 14 wythnos. Dyma'r amser gorau i benderfynu pa fath o frych a philenni sydd o amgylch eich gefeilliaid yn y groth (corionedd), ac i gadarnhau'ch dyddiad beichiog. Bydd sgan i chwilio am abnormaleddau strwythurol yn cael ei berfformio o gwmpas wythnosau 18-20. Dysgwch mwy am sgrinio ar gyfer syndrom Down.

Bydd nifer yr archwiliadau a sganiau byddwch yn cael eich cynnig yn dibynnu ar y math o efeilliaid neu sawl baban rydych yn eu disgwyl.

Mathau o efeilliaid

Mae tri math o efeilliaid i'w cael. Mae'r egwyddorion biolegol yr un fath ar gyfer tripledi, er bod y rhain yn fwy cymhleth na beichiogrwydd efeilliaid. Y tri math o efeilliaid yw:

  • Gefeilliaid diamniotig deugorionig (DCDA): mae gan bob un brych ei hunain ar wahân gyda'i bilen fewnol (yr amnion) ei hun ar wahân a philen allanol (corion) ar wahân 
  • Gefeilliaid diamniotig monocorionig (MCDA): mae'r ddau'n rhannu brych sengl gyda philen allanol sengl a dwy bilen fewnol ar wahân
  • Gefeilliaid monoamniotig monocorionig (MCMA): maen nhw'n rhannu'r bilen fewnol ac allanol

Mae pob pâr o efeilliaid nad yw yn bâr unfath yn DCDA, ac mae un mewn pob tair o efeilliaid unfath yn DCDA. Mae dwy ran ymhob tair o efeilliaid unfath yn MCDA, a dim ond 1% o efeilliaid unfath sy'n MCMA.

Yn y DU nid yw'r canrannau o'r wahanol fathau o efeilliaid (un fath ai peidio), sydd yn cael eu geni, yn cael eu cofnodi fel mater o drefn, ond, yn ôl y Sefydliad Genedigaethau Lluosog, mae un pâr o efeilliaid ymhob tri yn efeilliaid unfath.

Pa ofal ychwanegol gallaf i ddisgwyl?

Os ydy'ch babanod yn diamniotig monocorionig (MCDA), gallwch ddisgwyl mwy o sganiau a monitro oherwydd mae gan y math hwn o efeilliaid risg uchaf o ddioddef Syndrom Trallwyso Gefell-Gefell (TTTS), annormaledd yn y brych. Mae'r sganiau fel arfer bob pythefnos o 16 wythnos o feichiogrwydd, ac efallai y cewch eich cyfeirio at ysbyty rhanbarthol sydd â chanolfan gofal y ffoetws i gael eich gweld gan feddyg arbenigol.

Os ydy eich babanod yn monoamniotig monocorionig (MCMA), byddwch hefyd yn cael sganiau'n aml, oherwydd gyda'r math hwn o efeilliaid, yn aml, Gall dryswch â'r llinynnau bogel achosi cymhlethdodau. Mae'r math hwn o efeilliaid yn brin ac felly gallwch ddisgwyl derbyn gofal arbenigol a monitro agos. Dylech gael eich gweld gan arbenigwr mewn meddygaeth y ffoetws sydd wedi gofalu am y math hwn o efeilliaid o'r blaen. Ar hyn o bryd, yr arfer yw cael genedigaeth cesaraidd etholedig ar ôl disgwyl am 32-33 wythnos.

Os ydy eich babanod yn diamniotig deugorionig (DCDA), mae risgiau i'w hiechyd nhw yn y groth yn llawer iawn yn is. Byddwch fel arfer yn cael eich sganio bob pedair wythnos.

Mae'n bwysig i chi fynychu eich holl apwyntiadau, bydd hyn yn caniatau i unrhyw broblemau gael eu nodi yn gynnar a, lle bydd angen, i driniaeth gael ei chynnig. Dysgwch mwy am archwiliadau cyn-geni a phrofion.

Y risgiau i chi mewn beichiogrwydd lluosog

Er bod y rhan fwyaf o feichiogrwydd lluosog yn iach ac yn arwain at fabanod iach, mae mwy o risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt pan fyddwch yn feichiog gyda dau neu fwy o fabanod. Sicrhewch eich bod yn mynychu pob un o'ch apwyntiadau cyn-enedigol fel y gall unrhyw broblem gael ei godi yn gynnar a'i drin yn briodol.

Os ydych yn feichiog gyda mwy nag un baban, rydych yn wynebu risg uwch o bob un o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â beichiogrwydd a geni:

  • Mae gennych risg uwch o erthyliad, anaemia, gwaedlif, esgor cynnal a thorriad cesaraidd neu fod ag eisiau cymorth yn ystod yr enedigaeth megis gan ddefnyddio 'ventouse' neu efel
  • Bydd hyd at 25% o feichiogrwydd lluosog yn cael eu cymhlethu â phwysedd gwaed uchel cysylltiedig â'r beichiogrwydd
  • Mae'r risg o gyneclampsia tair gwaith yn uwch nag arfer os ydych yn feichiog â gefeilliaid a naw gwaith yn fwy gyda thripledi
  • Rydych yn ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o gael diabetes cyfnod cario

Y risgiau i'ch babanod lluosog

  • Bydd hanner holl efeilliaid yn cael eu geni cyn pryd (cyn 37 wythnos) a bydd eu pwysau geni'n isel, o dan 2.5kg (5.5lb); mae 90% o dripledi yn cael eu geni cyn pryd gyda phwysau geni isel
  • Mae'r risg o farwolaeth i fabanod cyn amser, yn ystod wythnos y geni, yn bum gwaith yn uwch ar gyfer babanod tripledi nag yw i fabanod unigol
  • Mae gan efeilliaid-unfath fwy o risg o abnormaleddau cynhenid (namau geni)
  • Mae gefeilliaid yn bedair gwaith a thripledi 18 gwaith yn fwy tebygol o fod â pharlys yr ymennydd na babanod unigol

Syndrom Trallwyso Gefell Gefell

Mae Syndrom Trallwyso Gefell-Gefell (TTTS) yn effeithio ar efeilliaid unfath sy'n rhannu brych (monocorionig). Mae'r risg yn uwch i efeilliaid MCDA, ond gall ddigwydd yn efeilliaid MCMA hefyd.  Caiff ei achosi gan gam-gyswllt o'r pibellau gwaed ym mrych yr efeilliaid. Canlyniad hyn yw llif gwaed anghytbwys o un gefell i'r llall, gan adael un baban â mwy o waed na'r llall.

Mae TTTS yn effeithio ar 10-15% o feichiogrwydd monocorionig. Heb ei ganfod mae'n cario risg uwch o farwolaeth i'r ffoetws. Mae triniaeth ar gyfer TTTS yn amrywio ac yn cael ei bennu gan nifer o ffactorau. Mae'n bwysig i drafod pethau gyda'ch ymgynghorydd, oherwydd mai'r hyn sy'n gweithio mewn un beichiogrwydd TTTS heb fod yn briodol mewn un arall.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk