Gwybodaeth beichiogrwydd


Ysgogi Esgor

Pryd mae esgor yn cael ei ysgogi?

Weithiau gellir ysgogi cyfnod esgor (ei ddechrau'n artiffisial) os yw eich baban yn hwyr neu os oes unrhyw fath o risg i'ch iechyd chi neu iechyd eich baban.  Gall y risg hon fod oherwydd bod arnoch gyflwr iechyd megis pwysedd gwaed uchel, er enghraifft, neu os nad yw eich baban yn tyfu.

Bydd ysgogiad yn cael ei gynllunio ymlaen llaw. Byddwch yn gallu trafod y manteision a'r anfanteision gyda'ch meddyg a'ch bydwraig, a darganfod pam eu bod yn credu bod angen ysgogi eich cyfnod esgor. Eich dewis chi ydy hi un ai i gael eich cyfnod esgor wedi'i ysgogi neu beidio.

Mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau esgor yn ddigymell pan fyddant yn cyrraedd 42 wythnos o feichiogrwydd. Os bydd eich beichiogrwydd yn para am fwy na 42 wythnos a'ch bod yn penderfynu yn erbyn ysgogi esgor, dylid cynnig mwy o fonitro ichi  i sicrhau lles eich baban.

Rhesymau am gynnig ysgogi esgor ichi

Rydych dros eich amser

Mae perygl uwch o farw-enedigaeth neu gyfaddawd ffoetws (perygl i iechyd eich babi) os byddwch yn mynd dros 42 wythnos o feichiogrwydd, ond nid yw pob beichiogrwydd dros 42 wythnos yn cael ei effeithio fel hyn. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffordd i wybod a allai babanod gael eu heffeithio, felly mae ysgogiad yn cael ei gynnig i bob menyw nad ydynt yn dechrau esgor erbyn wythnos 42.

Cyn ysgogiad esgor ffurfiol, cynnigir archwiliad trwy'r wain ac ysgubiad o'r bilen i chi i geisio dechrau'r esgor.  Bydd ysgubiad y bilen yn cynyddu'r siawns y byddwch yn dechrau esgor yn naturiol, ac felly bydd yn lleihau'r angen am ysgogiad. Bydd ysgubiad o'r bilen, fel arfer yn cael ei wneud ddwywaith ar ôl wythnos 41. Gallwch chi deimlo'n anghysurus a gwaedu wedi cael ysgubiad.

Os nad yw'r cyfnod esgor yn dechrau ar ôl ysgubiad o'r bilen, fe gynnigir ysgogiad i chi. Mae ysgogiad bob amser yn cael ei wneud mewn uned famolaeth yn yr ysbyty. Byddwch yn dal i dderbyn gofal gan fydwragedd, ond bydd meddygon ar gael os oes angen eu cymorth.

Darllenwch ganllawiau a gynhyrchwyd gan Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ynghylch y gofal y gallwch ei ddisgwyl yn ystod y cyfnod esgor (PDF, 213KB).

Eich dŵr yn torri'n gynnar (Rhwygo cynnar o'r pilenau)

Os torriff eich dŵr yn fwy na 24 awr cyn y geni, mae siawns uwch o heintio ichi ac i'ch baban. Mae'n bosib bydd angen torriad cesaraidd arnoch chi, ac os torriff eich dŵr cyn wythnos 37 o feichiogrwydd gall fod problemau a gysylltir â genedigaeth gynnar ar eich baban.

Os torriff eich dŵr cyn wythnos 34, ni chewch chi gynnig ysgogiad heblaw bod ffactorau eraill yn awgrymu dyna ydy'r peth gorau i chi â'ch baban.

Os torriff eich dŵr rhwng 34 a 37 wythnos, dylai'r meddyg neu fydwraig drafod yr opsiynnau gyda chi cyn ichi ddod i benderfyniad am gael ysgogiad. Dylent drafod â chi hefyd, pa gyfleusterau ysbyty sydd i'w cael i'r newydd-anedig yn eich ardal .

Os torriff eich dŵr yn 37 wythnos neu fwy, dylech chi gael dewis o ysgogiad neu reolaeth ddisgwylgar.  Rheolaeth ddisgwylgar ydy pryd fydd eich gofalwyr iechyd proffesiynol yn monitro'ch cyflwr chi a lles eich baban, tra bydd eich beichiogrwydd parhau'n naturiol cyhyd â'i bod hi'n ddiogel ichi'ch dau.

Mae cyflwr iechyd arnoch, neu nad yw'ch baban yn ffynnu

Fe ellir cynnig ysgogiad ichi os oes arnoch gyflwr sydd yn golygu fe fyddai'n well ichi gael eich baban yn gynharach, megis diabetes, pwysedd gwaed uchel neu golestasis obstetrig.

Os bydd hyn yn wir, fe fydd eich meddyg neu fydwraig yn esbonio'r dewisiadau ichi fel y medrwch chi benderfynu ysgogi eich esgor neu beidio.

Sut mae esgor yn cael ei ysgogi

Fe ewch chi i uned mamolaeth mewn ysbyty i gael ysgogiad esgor. Gellir dechrau'r cyfangiadau drwy osod tabled (pesari) neu gel i mewn i'r wain. Gall ysgogi'r cyfnod esgor gymryd sbel, yn enwedig os bydd angen feddalu'r serfics (ceg y groth) gyda phesari neu eliau.

Os rhoddir tabled neu gel yn y wain ichi mae'n bosib y cewch chi fynd adref ta byddwch yn disgwyl iddo weithio. Cysylltwch â'ch bydwraig neu obstetregydd os :

  • bydd eich cyfangiadau yn dechrau
  • na chawsoch gyfangiadau ar ôl chwe awr

Os na chawsoch chi gyfangiad ar ôl chwe awr, efallai cynnigir tabled neu gel arall ichi.

Os cafwyd pesari gollyngiad rheoledig ei roi yn eich gwain fe all gymryd hyd at 24 awr i weithio. Os nad ydy'r cyfangiadau wedi dechrau ar ôl 24 awr, efallai cynnigir dôs arall ichi.

Weithiau mae angen drip hormon i gyflymu'r broses o esgor. Unwaith mae'r cyfnod esgor yn dechrau, dylai popeth mynd yn ei flaen fel arfer, ond weithiau gall gymryd 24-48 awr i'ch esgor dechrau.

Os bydd ysgogi'n gweithio

Wrth i'ch cyfangiadau ddechrau fe gaiff eich baban ei fonitro i gadarnhau curiad ei galon/ei chalon.

Bydd esgor sydd wedi ei ysgogi, fel arfer yn fwy poenus nag esgor digymell (esgor a ddechreuir o'i hunan), a bydd menywod a gaiff eu hysgogi'n fwy tebygol o angen anaesthetig epidwral. Ni chaiff eich dewis o ddulliau lleddfu poen eu cwtogi gan gael eich ysgogi. Fe ddylech chi fod a mynediad at bob math o leddfu poen sydd ar gael yn yr uned famolaeth.

Bydd menywod a gaiff eu hysgogi'n fwy tebygol o gael genedigaeth offerynnol, pan fydd gefeiliau neu gwpan sugno yn cael eu defnyddio i helpu'r baban allan.

Os na fydd ysgogi'n gweithio

Nid yw ysgogi'n gweithio pob tro ac o bosib na fydd yr esgor yn dechrau. Bydd eich obstetregydd a'ch bydwraig yn asesu'ch cyflwr chi a lles y baban, ac efallai cynnigir ysgogiad arall ichi neu dorriad gesaraidd. Bydd eich bydwraig a meddyg yn trafod eich dewisiadau â chi.

Am fwy o wybodaeth am ysgogiad, gallwch ddarllen canllawiau ar ysgogi esgor (PDF, 132kb) a gynhyrchwyd gan NICE. Mae NICE yn cynghori bod esgor ar ôl ysgogiad yn fwy poenus nag esgor dirgymell (esgor sy'n dechrau wrth ei hun), ac mae poen laddwr epidwral a genedigaeth â chymorth yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio.

Sgil effeithiau ysgogiad

Cafwyd un o bob pum genedigaeth ei hysgogi yn y DU yn 2004-5 yn ôl NICE. Ymysg y genedigaethau hyn a oedd wedi eu hysgogi, pan gafwyd yr esgor ei ddechrau gyda chyffuriau:

  • roedd llai na dwy ran o dair o'r menywod hyn wedi rhoi genedigaeth heb ymyrraeth bellach
  • cafodd15% enedigaeth offerynnol (gefeiliau, cwpan sugno)
  • cafodd 22% dorriad cesaraidd brys

Mae esgor wedi'i ysgogi yn gallu bod yn fwy poenus nag esgor digymell.

Dywed NICE fod ysgogi esgor yn effeithio'n fawr ar iechyd menywod a'u babanod, ac felly mae rhaid bod angen clinigol clir amdano.

Sut mor llwyddiannus yw ysgogiad wrth ddiogelu'r baban?

Yn 2012 darganfu adolygiad o astudiaethau i mewn i effeithlonrwydd ysgogiad wrth leihau marwolaeth mewn babanod fod:

  • ysgogi esgor yn gysylltiedig gyda llai o farwolaethau amenedigol (marwolaethau ffoetws neu newydd anedig) a llai o dorriad cesaraidd na rheolaeth ddisgwylgar (monitro heb ysgogiad)
  • rhai problemau yn y baban, megis anadlu meconiwm a hylif amniotig i mewn i'r ysgyfaint wedi'u lleihau wrth ddefnyddio polisi o ysgogiad ar ôl 40 wythnos, ond nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn rhif y babannod a dderbynwyd i unedau gofal dwys y newydd anedig

Nododd awduron yr adolygiad fod risg marwolaeth amenedigol yn un fach, gan awgrymu dylid cynghori menywod mewn modd priodol fel y gallent wneud dewis deallus rhwng ysgogiad a rheolaeth ddisgwylgar.

Ffyrdd naturiol i gymell esgor

'D oes dim un ffordd sydd wedi ei phrofi i gychwyn esgor eich hun gartref. Efallai eich bod chi wedi clywed bod pethau neilltuol yn medru sbarduno esgor, megis olew castor neu ryw, ond nid oed tystiolaeth bod y rhain yn gweithio.  Pethau eraill sydd heb dystiolaeth wyddonol yn cynnwys: ychwanegiadau llysiol, aciwbigo, homeopathi, bath dŵr poeth ac enemâu.

Ni fydd cael rhyw yn achosi niwed, ond fe ddylech chi osgoi rhyw os bydd eich dŵr wedi torri gan fod risg uwch o haint.


Last Updated: 05/07/2023 11:39:20
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk