Gwybodaeth beichiogrwydd


40 Wythnos neu Fwy

Os ydy eich babi yn hwyr

Mae beichiogrwydd fel arfer yn para tua 40 wythnos (sef 280 diwrnod o ddiwrnod cyntaf eich mislif diwethaf). Mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau esgor o fewn wythnos naill ochr i'r dyddiad hwn, ond mae rhai merched yn mynd yn hwyr.

Os nad yw eich cyfnod esgor wedi dechrau erbyn yr amser rydych yn 41 wythnos yn feichiog, bydd eich bydwraig yn cynnig 'ysgubiad pilen' i chi. Mae hyn yn cynnwys cael archwiliad mewnol o'r fagina, sy'n ysgogi gwddf eich croth (a elwir yn serfics) i gynhyrchu hormonau a allai arwain at esgor naturiol. Nid oes rhaid i chi gael hyn - gallwch ei drafod gyda'ch bydwraig.

Os nad ydy eich esgor yn dechrau yn naturiol ar ôl hyn, bydd eich bydwraig neu feddyg yn awgrymu dyddiad i gael eich cyfnod esgor wedi'i ysgogi (cychwyn). Os nad ydych yn dymuno i'ch esgor cael ei brysuro, a bod eich beichiogrwydd yn para i 42 wythnos neu du hwnt, byddwch chi a'ch babi yn cael eich monitro. Bydd eich bydwraig neu feddyg yn gwirio eich bod chi a'ch babi yn iach trwy roi sganiau uwchsain a gwirio symudiadau eich babi a churiad ei galon. Os nad yw eich babi yn gwneud yn dda, bydd eich meddyg a bydwraig unwaith eto yn awgrymu bod eich cyfnod esgor yn cael ei ysgogi.

Mae ysgogiad wastad yn cael ei gynllunio ymlaen llaw, felly byddwch yn gallu trafod manteision ac anfanteision gyda'ch meddyg a bydwraig, a darganfod pam eu bod yn credu dylech ysgogi eich cyfnod esgor. Mae'n dewis chi p'un ai i brysuro eich cyfnod esgor neu beidio.

Dros 42 wythnos yn feichiog

Mae'r rhan fwyaf o ferched yn dechrau esgor yn naturiol erbyn y byddant yn cyrraedd 42 wythnos o feichiogrwydd. Os bydd eich beichiogrwydd yn para mwy na 42 wythnos a'ch bod yn penderfynu peidio â phrysuro eich cyfnod esgor, dylech gael cynnig mwy o fonitro i sicrhau lles eich babi.

Mae yna berygl uwch o farw-enedigaeth os byddwch yn mynd dros 42 wythnos o feichiogrwydd er bod y rhan fwyaf o fabanod yn dal yn iach. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ffordd sicr o ddarganfod pa fabanod sydd mewn mwy o berygl,  felly mae ysgogi yn cael ei gynnig i bob menyw sydd heb ddechrau ar esgor erbyn 42 wythnos.

Nid yw cael ysgogiad esgor ar ôl y dyddiad disgwyliedig yn codi'r siawns y bydd angen toriad cesaraidd. Mae ychydig o dystiolaeth ei bod yn gallu lleihau'r siawns bydd angen toriad cesaraidd.

Darllenwch am arwyddion a chyfnodau esgor. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:07:03
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk