Gwybodaeth beichiogrwydd


Gefeiliau neu Gwpan Sugno

Genedigaeth â chymorth

Mae tuag un fenyw ymhob wyth yn cael cymhorth gyda genedigaeth, lle mae gefeiliau neu gwpan sugno yn cael eu defnyddio i helpu geni'r baban. Gall hyn fod oherwydd:

  • rydych wedi cael eich cynghori i beidio â cheisio gwthio eich babi allan oherwydd cyflwr iechyd sylfaenol (fel pwysedd gwaed uchel iawn)
  • mae pryderon ynghylch curiad calon eich babi
  • mae eich babi mewn sefyllfa lletchwith
  • mae eich babi yn blino ac mae pryderon y gallai fod mewn trallod
  • rydych chi'n cael babi cynamserol yn y fagina - gall gefeiliau helpu i amddiffyn pen eich babi rhag eich perinewm
  • mae angen epidwral arnoch i leddfu poen yn ystod y cyfnod esgor

Mae cwpan sugno (ventouse) a gefeiliau yn ddiogel ac nid ydynt yn cael eu defnyddio ond pan fydd eu hangen arnoch chi a'ch baban.

Os bydd pen y baban mewn osgo lletchwith, bydd angen ei droi i'w gael ei eni. Efallai bydd paediatregydd yn bresennol i sicrhau cyflwr eich baban wedi'r enedigaeth. Fel arfer bydd anesthetig lleol yn cael ei roi i rewi'r wain a'r perinewm (y croen rhwng y wain a'r pen ôl) os nad ydych eisoes wedi cael epidwral.

Os bydd unrhyw bryderon gan eich obstetrydd, mae'n bosib y cewch chi eich symud i theatr lawfeddygol fel y gall toriad cesaraidd cael ei wneud os bydd angen, er enghraifft os nad yw hi'n hawdd geni'r baban wrth ddefnyddio gefeiliau neu gwpan sugno. Mae hyn yn fwy tebygol os bydd angen troi pen eich baban.

Weithiau, wrth i'r baban gael ei eni, gall fod angen toriad (episiotomi) i wneud agoriad y wain yn fwy. Bydd unrhyw rwyg neu doriad yn cael ei chau gyda phwythau. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd y baban yn cael ei eni a'i osod ar eich bol, a gall eich partner geni dorri'r llinyn os ydynt yn dymuno gwneud felly.

Cwpan sugno (ventouse)

Offeryn yw cwpan sugno sydd yn cael ei gysylltu â phen y baban gan ddefnyddio sugnedd. Cysylltir cwpan plastig caled neu feddal, neu gwpan metel, trwy diwb i ddyfais sugno. Mae'r cwpan yn ffitio yn gadarn o amgylch pen eich baban a chyda chyfangiad a'ch gwthio chi, bydd yr obstetrydd neu fydwraig yn tynnu'n ysgafn arno i helpu dod â'ch baban allan.

Gall y cwpan sugno adael ôl bach ar ben eich baban, a elwir yn 'chignon'. Bydd hyn yn diflannu'n fuan. Efallai y bydd y cwpan hefyd yn gadael clais ar ben eich baban, a elwir yn 'cephalhaematoma'. Nid yw cwpan sugno yn cael ei ddefnyddio os ydych yn rhoi genedigaeth cyn 34 wythnos o feichiogrwydd, oherwydd bydd pen y baban yn rhy feddal.

Mae cwpan sugno yn llai tebygol o achosi rhwygo o'r wain na gefeiliau.

Gefeiliau

Mae gefeiliau yn offeryn metel llyfn sy'n edrych fel llwyau mawr. Maent yn grwm i ffitio o amgylch pen y baban. Caiff y gefeiliau eu lleoli yn ofalus o amgylch pen y baban a chaiff y dolenni'u cysylltu gyda'i gilydd. Gyda'ch cyfangiad a chi'n gwthio, bydd yr obstetrydd yn tynnu'n ysgafn ar y gefeiliau i helpu geni'r baban.

Mae yna nifer o wahanol fathau o efeiliau. Mae rhai gefeiliau wedi'u cynllunio'n benodol i droi'r babi i'r safle cywir er mwyn cael ei eni, er enghraifft, os yw eich babi yn gorwedd gyda'i wyneb i fyny (osgo occipito-posterior) neu ar un ochr (osgo occipito-lateral).

Gall gefeiliau adael marciau bach ar wyneb y babi, ond bydd y rhain yn diflannu yn weddol gyflym.

Wedyn

Weithiau, bydd angen catheter (tiwb bach sy'n ffitio i mewn i'ch pledren) arnoch am hyd at 24 awr. Rydych yn fwy tebygol o'i angen os ydych wedi cael epidwral oherwydd mae'n bosib na fyddwch wedi adfer teimlad llawn yn eich pledren  (ac felly ni wyddoch a yw hi'n llawn ai peidio).

Mae gan yr RCOG (Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynaecolegwyr) wybodaeth ynglyn â rhoi genedigaeth â chymorth.


Last Updated: 27/06/2023 11:36:02
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk