Gwybodaeth beichiogrwydd


Camesgoriad

Os daw beichiogrwydd i ben cyn wythnos 24, fe'i gelwir yn gamesgoriad. Mae camesgoriad yn eithaf cyffredin yn ystod y tri mis cyntaf beichiogrwydd ac mae tua un o bob pum beichiogrwydd, sydd wedi'i gadarnhau, yn dod i ben yn y ffordd yma. Yn aml mae camesgoriad cynnar yn digwydd oherwydd bod rhywbeth o'i le ar y baban, megis anhwylder cromosomaidd. Gall fod achosion eraill o gamesgoriad hefyd, megis problemau meddygol.

Gall camesgoriad nes ymlaen fod yn ganlyniad i haint, brych nad yw ef wedi'i ddatblygu'n dda neu gan fod ceg y groth yn wan ac yn agor yn rhy gynnar yn ystod y beichiogrwydd.

Symptomau

Gall camesgoriad, yn ystod yr wythnosau cyntaf, ddechrau fel mislif, gyda diferu neu waedu gyda chrampiau ysgafn neu boen cefn. Gall y poen a gwaedu waethygu a gall fod gwaedu trwm gyda cheuladau gwaed a phoenau cramp eithaf difrifol. Gyda chamesgoriad hwyr, gallwch fynd trwy esgor cynnar.

Os byddwch yn gwaedu neu'n dechrau cael poen ar unrhyw adeg yn ystod beichiogrwydd, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu â'ch bydwraig. Dylech hefyd gysylltu â'ch uned beichiogrwydd cynnar lleol (er efallai byddwch angen eich cyfeirio gan eich meddyg teulu cyn iddynt eich gweld chi). Dewch o hyd i unedau mamolaeth mewn ysbytai yn eich ardal chi.

Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na chwech neu saith wythnos, mae'n bosib y cewch chi eich cyfeirio am sgan uwchsain i weld os oes curiad calon gan eich baban. Weithiau bydd y gwaedu'n stopio o'i hunan a bydd eich beichiogrwydd yn mynd yn ei flaen fel arfer. Dysgwch mwy am waedu a phoen yn ystod beichiogrwydd cynnar.

Ni fydd rhai menywod ddim yn cael gwybod bod eu babanod wedi marw ond wrth iddynt fynychu eu sgan arferol. Os nad ydych wedi cael unrhyw boen neu waedu, gall hyn fod yn sioc ofnadwy ichi, yn enwedig os yw'r sgan yn dangos bod y baban wedi marw ers dyddiau neu wythnosau. Gelwir hyn yn gamesgoriad ffaeledig neu weithiau'n gamesgoriad tawel.

Bydd rhai menywod yn cael gwybod yn ei sgan rheolaidd bod eu beichiogrwydd yn un molar, sy'n golygu nad yw'r beichiogrwydd wedi bod yn llwyddiannus ac ni fydd baban yn datblygu. Nid yw hyn yr un fath â chamesgoriad naturiol. Bydd angen llawdriniaeth i dynnu'r beichiogrwydd molar a bydd angen gofal arbennig wedyn i sicrhau bod y beichiogrwydd wedi'i ddiddymu'n llwyr.

Triniaeth am gamesgoriad

Gall camesgoriad gael ei drin mewn tair ffordd.

Rheolaeth ddisgwylgar

Mae hyn yn golygu aros am 7 i 14 diwrnod i'r beichiogrwydd basio mewn ffordd naturiol.

Gwacau Meddygol

Mae hyn yn golygu gwacau'r groth trwy roi tabledi prostaglandin yn y wain. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau gall hyn weithio'n well os rhoddir tabled arall (mifepristone), trwy'r geg yn gyntaf. Fe ddaw'r beichiogrwydd i ffwrdd trwy'r wain.

Gwacau Llawfeddygol

Mae hyn yn golygu gwacau'r groth trwy lawfeddygaeth. Fel arfer fe'i gwneir o dan anaesthetig cyffredinol ond mae rhai unedau yn cynnig gwacau llawfeddygol gan ddefnyddio anaesthetig rhannol. Mae'r proses yn golygu agor ceg y groth yn ofalus a sugno'r beichiogrwydd i ffwrdd.

Dysgwch mwy am driniaeth am gamesgoriad am ragor o wybodaeth am bob un o'r tair proses uchod. Y mae pethau dros ag yn erbyn pob un o'r tair proses y dylech chi ystyried wrth benderfynu p'un sydd orau i chi.

Os gewch chi lawdriniaeth fe ddylai unrhyw gwaedu a phoen byddwch yn ei brofi wella yn gyflym. Fodd bynnag, mae gan bob trefn lawfeddygol ei risg ei hun. Bydd moddion yn osgoi'r angen am lawfeddygaeth ond fe all achosi cynnydd mewn poen a gwaedu. Bydd disgwyl i'r meinwe basio'n naturiol yn osgoi cymryd moddion neu lawdriniaeth ond fe all gymryd sawl wythnos. Mae hi hefyd yn bosib na chaiff y meinwe i gyd ei basio, a bydd angen triniaeth lawfeddygol nes ymlaen.

Trafodwch yr opsiynnau gyda'r meddyg sydd â chyfrifoldeb am eich gofal.

Ar ôl camesgoriad

Mae dioddef un camesgoriad cynnar yn annhebygol o effeithio ar eich siawns o gael baban yn y dyfodol. Os cewch chi dri neu fwy o camesgoriadau cynnar, un ar ôl y llall, dylech chi gael eich cyfeirio at arbenigwr am ymchwiliadau pellach. Fodd bynnag, weithiau ni all unrhyw achos clir cael ei ddarganfod.

Gall menywod a dynion ei gweld hi'n anodd ymdopi â chamesgoriad pryd bynnag mae hi'n digwydd. Byddwch bron yn sicr yn cael teimlad o golled. Bydd angen amser i chi alaru am eich baban, yn union fel y byddwch dros farwolaeth unrhyw un sydd yn agos atoch chi, yn enwedig os yw'r camesgoriad wedi digwydd yn hwyr yn eich beichiogrwydd.

Efallai y byddwch yn teimlo sioc, yn drallodus, yn flin neu yn hollol ddideimlad. Efallai y byddwch yn teimlo'n euog, gan feddwl tybed a gafodd y camesgoriad ei achosi gan rywbeth a wnaethoch, neu rywbeth na wnaethoch chi. Mae'n bwysig gwybod, beth bynnag yw'r achos, nid oes byth bai ar neb am gamesgoriad. Os yw camesgoriad yn mynd i ddigwydd, nid oes fawr ddim gall neb ei wneud i'w stopio. 

Mae rhai pobl yn teimlo ei bod yn helpu i gael rhywbeth i gofio am y baban. Yn gynnar yn y beichiogrwydd efallai y byddwch yn gallu cael llun o sgan. Os ydych yn cael camesgoriad hwyr yn eich beichiogrwydd efallai y byddwch yn gallu gweld a dal eich baban os dymunwch chi. Efallai y byddwch hefyd yn gallu tynnu lluniau, neu gymryd olion traed ac olion dwylo fel cofnod. Mae rhai ysbytai yn gynnig tystysgrif i'r rhieni er cof am eu baban. Gwneir hyn oherwydd ni wneir cofnod ffurfiol o faban a fu farw cyn 24 wythnos o feichiogrwydd.

Siaradwch am eich teimladau gyda'ch partner a'r rhai sy'n agos atoch chi. Efallai y byddwch hefyd am gysylltu â'r Gymdeithas Camesgoriad neu Sands (elusen marw-enedigaeth a marwolaeth newydd-anedig). Gallant roi gwybodaeth i chi a'ch cyflwyno i fenywod eraill sydd wedi cael y profiad o gamesgoriad.


Last Updated: 12/07/2023 11:42:20
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk