Byw'n dda gyda dementia

Gall dementia effeithio ar bob agwedd o fywyd person, yn ogystal â'r rhai o'u cwmpas.

Os ydych wedi cael diagnosis o ddementia, mae'n bwysig cofio:

  • rydych chi'n dal i fod chi, er bod gennych broblemau gyda chof, canolbwyntio a chynllunio
  • mae pawb yn profi dementia yn wahanol
  • bydd canolbwyntio ar y pethau y gallwch eu gwneud a'u mwynhau yn eich helpu i aros yn gadarnhaol

Gyda'r cymorth a'r gefnogaeth gywir pan fydd ei angen arnoch, gall llawer o bobl fyw'n dda gyda dementia am nifer o flynyddoedd.

Dysgwch fwy am aros yn annibynnol gyda dementia.

Aros yn gymdeithasol

Mae cadw mewn cysylltiad â phobl a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, fel mynd i'r theatr neu sinema, neu fod yn rhan o grwp cerdded neu gôr, yn dda i'ch hyder a'ch lles meddyliol.

Os oes gennych rywun sy'n helpu i ofalu amdanoch, mae bywyd cymdeithasol gweithgar yn dda iddyn nhw hefyd.

Mae llawer o gymunedau bellach yn gyfeillgar i ddementia. Er enghraifft, mae sinemâu yn rhoi dangosiadau o'r ffilmiau diweddaraf sy'n ystyriol o ddementia, ac mae canolfannau hamdden yn cynnal sesiynau nofio sy'n ystyriol o ddementia yn ogystal â gweithgareddau eraill.

Mae'n syniad da ymuno â grwp lleol sy'n ystyriol o ddementia, efallai mewn canolfan gymunedol. Gallwch rannu profiadau a defnyddio awgrymiadau gan eraill sy'n byw gyda dementia.

Dewch o hyd i grwpiau yn eich ardal.

Dweud wrth bobl am eich dementia

Pan fyddwch chi'n barod, mae'n well dweud wrth eraill am eich diagnosis. Mae hefyd yn braf dweud wrthyn nhw beth rydych yn gweld yn anodd, fel dilyn sgwrs neu gofio'r hyn a ddywedwyd.

Efallai y gwelwch fod rhai pobl yn eich trin yn wahanol i gymharu â o'r blaen.

Gall hyn fod oherwydd nad ydynt yn deall beth yw dementia neu eisiau helpu ond nid ydynt yn gwybod sut.

Ceisiwch esbonio beth mae'ch diagnosis yn ei olygu a'r ffyrdd y gallant eich helpu a'ch cefnogi.

Er enghraifft, os nad ydych yn gallu gyrru mwyach, gallent fynd â chi i weithgaredd wythnosol.

Efallai y gwelwch hefyd eich bod yn colli cysylltiad â rhai pobl. Gall hyn fod oherwydd nad ydych bellach yn gwneud y gweithgareddau yr oeddech chi'n arfer eu gwneud gyda'ch gilydd, neu rydych chi'n ei weld hi'n anoddach cadw mewn cysylltiad.

Gall hyn fod yn anodd ei dderbyn. Ond gallwch gwrdd â phobl newydd trwy grwpiau gweithgaredd a chefnogaeth. Canolbwyntiwch ar y bobl sydd yno i chi.

Darllenwch fwy am ddementia a pherthnasau.

Gofalwch am eich iechyd

Mae'n bwysig gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol pan fydd gennych ddementia:

  • Bwytewch ddiet iach a chytbwys ac yfed digon o hylifau
  • Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd. Gallai hyn cynnwys gerdded neu arddio bob dydd, neu gallech chi geisio tai chi neu ddawnsio.
  • Gofynnwch i'ch meddyg teulu a fyddech chi'n elwa o frechiad ffliw a brechiad niwmonia.
  • Cael digon o gwsg. Ceisiwch osgoi cysgu yn ystod y dydd ac osgoi chaffein ac alcohol yn y nos.
  • Mae iselder yn gyffredin iawn mewn dementia. Siaradwch â'ch meddyg teulu, gan fod triniaethau siarad a all helpu.
  • Ceisiwch cael archwiliadau deintyddol, golwg a chlyw rheolaidd.

Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, fel diabetes neu glefyd y galon, ceisiwch fynychu archwiliadau rheolaidd gyda'ch meddyg teulu, a ddylai gynnwys adolygiad o'r meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd.

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi'n teimlo'n sâl, oherwydd gall pethau fel heintiau yn y frest neu wrin wneud i chi deimlo'n ddryslyd iawn os na chânt eu trin yn brydlon.

Awgrymiadau i helpu ymdopi â dementia

Gall ymdopi â cholli cof a phroblemau gyda chyflymder meddwl fod yn drallodus. Ond mae yna bethau a all helpu.

Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn:

  • cael trefn reolaidd
  • rhoi amserlen wythnosol ar wal y gegin neu oergell, a cheisio trefnu gweithgareddau ar gyfer pan fyddwch chi'n teimlo'n well (er enghraifft, yn y boreau)
  • rhwoch eich allweddi mewn lle amlwg, fel powlen fawr yn y neuadd
  • cadwch restr o rifau defnyddiol (gan gynnwys pwy i gysylltu mewn argyfwng) yn agos i'r ffôn
  • rhoi biliau rheolaidd ar ddebyd uniongyrchol fel nad ydych yn anghofio eu talu
  • defnyddio blwch trefnu meddyginiaethau (blwch dosette) i'ch helpu i gofio pa feddyginiaethau i'w cymryd pryd (gall eich fferyllydd eich helpu i gael un)
  • gwnewch yn siwr bod eich cartref yn berthnasol i ddementia ac yn ddiogel

Darllenwch fwy am fyw'n dda gyda dementia yng nghanllaw dementia Cymdeithas Alzheimer: byw'n dda ar ôl diagnosis.

Pan fydd angen cymorth a chefnogaeth ychwangeol arnoch

Yng nghamau cynnar dementia efallai y gallwch fyw gartref, gan barhau i fwynhau gwneud y pethau rydych chi wastad wedi eu gwneud a chael bywyd cymdeithasol gweithgar.

Wrth i'r salwch fynd yn ei flaen, mae'n debygol y bydd angen help ychwanegol arnoch gyda gweithgareddau dyddiol, fel gwaith ty, siopa a choginio.

Y cam cyntaf yw gwneud cais am asesiad anghenion gan wasanaethau cymdeithasol oedolion eich cyngor lleol. Bydd hyn yn helpu i nodi ble y gallech gael budd o help.

Fe'ch cynghorir i wneud hyn yn fuan ar ôl i'ch diagnosis fel gall asesiad o anghenion nodi pethau nad ydych chi wedi meddwl amdanynt.

Dysgwch fwy am gymorth a chefnogaeth i bobl â dementia.