Vaccinations Home
Dyma restr wirio o’r brechiadau sy’n cael eu cynnig fel mater o drefn ac yn rhad ac am ddim i bawb yn y DU ar y GIG, a’r oedrannau y dylent gael eu gweini yn ddelfrydol.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich holl frechiadau angenrheidiol, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu nyrs practis ddod o hyd i’r wybodaeth ar eich rhan. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu “dal i fyny” yn hwyrach yn ystod eich bywyd.
Ceisiwch wneud yn siŵr eich bod chi neu eich plentyn yn cael eich brechiadau ar amser er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel. Os na fyddwch yn gallu mynychu meddygfa eich meddyg teulu pan mae’n bryd i chi gael brechiad, trafodwch y sefyllfa gyda’ch meddyg. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu trefnu cael eich brechiad mewn lleoliad gwahanol.
2 fis
Brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib) - mae’r chwistrelliad hwn yn cynnwys brechiadau sy’n amddiffyn yn erbyn pum afiechyd gwahanol: difftheria, tetanws, y pâs (pertussis), polio a’r ffliw Haemophilus math b (neu ‘Hib’ - haint bacteriol sy’n gallu achosi niwmonia difrifol neu feningitis mewn plant ifanc) a hepatitis B.
Brechlyn niwmonia (PCV)
Brechlyn Rotavirus
Brechlyn Men B (o 1 Medi 2015)
3 mis
Brechlyn 6-mewn-1 (DTaP/IPV/Hib), ail ddos
Brechlyn Rotavirus, ail ddos
4 mis
Brechlyn 6-mewnn-1 (DTaP/IPV/Hib), trydydd dos
Brechlyn niwmonia (PCV), ail ddos
Brechlyn Men B, ail ddos (o 1 Medi 2015)
12-13 mis
Pigiad Hib/Men C, un dos yn cynnwys brechlyn meningitis C a Hib (pedwerydd dos)
Brechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR), pigiad unigol
Brechlyn niwmonia (PCV), trydydd dos
Brechlyn Men B, trydydd dos (o 1 Medi 2015)
Brechlyn ffliw blynyddol i blant
Brechlyn ffliw plant (blynyddol)
O 3 mlwydd oed a 4 mis (tan ddechrau yn yr ysgol)
Brechlyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR), ail ddos
Pigiad atgyfnerthol 4-mewn-1 cyn-ysgol (DTaP/IPV), un dos yn cynnwys brechiadau yn erbyn difftheria, tetanws, y pâs (pertussis) a pholio
12-13 mlwydd oed (merched yn unig)
Brechlyn HPV, sy’n amddiffyn yn erbyn canser ceg y groth - dau bigiad i’w rhoi rhwng chwe mis a dwy flynedd ar wahân.
13-18 mlwydd oed
Pigiad atgyfnerthol 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau (Td/IPV), un dos yn cynnwys brechiadau yn erbyn difftheria, tetanws a pholio
Brechlyn Men ACWY
19-25 mlwydd oed (myfyrwyr am y tro cyntaf yn unig)
Brechlyn Men ACWY
Oedolion
Brechlyn yr eryr
65+ mlwydd oed
Ffliw (bob blwyddyn)
Brechlyn niwmonia (PPV)
Brechiadau i grwpiau arbennig
Mae yna rai brechiadau nad ydynt ar gael fel mater o drefn i bawb ar y GIG, er eu bod nhw ar gael i bobl sy’n rhan o grwpiau risg penodol, er enghraifft menywod beichiog, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor a gweithwyr gofal iechyd
Mae’r rhai ychwanegol yn cynnwys brechiadau hepatitis B, brechlyn TB a brechlyn brech yr ieir.
Brechiadau teithio
Mae’n bosibl cael rhai brechiadau teithio yn rhad ac am ddim ar y GIG yn eich meddygfa leol. Mae’r rhain yn cynnwys brechlyn hepatitis A, brechlyn teiffoid a brechlyn colera. Mae brechiadau teithio eraill, er enghraifft brechlyn y dwymyn felen, ar gael yn breifat yn unig. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hadran ar frechiadau teithio.
Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by

NHS website
nhs.uk