Gwybodaeth am amseroedd aros ysbytai

Dylid defnyddio’r wybodaeth hon fel canllaw yn unig. Nid yw’r data’n gallu dweud wrthych ble rydych chi ar y rhestr aros. Y nod yw eich helpu i ddeall yn well pa mor hir mae pobl yn aros am wasanaethau sy’n cael eu darparu gan bob Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’n bwysig cadw mewn cof:

Mae’n bwysig eich bod yn cael cefnogaeth i gadw eich hun yn iach tra byddwch yn aros. Asesiad iechyd personol ar-lein yw Ychwanegu at Fywyd sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr, wedi'i theilwra i chi a ddatblygwyd i'ch helpu i gael y gorau o'ch triniaeth GIG. Bydd cymryd camau nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd o fudd i’ch adferiad a’ch iechyd hirdymor, gan wneud i chi deimlo’n well yn gynt. I gwblhau eich asesiad iechyd heddiw, ewch i:

Gallwch ymweld â’r tudalennau
Aros yn Iach, Byw’n Dda ac Iechyd A-Y ar y wefan hon. Gall gwefan eich bwrdd iechyd hefyd roi gwybodaeth a chymorth pellach ichi.

Byrddau Iechyd

Yn y rhestr isod, dewiswch y bwrdd iechyd rydych wedi’ch atgyfeirio ato neu’r bwrdd iechyd rydych dan ei ofal