Cysylltu â ni

Os oes gennych argyfwng meddygol, problem ddifrifol neu broblem sy’n fygythiad i fywyd ffoniwch 999.

Dyma rai enghreifftiau o argyfwng:

  • Bod yn anymwybodol
  • Ei chael hi'n anodd anadlu
  • Amau trawiad ar y galon
  • Colli gwaed yn drwm
  • Anaf difrifol
  • Llosg difrifol

Os ydych chi'n teimlo'n sâl ond nid argyfwng meddygol yw'r broblem, ewch at ein gwirwir symptomau ar lein neu ffoniwch 111. Er diogelwch cleifion, cofnodir pob galwad. Mae galwadau i GIG 111 Cymru yn rhydd o linellau tir a ffonau symudol.  Mae gwybodaeth am beth i’w wneud y tu allan i oriau – gan gynnwys gyda’r nos, penwythnosau a gwyliau banc ar gael yma.

111 Gwasanaeth i bobl fyddar a thrwm eu clyw

Mae SignVideo yn wasanaeth sy'n galluogi defnyddwyr byddar (a chlyw) Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gyfathrebu â phobl sy'n clywed trwy gyfieithydd BSL ar-lein. Gellir defnyddio SignVideo trwy cyfrifiadur, neu trwy'r ap SignVideo ar eich ffôn smart neu dabled.

Ar ôl i chi gysylltu â'r gwasanaeth SignVideo, bydd y cyfieithydd ar y pryd yn cysylltu â ni dros y ffôn ac yn trosglwyddo'ch sgwrs gydag aelod o'n tîm, e.e. Cynghorydd Nyrsio neu Gynghorydd Gwybodaeth Iechyd, yn dibynnu ar beth yw'r broblem. Gofynnir cyfres o gwestiynau i chi i asesu'ch anghenion ac yna cewch y cyngor/gwybodaeth gofal iechyd sydd ei angen arnoch neu eich cyfeirio at y gwasanaeth lleol a all eich helpu orau. Mae'r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 8.00am a hanner nos.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ar sut i lawrlwytho SignVideo i'ch cyfrifiadur, tabled neu ffôn smart.
Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw ac nad ydych chi'n defnyddio BSL neu os oes gennych fynediad at gyfrifiadur, tabled neu ffôn smart, gallwch barhau i gysylltu â GIG 111 Cymru trwyNext Generation Text/Text Relay (a elwid gynt yn Type Talk) trwy ddeialu 18001 111.

Adborth

Mae'r profiad sydd gennych chi o GIG 111 Cymru yn bwysig i ni i'n helpu ni i wella'n barhaus. I roi adborth am y gwasanaeth ffôn 111 ewch i'r arolwg arlein. Ar gyfer gwefan GIG 111 Cymru, ewch i Arolwg Profiad gwefan GIG 111 Cymru. Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol.

  • Gofynnwch eich Cwestiynau Iechyd

    Gofynnwch eich Cwestiynau Iechyd

    Danfon ymholiad at ein harbenigwyr gwybodaeth iechyd a fydd yn darparu gwybodaeth ddibynadwy i ateb eich ymholiad

  • Fy Iechyd Ar-lein

    Fy Iechyd Ar-lein

    My Health Online is a service which enables you to make GP appointments, order repeat prescriptions and update your own personal details online.

  • Barn Y Cleifion

    Barn Y Cleifion

    Ewch i'n tudalen am Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i weld straeon am ein gwasanaeth ambiwlans.