Vaccination menu links


Brechlyn MMR

Brechlyn cyfunol diogel ac effeithiol yw MMR sy’n diogelu rhag tri afiechyd ar wahân – y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela (brech goch yr Almaen) – mewn un pigiad. Mae angen dau ddos i gael y cwrs llawn o frechiad MMR.

Mae’r frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela yn gyflyrau cyffredin, heintus iawn sy’n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol a allai fod yn angheuol, gan gynnwys meningitis, chwyddo’r ymennydd (enseffalitis), a byddardod.

Gallant hefyd arwain at gymhlethdodau mewn beichiogrwydd sy’n effeithio ar y baban heb ei eni ac yn gallu arwain at gamesgor.

Ers i’r MMR gael ei gyflwyno ym 1988, mae’n anghyffredin i blant yn y Deyrnas Unedig ddatblygu’r cyflyrau difrifol hyn. Fodd bynnag, maen nhw yn digwydd ac mae achosion o’r frech goch yn arbennig wedi bod yn cynyddu yn y blynyddoedd diweddar, felly mae’n bwysig sicrhau eich bod chi a’ch plant wedi cael y brechiad MMR.

Y brechlyn MMR ar gyfer babanod a phlant cyn oed ysgol

Rhoddir y brechlyn MMR trwy’r GIG ar ffurf un pigiad i fabanod yn rhan o’u rhaglen brechiadau arferol, fel arfer o fewn mis o’u pen-blwydd cyntaf.

Yna, byddant yn cael ail bigiad o’r brechlyn cyn dechrau yn yr ysgol, fel arfer rhwng tair blwydd oed a phum mlwydd oed.

Gellir rhoi’r brechlyn MMR i fabanod o chwe mis oed weithiau os ydynt wedi bod yn agored i haint y frech goch o bosibl, neu yn ystod cyfnod lle y ceir llawer o achosion o’r frech goch.

Nid yw’r brechlyn MMR yn cael ei roi i fabanod iau na chwe mis oed fel mater o drefn. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod y gwrthgyrff yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela a drosglwyddwyd o’u mamau ar adeg eu geni yn dal i fod yn eu cyrff ac yn gallu gweithio yn erbyn y brechlyn, gan olygu nad yw’n effeithiol fel arfer. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod risg unrhyw sgil-effeithiau hyd yn oed yn is ymhlith y babanod iau hyn, oherwydd bod y gwrthgyrff a drosglwyddwyd o’r fam yn atal y firysau yn y brechlyn rhag tyfu. Mae’r gwrthgyrff mamol hyn yn dirywio gydag oedran a byddant wedi diflannu bron i gyd erbyn i’r MMR gael ei roi fel arfer – tua blwydd oed.

Mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft yn ystod cyfnod o lawer o achosion o’r frech goch, argymhellir bod babanod chwech i naw mis oed yn cael y brechiad MMR os oes risg uchel iddynt gael eu heintio. Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd gan y plant hyn ddigon o amddiffyniad o’r dos cynnar hwn, felly bydd angen dosau MMR safonol arnynt o hyd pan fyddant yn 12-13 mis oed a 40 mis oed.

Rhoddir y brechlyn MMR ar ffurf un pigiad i gyhyr y forddwyd neu ran uchaf y fraich.

Darllenwch fwy ynghylch pa blant ac oedolion a ddylai gael y brechlyn MMR.

Gwyliwch y fideos healthtalk.org hyn lle mae rhieni’n pwyso a mesur risgiau a buddion y brechiad MMR.

MMR ar gyfer plant hŷn

Gall plant o unrhyw oed hyd at 18 mlwydd oed a gollodd eu brechiad MMR cynharach, neu a’i cwblhaodd yn rhannol yn unig, gael brechiad MMR “dal i fyny” trwy’r GIG.

Os ydych yn gwybod, neu’n amau, nad yw’ch plentyn wedi cael ei imiwneiddio’n llawn, trefnwch gyda’ch meddyg teulu iddo gael brechiad MMR “dal i fyny”.

MMR ar gyfer menywod sy’n cynllunio beichiogrwydd

Os ydych yn fenyw sy’n ystyried beichiogi, mae’n bosibl y bydd angen brechiad MMR arnoch os oes gennych lefelau isel o wrthgyrff rwbela neu os nad ydych wedi cael brechiad rwbela neu MMR o’r blaen.

Gofynnwch i’ch meddyg teulu wirio os nad ydych yn siwr p’un a ydych wedi cael rwbela neu MMR o’r blaen. Fe all drefnu brechiad MMR i’ch diogelu rhag rwbela.

Nid yw’r brechiad MMR yn addas i fenywod sydd eisoes yn feichiog neu sy’n beichiogi’n fuan ar ôl cael y brechiad (o fewn mis o’i gael).

MMR ar gyfer oedolion nad ydynt yn imiwn

Gall y brechlyn MMR gael ei roi trwy’r GIG i oedolion y gallai fod arnynt ei angen hefyd, gan gynnwys pobl a anwyd rhwng 1970 a 1979 a allai fod wedi cael eu brechu yn erbyn y frech goch yn unig, yn ogystal â’r rhai hynny a anwyd rhwng 1980 a 1990 nad ydynt wedi’u diogelu rhag clwy’r pennau/y dwymyn doben o bosibl.

Gofynnwch i’ch meddyg teulu os nad ydych yn siwr a ydych wedi cael MMR. Os oes amheuaeth, ewch ymlaen i gael y brechiad MMR. Hyd yn oed os ydych wedi’i gael o’r blaen, ni fydd yn gwneud niwed i chi gael ail neu hyd yn oed trydydd dos o’r brechiad.

Darllenwch fwy ynghylch pryd mae angen y brechlyn MMR.

Sut mae’r brechlyn MMR yn gweithio

Mae’r brechlyn MMR yn cynnwys fersiynau gwannach o firysau byw y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela.

Mae’r brechlyn yn gweithio trwy ysgogi’r system imiwnedd i gynhyrchu gwrthgyrff yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela.

Wedi hynny, os byddwch chi neu eich plentyn yn dod i gysylltiad ag un o’r clefydau hyn, bydd y system imiwnedd yn ei adnabod ac yn cynhyrchu’r gwrthgyrff sydd eu hangen i ymladd yn ei erbyn ar unwaith.

Nid yw’n bosibl i bobl sydd wedi cael y brechlyn yn ddiweddar heintio pobl eraill.

Mae’r brechlyn MMR a roddir yn y Deyrnas Unedig yn cael ei adnabod wrth yr enwau brand Priorix neu MMRVAXPRO.

A yw’r brechlyn MMR yn achosi awtistiaeth?

Bu rhywfaint o ddadlau ynglŷn â pha un a allai’r brechlyn MMR achosi awtistiaeth, yn dilyn astudiaeth a gyhoeddwyd ym 1998 gan Dr Andrew Wakefield. Yn ei bapur, a gyhoeddwyd yn The Lancet, honnodd Dr Wakefield fod cysylltiad rhwng y brechlyn MMR ac awtistiaeth neu glefyd y coluddyn.

Fodd bynnag, mae gwaith Andrew Wakefield wedi’i ddifrïo’n llwyr ac mae wedi cael ei dynnu oddi ar restr meddygon y Deyrnas Unedig. Nid yw astudiaethau dilynol yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf wedi canfod unrhyw gysylltiad rhwng y brechlyn MMR ac awtistiaeth na chlefyd y coluddyn.

Gwyliwch fideos healthtalk.org lle mae rhieni’n trafod eu pryderon ynglŷn â’r brechlyn MMR.

Brechlynnau unigol ar gyfer y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela

Nid yw brechlynnau unigol ar gael trwy’r GIG yn y Deyrnas Unedig oherwydd bod perygl y byddai llai o blant yn cael yr holl bigiadau angenrheidiol, gan gynyddu lefelau’r frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela yn y Deyrnas Unedig.

Byddai’r oedi rhwng cael chwe phigiad ar wahân yn rhoi mwy o blant mewn perygl o ddatblygu’r cyflyrau hefyd, yn ogystal â chynyddu’r gwaith a’r anghyfleustra i rieni a’r rhai hynny sy’n rhoi’r brechlynnau.

Sgil-effeithiau’r brechlyn MMR

Gan fod tri brechlyn ar wahân yn cael eu rhoi mewn un pigiad, gall sgil-effeithiau gwahanol ddigwydd ar adegau gwahanol. Mae sgil-effeithiau’r brechlyn MMR yn ysgafn fel arfer. Mae’n bwysig cofio eu bod yn ysgafnach na chymhlethdodau posibl y frech goch, clwy’r pennau/y dwymyn doben a rwbela.

Mae sgil-effeithiau’n cynnwys:

  • datblygu ffurf ysgafn ar y frech goch sy’n para dau i dri diwrnod
  • datblygu ffurf ysgafn ar glwy’r pennau/y dwymyn doben sy’n para diwrnod neu ddau

Mewn achosion anghyffredin, gallai brech fach o smotiau cleisiog ymddangos sawl wythnos ar ôl y pigiad. Ewch at eich meddyg teulu os sylwch ar y math hwn o frech, neu os ydych yn pryderu am symptomau eich plentyn yn dilyn yr MMR.

Darllenwch fwy ynghylch sut mae’r MMR yn cael ei roi.

Darllenwch atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r brechlyn MMR.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk