Brechlyn Men B

Bydd brechlyn newydd i atal meningitis yn cael ei gynnig i fabanod yn rhan o raglen brechiadau plentyndod arferol y GIG o 1 Medi 2015 ymlaen.

Bydd y brechlyn Men B yn cael ei gynnig i fabanod 2 fis oed, a ddilynir gan ail ddos pan fyddant yn 4 mis oed, a dos atgyfnerthol pan fyddant yn 12-13 mis oed.

Yn ogystal, cynhelir rhaglen dal i fyny dros dro ar gyfer babanod a ddylai gael eu brechiadau 3 a 4 mis ym mis Medi 2015, er mwyn eu diogelu pan fydd eu risg o ddal haint ar ei huchaf.

Bydd y brechlyn Men B yn diogelu eich baban yn erbyn haint gan facteria grŵp B meningococaidd, sy’n gallu achosi meningitis a septisemia (gwenwyn gwaed), sef afiechydon difrifol ac angheuol o bosibl.

Mae meningitis a septisemia a achosir gan facteria grŵp B meningococaidd yn gallu effeithio ar bobl o unrhyw oed, ond mae’n fwyaf cyffredin mewn babanod a phlant ifanc.

Mae’r rhaglen newydd yn golygu mai’r Deyrnas Unedig yw’r wlad gyntaf yn y byd i gynnig rhaglen frechu arferol yn erbyn Men B sydd ar gael yn genedlaethol ac yn cael ei hariannu’n gyhoeddus.

Pa fabanod ddylai gael y brechlyn Men B?

Cynigir y brechlyn Men B i fabanod ochr yn ochr â’u brechiadau arferol eraill pan fyddant yn:

  • 2 fis oed
  • 4 mis oed
  • 12-13 mis oed

Enw brand y brechlyn yw Bexsero®, ac fe’i rhoddir ar ffurf un pigiad i forddwyd y baban.

Gellir rhoi’r brechlyn Men B ar yr un pryd â brechiadau arferol eraill babanod, fel y brechlyn 5 mewn 1 a’r brechlyn niwmococol.

Bydd eich meddygfa neu glinig yn anfon llythyr apwyntiad atoch yn awtomatig yn gofyn i chi ddod â’ch baban i gael ei frechiad Men B ochr yn ochr â’i frechiadau arferol eraill. Mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau imiwneiddio neu glinigau babanod arbennig. Os na allwch gyrraedd y clinig, cysylltwch â’r feddygfa i drefnu apwyntiad arall.

Diogelwch y brechlyn Men B

Yn yr un modd â phob brechlyn, gall y brechlyn Men B achosi sgil-effeithiau, ond mae astudiaethau’n awgrymu bod y rhain yn ysgafn yn gyffredinol ac nad ydynt yn para’n hir.

Mae bron i 8,000 o bobl, gan gynnwys mwy na 5,000 o fabanod a phlant bach, wedi cael y brechlyn Men B newydd yn ystod treialon clinigol i brofi ei ddiogelwch.

Ers i’r brechlyn gael ei drwyddedu, mae bron i filiwn o ddosau wedi’u rhoi, heb unrhyw bryderon diogelwch wedi’u hamlygu.

Mae babanod y rhoddir y brechlyn Men B iddynt ochr yn ochr â’u brechiadau arferol eraill pan fyddant yn ddeufis a phedwar mis oed yn debygol o ddatblygu twymyn o fewn y 24 awr gyntaf ar ôl y cael y brechiad.

Bydd rhoi parasetamol hylif sy’n addas i fabanod i’ch baban yn lleihau’r risg o dwymyn ar ôl cael y brechiad. Bydd eich nyrs yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am barasetamol yn ystod eich apwyntiad brechu.

Mae sgil-effeithiau cyffredin eraill yn cynnwys pigogrwydd, a chochni a thynerwch yn y man lle y rhoddwyd y pigiad. Bydd y parasetamol hylif yn helpu i leddfu’r symptomau hyn hefyd.

Sut mae’r brechlyn Men B yn gweithio

Mae’r brechlyn Men B yn cael ei wneud o dri phrif brotein a geir ar wyneb y rhan fwyaf o facteria meningococaidd, wedi’u cyfuno â philen allanol un rhywogaeth Men B. Gyda’i gilydd, mae’r cyfansoddion hyn yn ysgogi’r system imiwnedd i ddiogelu yn erbyn amlygiad i facteria meningococaidd yn y dyfodol.

Mae Meningitis B yn lladd

Mae bacteria grŵp B meningococaidd yn achos difrifol heintiau sy’n bygwth bywyd, gan gynnwys meningitis a gwenwyn gwaed, yn fyd-eang a dyna yw’r prif facteria heintus sy’n lladd babanod a phlant ifanc yn y Deyrnas Unedig.

Ceir 12 grŵp hysbys o facteria meningococaidd, ac mae grŵp B (Men B) yn gyfrifol am oddeutu 90% o’r heintiau meningococaidd yn y Deyrnas Unedig.

Mae heintiau meningococaidd yn tueddu i ddigwydd mewn pyliau. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae rhwng 500 a 1,700 o bobl y flwyddyn, yn bennaf babanod a phlant bach, wedi dioddef clefyd Men B, gydag oddeutu 1 ym mhob 10 yn marw o’r haint. Mae llawer o’r rhai hynny sy’n goroesi yn dioddef anabledd parhaol ofnadwy, fel torri aelod o’r corff i ffwrdd, niwed i’r ymennydd ac epilepsi.

Mathau gwahanol o frechlynnau meningitis

Ceir dau frechlyn yn erbyn y rhywogaethau cyffredin eraill o glefyd meningococaidd – y brechlyn Men ACWY (yn erbyn grwpiau meningococaidd A, C, W ac Y) a gynigir trwy’r GIG i’r rhai yn eu harddegau a myfyrwyr blwyddyn gyntaf, a’r brechlyn Men C (yn erbyn grŵp meningococaidd C) ar gyfer babanod.

Ers i’r brechlyn Men C gael ei gynnwys yn rhaglen brechiadau plentyndod genedlaethol y GIG ym 1999, mae’r clefyd wedi’i ddileu bron yn gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig. Erbyn hyn, llond dyrnaid o achosion Men C a geir yn unig bob blwyddyn, yn bennaf mewn oedolion hŷn nad ydynt wedi cael eu brechu.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk