Strôc

Cyflwyniad

Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol, sy'n bygwth bywyd ac yn digwydd pan fo'r cyflenwad gwaed i ran o'r ymennydd yn cael ei dorri.

Mae strociau’n argyfwng meddygol ac mae triniaeth frys yn hanfodol.

Mae niwed yn llai tebygol o ddigwydd pan fo person yn cael triniaeth ar gyfer strôc yn gynnar.

Os ydych yn credu eich bod chi, neu rywun arall, yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.

Symptomau strôc

Gellir cofio prif symptomau strôc gyda'r gair NESA:

  • Nam ar yr wyneb – A yw'r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?
  • Estyn – Ydyn nhw'n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a'u cadw yno?
  • Siarad – Ydyn nhw'n cael trafferth siarad?
  • Amser – Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi'n gweld un o'r symptomau uchod.

Achosion strôc

Fel pob organ, mae ar yr ymennydd angen yr ocsigen a'r maethynnau a ddarperir gan waed er mwyn gweithredu'n iawn.

Os yw'r cyflenwad gwaed yn cael ei gyfyngu neu ei atal, mae celloedd ymennydd yn dechrau marw. Gall hyn arwain at niwed i'r ymennydd, anabledd a marwolaeth o bosibl.

Mae 2 brif achos ar gyfer strôc:

  • isgemig – pan fo'r cyflenwad gwaed yn cael ei atal oherwydd clot gwaed (mae hyn yn cyfrif am 85 y cant o'r holl achosion)
  • gwaedlifol – pan fo pibell waed wannach sy'n cyflenwi'r ymennydd yn torri

Mae cyflwr cysylltiedig hefyd o’r enw pwl o isgemia dros dro, pan fo ymyriad dros dro ar y cyflenwad gwaed i'r ymennydd.

Mae hyn yn achosi'r hyn a elwir yn fân strôc. Gall bara ychydig o funudau neu hyd at 24 awr.

Dylid trin pyliau o isgemia dros dro ar frys, gan eu bod yn aml yn arwydd eich bod mewn perygl o gael strôc lawn yn y dyfodol agos.

Ceisiwch gyngor meddygol cyn gynted â phosibl, hyd yn oed os bydd eich symptomau'n gwella.

Mae cyflyrau penodol yn cynyddu'r perygl o gael strôc, gan gynnwys:

Trin strôc

Mae’r driniaeth yn dibynnu ar y math o strôc a gewch, gan gynnwys pa ran o'r ymennydd yr effeithiwyd arni a beth oedd yr achos.

Fel arfer, defnyddir meddyginiaeth i drin strociau. Mae hyn yn cynnwys meddyginiaethau i atal a thoddi clotiau gwaed, lleihau pwysedd gwaed a lleihau lefelau colesterol.

Mewn rhai achosion, gall fod angen triniaeth i dynnu clotiau gwaed. At hynny, gall fod angen llawfeddygaeth i drin chwydd ar yr ymennydd a lleihau perygl rhagor o waedu os mai hwn oedd achos eich strôc.

Gwella yn dilyn strôc

Mae pobl sy'n goroesi strôc yn aml yn cael problemau hirdymor a achosir gan anaf i'w hymennydd.

Mae ar rai pobl angen cyfnod adsefydlu hir cyn y gallant adfer eu hannibyniaeth gynt, ond mae llawer nad ydynt byth yn gwella'n llawn ac mae angen cymorth parhaus arnynt ar ôl eu strôc.

Dylai awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau ailalluogi am ddim i unrhyw un yr asesir bod eu hangen arno.

Mae'r gwasanaethau hyn yn helpu'r person sy'n gwella yn dilyn strôc i ddysgu neu ailddysgu'r sgiliau y mae arno eu hangen i fyw gartref yn annibynnol.

Bydd ar rai pobl angen rhyw fath o ofal neu help o hyd gyda'u gweithgareddau dyddiol.

Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd gweithiwr gofal yn dod i gartref y person i helpu gydag ymolchi a gwisgo, neu i ddarparu cwmnïaeth.

Atal strôc

Gallwch leihau'n sylweddol y perygl y byddwch yn cael strôc drwy'r canlynol:

Os oes gennych gyflwr sy'n cynyddu'r perygl y byddwch yn cael strôc, mae'n bwysig ei reoli'n effeithiol. Er enghraifft, cymryd meddyginiaeth sydd wedi'i rhagnodi i chi er mwyn lleihau pwysedd gwaed uchel neu lefelau colesterol.

Os ydych wedi cael strôc neu bwl o isgemia dros dro yn y gorffennol, mae'r mesurau hyn yn arbennig o bwysig oherwydd bod y perygl y byddwch yn cael strôc arall yn llawer mwy.

Strôc ymhlith plant

Nid dim ond ar oedolion y mae strôc yn effeithio. Bob blwyddyn, mae tua 400 o blant yn y DU yn cael strôc, yn ôl y Gymdeithas Strôc.

Darllenwch ragor am strôc yn ystod plentyndod ar wefan y Gymdeithas Strôc.

Symptomau

Os ydych yn credu eich bod chi, neu rywun arall, yn cael strôc, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.

Hyd yn oed os bydd y symptomau'n diflannu wrth i chi aros am yr ambiwlans, mae'n dal i fod yn bwysig mynd i'r ysbyty am asesiad.

Ar ôl asesiad cychwynnol, byddwch yn cael eich atgyfeirio i arbenigwr ar gyfer rhagor o brofion i helpu i benderfynu ar achos y strôc. Dylech gael eich atgyfeirio i arbenigwr o fewn 24 awr i ddechrau'ch symptomau. Gall y driniaeth hefyd ddechrau os bydd angen.

Gall symptomau strôc sy'n diflannu'n gyflym ac o fewn llai na 24 awr olygu eich bod wedi cael a pwl o isgemia dros dro.

Dylai'r symptomau hyn hefyd gael eu trin fel argyfwng meddygol i leihau'r tebygolrwydd o gael strôc arall.

Adnabod arwyddion strôc

Gall arwyddion a symptomau strôc amrywio o un person i'r llall, ond maent fel arfer yn dechrau'n sydyn.

Gan fod rhannau gwahanol o'ch ymennydd yn rheoli rhannau gwahanol o'ch corff, bydd eich symptomau'n dibynnu ar y rhan o'ch ymennydd yr effeithir arni a maint y niwed.

Gellir cofio prif symptomau strôc gyda'r gair NESA:

  • Nam ar yr wyneb – A yw'r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw'n gallu gwenu?
  • Estyn – Ydyn nhw'n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a'u cadw yno?
  • Siarad – Ydyn nhw'n cael trafferth siarad?
  • Amser – Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi'n gweld un o'r symptomau uchod.

Mae'n bwysig i bawb fod yn ymwybodol o'r arwyddion a symptomau hyn, yn enwedig os ydych yn byw gyda pherson sydd mewn grwp risg uchel, fel rhywun sy'n oedrannus neu â diabetes neu bwysedd gwaed uchel, neu os ydych yn gofalu am berson o'r fath.

Symptomau posibl eraill

Mae symptomau yn y prawf NESA yn adnabod y rhan fwyaf o strociau, ond ambell waith gall strôc achosi symptomau gwahanol.

Gall arwyddion a symptomau eraill gynnwys:

  • parlys cyfan 1 ochr o'r corff
  • colli golwg neu olwg wedi pylu'n sydyn
  • pendro
  • dryswch
  • anhawster deall yr hyn y mae eraill yn ei ddweud
  • problemau cydbwysedd a chydsymud
  • anhawster llyncu (dysffagia)
  • pen tost sydyn a difrifol iawn, yn arwain at boen ofnadwy sy'n wahanol i unrhyw beth arall a brofwyd cyn hynny
  • colli ymwybyddiaeth

Fodd bynnag, mae achosion eraill fel arfer ar gyfer y symptomau hyn.

Pwl o isgemia dros dro

Mae symptomau pwl o isgemia dros dro, a elwir hefyd yn fân strôc, yr un peth â strôc, ond maent yn tueddu i bara rhwng ychydig o funudau ac ychydig o oriau cyn diflannu'n llwyr.

Er bod y symptomau'n gwella, ni ddylid byth anwybyddu pwl o isgemia dros dro, gan ei fod yn arwydd difrifol o broblem gyda'r cyflenwad gwaed i'ch ymennydd.

Mae'n golygu eich bod mewn mwy o berygl o gael strôc yn y dyfodol agos.

Mae'n bwysig ffonio 999 ar unwaith a gofyn am ambiwlans os ydych chi, neu rywun arall, yn cael symptomau pwl o isgemia dros dro neu strôc.

Os amheuir pwl o isgemia dros dro, byddwch yn cael cynnig asbrin i'w gymryd ar unwaith. Mae hyn yn helpu i atal strôc.

Hyd yn oed os bydd y symptomau'n diflannu wrth i chi aros i'r ambiwlans gyrraedd, dylid cynnal asesiad mewn ysbyty o hyd. Dylech gael eich atgyfeirio i arbenigwr o fewn 24 awr i ddechrau'ch symptomau.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael pwl o isgemia dros dro o'r blaen, ond mae'r symptomau wedi mynd ers hynny ac ni wnaethoch geisio cyngor meddygol ar y pryd, gwnewch apwyntiad brys gyda meddyg teulu.

Gall eich atgyfeirio ar gyfer asesiad ysbyty, os yw'n briodol.

Achosion

Mae 2 brif fath o strôc – strociau isgemig a strociau gwaedlifol. Maent yn effeithio ar yr ymennydd mewn ffyrdd gwahanol a gallant gael achosion gwahanol..

Strociau isgemig

Strociau isgemig yw'r math mwyaf cyffredin o strôc. Maent yn digwydd pan fo clot gwaed yn atal llif gwaed ac ocsigen i'r ymennydd.

Mae'r clotiau gwaed hyn yn nodweddiadol yn ffurfio mewn mannau lle y mae'r rhydwelïau wedi'u culhau neu eu hatal gyda threigl amser gan ddyddodion brasterog a elwir yn blaciau. Gelwir y broses hon yn atherosglerosis.

Wrth heneiddio, gall y rhydwelïau gulhau'n naturiol, ond mae rhai pethau a all gyflymu'r broses hon yn beryglus.

Mae'r rhain yn cynnwys:

Achos posibl o strôc isgemig yw math o guriad calon afreolaidd o'r enw ffibriliad atrïaidd.

Gall hyn achosi clotiau gwaed yn y galon sy'n chwalu ac yn mynd i'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r ymennydd.

Strociau gwaedlifol

Mae strociau gwaedlifol (a elwir hefyd yn waedlifau ymenyddol neu'n waedlifau mewngreuanol) yn llai cyffredin na strociau isgemig.

Maent yn digwydd pan fo pibell waed yn y penglog yn torri ac yn gwaedu i'r ymennydd ac o'i gwmpas.

Prif achos strôc waedlifol yw pwysedd gwaed uchel, a all wanhau'r rhydwelïau yn yr ymennydd a'u gwneud yn fwy tebygol o hollti neu dorri.

Mae'r pethau sy'n cynyddu perygl pwysedd gwaed uchel yn cynnwys:

  • bod dros bwysau
  • yfed symiau gormodol o alcohol
  • smygu
  • diffyg ymarfer corff
  • straen

Gall strociau gwaedlifol hefyd ddigwydd o ganlyniad i bibell waed sydd wedi ehangu fel balwn dorri (ymlediad yn yr ymennydd) neu bibellau gwaed sydd wedi ffurfio'n annormal yn yr ymennydd.

Lleihau perygl strôc

Nid yw'n bosibl atal strociau'n llwyr oherwydd na ellir newid rhai pethau sy'n cynyddu'r perygl y byddwch yn cael y cyflwr.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • oedran – rydych yn fwy tebygol o gael strôc os ydych dros 55 oed, er bod oddeutu 1 o bob 4 strôc yn digwydd ymhlith pobl iau
  • hanes teulu – os yw perthynas agos (rhiant, mam-gu, tad-cu, brawd neu chwaer) wedi cael strôc, mae'r perygl y byddwch yn cael un yn debygol o fod yn uwch
  • ethnigrwydd – os yw'ch hynafiaid o Dde Asia, Affrica neu Ynysoedd y Caribî, mae'r perygl y byddwch yn cael strôc yn uwch, yn rhannol oherwydd bod cyfraddau diabetes a phwysedd gwaed uchel yn uwch ymhlith y grwpiau hyn
  • eich hanes meddygol – os ydych wedi cael strôc, pwl o isgemia dros dro neu drawiad ar y galon, o'r blaen, mae'r perygl y byddwch yn cael strôc yn uwch

Ond mae'n bosibl lleihau'n sylweddol y perygl y byddwch yn cael strôc drwy wneud newidiadau i'ch ffordd o fyw i osgoi problemau fel atherosglerosis a phwysedd gwaed uchel.

Dylech geisio cyngor meddygol os ydych yn credu bod gennych guriad calon afreolaidd.

Gall hyn fod yn arwydd o ffibriliad atrïaidd, sy'n cynyddu perygl strôc.

Diagnosis

Fel arfer, rhoddir diagnosis o strôc drwy gynnal profion corfforol ac astudio delweddau o'r ymennydd sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod sgan.

Y tro cyntaf i chi gyrraedd yr ysbyty dan amheuaeth eich bod wedi cael strôc, bydd meddyg fel arfer am gael cymaint o wybodaeth â phosibl am eich symptomau.

Wedyn, gellir cynnal nifer o brofion i helpu i gadarnhau'r diagnosis a phenderfynu ar achos y strôc.

Gall hyn gynnwys:

  • prawf gwaed i gael gwybod eich lefelau colesterol a siwgr gwaed
  • gwirio eich pwls ar gyfer curiad calon afreolaidd
  • mesur pwysedd gwaed.

Sganiau ymennydd

Hyd yn oed os yw symptomau corfforol strôc yn amlwg, dylid cynnal sganiau ymennydd hefyd i benderfynu:

  • a yw'r strôc wedi'i hachosi gan rydweli wedi'i hatal (strôc isgemig) neu bibell waed sydd wedi torri (strôc waedlifol)
  • pa ran o'r ymennydd yr effeithiwyd arni
  • pa mor ddifrifol yw'r strôc

Dylai pawb yr amheuir ei fod wedi cael strôc gael sgan ymennydd o fewn awr i gyrraedd yr ysbyty.

Mae sgan ymennydd cynnar yn arbennig o bwysig i bobl:

  • a allai gael budd o feddyginiaeth i glirio clotiau gwaed (thrombolysis), fel alteplase neu driniaeth gwrthgeulo gynnar
  • sydd eisoes yn cymryd triniaethau gwrthgeulo
  • sydd â lefel is o ymwybyddiaeth

Dyma pam y mae strôc yn argyfwng meddygol a dylech ffonio 999 pan amheuir strôc – nid oes amser i aros am apwyntiad meddyg teulu.

Dyma'r 2 brif fath o sgan a ddefnyddir i asesu'r ymennydd ymhlith pobl yr amheuir eu bod wedi cael strôc:

Sganiau CT

Mae sgan CT fel pelydr-x, ond mae'n defnyddio delweddau lluosog i gael darlun manylach, 3 dimensiwn o'ch ymennydd i helpu eich meddyg i nodi meysydd sy'n peri problemau.

Yn ystod y sgan, mae'n bosibl y cewch bigiad o liw arbennig i un o'r gwythiennau yn eich braich i helpu i wella eglurder y ddelwedd CT ac edrych ar y pibellau gwaed sy'n cyflenwi'r ymennydd.

Os amheuir eich bod yn cael strôc, mae sgan CT fel arfer yn gallu dangos a ydych wedi cael strôc isgemig neu strôc waedlifol.

Yn gyffredinol, mae'n gyflymach na sgan MRI a gall olygu y gallwch gael triniaeth briodol yn gynharach.

Sganiau MRI

Mae sgan MRI yn defnyddio maes magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu darlun manwl o'r tu mewn i'ch corff.

Caiff ei ddefnyddio fel arfer i bobl â symptomau cymhleth, lle y mae maint neu leoliad y niwed yn anhysbys.

Caiff ei ddefnyddio hefyd i bobl sydd wedi adfer o bwl o isgemia dros dro.

Mae'r math hwn o sgan yn dangos meinwe ymennydd yn fanylach, fel y gellir nodi'r mannau llai, neu mewn lleoliad mwy anarferol, y mae strôc yn effeithio arnynt.

Fel gyda sgan CT, gellir defnyddio lliw arbennig i wella delweddau sgan MRI.

Profion llyncu

Mae prawf llyncu'n hanfodol i unrhyw un sydd wedi cael strôc, gan fod effaith gyffredin ar allu llyncu yn fuan ar ôl cael strôc.

Pan nad yw person yn gallu llyncu'n iawn, mae perygl y bydd bwyd a diod yn mynd yn y corn gwddf a'r ysgyfaint, a all arwain at heintiau ar y frest megis niwmonia. Allsugno yw'r enw ar hyn.

Mae'r prawf yn syml. Mae'r person yn cael ychydig o lwyeidiau te o ddwr i'w yfed. Os yw'n gallu llyncu hyn heb dagu a phesychu, gofynnir iddo lyncu hanner gwydraid o ddwr.

Os yw'n cael anhawster llyncu, caiff ei atgyfeirio i'r therapydd lleferydd ac iaith ar gyfer asesiad manylach.

Fel arfer, ni chaniateir iddo fwyta nac yfed fel arfer nes ei fod wedi gweld y therapydd.

Mae'n bosibl y bydd angen rhoi hylifau neu faethynnau'n uniongyrchol i wythïen yn y fraich (yn fewnwythiennol) neu drwy diwb sy'n cael ei fewnosod yn ei stumog drwy ei drwyn.

Profion calon a phibellau gwaed

Gellir cynnal rhagor o brofion ar y galon a'r pibellau gwaed yn ddiweddarach i gadarnhau beth oedd achos eich strôc.

Mae rhai o'r profion y gellir eu cynnal wedi'u disgrifio isod.

Sgan uwchsain carotid

Gall sgan uwchsain carotid helpu i ddangos a yw rhydwelïau'r gwddf sy'n arwain i'ch ymennydd wedi'u culhau neu eu hatal.

Mae sgan uwchsain yn cynnwys defnyddio chwiliedydd bach (troswr) i anfon tonnau sain amledd uchel i mewn i'ch corff.

Pan fo'r tonnau sain hyn yn bownsio'n ôl, gellir eu defnyddio i greu delwedd o'r tu mewn i'ch corff.

Pan fo angen sgan uwchsonograffeg carotid, dylid ei gynnal o fewn 48 awr.

Ecocardiograffeg

Mae ecocardiogram yn gwneud delweddau o'ch calon i wirio ar gyfer problemau a allai fod yn gysylltiedig â'ch strôc.

Fel arfer, mae hyn yn cynnwys symud chwiliedydd uwchsain ar draws eich brest (ecocardiogram trawsthorasig).

Gellir defnyddio math arall o ecocardiogram o'r enw sgan ecocardiograffeg drawsoesoffagaidd weithiau.

Mae chwiliedydd uwchsain yn cael ei basio i lawr eich corn gwddf (oesoffagws), fel arfer ar ôl i chi gael tawelydd.

Gan fod hyn yn golygu y gellir rhoi'r chwiliedydd yn uniongyrchol y tu ôl i'r galon, mae'n cynhyrchu delwedd glir o glotiau gwaed ac annormaleddau eraill na fydd ecocardiogram trawsthorasig yn eu codi o bosibl.

Triniaeth

Gall trin strôc yn effeithiol atal anabledd hirdymor ac achub bywydau.

Mae'r triniaethau penodol a argymhellir yn dibynnu a achosir strôc gan

  • glot gwaed yn rhwystro llif gwaed i'r ymennydd (strôc isgemig)
  • gwaedu yn yr ymennydd neu o'i gwmpas (strôc waedlifol).

Fel arfer, bydd y driniaeth yn cynnwys cymryd meddyginiaeth neu feddyginiaethau gwahanol, er y gall fod angen llawfeddygaeth ar rai pobl hefyd.

Trin strociau isgemig

Os ydych wedi cael strôc isgemig, fel arfer argymhellir cyfuniad o feddyginiaethau i drin y cyflwr a'i atal rhag digwydd eto.

Mae angen cymryd rhai o'r meddyginiaethau hyn ar unwaith a dim ond am gyfnod byr, ond mae'n bosibl mai dim ond ar ôl i'r strôc gael ei thrin y bydd meddyginiaethau eraill yn dechrau a gall fod angen eu cymryd yn yr hirdymor.

Thrombolysis – meddyginiaeth torri clotiau

Yn aml, gall strociau isgemig gael eu trin drwy ddefnyddio pigiadau o feddyginiaeth o'r enw alteplase sy'n toddi clotiau gwaed ac yn adfer llif gwaed i'r ymennydd.

Gelwir y defnydd hwn o feddyginiaeth torri clotiau yn thrombolysis.

Y ffordd fwyaf effeithiol o gymryd alteplase yw dechrau ei gymryd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r strôc ddigwydd - ac yn sicr o fewn 4.5 awr.

Nid yw'n cael ei argymell yn gyffredinol os yw mwy na 4.5 awr wedi mynd heibio, gan nad yw'n glir pa mor fuddiol ydyw ar ôl yr amser hwn.

Cyn y gellir defnyddio alteplase, mae'n bwysig iawn cynnal sgan ymennydd i gadarnhau diagnosis o strôc isgemig.

Y rheswm dros hyn yw y gall y feddyginiaeth waethygu'r gwaedu sy'n digwydd mewn strociau gwaedlifol.

Thrombectomi

Gellir trin nifer bach o strociau isgemig drwy lawdriniaeth frys o'r enw thrombectomi.

Mae hyn yn tynnu clotiau gwaed ac yn helpu i adfer llif gwaed i'r ymennydd.

Mae thrombectomi dim ond yn effeithiol wrth drin strociau isgemig a achosir gan glot gwaed mewn rhydweli fawr yn yr ymennydd.

Mae ar ei fwyaf effeithiol os yw'n dechrau cyn gynted â phosibl ar ôl strôc.

Mae'r driniaeth yn cynnwys mewnosod cathetr i mewn i rydweli, yn aml yn yr afl. Mae dyfais fach yn cael ei phasio drwy'r cathetr i mewn i'r rhydweli yn yr ymennydd.

Wedyn, gellir tynnu'r clot gwaed drwy ddefnyddio'r ddyfais, neu drwy sugno. Gellir cynnal y driniaeth dan anesthetig lleol neu gyffredinol.

Asbrin a gwrthblatennau

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig dos rheolaidd o asbrin. Yn ogystal â bod yn gyffur i ladd poen, mae asbrin yn wrthblaten, sy'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd clot arall yn ffurfio.

Gellir defnyddio meddyginiaethau gwrthblaten eraill, fel clopidogrel a dipyridamole.

Gwrthgeulyddion

Mae'n bosibl y bydd rhai pobl yn cael cynnig gwrthgeulydd i helpu i leihau'r tebygolrwydd y byddant yn datblygu clotiau gwaed newydd yn y dyfodol.

Mae gwrthgeulyddion yn atal clotiau gwaed drwy newid cyfansoddiad cemegol y gwaed mewn ffordd sy'n atal clotiau rhag ffurfio.

Mae warffarin, apicsaban, dabigatran, edocsaban a rifarocsaban yn enghreifftiau o wrthgeulyddion i'w defnyddio yn yr hirdymor.

Mae nifer o wrthgeulyddion o'r enw heparinau y gellir eu rhoi drwy bigiad yn unig ac a ddefnyddir yn y tymor byr.

Gellir cynnig gwrthgeulyddion os ydych:

Meddyginiaethau pwysedd gwaed

Os yw eich pwysedd gwaed yn rhy uchel, gellir cynnig meddyginiaethau i chi er mwyn ei leihau.

Mae'r meddyginiaethau a ddefnyddir yn gyffredin yn cynnwys:

  • diwretigion thïasid
  • atalyddion ensymau trosi angiotensin
  • atalyddion sianeli calsiwm
  • beta-atalyddion
  • alffa-atalyddion

Rhagor o wybodaeth am drin pwysedd gwaed uchel.

Statinau

Os yw lefel y colesterol yn eich gwaed yn rhy uchel, byddwch yn cael eich cynghori i gymryd meddyginiaeth a elwir yn statin.

Mae statinau'n lleihau lefel y colesterol yn eich gwaed drwy atal cemegyn (ensym) yn yr afu sy'n cynhyrchu colesterol.

Gellir cynnig statin i chi hyd yn oed os nad yw lefel eich colesterol yn arbennig o uchel, gan y gall helpu i leihau'r perygl y byddwch yn cael strôc, beth bynnag yw lefel eich colesterol.

Endarterectomi carotid

Achosir rhai strociau isgemig drwy gulhau rhydweli yn y gwddf o'r enw y rhydweli garotid, sy'n cludo gwaed i'r ymennydd.

Achosir y culhau, a elwir yn stenosis carotid, gan groniad o blaciau brasterog.

Os yw'r stenosis carotid yn arbennig o ddifrifol, gellir defnyddio llawfeddygaeth i glirio'r rhydweli. Endarterectomi carotid yw hyn.

Mae'r llawfeddyg yn gwneud toriad yn eich gwddf i agor y rhydweli garotid a thynnu'r dyddodion brasterog.

Trin strociau gwaedlifol

Fel gyda strociau isgemig, bydd rhai pobl sydd wedi cael strôc waedlifol hefyd yn cael cynnig meddyginiaeth i leihau eu pwysedd gwaed ac atal rhagor o strociau.

Os oeddech yn cymryd gwrthgeulyddion cyn i chi gael eich strôc, mae'n bosibl y bydd angen triniaeth arnoch hefyd i wrthdroi effeithiau'r feddyginiaeth a lleihau'r perygl y byddwch yn gwaedu rhagor.

Llawfeddygaeth

Yn achlysurol, gall fod angen llawfeddygaeth frys i dynnu unrhyw waed o'r ymennydd ac atgyweirio pibellau gwaed sydd wedi torri. Gwneir hyn fel arfer drwy ddefnyddio triniaeth lawfeddygol a elwir yn greuandoriad.

Yn ystod creuandoriad, tynnir rhan o'r penglog i alluogi'r llawfeddyg i gael mynediad at ffynhonnell y gwaedu.

Bydd y llawfeddyg yn atgyweirio pibellau gwaed a niweidiwyd a sicrhau nad oes clotiau gwaed yn bresennol a all gyfyngu'r llif gwaed i'r ymennydd.

Ar ôl i'r gwaedu ddod i ben, disodlir y darn o asgwrn a dynnwyd o'r penglog, yn aml gan blât metel artiffisial.

Llawfeddygaeth ar gyfer hydroceffalws

Gellir cynnal llawfeddygaeth hefyd i drin cymhlethdod mewn strociau gwaedlifol o'r enw hydroceffalws.

Dyma pan fo niwed sy'n deillio o strôc yn achosi i hylif yr ymennydd gronni yn y ceudodau (fentriglau) yn yr ymennydd, gan achosi symptomau fel pen tos, cyfog, cysgadrwydd, chwydu a cholli cydbwysedd.

Gellir trin hydroceffalws drwy osod tiwb, o'r enw siynt, yn llawfeddygol yn yr ymennydd i alluogi'r hylif i ddraenio.

Rhagor o wybodaeth am drin hydroceffalws.

Triniaethau ategol

Gall fod angen rhagor o driniaeth arnoch yn y tymor byr i'ch helpu i reoli rhai o'r problemau a all effeithio ar bobl sydd wedi cael strôc.

Er enghraifft, gall fod angen y canlynol arnoch:

  • tiwb bwydo wedi'i fewnosod yn eich stumog drwy eich trwyn (tiwb nasogastrig) i ddarparu maeth os ydych yn cael anhawster llyncu (dysffagia)
  • atchwanegiadau maethol os ydych heb gael digon o faeth
  • hylifau a roddir yn uniongyrchol i mewn i wythïen (yn fewnwythiennol) os ydych mewn perygl o ddadhydradiad
  • ocsigen drwy diwb trwynol neu fasg wyneb os oes gennych lefelau isel o ocsigen yn eich gwaed
  • hosanau cywasgu i atal clotiau gwaed yn y goes (thrombosis gwythiennau dwfn)

Gwella

Gall yr anaf i'r ymennydd a achosir gan strôc arwain at broblemau eang a pharhaol.

Er y gall rhai pobl wella'n gyflym, mae ar lawer o bobl sy'n cael strôc angen cymorth hirdymor i'w helpu i adennill cymaint o annibyniaeth â phosibl.

Mae'r broses adsefydlu hon yn dibynnu ar y symptomau a'u difrifoldeb.

Yn aml, mae'n dechrau yn yr ysbyty ac yn parhau gartref neu mewn clinig lleol yn eich cymuned.

Gall tîm o arbenigwyr gwahanol eich helpu i adsefydlu, gan gynnwys ffisiotherapyddion, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion lleferydd ac iaith, deietegwyr a nyrsys a meddygon arbenigol.

Byddwch yn cael eich annog i fynd ati i gymryd rhan yn y broses adsefydlu a gweithio gyda'ch tîm gofal i bennu nodau rydych am eu cyflawni yn ystod eich cyfnod adsefydlu.

Mae'r dulliau trin ac adsefydlu gwahanol ar gyfer rhai o'r prif broblemau a achosir gan strociau wedi'u hamlinellu isod.

Rhagor o wybodaeth:

Effaith seicolegol

Dyma 2 o'r problemau seicolegol mwyaf cyffredin a all effeithio ar bobl ar ôl strôc:

  • iselder – mae llawer o bobl yn cael pyliau dwys o lefain, yn teimlo'n ddiobaith ac yn encilio rhag gweithgareddau cymdeithasol
  • gorbryder – pan fo llawer o bobl yn cael teimladau cyffredinol o ofn a gorbryder, weithiau gyda theimladau dwys, direolaeth bob hyn a hyn o orbryder (pyliau o orbryder)

Mae teimladau o ddicter, rhwystredigaeth a dryswch yn gyffredin hefyd.

Byddwch yn cael asesiad seicolegol gan aelod o'ch tîm gofal iechyd yn fuan ar ôl eich strôc i wirio a ydych yn cael problemau emosiynol.

Dylid rhoi cyngor i helpu i fynd i'r afael ag effaith seicolegol strôc. Mae hyn yn cynnwys yr effaith ar berthnasoedd ag aelodau eraill o'r teulu ac unrhyw berthynas rywiol.

At hynny, dylid cynnal adolygiad rheolaidd o broblemau iselder a gorbryder, a symptomau seicolegol ac emosiynol yn gyffredinol.

Gall y problemau hyn dawelu gyda threigl amser ond, os byddant yn ddifrifol neu'n para amser hir, gall meddygon teulu atgyfeirio pobl i ofal iechyd arbenigol gan seiciatrydd neu seicolegydd clinigol.

I rai pobl, gall meddyginiaethau a therapïau seicolegol, fel cwnsela neu therapi gwybyddol ymddygiadol helpu.

Mae therapi gwybyddol ymddygiadol yn therapi sy'n ceisio newid y ffordd rydych yn meddwl am bethau i greu cyflwr meddwl mwy cadarnhaol.

Am wybod rhagor?

Effaith wybyddol

Mae gwybyddol yn derm a ddefnyddir gan wyddonwyr i gyfeirio at y prosesau a swyddogaethau niferus y mae ein hymennydd yn eu defnyddio i brosesu gwybodaeth.

Gall strôc amharu ar un neu ragor o swyddogaethau gwybyddol, gan gynnwys:

  • cyfathrebu – ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • ymwybyddiaeth ofodol – cael ymwybyddiaeth naturiol o lle y mae eich corff mewn perthynas â'ch amgylchedd cyfagos
  • cof
  • gallu canolbwyntio
  • swyddogaeth weithredol – y gallu i gynllunio, datrys problemau a rhesymu am sefyllfaoedd
  • arfer – y gallu i ymgymryd â gweithgareddau corfforol medrus, fel gwisgo neu wneud paned o de

Fel rhan o'ch triniaeth, asesir pob un o'ch swyddogaethau gwybyddol a bydd cynllun triniaeth ac adsefydlu'n cael ei greu.

Gellir addysgu amrywiaeth eang o dechnegau i chi a all eich helpu i ailddysgu swyddogaethau gwybyddol yr amharwyd arnynt, fel adfer eich sgiliau cyfathrebu drwy therapi lleferydd ac iaith.

Mae llawer o ffyrdd o wneud iawn am golli swyddogaeth wybyddol, fel defnyddio cymhorthion cof, dyddiaduron a threfnau i helpu i gynllunio tasgau dyddiol.

Bydd y rhan fwyaf o swyddogaethau gwybyddol yn dychwelyd ar ôl amser ac adsefydlu, ond mae'n bosibl na fyddant yn dychwelyd fel roeddent o'r blaen.

Mae'r niwed y mae strôc yn ei achosi i'ch ymennydd hefyd yn cynyddu'r perygl y byddwch yn datblygu dementia fasgwlaidd.

Gall hyn ddigwydd ar unwaith ar ôl strôc neu gall ddatblygu ychydig o amser ar ôl i'r strôc ddigwydd.

Am wybod rhagor?

Problemau symud

Gall strociau achosi gwendid neu barlys ar 1 ochr o'r corff a gall arwain at broblemau cydsymud a chydbwysedd.

Mae llawer o bobl hefyd yn profi blinder eithafol (lludded) yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl strôc, a gallant hefyd gael anhawster cysgu, gan eu gwneud yn fwy blinedig fyth.

Fel rhan o'ch adsefydliad, dylech gael eich gweld gan ffisiotherapydd, a fydd yn asesu maint unrhyw anabledd corfforol cyn creu cynllun triniaeth.

Bydd ffisiotherapiyn aml yn cynnwys sawl sesiwn yr wythnos, gan ganolbwyntio ar feysydd fel ymarferion i wella eich nerth cyhyrol a goresgyn anawsterau cerdded.

Bydd y ffisiotherapydd yn gweithio gyda chi drwy bennu nodau. I ddechrau, gall y rhain fod yn nodau syml, fel codi gwrthrych.

Wrth i'ch cyflwr wella, bydd nodau hirdymor mwy heriol, fel sefyll neu gerdded, yn cael eu pennu.

Bydd gweithiwr achos neu ofalwr, fel aelod o'ch teulu, yn cael ei annog i gymryd rhan yn eich ffisiotherapi.

Gall y ffisiotherapydd addysgu ymarferion syml i'r ddau ohonoch y gallwch eu gwneud gartref.

Os ydych yn cael problemau gyda symud a gweithgareddau penodol, megis ymolchi a gwisgo, gallwch hefyd gael help gan therapydd galwedigaethol. Gall ddod o hyd i ffyrdd o reoli anawsterau.

Gall therapi galwedigaethol gynnwys addasu eich cartref neu ddefnyddio cyfarpar i hwyluso gweithgareddau dyddiol, a dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflawni tasgau sy'n peri problemau i chi.

Am wybod rhagor?

Problemau cyfathrebu

Ar ôl cael strôc, mae llawer o bobl yn cael problemau gyda siarad a deall, yn ogystal â darllen ac ysgrifennu.

Os oes niwed i'r rhannau o'r ymennydd sy'n gyfrifol am iaith, gelwir hyn yn affasia, neu'n ddysffasia,

Os oes gwendid yn y cyhyrau sy'n ymwneud â lleferydd o ganlyniad i niwed i'r ymennydd, gelwir hyn yn ddysarthria.

Dylech weld therapydd lleferydd ac iaith cyn gynted â phosibl ar gyfer asesiad ac i ddechrau therapi i'ch helpu gyda'ch sgiliau cyfathrebu.

Gall hyn gynnwys:

  • ymarferion i wella eich rheolaeth dros eich cyhyrau lleferydd
  • defnyddio cymhorthion cyfathrebu (fel siartiau llythrennau a chymhorthion electronig)
  • dulliau cyfathrebu eraill (fel ystumiau neu ysgrifennu).

Rhagor o wybodaeth am drin affasia.

Am wybod rhagor?

Problemau llyncu

Gall y niwed a achosir gan strôc ymyrryd â'ch atgyrch llyncu arferol, gan ei gwneud yn bosibl i ronynnau bach o fwyd fynd i mewn i'ch corn gwddf.

Gelwir problemau gyda llyncu'n ddysffagia. Gall dysffagia arwain at niwed i'ch ysgyfaint, a all sbarduno haint ar yr ysgyfaint (niwmonia).

Gall fod angen eich bwydo drwy ddefnyddio tiwb bwydo yn ystod eich cyfnodau adfer cychwynnol er mwyn atal cymhlethdodau o ddysffagia.

Mae'r tiwb fel arfer yn cael ei roi i mewn i'ch trwyn a'i basio i mewn i'ch stumog (tiwb nasogastrig), neu gellir ei gysylltu'n uniongyrchol â'ch stumog drwy fân lawdriniaeth lawfeddygol a gynhelir drwy ddefnyddio anesthetig lleol (gastrostomi endosgopig drwy'r croen).

Yn yr hirdymor, byddwch fel arfer yn gweld therapydd lleferydd ac iaith sawl gwaith yr wythnos ar gyfer triniaeth i reoli eich problemau llyncu.

Gall y driniaeth gynnwys awgrymiadau i hwyluso llyncu, fel cnoi bwyd yn ddarnau llai a chyngor ar ystum y corff, ac ymarferion i wella rheolaeth o'r cyhyrau a ddefnyddir wrth lyncu.

Rhagor o wybodaeth am drin dysffagia.

Am wybod rhagor?

Problemau golwg

Gall strôc weithiau niweidio'r rhannau o'r ymennydd sy'n derbyn, yn prosesu ac yn dehongli gwybodaeth a anfonir gan y llygaid.

Gall hyn arwain at golli hanner y maes golwg – er enghraifft, gallu gweld dim ond i'r chwith neu i'r dde o'r hyn sydd o'ch blaen.

Gall strociau hefyd effeithio ar reolaeth o ran symud cyhyrau'r llygaid. Gall hyn achosi golwg dwbl.

Os ydych yn cael problemau gyda'ch golwg ar ôl strôc, byddwch yn cael eich atgyfeirio i arbenigwr llygaid a elwir yn orthoptydd, a all asesu eich golwg ac awgrymu triniaethau posibl.

Er enghraifft, os ydych wedi colli rhan o'ch maes golwg, mae'n bosibl y cewch gynnig therapi symud llygaid. Mae hyn yn cynnwys ymarferion i'ch helpu i edrych i'r ochr gyda'r golwg llai.

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn cael cyngor am ffyrdd penodol o gyflawni tasgau a all fod yn anodd os oes gennych lai o olwg ar un ochr, fel gwisgo.

Am wybod rhagor?

Rheoli'r bledren a'r coluddyn

Mae rhai strociau'n niweidio'r rhan o'r ymennydd sy'n rheoli'r bledren a'r coluddyn. Gall hyn arwain at anymataliaeth wrinol ac anhawster rheoli'r coluddyn.

Mae'n bosibl y bydd rhai pobl sydd wedi cael strôc yn adennill eu gallu i reoli'r bledren a'r coluddyn yn eithaf cyflym, ond os ydych yn dal i gael problemau ar ôl gadael yr ysbyty, mae help ar gael gan yr ysbyty, eich meddyg teulu a chynghorwyr anymataliaeth arbenigol.

Gofynnwch am gyngor os ydych yn cael problem gan fod llawer o driniaethau a all helpu.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • ymarferion ailhyfforddi'r bledren
  • meddyginiaethau
  • ymarferion llawr y pelfis
  • defnyddio cynhyrchion anymataliaeth.

Rhagor o wybodaeth am drin anymataliaeth wrinol.

Am wybod rhagor?

Rhyw ar ôl strôc

Ni fydd cael rhyw yn eich rhoi mewn perygl uwch o gael strôc arall. Nid oes sicrwydd na fyddwch yn cael strôc arall, ond nid oes rheswm pam y dylai ddigwydd wrth i chi gael rhyw.

Hyd yn oed os oes gennych anabledd difrifol yn sgil strôc, gallwch arbrofi gyda safleoedd gwahanol a dod o hyd i ffyrdd newydd o gael cyfathrach rywiol â'ch partner.

Byddwch yn ymwybodol y gall rhai meddyginiaethau leihau eich awydd am ryw (libido), felly sicrhewch fod eich meddyg yn gwybod os ydych yn cael problem – mae'n bosibl bod meddyginiaethau eraill a all helpu.

Mae rhai dynion yn cael problemau gyda chodiad ar ôl strôc.

Siaradwch â'ch meddyg teulu neu eich tîm adsefydlu os yw hyn yn digwydd, gan fod sawl triniaeth a all helpu.

Am wybod rhagor?

Gyrru ar ôl strôc

Os ydych wedi cael strôc neu bwl o isgemia dros dro, ni chewch yrru am fis. Bydd gyrru eto'n dibynnu ar ba anableddau hirdymor sydd gennych a'r math o gerbyd rydych yn ei yrru.

Yn aml, nid problemau corfforol sy'n gwneud gyrru yn beryglus, ond problemau gyda chanolbwyntio, golwg, amser ymateb ac ymwybyddiaeth a all ddatblygu ar ôl strôc.

Gall eich meddyg teulu eich cynghori a gewch ddechrau gyrru eto fis ar ôl eich strôc, neu a oes angen i chi gael asesiad arall mewn canolfan symudedd.

Am wybod rhagor?

Atal rhagor o strociau

Os ydych wedi cael strôc, mae'r tebygolrwydd y byddwch yn cael un arall yn sylweddol uwch.

Fel arfer, bydd angen triniaeth hirdymor arnoch gyda meddyginiaethau sy'n gwella'r ffactorau risg ar gyfer eich strôc.

Er enghraifft:

Byddwch hefyd yn cael eich annog i wneud newidiadau i'ch ffordd o fyw er mwyn gwella eich iechyd cyffredinol a lleihau eich risg o strôc, fel:

  • bwyta deiet iach
  • ymarfer corff yn rheolaidd
  • rhoi'r gorau i smygu os ydych yn smygu
  • yfed llai o alcohol.

Gofalu am rywun sydd wedi cael strôc

Mae llawer o ffyrdd y gallwch roi cymorth i ffrind neu berthynas sydd wedi cael strôc.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • helpu i wneud ei ymarferion ffisiotherapi rhwng ei sesiynau gyda'r ffisiotherapydd
  • rhoi cymorth emosiynol a sicrwydd y bydd ei gyflwr yn gwella gyda threigl amser
  • helpu i'w ysgogi i gyrraedd ei nodau hirdymor
  • addasu i anghenion sydd ganddo, megis siarad yn araf os oes ganddo broblemau cyfathrebu

Gall gofalu am rywun ar ôl iddo gael strôc fod yn brofiad rhwystredig ac unig. Gall y cyngor a amlinellir isod helpu.

Byddwch yn barod am ymddygiad sydd wedi newid

Yn aml, gall rhywun sydd wedi cael strôc ymddangos fel pe bai wedi cael newid mewn personoliaeth ac ymddangos ei fod yn ymddwyn yn afresymegol ar adegau.

Mae hyn o ganlyniad i effaith seicolegol a gwybyddol y strôc.

Gall fynd yn ddig neu'n chwerw tuag atoch. Er bod hyn yn peri gofid, ceisiwch beidio â'i gymryd yn bersonol.

Mae'n bwysig cofio y bydd, yn aml, yn mynd yn ôl fel yr oedd wrth i'w raglenni adsefydlu a gwella symud yn eu blaen.

Ceisiwch aros yn amyneddgar ac yn gadarnhaol

Gall adsefydlu fod yn broses araf a rhwystredig, a bydd cyfnodau pan fydd yn ymddangos nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud.

Gall annog a chanmol unrhyw gynnydd, ni waeth pa mor fach y mae'n ymddangos, helpu i ysgogi rhywun sydd wedi cael strôc i gyflawni ei nodau hirdymor.

Neilltuwch amser i chi'ch hun

Os ydych yn gofalu am rywun sydd wedi cael strôc, mae'n bwysig peidio ag esgeuluso'ch llesiant corfforol a seicolegol eich hunan.

Bydd cymdeithasu gyda ffrindiau neu ddilyn diddordebau hamdden yn eich helpu i ymdopi'n well â'r sefyllfa.

Gofynnwch am help

Mae amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth ac adnoddau ar gael i bobl sy'n adfer o strociau, a'u teuluoedd a'u gofalwyr..

Mae hyn yn amrywio o gyfarpar a all helpu gyda symudedd, i gymorth seicolegol i ofalwyr a theuluoedd.

Gall staff yr ysbyty sy'n ymwneud â'r broses adsefydlu gynnig cyngor a gwybodaeth gyswllt.

Atal

Y ffordd orau o helpu i atal strôc yw bwyta deiet iach, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, ac osgoi smygu ac yfed gormod o alcohol.

Gall y newidiadau hyn i'ch ffordd o fyw leihau'r perygl y byddwch yn cael problemau fel:

Os ydych eisoes wedi cael strôc, gall y newidiadau hyn helpu i leihau'r perygl y byddwch yn cael un arall yn y dyfodol.

Deiet

Gall bwyta deiet afiach gynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn cael strôc oherwydd y gall arwain at gynnydd yn eich pwysedd gwaed a'ch lefelau colesterol.

Fel arfer, argymhellir deiet braster isel, ffeibr uchel, gan gynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres (5 dogn y dydd) a bwyd grawn cyflawn.

Mae sicrhau cydbwysedd yn eich deiet yn bwysig. Peidiwch â bwyta gormod o un math penodol o fwyd, yn enwedig bwydydd sy'n uchel mewn halen a bwydydd wedi'u prosesu.

Dylech gyfyngu ar yr halen rydych yn ei fwyta i beidio â bwyta mwy na 6g (0.2oz) y dydd gan y bydd gormod o halen yn cynyddu eich pwysedd gwaed. Oddeutu un llwyaid de yw 6g o halen.

Rhagor o wybodaeth am fwyta'n iach a cholli pwysau.

Ymarfer corff

Cyfuno deiet iach ag ymarfer corff rheolaidd yw'r ffordd orau o gynnal pwysau iach.

Gall ymarfer corff rheolaidd hefyd helpu i leihau eich colesterol a chadw eich pwysedd gwaed yn iach.

I'r rhan fwyaf o bobl, argymhellir o leiaf 150 munud (2 awr a 30 munud) o weithgarwch aerobig dwysedd cymedrol, fel beicio neu gerdded yn gyflym, bob wythnos.

Os ydych yn gwella o strôc, dylech drafod cynlluniau ymarfer corff posibl â'r aelodau o'ch tîm adsefydlu.

Efallai na fydd ymarfer corff rheolaidd yn bosibl yn ystod yr wythnosau neu fisoedd cyntaf ar ôl strôc, ond dylech allu dechrau ymarfer corff pan fydd eich rhaglen adsefydlu wedi datblygu.

Rhoi'r gorau i smygu

Mae smygu'n cynyddu'n sylweddol y perygl y byddwch yn cael strôc. Y rheswm dros hyn yw ei fod yn culhau'ch rhydwelïau ac yn gwneud eich gwaed yn fwy tebygol o glotio.

Gallwch leihau'r perygl y byddwch yn cael strôc drwy roi'r gorau i smygu.

Bydd peidio â smygu hefyd yn gwella eich iechyd cyffredinol ac yn lleihau'r perygl y byddwch yn datblygu cyflyrau difrifol eraill, fel canser yr ysgyfaint a chlefyd y galon.

Ffoniwch Helpa Fi i Stopio ar 0800 085 2219 am gyngor.

Yfed llai o alcohol

Gall yfed gormod o alcohol arwain at bwysedd gwaed uchel a sbarduno curiad calon afreolaidd (ffibriliad atrïaidd), y gall y ddau ohonynt gynyddu'r tebygolrwydd y byddwch yn cael strôc.

Oherwydd bod diodydd alcohol yn uchel mewn calorïau, maent hefyd yn achosi magu pwysau. Mae yfed trwm yn lluosi'r perygl y byddwch yn cael strôc o fwy na 3 gwaith.

Os dewiswch yfed alcohol ac rydych wedi gwella'n llawn, dylech hefyd geisio peidio ag yfed mwy na'r terfynau a argymhellir:

  • cynghorir dynion a menywod i beidio ag yfed mwy na 14 o unedau'r wythnos yn rheolaidd
  • yfwch dros 3 diwrnod neu fwy os ydych yn yfed cymaint â 14 o unedau'r wythnos

Os nad ydych wedi gwella'n llawn o'ch strôc, mae'n bosibl y byddwch yn gweld eich bod wedi dod yn arbennig o sensitif i alcohol a gall hyd yn oed y terfynau diogel a argymhellir fod yn ormod i chi.

Rhagor o wybodaeth am yfed ac alcohol.

Rheoli cyflyrau sy'n bodoli eisoes

Os ydych wedi cael diagnosis o gyflwr y mae'n hysbys ei fod yn cynyddu'r perygl y byddwch yn cael strôc – mae sicrhau bod y cyflwr yn cael ei reoli'n dda hefyd yn bwysig i helpu i atal strociau.

Gall y newidiadau i'ch ffordd o fyw y soniwyd amdanynt uchod helpu i reoli'r cyflyrau hyn i raddau helaeth, ond mae hefyd yn bosibl y bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth reolaidd.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y canlynol:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 13/03/2024 12:33:58