Vaccination menu links


Booster 4-mewn-1 cyn-ysgol

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant cyn oed ysgol, a adwaenir hefyd fel y brechlyn DTaP/IPV (neu dTaP/IPV) neu’n syml y ‘brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol’, yn cael ei roi i blant tair blwydd oed er mwyn hybu eu hamddiffyniad yn erbyn:

Mae plant yn cael eu brechu yn erbyn yr afiechydon hyn fel mater o drefn pan fyddant yn fabanod. Mae’r brechlyn atgyfnerthu hwn yn cynyddu eu himiwnedd ymhellach fyth.

Pwy ddylai gael y brechlyn 4 mewn 1?

Rhoddir y brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant o dair blwydd a phedwar mis oed ymlaen. Gellir ei roi ar unrhyw adeg hyd nes y byddant yn dechrau yn yr ysgol.

Mae dau frechlyn 4 mewn 1 gwahanol ar gael. Mae un yn cynnwys difftheria cryfder uwch (DTaP/IPV) ac mae ganddo’r enw brand Infanrix-IPV. Mae’r llall yn cynnwys difftheria cryfder is (dTaP/IPV) ac mae ganddo’r enw brand REPEVAX.

Dangoswyd bod y ddau frechlyn yn rhoi ymatebion atgyfnerthu da, felly nid oes gwahaniaeth pa un a roddir i’ch plentyn fel brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol.

Pa mor effeithiol yw’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant cyn oed ysgol?

Mewn treialon clinigol, roedd mwy na 99% o’r plant y rhoddwyd y brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol iddynt wedi datblygu amddiffyniad yn erbyn tetanws, difftheria, y pâs a pholio.

Mae’r brechlynnau’n diogelu plant rhag yr heintiau hyn hyd nes y cânt eu brechlyn atgyfnerthu i’r rhai yn eu harddegau rhwng 13 a 18 oed.

Pa mor ddiogel yw’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1?

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant cyn oed ysgol yn ddiogel iawn. Cyn iddo gael ei drwyddedu, profwyd diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd y brechlyn cyn oed ysgol yn drylwyr, yn yr un modd â phob brechlyn. Nid yw’n cynnwys thiomersal (mercwri).

Er ei fod yn ddiogel iawn, gall y brechlyn atgyfnerthu cyn oed ysgol, fel brechlynnau eraill, achosi sgil-effeithiau mewn rhai plant.

Darllenwch fwy ynghylch sgil-effeithiau’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant cyn oed ysgol.

Darllenwch atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â’r brechlyn atgyfnerthu 4 mewn 1 i blant cyn oed ysgol gan rieni.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk