O fewn yr EU

Trefniadau Gofal Iechyd Cyfatebol o fewn yr UE

  • Gall preswylwyr y DU gael gofal iechyd sy’n angenrheidiol yn feddygol pan fyddant yn ymweld â gwledydd yr UE. Gellir cael y gofal hwn drwy ddefnyddio Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (GHIC) neu Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd y DU (EHIC y DU), os oes gennych hawliau o dan y Cytundeb Ymadael. Bydd y ddau yn cael eu rhoi gan Lywodraeth y DU.
  • Mae gan bensiynwyr y DU, ynghyd â gweithwyr trawsffiniol, gweithwyr wedi'u hadleoli a gweithwyr eraill sy'n gweithio ar draws ffiniau, a'u dibynyddion, fynediad llawn at ofal iechyd gwladol yng ngwledydd yr UE drwy dystysgrif S1 os ydynt yn gymwys.
  • Gall pensiynwyr y DU a'u dibynyddion sydd â thystysgrif S1 a roddwyd cyn 31 Rhagfyr 2020 gael mynediad llawn at ofal iechyd gwladol yn y wlad yn yr UE y maent yn ymddeol iddi a gallant ddychwelyd i'r DU am driniaeth os dymunant. Gall preswylwyr gwledydd yr UE sydd â thystysgrif S1 a roddwyd gan un o wledydd yr UE gael mynediad at ofal iechyd yn y DU yn yr un modd.
  • Gall preswylwyr y DU ac aelodau o'u teulu gael mynediad at ofal iechyd wedi’i gynllunio a thriniaeth mamolaeth mewn aelod-wladwriaeth o'r UE drwy Dystysgrif S2.
  • Ni all preswylwyr y DU ddefnyddio llwybr cyfarwyddeb yr UE mwyach wedi i'r DU ymadael â’r UE, oni bai bod cais ar y gweill ar 31 Rhagfyr 2020 neu os cafwyd mynediad at driniaeth cyn 11pm ar 31 Rhagfyr 2020.

Bydd Llywodraeth y DU yn talu i'r wlad yn yr UE am driniaeth i gleifion o’r DU yn y wlad honno sydd â cherdyn GHIC, EHIC neu EHIC y DU, neu dystysgrif S1 neu S2. Mae angen talu rhai gwledydd ymlaen llaw a gall cleifion hawlio'r costau hyn yn ôl gan Lywodraeth y DU.

Bydd costau cleifion o'r UE sy'n cael triniaeth yn y DU ac sydd â cherdyn EHIC neu dystysgrif S1 neu S2 (gweler y dudalen ar driniaeth feddygol wedi’i chynllunio yn yr UE, EEA/EFTA a'r Swistir) yn cael eu talu i Lywodraeth y DU gan y wlad honno.

Cerdyn Yswiriant Iechyd Byd-eang (GHIC) a Cherdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) a Cherdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd y DU (EHIC y DU)

Mae GHIC, EHIC ac EHIC y DU yn rhoi’r hawl i breswylwyr y DU sy'n teithio yn yr UE gael mynediad at ofal iechyd brys a gofal iechyd sy'n angenrheidiol yn feddygol, gan gynnwys triniaeth sy'n angenrheidiol yn feddygol ar gyfer cyflwr sy'n bodoli eisoes neu gyflwr cronig. Ni ellir defnyddio’r cardiau hyn ar gyfer unrhyw driniaeth feddygol wedi’i chynllunio.

Mae'r GHIC yn disodli’r EHIC, sy'n parhau'n ddilys yn yr UE tan y dyddiad y daw i ben. Bydd rhai unigolion sydd â hawliau o dan y Cytundeb Ymadael yn cael cadw EHIC y DU.

Gallwch wneud cais am GHIC newydd, neu am EHIC y DU, yn rhad ac am ddim yn: Gofal Iechyd Dramor - EHIC a GHIC, lle ceir rhagor o fanylion ynglŷn â hawliau a'r hyn a gynhwysir yn y cynlluniau.

Os oes angen triniaeth feddygol arnoch ac nad yw eich cerdyn GHIC, EHIC neu EHIC y DU gennych, bydd angen ichi wneud cais am Dystysgrif Dros Dro (PRC) i ddangos tystiolaeth o'ch hawl.

Cynghorir yn gryf y dylai pawb sy’n teithio o’r DU i'r UE gael yswiriant teithio yn ogystal â cherdyn GHIC, EHIC neu EHIC y DU gan ei bod yn bosibl na fydd y rhain yn talu am yr holl gostau sy'n deillio o driniaeth sy'n angenrheidiol yn feddygol e.e. dychwelyd claf i'w wlad ei hun.  Efallai y codir arnoch am beth o'r gofal iechyd a gewch, neu’r cyfan ohono.

Cliciwch yma i gael gwybodaeth am Yswiriant Teithio Tramor ar dudalennau Llywodraeth y DU.

Dylech wirio'r hyn y mae eich cerdyn GHIC, EHIC neu EHIC y DU yn ei gynnwys ar gyfer y wlad rydych chi'n ymweld â hi: Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd.

Y Cytundeb Ymadael

Os oes gennych hawliau o dan y Cytundeb Ymadael â’r UE bydd eich hawl i ofal iechyd yn parhau i fod yr un fath ag yr oedd cyn 31 Rhagfyr 2020.
 

Triniaeth Feddygol wedi'i Chynllunio – Llwybr Ariannu S2

Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael cyllid gan y GIG ar gyfer triniaeth iechyd wedi’i chynllunio yn un o wledydd yr UE neu yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir gan ddefnyddio tystysgrif S2.

Gweler ein tudalen ar Driniaeth Feddygol wedi’i Chynllunio yn yr UE, EEA/EFTA a'r Swistir – Llwybr Cyllid S2

Gofal Iechyd yng Nghymru ar ôl 1 Ionawr 2021

Os ydych yn un o ddinasyddion yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir a oedd yn byw'n gyfreithlon yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020, gallwch ddefnyddio'r GIG yng Nghymru a chael mynediad at wasanaethau'r GIG yn rhad ac am ddim os ydych wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE am statws sefydlog neu statws cyn-sefydlog, wedi gwneud cais ac yn meddu ar Dystysgrif Gais tra'n aros am benderfyniad, neu wedi apelio ac yn aros am benderfyniad.

Cymorth ac arweiniad ychwanegol: Y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

 

Gofal Iechyd yn Iwerddon

Mae trefniant yr Ardal Deithio Gyffredin rhwng Iwerddon a'r DU yn golygu y caiff dinasyddion Iwerddon sy'n byw yn y DU a dinasyddion y DU sy'n byw yn Iwerddon fynediad at ofal iechyd y GIG yn rhad ac am ddim yn y wlad y maent yn byw ynddi.

Gofal Iechyd yn Iwerddon. 


Astudio yn y DU

Os ydych yn un o ddinasyddion yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir a'ch bod wedi dechrau astudio mewn sefydliad addysg uwch achrededig yn y DU ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny, gallwch ddefnyddio eich EHIC i gael gofal iechyd meddygol angenrheidiol tan ddiwedd y cwrs.

Os oedd y cwrs yn para ar ôl 30 Mehefin 2021, gallwch wneud cais o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog os ydych chi neu’ch teulu yn dod o’r UE, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a’r Swistir a’ch bod yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Os dechreuodd y cwrs ar ôl 1 Ionawr 2021 a’i fod yn para am fwy na chwe mis, rhaid talu'r Gordal Iechyd Mewnfudo wrth wneud cais am eich fisa myfyriwr. Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael ad-daliad o'r arian a dalwyd am yr IHS os ydych yn gymwys.