Gyda gweddill y Byd
Trefniadau Gofal Iechyd Cyfatebol Cyfredol â Gwledydd Gweddill y Byd
Gwledydd Gweddill y Byd yw'r gwledydd heblaw gwledydd yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a'r Swistir.
Mae gan Lywodraeth y DU gytundebau gofal iechyd cyfatebol gyda rhai o’r gwledydd yng ngweddill y byd.
Mae natur y cytundebau hyn yn golygu y byddwch yn aml yn cael eich trin fel pe baech yn breswylydd yn y wlad rydych yn ymweld â hi. Ni fydd yn rhaid ichi dalu am driniaeth y mae'r cytundeb yn rhoi'r hawl ichi ei chael cyn belled ag y gallwch brofi eich bod yn ddinesydd y DU neu'n breswylydd cyfreithlon yn y wlad.
Ewch i dudalennau gofal iechyd cyfatebol Llywodraeth y DU i gael rhagor o fanylion am y Cytundebau Gofal Iechyd â Gwledydd Gweddill y Byd.
Mae'n bwysig nodi na fydd pob cytundeb yr un fath ym mhob gwlad a dylech wirio eu trefniadau. Er enghraifft, yn gyffredinol, dim ond triniaeth feddygol ar unwaith y bydd gan ymwelwyr sy'n teithio i'r DU hawl i’w chael am ddim, ac ni fydd y cytundebau fel arfer yn berthnasol pan fydd unigolion yn teithio i'r DU i gael gofal iechyd wedi’i gynllunio.
Mae rhai o wledydd Gweddill y Byd yn darparu gofal iechyd angenrheidiol i bobl sydd â GHIC y DU neu EHIC y DU. Gweler Cael Gofal Iechyd Dramor gyda GHIC y DU neu EHIC y DU am ragor o fanylion.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn Cyngor ar Deithio Dramor.
Teithio i'r DU o wledydd eraill y byd
Nid yw'r trefniadau rhwng gwledydd y DU a gwledydd gweddill y byd wedi newid o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.
Mae’n debygol y codir tâl am driniaeth nad yw’n argyfwng ar ymwelwyr â'r DU am gyfnodau hyd at chwe mis, oni bai eu bod wedi'u heithrio. Mae'r costau'n daladwy i'r Bwrdd Iechyd Lleol. Cliciwch yma i weld rhestr o Fyrddau Iechyd Cymru.
Mae'n ofynnol i ymwelwyr â'r DU am gyfnod o fwy na chwe mis dalu'r Gordal Iechyd Mewnfudo ar adeg gwneud cais am fisa: Talu am ofal iechyd y DU fel rhan o'ch cais mewnfudo.
Dolenni perthnasol eraill:
https://www.gov.uk/guidance/uk-residents-visiting-the-eueea-and-switzerland-healthcare.
https://www.gov.uk/eu-eea. (Gwledydd yn yr UE a'r AEE).