Gwybodaeth beichiogrwydd


Genedigaeth Ffolennol

Beth yw genedigaeth ffolennol?

Os ydy eich baban yn ffolennol, mae'n golygu ei fod ef neu hi'n gorwedd gyda'i ben ôl i lawr. Mae hyn yn gwneud y geni'n fwy cymhleth. Bydd eich obstetrydd a bydwraig yn trafod beth fyddai'r gofal gorau a mwyaf diogel gyda chi. Byddwch yn cael eich cynghori i roi genedigaeth mewn ysbyty.

Troad ceffalig allanol (ECV)

Fel rheol fe gynigir troad ceffalig allanol (ECV) ichi  Dyma pryd fydd obstetrydd yn ceisio troi'r baban pen-i-lawr (ceffalig) trwy bwyso ar eich bola. Heblaw bod problemau eraill, argymhellir ECV gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynecolegwyr. Mae hi'n ddiogel ac er nad yw hi'n bosib troi ond 50% o fabanod, fel arfer fe fyddan nhw'n aros pen i lawr, gan roi'r cyfle i chi gynllunio genedigaeth arferol. 

Os nad yw ECV yn gweithio, bydd angen trafod eich dewisiadau gyda'ch bydwraig a'ch obstetrydd. Mae'n debyg y cynigir toriad cesaraidd i chi. Hyn yw dull eni mwyaf diogel i fabanod ffolennol, ond mae'n achosi risg ychydig yn uwch i chi. Os ydych yn bwriadu cael toriad cesaraidd, ac yna yn dechrau esgor cyn y llawdriniaeth, dylai eich obstetrydd eich asesu a phenderfynu a ddylid bwrw ymlaen gyda genedigaeth cesaraidd. Os yw'r baban yn agos at gael ei eni, gall fod yn fwy diogel i chi gael genedigaeth ffolennol drwy'r wain.

Mae gan Goleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr (RCOG) fwy o wybodaeth ar:

Dywed y RCOG gallwch gael eich cynghori yn erbyn esgoriad ffolennol drwy'r wain os:

  • bydd traed eich baban yn is na'i ben ôl (a elwir yn 'draed i lawr', neu'n 'footling breech' yn y Saesneg)
  • bydd eich baban yn fawr (dros 3.8kg neu 8.4 pwys)
  • bydd eich baban yn fach (llai na 2kg 4.4 pwys)
  • bydd eich baban mewn safle penodol, er enghraifft, os bydd y gwddf yn gwyro yn ôl
  • ydych wedi cael genedigaeth cesaraidd o blaen
  • oes gennych belfis cul (mae llai o le i'r baban basio yn ddiogel drwy'r sianel eni)
  • os oes gennych frych isel
  • os oes gyn-eclampsia arnoch chi

Last Updated: 25/05/2023 11:00:08
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk