Gwybodaeth beichiogrwydd


Sut gall eich Partner Geni Helpu

Cefnogaeth yn ystod y cyfnod esgor a'r enedigaeth

Pwy bynnag fydd eich partner geni - tad y baban, ffrind neu berthynas - mae yna amryw o bethau ymarferol y gall ef neu hi ei wneud i'ch helpu.

Y peth pwysicaf gall eich partner geni ei wneud yw bod yna drosoch chi. Siaradwch â'ch partner geni ymlaen llaw am yr hyn y byddech chi am ddigwydd a phethau y byddai'n well gennych eu hosgoi fel y gallai eich cefnogi yn eich penderfyniadau. Gall fod o gymorth i chi fynd drwy'ch cynllun geni gyda'ch gilydd.

Nid oes unrhyw ffordd o wybod sut bydd eich esgor yn datblygu na sut bydd y ddau ohonoch yn ymdopi, ond mae sawl ffordd y gall eich partner eich helpu. Mae e/hi'n gallu:

  • cadw cwmni i chi a'ch helpu i basio'r amser yn ystod cyfnod cynnar yr esgor
  • dal eich llaw, sychu eich wyneb, rhoi dŵr i chi
  • tylino eich cefn ac ysgwyddau, eich helpu i symud o gwmpas neu newid sut rydych yn gorwedd, neu unrhyw beth arall sy'n helpu
  • eich cysuro wrth i'r esgor mynd yn ei flaen ac wrth i'ch cyfangiadau ddod yn gryfach
  • eich atgoffa chi sut i ddefnyddio technegau ymlacio ac anadlu, efallai trwy anadlu gyda chi os yw hynny'n helpu
  • cefnogi eich penderfyniadau, fel y cynllun lleddfu poen rydych wedi ei ddewis
  • eich helpu i egluro i'r fydwraig neu'r meddyg yr hyn yr ydych ei angen - ac i'r gwrthwynebu hefyd - sy'n gallu eich helpu i deimlo bod gennych reolaeth ar y sefyllfa
  • dweud wrthych beth sy'n digwydd wrth i'ch baban gael ei eni, os nad ydych yn gallu gweld beth sy'n mynd ymlaen

O bosib y bydd eich partner geni yn cael torri'r llinyn bogail - siaradwch â'r fydwraig am hyn.

Gweld eich baban am y tro cyntaf

I lawer o rieni, mae bod gyda'i gilydd yn ystod yr esgor a chroesawu eu baban gyda'i gilydd yn brofiad na allant ddechrau ei ddisgrifio mewn geiriau. Mae llawer tad sydd wedi gweld ei faban yn cael ei eni, ac yn cymryd rhan yn y geni, yn dweud eu bod yn teimlo'n llawer agosach at y plentyn o'r cychwyn cyntaf.

Gall eich partner gael gwybod mwy am sut i roi cymorth i chi yn ystod beichiogrwydd ac esgor yn 'Tadau a Partneriaid'.

Dysgwch mwy am deimladau a pherthnasoedd yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys pryderon am yr enedigaeth a rhyw yn ystod beichiogrwydd.

Gwnewch yn siwr eich bod chi â'ch partner yn gwybod beth i'w bacio ar gyfer yr enedigaeth, a beth i'w ddisgwyl yn yr ysbyty neu'r uned mamolaeth os ydych yn bwriadu cael eich baban yno.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:46:05
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk