Gwybodaeth beichiogrwydd


Creu eich Cynllun Geni

Heb wybod beth yw cynllun geni?

Cyn i chi ddechrau llenwi'r cynllun geni,  dysgwch am y pynciau y bydd angen i chi ystyried, megis lleddfu poen, lle y byddech yn hoffi rhoi genedigaeth, pwy fyddech yn hoffi bod gyda chi, a sut rydych yn teimlo am ymyraeth fel genedigaeth gan ddefnyddio gefel neu ventouse.

Pam mae creu cynllun geni yn bwysig?

Mae cynllun geni yn gofnod o'r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd yn ystod eich cyfnod esgor ac ar ôl yr enedigaeth. Nid oes rhaid i chi greu cynllun geni, ond os oes arnoch chi eisiau, gallwch ddefnyddio'r ffurflen isod i'w wneud un neu gall eich bydwraig eich helpu. Bydd trafod eich cynllun geni gyda'ch bydwraig yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a chael gwybod mwy am beth sy'n digwydd yn ystod esgor. Mae hefyd yn rhoi cyfle i'ch bydwraig ddod i'ch adnabod chi'n well ac i ddeall eich teimladau a'ch blaenoriaethau.

Mae'n debyg y byddwch am feddwl am a thrafod rhai pethau'n llawnach â thad y baban, eich cyfeillion a pherthnasau. Cofiwch fe fedrwch chi newid eich meddwl am eich dymuniadau am yr esgor a'r enedigaeth unrhyw bryd.

Eich amgylchiadau personol

Mae'ch cynllun geni yn bersonol i chi. Bydd yn dibynnu nid yn unig ar yr hyn rydych eisiau ond hefyd ar eich hanes meddygol, eich amgylchiadau eich hun, a beth sydd yn cael ei ddarparu gan eich gwasanaeth mamolaeth. Efallai na fydd yr hyn sydd yn ddiogel ac yn ymarferol i un fenyw feichiog yn syniad da i un arall.

Gall fod ffurflen arbennig i'w lenwi ar gyfer eich cynllun geni, neu efallai bydd yna le yn eich nodiadau mamolaeth. Mae'n syniad da cadw copi o'ch cynllun geni gyda chi. Bydd y tîm mamolaeth a fydd yn gofalu amdanoch yn ystod y cyfnod esgor yn ei drafod gyda chi fel eu bod yn gwybod beth rydych yn dymuno. Ond cofiwch, mae angen i chi fod yn hyblyg ac yn barod i newid pethau yn eich cynllun geni os bydd cymhlethdodau'n codi gyda chi neu'ch baban. Bydd y tîm mamolaeth yn dweud wrthych beth ydynt yn cynghori yn eich amgylchiadau penodol. Peidiwch ag oedi rhag gofyn cwestiynau.

Pethau i'w hystyried

Gallwch ddysgu mwy am y pethau mae angen i chi feddwl amdanynt pan fyddwch yn gwneud eich cynllun geni:

Beth sy'n digwydd yn ystod esgor a genedigaeth

Lleddfu poen

Ble gallwch roi genedigaeth

Gefeiliau neu ventouse (genedigaeth ymyraeth neu offerynnol)

Toriad cesaraidd

Eich babi ar ôl yr enedigaeth

Gallwch benderfynu a oes unrhyw beth rydych yn teimlo'n gryf amdano ac yn dymuno ei gynnwys. Efallai y byddwch am argraffu rhywfaint o wybodaeth o'r wefan hon i fynd â chi i drafod â'ch bydwraig.

Gallwch chi a'ch partner hefyd meddwl am yr hyn y gall eich partner ei wneud i'ch cynorthwyo yn ystod yr esgor.

Sut mae defnyddio eich cynllun geni

Yn syml, argraffwch fersiwn wag o'r cynllun er mwyn i chi ei lenwi â llaw pan fyddwch yn barod. I wneud hyn cliciwch ar 'argraffu ffurflen cynllun genedigaeth wag' isod.

Argraffu ffurflen cynllun genedigaeth wag


Last Updated: 12/07/2023 11:35:40
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk