Gwybodaeth beichiogrwydd


Episiotomi

Weithiau, yn ystod y broses o roi genedigaeth, bydd meddyg neu fydwraig yn gwneud toriad ym mherinewm fenyw (y croen rhwng y wain a'r anws). Mae'r toriad yn gwneud agoriad y wain ychydig yn ehangach gan ganiatau i'r baban ddod drwyddo yn haws.

Yng Nghymru, nid yw episiotomi yn cael ei wneud fel mater o drefn. Mae NICE (Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol) yn argymell y dylai episiotomi gael ei ystyried os bydd y baban mewn trallod ac mae angen ei eni yn gyflym, neu os oes angen clinigol, megis genedigaeth sydd angen gefeiliau neu gwpan sugno (ventouse). Mae tua un o bob saith o enedigaethau yn cynnwys episiotomi.

Mewn rhai merched, gall y perinewm rhwygo yn ystod genedigaeth wrth i'r baban ddod allan. Os cewch chi rwyg neu episiotomi, mae'n debyg y bydd angen pwythau i'w adfer,  gan ddibynu ar natur y clwyf. Os yw eich meddyg neu fydwraig yn teimlo bod angen episiotomi arnoch tra byddwch yn esgor, byddant yn trafod hyn gyda chi.

Dylai'r pwythau a ddefnyddir yn ystod episiotomi gwella o fewn y mis. Fel arfer mae pwythau hydoddol yn cael eu defnyddio, felly ni fydd angen i chi fynd yn ôl i'r ysbyty i'w tynnu.

Mae'n debyg y byddwch yn teimlo rhywfaint o boen yn gysylltiedig â'r episiotomi am ddwy neu dair wythnos ar ôl genedigaeth eich baban. Gall rhyw hefyd fod yn boenus yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl episiotomi.

Ffoniwch eich bydwraig neu feddyg teulu os ydych wedi cael episiotomi neu rwyg ac:

  •      mae eich pwythau'n mynd yn fwy poenus
  •      mae yna arllwysiad drewllyd
  •      mae croen coch, chwyddedig o amgylch y toriad (toriad) neu'r rhwyg - gallwch ddefnyddio drych i gael golwg

Gall unrhyw un o'r rhain olygu bod gennych haint.

Pam y bydd angen episiotomi?

Gall episiotomi gael ei argymell os bydd eich baban yn datblygu cyflwr a elwir yn drallod y ffoetws. Trallod y ffoetws yw pryd mae cyfradd curiad galon y baban yn cynyddu neu'n gostwng yn sylweddol cyn yr enedigaeth. Gall hyn olygu na fydd y baban yn cael digon o ocsigen, a bydd rhaid cael y baban allan yn gyflym i osgoi'r risg o ddiffygion geni neu farw-enedigaeth.

Os na fydd toriad cesaraidd yn briodol - er enghraifft, oherwydd bod pen y baban yn symud i lawr trwy'r wain eisoes, gall episiotomi fod y ffordd orau i gyflymu'r enedigaeth

Rheswm arall dros episiotomi yw pan fydd angen ehangu eich gwain fel y gall offer, megis gefeiliau neu gwpan sugno, gael eu defnyddio i gynorthwyo gyda'r enedigaeth. Gall hyn fod yn angenrheidiol os:

  • ydych yn cael genedigaeth ffolennol (nid yw'r baban yn ben i lawr)
  • ydych wedi bod yn ceisio rhoi genedigaeth am nifer o oriau ac wedi ymlâdd
  • os oes arnoch gyflwr iechyd difrifol, fel clefyd y galon, sydd yn golygu y dylai genedigaeth fod mor gyflym â phosibl er mwyn lleihau unrhyw risg bellach i'ch iechyd

Os wnaethoch chi rwygo'n ddifrifol mewn genedigaeth flaenorol, nid yw hyn yn feddwl ei bod hi'n fwy tebygol y bydd angen episiotomi arnoch mewn genedigaeth ganlynol.

Sut mae episiotomi yn cael ei berfformio? 

Mae episiotomi fel arfer yn broses syml. Mae anesthetig lleol yn cael ei ddefnyddio i rewi'r croen o amgylch y wain felly ni fyddwch yn teimlo unrhyw boen. Os ydych eisoes wedi cael epidwral, gall y dos gael ei chodi cyn i'r toriad cael ei wneud.

Pryd bynnag y bo modd, bydd y meddyg neu'r fydwraig yn gwneud toriad bach, lletraws o gefn y fagina gan gyfeirio at i lawr ac allan ar un ochr. Yn dilyn genedigaeth eich baban, bydd y toriad yn cael ei bwytho nôl at ei gilydd gan ddefnyddio pwythau hydoddol.

Gwella ar ôl episiotomi

Mae toriad episiotomi yn cael ei drwsio, fel arfer, o fewn awr ar ôl genedigaeth y baban. Efallai y bydd y toriad yn gwaedu cryn dipyn i ddechrau, ond gyda gwasgedd a phwythau dylai hyn stopio yn fuan.

Fel arfer, mae pwythau hydoddol yn cael eu defnyddio, felly ni fydd angen i chi fynd yn ôl i'r ysbyty i'w tynnu. Dylai pwythau gwella o fewn mis i'r enedigaeth. Siaradwch â'ch bydwraig neu obstetrydd ynghylch pa weithgareddau dylech osgoi tra byddwch yn gwella.

Ar ôl episiotomi, mae'n arferol i deimlo poen o amgylch y toriad am ddwy neu dair wythnos ar ôl yr enedigaeth, yn enwedig wrth gerdded neu eistedd. Gall pasio dŵr hefyd achosi i'r toriad bigo.

Ymdopi â phoen

Mae hi'n arferol profi tynerwch hyd at boen gymedrol ar ôl episiotomi. Gall cyffuriau lleddfu poen, fel parasetamol, helpu lleihau'r boen ac maent yn ddiogel i'w defnyddio tra rydych yn bwydo o'r fron. Mae ibwproffen yn ddiogel i'w ddefnyddio cyn belled â nad oedd eich baban yn gynamserol (h.y. ganwyd wythnos 37 o feichiogrwydd), nid oedd ei phwysau/ei bwysau geni yn isel ac nid oes gyflwr meddygol arni/arno. Nid yw aspirin yn cael ei argymell oherwydd y gellir trosglwyddo i'ch baban drwy laeth eich bron.

Gall ddefnyddio clustog, siâp toesen, neu wasgu eich ffolennau at ei gilydd tra byddwch yn eistedd hefyd yn help i leddfu'r pwysau a'r boen ar y rhan lle mae'r toriad.

Mae ymchwil yn awgrymu, ar ôl episiotomi, bydd tua 1% o ferched yn teimlo poen ddifrifol sy'n cael effaith ddifrifol ar eu gweithgaredd ddydd i ddydd ac ansawdd eu bywydau. Os bydd hyn yn digwydd, gall fod angen trin y boen â phoen laddwyr sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig, fel côdin. Fodd bynnag, os ydych yn cymryd poen laddwyr presgripsiwn, gallai effeithio ar eich gallu i fwydo ar y fron yn ddiogel. Bydd eich meddyg teulu neu fydwraig yn gallu rhoi cyngor pellach i chi am hyn. Mae'n anarferol i boen wedi llawdriniaeth bara am fwy na dwy na thair wythnos.

Gall osod pecyn rhewi neu giwbiau iâ wedi'u lapio mewn lliain ar y toriad yn aml yn help i leddfu'r boen. Ceisiwch osgoi gosod iâ yn uniongyrchol ar eich croen oherwydd y gallai hyn ei ddifrodi.

Gall adael y pwythau, a ddefnyddiwyd i selio'r toriad, agored i'r awyr iach sbarduno'r broses o wella. Gall dynnu eich dillad isaf a gorwedd ar liain ar eich gwely am tua 10 munud unwaith neu ddwywaith pob dydd bod o fudd.

Mynd i'r toiled

Cadwch y toriad a'r croen cyfagos yn lân er mwyn atal haint. Ar ôl mynd i'r toiled, arllwys dŵr cynnes dros eich gwain i'w golchi. Gall arllwys dŵr cynnes dros ran allanol y wain wrth i chi basio dŵr helpu i leddfu'r anghysur. Efallai y byddwch yn canfod bod sgwatio uwchben y toiled, yn hytrach nag eistedd arno, yn lleihau'r teimlad o bigo wrth basio dŵr.

Wrth i chi pasio carthion, efallai y byddwch yn gweld bod gosod defnydd glân ar y toriad a phwyso arno yn ysgafn yn gymorth. Gall hyn helpu i leihau'r pwysau ar y toriad. Wrth sychu eich pen-ôl, gwnewch yn siwr eich bod yn sychu yn ysgafn o'r blaen tua'r cefn gan y bydd hyn yn helpu i atal bacteria rhag heintio'r toriad a'r meinwe o'i amgylch.

Os ydych yn teimlo bod pasio carthion yn arbennig o boenus, gallwch gymryd cwrs byr o foddion gweithio'r corff. Mae'r math hwn o feddyginiaeth yn cael ei ddefnyddio fel arfer i drin rhwymedd ac yn gwneud carthion yn feddal ac yn haws i'w pasio. Gweler trin rhwymedd am fwy o wybodaeth.

Poen wrth gael rhyw

Nid oes unrhyw reolau ynghylch pryd i ail-ddechrau cael rhyw ar ôl i chi gael baban. Yn yr wythnosau ar ôl yr enedigaeth mae llawer o fenywod mewn poen yn ogystal â theimlo'n flinedig, p'un a ydynt wedi cael episiotomi neu beidio. Peidiwch â rhuthro i mewn iddo. Os bydd rhyw yn brifo, ni fydd yn bleserus.

Gallwch ddod yn feichiog cyn lleied â thair wythnos ar ôl genedigaeth y baban, hyd yn oed os ydych yn bwydo ar y fron ac nid yw eich mislif wedi ail-ddechrau eto. Defnyddiwch fodd o atal cenhedlu bob tro y byddwch yn cael rhyw ar ôl yr enedigaeth, gan gynnwys y tro cyntaf (os nad ydych am feichiogi eto).

Byddwch fel arfer yn cael y cyfle i drafod eich opsiynau atal cenhedlu cyn i chi adael yr ysbyty (os ydych wedi cael eich baban mewn ysbyty) ac yn yr apwyntiad ôl-enedigol. Hefyd gallwch siarad â'ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd, neu ymwelydd â chlinig atal cenhedlu ar unrhyw adeg - dewch o hyd i wasanaethau iechyd rhywiol yn eich ardal chi.   

Os ydych wedi cael rhwyg neu episiotomi, mae hi'n gyffredin iawn teimlo poen wrth gael rhyw yn ystod y misoedd cyntaf. Mae astudiaethau wedi canfod bod tua 9 o bob 10 o ferched a gafodd episiotomi yn dweud bod rhyw ar ôl y driniaeth yn boenus iawn, ond bod y boen yn gwella dros amser.

Os bydd treiddiad yn boenus, dywedwch hynny. Dydy hi ddim yn braf cael rhyw os yw'n achosi poen. Os ydych yn esgus bod popeth yn iawn pan nad yw, efallai y byddwch yn dechrau gweld rhyw yn niwsans yn hytrach nag yn bleser, a ni fydd hyn yn helpu naill neu'r llall ohonoch. Gallwch barhau i fod yn agos heb orfod cael treiddiad (er enghraifft, cyd-fastyrbio â'ch gilydd).

Gall poen weithiau fod yn gysylltiedig â sychder yn y wain. Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio iraid sy'n seiliedig ar dŵr (ar gael mewn fferyllfeydd) i help. Peidiwch â defnyddio iraid sy'n seiliedig ar olew, fel Vaseline neu eli lleithydd, gan y gall hyn amharu ar y wain, ac achosi difrod i gondomau latecs neu ddiafframau.

Haint

Sylwch ar unrhyw arwyddion bod y toriad neu'r meinwe o amgylch wedi ei heintio, megis cochni, croen yn chwyddo, llif o grawn neu hylif o'r toriad, neu boen parhaus. Dywedwch wrth eich meddyg neu'ch bydwraig cyn gynted ag y gallwch am unrhyw arwyddion posib o haint, fel y gallent wneud yn siwr eich bod yn derbyn y driniaeth sydd ei hangen.

Ymarferion

Gall gryfhau'r cyhyrau o amgylch y wain a'r anws trwy wneud ymarferion llawr y pelfis helpu i hyrwyddo gwella a bydd yn lleihau'r pwysau sydd ar y toriad a'r feinwe o'i amgylch.

Mae ymarferion llawr y pelfis yn cynnwys gwasgu'r cyhyrau o amgylch eich gwain a'ch pen ôl, fel yr ydych yn gwneud wrth atal eich hun rhag mynd i'r toiled neu basio gwynt (rhechu). Gall eich bydwraig ddangos i chi sut i wneud yr ymarferion yn gywir. Gallwch hefyd ddarllen y daflen GIG yma am gyngor: ymarferion llawr y pelfis i fenywod (PDF, 68kb).

Meinwe craith

Mewn rhai menywod, bydd meinwe craith ormodol, chwyddedig neu sy'n achosi cosi yn ffurfio o gwmpas y man lle mae'r rhwyg neu le mae episiotomi wedi cael ei dorri. Gall llawdriniaeth syml cael ei wneud i gael gwared â'r meinwe craith. Gwneir hyn o leiaf chwe mis ar ôl yr enedigaeth, ar ôl i'r meinweoedd wella o'r ymestyn, cleisio a rhwygo sy'n digwydd yn ystod yr enedigaeth.

Mae'r llawdriniaeth yn golygu torri meinwe'r graith yn daclus a gwnio'r ymylon glan gyda phwythau bach. Fel gyda phob clwyf, mae risg fach o haint, felly cadwch eich pwythau yn lân bob amser.

Osgoi episiotomi

Nid oes unrhyw dystiolaeth glir bod tylino eich perinewm yn ysgafn yn ystod chwe wythnos olaf y beichiogrwydd yn helpu i atal y meinwe rhag rhwygo neu i osgoi episiotomi.

Yr unig ffordd i geisio osgoi rhwyg neu episiotomi yw yn ystod y cyfnod esgor pan fydd pen y baban yn dod yn weladwy. Bydd y fydwraig yn gofyn i chi roi'r gorau i wthio ac i ddyhefod neu bwffian ychydig o anadliadau cyflym byr, gan chwythu allan drwy eich ceg.

Mae hyn er mwyn galluogi pen y baban i ddod allan yn araf ac yn raddol, gan roi amser i groen a chyhyrau'r perinewm ymestyn heb rwygo. Mae croen y perinewm fel arfer yn ymestyn yn dda, ond gall rhwygo. Weithiau, i osgoi rhwyg neu i gyflymu'r enedigaeth, bydd y fydwraig neu'r meddyg yn rhoi chwistrelliad o anesthetig lleol i chi a thorri episiotomi.


Last Updated: 13/06/2023 11:31:45
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk