Gwybodaeth beichiogrwydd


Lleddfu Poen Esgor

Eich opsiynau lleddfu poen

Gall esgor fod yn boenus, felly mae'n bwysig i ddysgu am yr holl ffyrdd y gallwch leddfu'r boen. Mae hefyd yn ddefnyddiol i'r sawl a fydd efo chi yn ystod yr esgor i wybod am y gwahanol ddewisiadau, yn ogystal â sut y gallant eich cynhorthwyo. Gofynnwch i'ch bydwraig neu'ch meddyg i esbonio beth sydd ar gael fel y gallwch benderfynu beth sy'n orau gennych chi.

Ysgrifennwch eich dymuniadau yn eich cynllun geni, ond cofiwch y dylech gadw meddwl agored. Efallai y gwelwch chi eich bod angen mwy o leddfu poen nag oeddech wedi meddwl, neu efallai bydd eich meddyg neu fydwraig yn awgrymu dull leddfu poen fwy effeithiol i helpu'r enedigaeth. Mae'r gwahanol ffyrdd o leddfu poen yn cael eu rhestru isod. Gallwch ddarllen amdanyn nhw i gyd neu defnyddiwch y cysylltau isod i fynd yn syth at unrhyw bwnc:

Hunangymorth

Gall y technegau canlynol eich helpu ymlacio wrth esgor, a gall hyn eich helpu ymdopi â'r boen.

  • Dysgwch am esgor:  fe fedr hyn wneud i chi deimlo eich bod chi â mwy o reolaeth ar y sefyllfa ac yn llai ofnus ynghylch yr hyn sy'n mynd i ddigwydd. Siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg, gofynwch gwestiynau iddynt a ewch i ddosbarthiadau cyn-geni.
  • Dysgwch sut i ymlacio, peidiwch â chynhyrfu ac anadlwch yn ddwfn.
  • Symudwch o gwmpas: Gall eich osgo wneud gwahaniaeth, felly ceisiwch benlinio, cerdded o gwmpas neu siglo yn ôl ac ymlaen.
  • Dewch â phartner, ffrind neu berthynas i fod yn gymorth i chi yn ystod yr esgor, ond os nad oes gennych unrhyw un, peidiwch â phoeni - bydd eich bydwraig yn rhoi'r holl gymorth y byddwch chi ei angen.
  • Gofynnwch i'ch partner eich tylino (ond cofiwch gallwch deimlo fel nad ydych yn dymuno cael eich cyffwrdd).
  • Ewch am fath.
  • Cymryd paracetamol, a all helpu i leddfu rhywfaint o'r boen yn ystod camau cynnar yr esgor.

Hydrotherapi (bod mewn dŵr)

Gall dwr eich helpu i ymlacio a gwneud i'r cyfangiadau ymddangos yn llai poenus. Gofynnwch a allwch gael bath neu ddefnyddio pwll geni. Bydd y dŵr yn cael ei gadw ar dymheredd cyfforddus, ond ni fydd yn uwch na 37.5C, a bydd eich tymheredd yn cael ei fonitro.

Mae Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi rhoi datganiad ar y cyd am esgor a genedigaeth mewn dŵr. Mae hefyd gwybodaeth gan yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Geni Plant am ddefnyddio dŵr yn ystod yr esgor a'r enedigaeth.

Nwy ac aer (entonox)

Mae hyn yn gymysgedd o ocsigen a nwy ocsid nitraidd. Ni fydd nwy ac aer yn lleddfu'r poen yn llwyr, ond gall fod yn gymorth i'w leihau a'i wneud yn haws ei ddioddef. Mae llawer o ferched yn ei hoffi oherwydd ei fod yn hawdd i'w ddefnyddio ac maent yn rheoli ei ddefnydd eu hunain.

Sut mae'n gweithio - Byddwch yn anadlu'r nwy ac aer i mewn trwy fasg neu diwb ceg a fyddwch yn ei ddal eich hun. Mae'n debyg y byddwch yn ymarfer defnyddio'r masg neu'r tiwb ceg os ewch i ddosbarthiadau cyn-geni. Mae'r nwy yn cymryd tua 15 i 20 eiliad i weithio, felly anadlwch i mewn yn union wrth i gyfangiad ddechrau. Mae'n gweithio gorau os anadlwch yn araf ac yn ddwfn.

Sgil-effeithiau - Nid oes unrhyw sgil-effeithiau niweidiol i chi nag i'r baban, ond gall wneud i chi deimlo'n benysgafn. Mae rhai menywod yn teimlo'n sâl, gysglyd neu'n methu canolbwyntio ar ôl iddynt ei ddefnyddio. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch roi'r gorau i'w ddefnyddio.

Os nad yw nwy ac aer yn lleddfu'r poen yn ddigonol, gallwch ofyn am bigiad lleddfu poen hefyd.

Pigiadau

Ffordd arall o leddfu'r poen yw pigiad mewngyhyrol (i mewn i gyhyr eich clun neu ben-ôl) o gyffur, fel pethidin neu, yn llai aml, ddiamorffin. Gall hyn eich helpu i ymlacio, a all leihau'r boen.

Sut mae'n gweithio -  Mae'n cymryd tua 20 munud i weithio ar ôl y pigiad ac mae'r effeithiau'n para am rwng dwy a phedair awr.

Sgil-effeithiau - Mae rhai sgil-effeithiau ichi fod yn ymwybodol ohonynt:

  • gall wneud i rai merched deimlo'n ddryslyd, yn sâl ac yn anghofus
  • os nad yw effaith y pigiad wedi gorffen tuag at ddiwedd eich esgor, gall ei gwneud hi'n anodd gwthio: efallai y byddai'n well gennych ofyn am hanner dos ar y dechrau i weld sut mae'n gweithio i chi
  • os bydd pethidin neu ddiamorffin yn cael eu rhoi yn rhy agos at amser yr enedigaeth, gall effeithio ar anadlu'r baban: os bydd hyn yn digwydd, rhoddir cyffur arall a fydd yn gwrth-wneud yr effeithiau. 
  • gall y cyffuriau ymyrryd â bwydo'r baban am y tro cyntaf

TENS

Mae hyn yn sefyll am 'transcutaneous electrical nerve stimulation' sef symbyliad  trydanol nerfau trawsgroenol. Mae gan rai ysbytai beiriannau TENS. Os na, gallwch logi peiriant eich hun. Nid yw TENS wedi cael ei brofi i fod yn effeithiol yn ystod cyfnod esgor gweithredol (pan fydd y cyfangiadau'n dod yn hirach, yn gryfach ac yn fwy aml). Mae'n debyg ei bod hi'n fwyaf effeithiol yn ystod y cyfnod cynnar tra bydd llawer o fenywod yn profi poen yng ngwaelod y cefn.

Gall TENS fod yn ddefnyddiol gartref yn ystod cyfnod cynnar yr esgor, neu os ydych yn bwriadu rhoi genedigaeth yn y tŷ . Os oes gennych ddiddordeb mewn TENS, dysgwch sut i'w ddefnyddio yn ystod misoedd olaf eich beichiogrwydd. Gofynnwch i'ch bydwraig i ddangos i chi sut mae'n gweithio.

Sut mae'n gweithio - Mae electrodau yn cael eu gludo i'ch cefn ac yn cael eu cysylltu gan wifrau i ysgogydd bach sy'n cael ei rhedeg gan fatri. Gan ddal hyn, rydych yn rhoi dognau bychain, diogel o gerrynt ichi'ch hun drwy'r electrodau. Gallwch symud o gwmpas tra byddwch yn defnyddio TENS.

Credir fod TENS yn gweithio trwy sbarduno'r corff i gynhyrchu mwy o gyffuriau lleddfu poen naturiol ei hun, gelwir y rhain yn endorffinau. Mae hefyd yn lleihau'r nifer o arwyddion o boen a anfonir i'r ymennydd drwy fadruddyn y cefn.

Sgril-effeithiau -  Nid oes unrhyw sgil-effeithiau hysbys arnoch chi neu ar eich baban.

Anesthetig epidwral

Mae epidwral yn fath arbennig o anesthetig lleol. Mae'n merwino'r nerfau sy'n cario poen o'r sianel enedigaeth i'r ymennydd. I'r rhan fwyaf o fenywod, mae epidwral yn rhoi rhyddhad llwyr o'r poen. Gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer menywod sy'n cael esgoriad hir neu arbennig o boenus, neu sy'n mynd  i drallod.

Anesthetydd yw'r unig berson a all roi epidwral, felly ni fydd ar gael os ydych yn rhoi genedigaeth yn y cartref. Os ydych yn meddwl efallai y byddwch eisiau un, sicrhewch fod anesthetyddion ar gael yn eich dewis ysbyty trwy'r amser.

Mae'r gallu i symud eich coesau wedi epidwral yn dibynnu ar ba anaesthetig a ddefnyddir. Bydd rhai unedau'n cynnig epidwral symudol, sydd yn feddwl y medrwch chi gerdded yn rhydd. Sut bynnag, bydd angen monitro curiad calon y baban o bell (wrth ddefnyddio telemetreg) ac nid yw'r cyfarpar gan bob uned i wneud hyn. Gofynnwch i'ch bydwraig a yw epidwral symudol i'w gael yn eich ysbyty chi.

Fe all epidwral ddarparu rheolaeth dda ar boen, ond nid yw ef pob tro 100% effeithiol yn ystod esgor. 

Sut mae'n gweithio - I gael epidwral:

  • Bydd drip yn rhedeg hylif trwy nodwydd i mewn i wythien yn eich braich.
  • Wrth i chi gorwedd ar eich ochr neu eistedd â'ch cefn wedi'i grymu, bydd anesthetydd yn glanhau eich cefn gydag antiseptig ac yn fferru darn bach o groen gyda rhywfaint o anesthetig lleol, wedyn bydd yn rhoi nodwydd i mewn i'ch cefn. 
  • Bydd tiwb cul iawn yn cael ei basio trwy'r nodwydd mewn i'ch cefn at y nerfau sy'n cario ysgogiadau poen o'r groth. Mae'r cyffuriau, sydd fel arfer yn gymysgedd o anesthetig lleol a opioid, yn cael eu gweinyddu drwy'r tiwb hwn. (Opioid yw cemegyn sy'n gweithio drwy lynu wrth dderbynyddion opioid arbennig yn y corff  gan leihau'r poen). Mae'n cymryd tua 20 munud i osod yr epidwral, ac 10 i 15 munud arall er mwyn iddo weithio. Nid yw bob amser yn gweithio'n berffaith ar y dechrau, efallai y bydd angen ei gymhwyso.
  • Ar ôl iddo gael ei sefydlu, gall yr epidwral gael ei lenwi gan fydwraig, neu efallai y gallwch lenwi'r epidwral eich hun drwy ddefnyddio peiriant.
  • Bydd angen i'ch cyfangiadau a chalon eich baban gael ei fonitro'n barhaus gan beiriant: mae hyn yn golygu cael gwregys o amgylch eich bol ac o bosibl clip ynghlwm wrth ben y baban.

Sgil-effeithiau - Mae rhai sgil-effeithiau i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Gall epidwral wneud i'ch coesau deimlo'n drwm, yn dibynnu ar y math o anaesthetig a ddefnyddir 
  • Ni ddylai epidwral eich gwneud yn swrth neu'n sâl
  • Gall eich pwysedd gwaed gostwng (isbwysedd), ond prin iawn bydd hyn yn ddigwyddiad gan fydd yr hylif a ddaw thrwy'r drip yn eich braich yn helpu cynnal pwysedd gwaed da.
  • Gall epidwral ymestyn ail gyfnod esgor. Os na allwch chi bellach deimlo eich cyfangiadau, bydd rhaid i'r fydwraig ddweud wrthoch chi bryd i wthio. Mae hyn yn golygu y gall offerynnau megis gefeiliau yn cael eu defnyddio i'ch helpu rhoi genedigaeth i'ch baban (genedigaeth offerynnol). Wrth i chi gael epidwral, bydd eich bydwraig neu feddyg yn aros yn hwy i ben y baban ddod i lawr (cyn ichi ddechrau gwthio). Bydd hyn yn lleihau'r angen am enedigaeth offerynnol. Weithiau, tuag at y diwedd, bydd llai o anesthetig yn cael ei rhoi er mwyn i'w effaith ddod i ben gan eich galluogi i wthio'r babi allan yn naturiol.
  • Efallai y byddwch yn ei gweld hi'n anodd pasio dŵr o ganlyniad i'r epidwral: felly, os bydd hyn yn digwydd, bydd tiwb bach - cathetr- yn cael ei roi i mewn i'ch pledren i'ch helpu.
  • Mae tuag un o bob 100 o fenywod yn cael cur pen ar ôl epidwral: os bydd hyn yn digwydd, gellir ei drin.
  • Efallai bydd eich cefn yn ychydig yn boenus am ddiwrnod neu dau ond nid ydy epidwral yn achosi poen cefn hir-dymor.
  • Mae tua un o bob 2000 o ferched yn teimlo merwino, goglais neu binnau bach i lawr un goes ar ôl cael babi: mae hyn yn fwy tebygol o fod yn ganlyniad i enedigaeth ei hun yn hytrach nag epidwral. Byddwch yn cael eich cynghori gan feddyg neu fydwraig pryd y gallwch godi o'r gwely.

Dulliau eraill o leddfu poen

Mae'n well gan rhai menywod osgoi'r mathau o leddfu poen a restrir ar y dudalen hon, a dewis triniaethau amgen megis aciwbigo, aromatherapi, homeopathi, hypnosis, tylino ac adweitheg. Fodd bynnag, nid yw'r rhan fwyaf o'r technegau hyn yn effeithiol wrth leddfu poen.

Os hoffech ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau hyn, mae'n bwysig trafod gyda'ch bydwraig neu'ch meddyg a rhoi gwybod i'r ysbyty ymlaen llaw. Nid yw'r rhan fwyaf o ysbytai yn cynnig y rhain ar gyfer lleddfu poen esgor. Os ydych am roi cynnig ar dechneg arall, gwnewch yn siwr bod yr ymarferydd wedi'i hyfforddi'n briodol ac yn brofiadol. Am gyngor cysylltwch â'r Institute for Complementary and Natural Medicine.


Last Updated: 12/07/2023 11:17:54
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk