Am ddementia
Cliciwch yma i gael gwybodaeth am Ddementia a Covid 19 gan Gofal Cymdeithasol Cymru
Os ydych chi'n mynd yn fwy anghofus, yn enwedig os ydych dros 65 oed, efallai y byddai'n syniad da i siarad â'ch meddyg teulu am symptomau cynnar dementia.
Wrth i chi fynd yn hyn, efallai y gwelwch fod colli cof yn dod yn broblem. Mae'n arferol i'ch cof cael ei effeithio gan straen, blinder, neu afiechydon a meddyginiaethau penodol.
Gall hyn fod yn blinderus os yw'n digwydd yn achlysurol, ond os yw'n effeithio ar eich bywyd bob dydd neu os ydych chi'n poeni amdano neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn poeni, dylech ofyn am help gan eich meddyg teulu.
Ond nid yw dementia yn ymwneud â cholli cof yn unig. Gall hefyd effeithio ar y ffordd rydych chi'n siarad, meddwl, teimlo ac ymddwyn.
Mae'n hefyd yn bwysig cofio nad yw dementia yn rhan naturiol o heneiddio.
Mae Llinell Gymorth Dementia Cymru yn cefnogi pobl â dementia a'u gofalwyr. Ffôn rhydd 0808 808 2235.
Beth yw dementia?
Mae dementia yn syndrom (grwp o symptomau cysylltiedig) sy'n gysylltiedig â dirywiad parhaus yng ngweithrediad yr ymennydd. Gall hyn gynnwys problemau gyda:
- colli cof
- cyflymder meddwl
- eglurhad a chyflymder meddyliol
- iaith
- dealltwriaeth
- barn
- hwyliau
- symud
- anawsterau cyflawni gweithgareddau dyddiol
Mae llawer o wahanol achosion o ddementia. Mae pobl yn aml yn drysu ynghylch y gwahaniaeth rhwng clefyd Alzheimer a dementia.
Mae clefyd Alzheimer yn fath o ddementia ac, ynghyd â dementia fasgwlaidd, mae'n ffurfio'r mwyafrif helaeth o achosion.
Gall pobl â demensia fod yn ffifater neu'n colli diddordeb yn eu gweithgareddau arferol neu gallant gael problemau wrth reoli eu hemosiynau.
Efallai hefyd y bydd sefyllfaoedd cymdeithasol yn heriol a fyddech yn colli diddordeb mewn cymdeithasu. Gall agweddau ar eu personoliaeth newid.
Gall person â dementia golli empathi (dealltwriaeth a thosturi), gallant weld neu glywed pethau nad yw pobl eraill yn eu gwneud (rhithweledigaethau).
Gan y gall pobl â dementia golli'r gallu i gofio digwyddiadau neu ddeall eu hamgylchedd neu eu sefyllfaoedd yn llaen, gall ymddangos fel pe na baent yn dweud y gwir, neu'n anwybyddu problemau'n fwriadol.
Gan fod dementia yn effeithio ar alluoedd meddyliol unigolyn, efallai y bydd cynllunio a threfnu yn anodd. Gall cadw eu hannibyniaeth ddod yn broblem hefyd.
Felly, fel arfer bydd angen help ar rywun â dementia gan ffrindiau neu berthnasau, gan gynnwys help i wneud penderfyniadau.
Pam mae'n bwysig cael diagnosis?
Er nad oes gwellhad i ddementia ar hyn o bryd, os caiff ei ddiagnosio yn y camau cyntaf, mae yna ffyrdd y gallwch ei arafu a chynnal swyddogaeth feddyliol.
Gall diagnosis helpu pobl â dementia i gael driniaeth a'r gefnogaeth gywir, a helpu'r rhai sy'n agos atynt i baratoi a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gyda thriniaeth a chefnogaeth, mae llawer o bobl yn gallu byw bywydau egniol a bodlon.
Mae symptomau dementia yn tueddu i waethygu gydag amser. Yng nghamau llawer diweddarach dementia, bydd pobl yn gallu gwneud llawer llai drostynt eu hunain a gallant golli llawer o'u gallu i gyfathrebu.
Darllenwch fwy am sut y caiff dementia ei ganfod, neu dysgwch mwy am:
Pa mor gyffredin yw dementia?
Yn ôl Alzheimer's Society, mae tua 850,000 o bobl yn y DU â dementia. Bydd un o bob 14 o bobl dros 65 oed yn datblygu dementia, ac mae'r cyflwr yn effeithio ar 1 o bob 6 o bobl dros 80 oed.
Mae nifer y bobl â dementia yn cynyddu oherwydd bod pobl yn byw'n hirach. Erbyn 2025, amcangyfrifir y bydd nifer y bobl â dementia yn y DU wedi cynyddu i tua 1 miliwn.