Teithio â phlant
O ddiogelwch yn y pwll nofio i amddiffyn rhag yr haul, bydd y camau hawdd hyn yn helpu cadw’ch plant chi’n iach a diogel ar eich gwyliau.
Diogelwch yn y pwll nofio
Mae angen cadw llygaid ar blant trwy’r amser. Peidiwch â dibynnu ar y gwarchodwyr, mae’n bosib nad ydynt wedi’u hyfforddi at safonau’r DU.
Ewch â – chymhorthion nofio megis breichledau aer sydd yn wych wrth chwarae yn y dŵr – ond cofiwch fe fedran nhw lithro o’r fraich felly mae angen cadw llygaid ar eich plentyn o hyd.
Awgrymiadau pwysicaf
- Goruchwylio pob plentyn ifanc ger y dŵr.
- Dewis pyllau sydd â ffens a chlwydi sydd yn cloi.
- Sicrhewch rydych chi’n gwybod ble mae’ch plant a beth maen nhw’n ei wneud yn y dŵr, hyd yn oed os bydd gwarchodwr wrth y pwll nofio.
- Rhowch gyfle i blant ymuno â dosbarthiadau nofio tra byddan nhw ar eu gwyliau. Mae’n ffordd dda o fagu hyder yn y dŵr wrth ddysgu gwersi diogelwch sylfaenol am y dŵr.
Ceisiwch gwis Water Wise RoSPA.
Amddiffyn rhag yr haul
Mae astudiaethau wedi darganfod bod llosg haul yn ystod plentyndod yn codi’r siawns o ganser y croen y nes ymlaen mewn bywyd.
Ewch â – Eli haul ffactor 15 neu’n uwch gan ddewis y math ‘sbectrwm llydan’ sydd â gradd pedair neu bum seren. Rhowch hyn dros rannau ni ellid eu hamddiffyn gyda dillad, megis yr wyneb, y clustiau, y traed a chefnau’r ddwylo. Dewiswch eli haul sydd wedi eu gwneud ar gyfer croen plant neu fabanod.
Awgrymiadau pwysicaf
- Rhowch eli haul arnyn nhw cyn bod y plant yn mynd tu allan
- Mae hi’n hawdd i eli haul ddod i ffwrdd, trwy’i olchi, ei rwbio neu’i chwysu i ffwrrdd, felly ail-defnyddiwch ef yn aml yn ystod y dydd.
- Cadwch fabanod yn y cysgod, fel o dan goed, ymbarel, canopi neu’r tu mewn i adeilad.
- Amddiffynnwch groen babanod gyda dillad llac a hetiau cantel llydan sydd yn rhoi cysgod i’w hwynebau nhw.
- Sicrhewch fod plant yn yfed yn rheolaidd.
Salwch teithio
Yn aml bydd plant yn dioddef salwch symud yn fwy nag oedolion. Bydd symptomau cynnar o salwch symud yn cynnwys gwrido’n boeth, glafoerio a gwelwder.
Ewch â – moddion i leihau neu atal salwch symud – mae sawl math ar gael. Fe fedrwch chi eu prynu o fferyllfa neu ar bresgripsiwn. Moddion sydd yn cynnwys hyoscine yw’r rhai mwyaf effeithiol am salwch symud. Mae sawl math o foddion sydd yn cynnwys hyoscine ac mi ddônt nhw mewn ffurf doddadwy i blant.
Awgrymiadau pwysicaf
- Peidiwch ag edrych ar bethau sy’n symud, megis tonnau neu geir eraill. Yn lle hynny edrychwch ymlaen ychydig yn uwch na’r gorwel ar fân sefydlog.
- Cadwch symud i’r lleiafswm posib. Er enghraifft, eistedd uwchben adain yr awyren, neu ar ddec yng nghanol y llong.
- Osgowch fwyta prydiau trwm cyn ac yn ystod teithio. Gall fod yn syniad dai osgoi bwydydd sbeislyd a seimllyd.
- Ar siwrnai hir, gall fod o fudd i gymryd hoe am awyr iach, diod o ddŵr oer ac i fynd am dro bach ar droed.
- Mae rhai yn dweud bod sinsir yn fuddiol am salwch symud. Gellid ei gymryd mewn bisgedi sinsir, te sinsir neu dabledi cyn y siwrnai.
Diogelwch haf am blant iau
Tra ei bod yn bwysig paratoi am unrhyw beryglon gallai plant yn eu hwynebu yn ystod yr haf, mae hi hefyd yn bwysig i ganiatau iddyn nhw redeg a chael sbri.
Cred y Cymdeithas Brenhinol am Atal Damweiniau (RoSPA) bod gweithgareddau a chwarae plant ag eisiau bod mor ddiogel ag y bo angen , nid mor ddiogel ag y bo posib.
“ Mae’r haf yn amser gwych i blant fynd allan gan brofi'r byd o’u cwmpas,” meddai Peter Cornall, pennaeth diogelwch hamddena RoSPA. “Mae angen eich bod yn ymwybodol o ddiogelwch, ond nid yw hyn yn rheswm i atal plant rhag mwynhau gweithgareddau”
Gall ychydig o gamre syml, fel gofyn i oedolyn i wylio’r plant mewn parti, leihau’r risgiau.
Awgrymiadau i amddiffyn eich plentyn rhag yr haul
- Defnyddiwch eli haul a ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15 neu fwy.
- Gwisgwch eich plentyn mewn crys-T a het.
- Treuliwch amser mewn cysgod rhwng 11 y bore a 3 y pnawn.
Amgylcheddau newydd
Os ewch chi i aros gyda chyfeillion neu berthnasau, mae hi’n bosib na fydd eu cartref neu ardd mor ddiogel i blant a’ch cartref chi.
Mae plant yn hoffi fforio cyffiniau newydd, felly gwnewch yn siwr nad ydyn nhw’n mynd ymhell ar eu pennau eu hunain. Gofynnwch i’r bobl rydych yn aros gyda nhw i roi moddion a chynnyrch glanhau o’r golwg ac o gyrraedd.
Edrychwch am beryglon posib yn yr ardd (os oes un), megis offer garddio, pyllau dŵr neu gasgenni dŵr. Mae ychydig foddfeddi o ddŵr yn ddigon i foddi plentyn, ac fe all ddigwydd yn gyflym.
“Bydd rhwng 5 a 10 o blant pob blwyddyn yn boddi mewn pyllau yn yr ardd” meddai Peter. “Os oes plentyn bach gennych chi'r peth gorau i’w wneud ydy i lenwi’r pwll a thywod i’r plant cael chwarae. Fel arall rowch rwyll gref dros y pwll, neu ffens o’i amgylch”.
Mae barbeciwiau’n sbri, ond gwnewch yn siwr bod y barbeciw mewn cyflwr da, a pheidiwch â defnyddio petrol i’w danio. Os bydd plant yn bresennol, gwyliwch nad ydyn nhw’n mynd yn rhy agos at arwynebau poeth.
“Mewn parti, gwnewch yn siwr bod un oedolyn yn aros yn sobr a synhwyrol i ofalu am y plant,” ychwanega Peter.
Diogelwch dŵr
“Bydd plant bach yn cael eu cyfareddu gan ddŵr”, meddai Peter “ Mae o’n sbri mawr ac yn ymarfer corff da, ond fe all pob un ohonom ni foddi”.
“Gall hyd yn oed y goruchwylwyr a gofalwyr gorau colli sylw am ychydig, a dyna i gyd sydd angen i foddi yw tri munud yn gorwedd a’ch wyneb yn y dŵr.”
Yn 2005, boddodd 39 o blant o dan 15 oed yn y DU. Digwyddodd traean o’r damweiniau hyn yn, neu’n agos i’r cartref, er enghraifft mewn baddon neu bwll gardd. Y rhai a fu farw oedd ar y cyfan plant bach. Bydd yn fwy tebygol bod plant hŷn (6 i 14 oed) yn cael damwain i ffwrdd o’r cartref, er enghraifft mewn afon neu ar y traeth.
“Mae boddi yn digwydd mor gyflym,” meddai Peter. “Os aiff eich plentyn ar grwydr, chwiliwch unrhyw ddŵr, pyllau mewn parciau, pyllau mewn gerddi cymdogion a phyllau nofio yn gyntaf.”
Pob dydd, gwagiwch y pwll padlo unwaith bydd y plant wedi gorffen chwarae ynddo. Yn aml bydd boddi damweiniol yn digwydd wrth i blentyn grwydro oddi wrth ei rieni, neu wrth chwarae ger y dŵr.
“Mae angen ichi fod o fewn hyd fraich,” meddai Peter. “ Bydd y rhan fwyaf o blant ifanc iawn yn syrthio i’r dŵr a ni ddôn nhw i fyny eto. Ni fyddan nhw’n sgrechian am help, ac felly ni fedrwch chi ddibynnu ar eu clywed nhw.”
Pyllau gwyliau, filas a gwestai
Ers y flwyddyn 2000, mae o leiaf 30 o blant o’r DU o dan 10 oed wedi boddi mewn pyllau nofio tramor. Roedd dros eu hanner nhw o dan bedair oed.
Mae nifer arwyddocaol o achosion boddi mewn pyllau gwyliau’n digwydd naill ai ar y diwrnod cyntaf ai’r diwrnod diwethaf o’r gwyliau. “Peidiwch â danfon eich plant allan i fforio cyn eich bod yn deall pa beryglon sydd o’ch amgylch,” dywed Peter.
Wrth i chi gyrraedd le newydd, archwiliwch yr hyn sydd yn cael ei ddarparu ar unwaith, gan gynnwys y pwll nofio, y balconi (allai plentyn bach ymwthio trwy'r barrau?) a'r allanfeydd tân.
Gwyliwch blant bach trwy'r amser a byddwch o fewn hyd fraich iddyn nhw. "O tua phump oed fe fedrwch chi ddechrau esbonio peryglon iddyn nhw, ond bydd dai angen ichi eu gwylio a'i goruchwylio," dywed Peter.
Mae'n werth i chi ystyried eich gallu eich hunan i gynhorthwyo os bydd damwain. "Meddyliwch am eich sgiliau cymorth cyntaf ac adfywio," meddai fe. "Ystyriwch fynychu cwrs cymorth cyntaf."
Archebu eich gwyliau
Mae Peter hefyn yn awgrymu bod yn ochelgar o wyliau sydd yn hysbysebu bod "plant yn mynd am ddim".
"Gofynnwch am ba ddarpariaeth sydd am blant cyn ichi fwcio," meddai fe. "Os nad ydych chi'n talu am y ddarpariaeth, mae'n bosib na fyddant yn dda iawn ac, o bosib na fydd gweithgareddau i'w gael i blant."
Archebwch eich llety o flaen llaw bob tro fel y gallwch chi ofyn cwestiynnau amdano.
"Os cewch chi eich llety ar y diwrnod y byddwch yn cyrraedd, fedrech chi ffeindio bod ffordd ddeuol o flaen y gwesty, neu bwll nofio neu draeth peryglus, " dywed Peter. "Chewch chi ddim ymlacio felly gan y byddwch yn poeni am eich plant trwy'r amser."
Rhestr profi diogelwch
Cofiwch y cyngor diogelwch hwn pe baech chi a 'ch teulu yn ymweld â lle ymhle mae dŵr:
- Ewch am dro o amgylch y pwll, traeth, llyn neu afon gan edrych am beryglon (megis creigiau) ac am leoliad y cyfarpar diogelwch brys,
- Gofynnwch a oes gwarchodwr bywyd ar ddyletswydd. Cofiwch nid yw gweinydd pwll yr un fath â gwarchodwr bywyd, mae'n bosib nad yw'r un cymhwysterau gyda nhw.
- Darllenwch arwyddion diogelwch dŵr ger y traeth, a gofynnwch i warchodwr bywyd neu swyddog gwybodaeth twristiaeth ymhle mae'r ardal fwyaf diogel i nofio.
- Gofynnwch a oes cerrynt neu lanw peryglus
- Os ydych yn rhentu fila gyda phwll nofio, gwnewch yn siwr na all eich plentyn grwydro tu allan heb oruchwyliaeth, yn enwedig cyn eich bod chi'n deffro yn y bore. Os nad ydych chi'n gallu eu hatal rhag mynd tu allan, enwebwch oedolyn i fod yn "warchodwr" ar bwys y pwll trwy'r amser.
Ceisiwch gwis RoSPA : Water Wise
Mae gan wefan RoSPA sawl taflen wybodaeth ar ystod o bethau gan gynnwys diogelwch plant.
Cyngor i bobl sy'n mynychu traethau
Os byddwch yn gweld rhywun mewn trafferth, dywedwch wrth y gwarchodwyr bywyd neu ffoniwch 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau.
1. Nofiwch ger traeth sydd â gwarchodwyr bywyd arno
"Dyma'r neges unigol fwyaf pwysig o'r RNLI," dywed JoJo. "Mae hyn oherwydd eich bod yn llawer llai tebygol o foddi ar draeth sydd â gwarchodwyr bywyd arno, a bydd cymorth cyntaf a gofal arall ar gael ar unwaith o warchodwyr bywyd yr RNLI."
Dewch o hyd i'r baneri coch a melyn gan nofio neu gorff-fyrddio rhyngddynt. Dyma'r rhan fwyaf diogel o'r traeth gan mai yma bydd y gwarchodwyr bywyd yn gwylio. Bydd y gwarchodwyr yn symud y baneri i ymdopi a newidiadau yn sefyllfa trwy'r dydd megis cerrynt cryf a pheryglon eraill sydd yn mynd a dod gyda'r llanw a'r tywydd.
Nid oes gwarchodwr bywyd ar bob traeth. I ddod o hyd i draethau sydd â gwarchodwyr ar ddyletswydd yn ystod misoedd yr haf defnyddiwch y teclyn chwilio ar wefan the Good Beach Guide.
2. Chwilio am wybodaeth a dilyn cyngor
Dysgwch am y traeth cyn eich bod chi'n mynd, a chwiliwch am y tywydd a'r llanw. Gofynnwch yn swyddfa leol y Bwrdd Croeso neu ddefnyddio'r Good Beach Guide i ddod o hyd i wybodaeth an dros 500 o draethau o amgylch y DU. Gwelwch isod am ragor o wybodaeth am y llanw.
Wrth gyrraedd y traeth darllenwch yr arwyddion diogelwch wrth y fynedfa. Bydd hyn yn eich helpu adnabod ac osgoi peryglon yn ogystal â 'ch dangos y mannau mwyaf diogel i nofio. Bydd yr arwyddion yn cynnwys gwybodaeth benodol a fedrwch chi roi i'r gwasanaethau brys i'w helpu nhw ddod o hyd i'ch lleoliad chi'n gyflym.
3. Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hunan
4. Os ewch chi i drafferth yn y môr, rhowch eich llaw yn yr awyr gan weiddi am gymorth
5. Os welwch chi rywun arall mewn trafferth, dywedwch wrth y gwarchodwr bywyd
Os nad ydych yn gallu gweld gwarchodwr bywyd galwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau.
6. Peidiwch byth â defnyddio offer pwmpadwy mewn gwynt cryf neu ar fôr mawr
"Gall hyd yn oed awel ysgafn o'r tir yn eich chwythu allan i'r môr yn gyflyn iawn," meddai JoJo.
Os nad oes ond ychydig neu ddim gwynt, defnyddiwch offer pwmpadwy rhwng y baneri coch a melyn yn unig, a gwnewch yn siwr bod plant yn cael eu gwylio'n agos iawn.
7. Gwylio plant
Cadwch lygaid ar blant trwy'r amser a phennu man cyfarfod wrth gyrraedd y traeth rhag ofn y cewch chi eich gwahanu.
8. Peidiwch â mynd i'r môr wedi yfed alcohol
Bydd alcohol yn arafu eich gallu i ymateb ac yn medru amharu ar eich gallu i farnu pellter.
9. Adnabod eich baneri (DU)
Ar draethau sydd yn cael eu gwylio gan warchodwyr bywyd bydd baneri gwahanol yn dweud wrthych ble mae hi'n ddiogel i nofio a pha rannau sydd wedi eu clustnodi am weithgareddau dŵr eraill.

Caiff yr ardal rhwng y baneri coch a melyn ei wylio gan warchodwyr bywyd. Dyma'r lle mwyaf diogel i nofio, corff-fyrddio neu ddefnyddio offer pwmpadwy.

Mae'r lle rhwng a baneri du a gwyn yn cael ei glustnodi fel ardal am chwaraeon dŵr megis syrffio a chaiacio. Peidiwch byth â nofio neu corff-fyrddio yma.

Mae'r faner wynt oren yn golygu bod gwynt o'r tir. Peidiwch byth â defnyddio offer pwmpadwy pan welwch fod y faner oren yn hedfan gan fe allai'r gwynt eich hyrddio o'r lan yn gyflym iawn.

Mae'r faner goch yn dangos ei bod hi'n beryglus i nofio neu fynd i'r môr. Peidiwch â mynd i'r dŵr wrth fod y faner goch yn hedfan.
Peryglon y môr
Cerrynt Terfol
Cerrynt terfol ydy cerrynt cryf sydd yn medru ysgubo nofwyr o ddyfroedd bas i ddŵr dwfn.
Bydd arwyddion o gerrynt terfol yn cynnwys: dŵr lliwiedig, brown (a achosir gan y tywod yn cael ei ysgubo i fyny o wely'r môr); ewyn ar wyneb y môr a broc môr yn cael ei gario allan i'r môr.
Os cewch chi eich dal mewn cerrynt terfol mae'r RNLI yn cynghori:
- Peidiwch â chynhyrfu
- Os gallwch sefyll, cerdded. Peidiwch â nofio.
- Dal gafael yn eich bwrdd neu offer pwmpadwy i'ch helpu i arnofio.
- Codwch eich llaw a gwaeddwch am gymorth.
- Peidiwch â nofio yn syth yn erbyn y cerrynt terfol neu fe flinwch yn llwyr.
- Nofiwch ar hyd y traeth nes dewch chi o'r cerrynt ac wedyn ewch am y lan.
Llanw a thrai
Fe all y llanw ddod i mewn yn rhyfeddol o gyflym. Mae llawer o'r argyfyngau bydd y bad achub a gwarchodwyr bywyd yn ymateb iddyn nhw oherwydd bod pobl yn cael eu hamgylchynu gan y llanw. Tra byddwch chi ar y traeth cadwch lygaid ar sefyllfa'r llanw a byddwch yn ymwybodol o sut mor gyflym mae'r dŵr yn dod i mewn, yn arbennig os byddwch chi'n chwarae yn y pyllau sydd yn y creigiau.
Tonnau
Gwyliwch am y tonnau, yn arbenig os oes gennych blant bach. Gall hyd yn oed tôn fach fwrw plentyn bach i lawr. Mae tonnau dymchwel yn neilltuol o beryglus. Mae't tonnau hyn yn torri a nerth mawr mewn dŵr bas ac yn digwydd yn ystod y trai.
Marwblymio (tombstoning)
Mae llawer o bobl wedi eu hanafu'n ddifrifol neu eu lladd wrth farwblymio (neidio o uchder i mewn i ddŵr). Mae marwblymio yn beryglus am sawl rheswm:
- Gall dyfnder y dŵr newid gyda'r llanw a gall fod y dŵr yn fasach nag ydych yn ei feddwl.
- Gallai creigiau a gwrthrychau eraill fod yng nghudd o dan y dŵr.
- Gallai'r dŵr fod yn oer a gall sioc ei gwneud hi'n anodd nofio.
- Gallai fod cerrynt cryf a fydd yn eich sgubo i ffwrdd.
Peryglon eraill y traeth
Llosg haul
Am gyngor ar osgoi llosg haul ac ar amddiffyn eich croen a'ch llygaid o belydrau niweidiol uwch-fioled yr haul darllenwch Llosg haul - atal.
Dadhydradiad
Yfwch ddigon o ddŵr. Hyd yn oed ar ddiwrnod cymhedrol gall yr haul a gwynt eich dadhydradu.
Osgowch yfed alcohol ar y traeth. Mae e'n arwain at ddadhydradu, yn effeithio eich synnwyr cyffredin ac yn peri ichi gymryd risgiau mwy. Peidiwch byth â mynd i'r dŵr wedi yfed alcohol.
Pigiadau môr-wiberod a sglefrod môr
Pysgodyn bach sydd â phigau gwenwynig ar ei gefn yw môr-wiber neu bysgodyn bwyell. Os byddwch yn camu ar un gall fod yn boenus iawn. Cyngor yr RNLI yw rhoi'r rhan a effeithir mewn dŵr cyn boethed ag sydd yn gyfforddus, gan sicrhau eich bod yn profi tymheredd y dŵr yn gyntaf i osgoi llosgi'r un sydd wedi cael ei bigo.
Os caiff rhywun ei bigo gan sglefren fôr, peidiwch â rhwbio'r rhan a bigwyd gan fydd hyn yn gwneud y boen yn waeth. Chwistrellwch y pigiad a dŵr y môr a rowch glwtyn oer arno os bydd un ar gael.
Pigiadau pryfed
Am wybodaeth ar sut mae trin pigiadau pryfed, a sut i wybod os bydd angen cymorth meddygol brys ar rywun, gwelwch Sut mae trin pigiad pryfed