Teithio â chyflyrau iechyd

Teithio ag asthma

Ni ddylai asthma eich atal rhag teithio a mwynhau eich gwyliau.

Mae blaengynllunio yn allweddol o ran mwynhau eich hun ar wyliau a delio ag unrhyw broblemau posibl â’ch asthma.

Mae arbenigwyr iechyd yn cynghori eich bod yn paratoi ar gyfer taith bedair i chwe wythnos cyn i chi deithio.

Mae pethau i’w hystyried fel rhan o’ch paratoadau yn cynnwys:

  • gwiriad iechyd
  • sbardunau asthma
  • teithio yn yr awyr
  • brechiadau teithio
  • yswiriant teithio

Gwiriad iechyd                                                

Ewch i weld eich meddyg teulu neu’ch nyrs asthma cyn i chi deithio i adolygu eich cynllun gweithredu asthma personol a sicrhau ei fod yn gyfredol.

Os nad oes gennych gynllun gweithredu personol, nawr yw’r adeg i gael un. Bydd yn eich galluogi i gydnabod asthma sy’n gwaethygu a newid eich triniaeth er mwyn i chi gadw’n iach.

Darganfyddwch sut y gallwch gael cymorth meddygol (fel ambiwlans neu feddyg lleol) yn eich cyrchfan, yn ôl yr angen.

Ewch â mewnanadlwyr sbâr rhag ofn i un fynd ar goll neu gael ei ddwyn. Fel arfer, gallwch gludo’r rhain yn eich bagiau llaw.

Dewch â digon o feddyginiaeth i bara trwy gydol eich taith ac ychydig ddyddiau ychwanegol.

Cymerwch argraffiad o’ch presgripsiynau arferol, gan gynnwys enwau generig unrhyw feddyginiaeth, rhag ofn y bydd angen cymorth meddygol arnoch yn ystod eich taith neu rhag ofn i chi golli eich meddyginiaeth.

Am wybodaeth, darllenwch dudalen travelling with asthma gan Asthma UK.

Sbardunau asthma

Os yw dod i gysylltiad â chlustogau plu yn gwneud eich asthma yn waeth, gallech ddod â’ch clustogau eich hun heb blu neu ofyn i’r gwesty am glustog â llenwad synthetig.

Os ydych yn sensitif i fwg tybaco, holwch ddarparwr eich llety ynghylch a ddylech archebu ystafell dim ysmygu, gan fod rheolau ysmygu yn amrywio o un wlad i’r llall.

Gallai rhai gweithgareddau gwyliau, fel sgwba-blymio, fod yn beryglus i bobl ag asthma, a gallai ystyriaethau arbennig fod yn berthnasol.

Sicrhewch fod eich asthma dan reolaeth lwyr, gan y gallai dod i gysylltiad ag alergenau a heintiau firaol mewn mannau clos, fel awyrennau a llongau, wneud eich cyflwr yn waeth.

Teithio yn yr awyr

Os ydych bob amser yn fyr o wynt, hyd yn oed pan rydych yn gorffwys, efallai y bydd angen arfarniad arbennig arnoch cyn i chi hedfan, oherwydd y lefelau ocsigen is ar uchderau uchel.

Cludwch eich holl feddyginiaeth asthma yn eich bagiau llaw, rhag ofn i’ch bagiau sydd yn howld yr awyren fynd ar goll neu’ch meddyginiaeth gael ei difrodi yn yr howld fagiau.

O dan y cyfyngiadau diogelwch cyfredol, ni allwch gario cynhwysyddion â hylifau, geliau neu hufenau sy’n fwy na 100ml yn eich bagiau llaw.

Gallwch gario meddyginiaeth hanfodol sy’n fwy na 100ml, ond bydd angen caniatâd arnoch gan y cwmni hedfan a’r maes awyr ymlaen llaw, ynghyd â llythyr neu bresgripsiwn gan eich meddyg.

Dylai pob meddyginiaeth asthma rydych yn ei chymryd ar awyren gael ei chadw yn ei phecyn gwreiddiol, a dylai label y presgripsiwn a manylion cyswllt y fferyllfa fod yn hawdd eu gweld.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch gyngor Sefydliad Prydeinig ar Ysgyfaint ar deithio yn yr awyr â chyflwr ar yr ysgyfaint.

Brechiadau teithio

Gallai’ch meddyg teulu neu nyrs y practis roi gwybod i chi pa frechiadau a rhagofalon sydd eu hangen arnoch ar gyfer y wlad rydych yn teithio iddi.

Gallwch gael y brechiadau teithio arferol sy’n cael eu hargymell ar gyfer eich cyrchfan, oni bai bod rhesymau iechyd eraill dros beidio â’u cael.

Dywedwch wrth eich meddyg teulu neu nyrs y practis os ydych wedi defnyddio dos uchel o steroidau trwy’r geg yn ddiweddar, cyn i chi gael unrhyw frechiadau.

Fel arfer, nid yw asthma na’i driniaeth yn effeithio ar dabledi malaria.

Yswiriant teithio

Prynwch yswiriant teithio a gwiriwch y bydd yn cwmpasu eich asthma. Mae llawer o yswirwyr yn gofyn i chi gael caniatâd gan eich meddyg teulu cyn i chi deithio.

Chwilotwch am y fargen orau. Mae dyfynbrisiau ar gyfer yswiriant teithio yn amrywio gan ddibynnu ar eich oedran, eich meddyginiaeth a’ch cyrchfan.

Ar gyfer teithio yn Ewrop, gwnewch yn siŵr fod gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC). Mae hyn yn rhoi’r hawl i chi gael triniaeth feddygol am bris gostyngol ac, ambell waith, yn rhad ac am ddim.

Dylech brynu yswiriant teithio hefyd oherwydd efallai na fydd yr EHIC yn talu am holl gostau eich triniaeth. Nid yw’r EHIC yn cwmpasu’r gost o hedfan yn ôl i’r DU.

Teithio gyda chanser

Nid yw teithio gyda chyflwr hirdymor fel canser yn hawdd, ond gallwch osgoi llawer o anawsterau trwy gynllunio’n ofalus.

Trafodwch eich cynlluniau teithio gyda’ch meddyg i asesu a ydych yn ffit i deithio ai peidio.

Mae gan wahanol fathau o ganser driniaeth wahanol ac, yn aml, maent yn mynnu eich bod yn cymryd rhagofalon penodol wrth deithio.

Mae arbenigwyr iechyd yn cynghori eich bod yn paratoi ar gyfer taith bedair i chwe wythnos cyn i chi deithio.

Mae pethau i’w hystyried fel rhan o’ch paratoadau yn cynnwys:

Teithio yn yr awyr

O dan y cyfyngiadau diogelwch cyfredol, ni allwch gario cynhwysyddion â hylifau, geliau neu hufenau sy’n fwy na 100ml yn eich bagiau llaw.

Gallwch gario meddyginiaeth hanfodol sy’n fwy na 100ml, ond bydd angen caniatâd arnoch gan y cwmni hedfan a’r maes awyr ymlaen llaw, ynghyd â llythyr neu bresgripsiwn gan eich meddyg.

Dylai pob meddyginiaeth rydych yn ei chymryd ar awyren gael ei chadw yn ei phecyn gwreiddiol, a dylai label y presgripsiwn a manylion cyswllt y fferyllfa fod yn hawdd eu gweld.

Ewch i wefan UK Gov am ragor o wybodaeth am reolau bagiau llaw ar gyfer teithio yn yr awyr.

Efallai na fydd hedfan yn cael ei gynghori os ydych yn fyr o wynt bob amser, yn anemig, mewn perygl o chwyddo ar yr ymennydd, wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar neu os ydych yn cael problemau â’ch clustiau neu’ch sinysau.

Gall teithio’n bell, yn enwedig yn yr awyr, gynyddu’r risg ohonoch yn datblygu clot gwaed yn eich coesau (thrombosis gwythiennau dwfn neu DVT).

Mae gan rai pobl â chanser, yn enwedig rhai mathau o ganser ar yr ysgyfaint, y stumog a’r perfeddyn, fwy o risg o gael DVT.

Ewch i weld eich meddyg cyn i chi deithio a darllenwch ein cynghorion ar atal DVT yn gysylltiedig â hedfan, sy’n cynnwys ymarferion a hosanau cywasgu.

Brechiadau teithio

Os yw eich cyrchfan yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael brechiadau, gwiriwch gyda’ch meddyg cyn i chi drefnu eich taith i weld a yw’n ddiogel i chi eu cael ai peidio.

Ni allwch gael rhai brechiadau neu efallai y byddant yn llai effeithiol os oes gennych fath penodol o ganser neu driniaeth ar gyfer canser.

Os ydych wedi cael cemotherapi a thrawsblaniad bôn-gelloedd, efallai y byddwch wedi colli eich imiwnedd i glefydau yr oeddech wedi cael eich brechu rhagddynt yn flaenorol. Felly, efallai y bydd angen brechiadau newydd arnoch.

Teithio gyda meddyginiaeth

Cymerwch ddigon o feddyginiaeth i bara trwy gydol eich taith ac ychydig yn ychwanegol, rhag ofn y bydd unrhyw oedi.

Os ydych yn mynd ar daith hir, gwiriwch a allwch gael eich meddyginiaeth yn y wlad rydych yn teithio iddi.

Os oes angen i chi gadw eich meddyginiaeth yn oer, prynwch fag oeri o fferyllfa ar gyfer y daith. Gwiriwch a oes oergell yn yr ystafell lle y byddwch yn aros.

Cadwch restr o’ch holl feddyginiaeth (gan gynnwys yr enwau generig) a’r dosiau yn eich pwrs neu waled, rhag ofn y byddwch yn colli unrhyw rai ohonynt neu’n eu defnyddio i gyd.

Gall teithio ar draws parthau amser effeithio ar ba bryd y byddwch yn cymryd meddyginiaeth reolaidd. Gall eich meddyg neu’ch fferyllydd eich helpu i gynllunio ar gyfer addasu amseroedd eich meddyginiaeth.

Darganfyddwch a oes angen llythyr arnoch gan eich meddyg teulu yn esbonio i’r swyddogion tollau bod angen i chi gario meddyginiaeth benodol, chwistrellau neu bympiau meddyginiaeth cludadwy.

Mae rhai meddygon teulu yn codi tâl am ysgrifennu llythyr, felly os ydych yn teithio’n aml, gofynnwch i’ch meddyg teulu ei ysgrifennu mewn ffordd y gellir ei ddefnyddio mwy nag unwaith.

Yswiriant teithio

Gall fod yn anodd iawn cael yswiriant teithio wedi i chi gael canser. Mae’n syniad da i chi ddechrau chwilio am yswiriant cyn i chi drefnu eich gwyliau.

Gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu cyn i chi brynu polisi yswiriant. Bydd yn gallu eich helpu i ateb yr holl gwestiynau meddygol am eich iechyd.

Ar gyfer teithio yn Ewrop, gwnewch yn siŵr fod gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC). Mae hyn yn rhoi’r hawl i chi gael triniaeth feddygol am bris gostyngol ac, ambell waith, yn rhad ac am ddim.

Dylech brynu yswiriant teithio hefyd oherwydd efallai na fydd yr EHIC yn talu am holl gostau eich triniaeth. Nid yw’r EHIC yn cwmpasu’r gost o hedfan yn ôl i’r DU.

Mae gan Gymorth Canser Macmillan wybodaeth am ddod o hyd i yswiriant teithio os oes gennych ganser.

Teithio gyda diabetes

Ni ddylai diabetes eich atal rhag teithio a mwynhau eich gwyliau.

Mae blaengynllunio yn allweddol o ran mwynhau eich hun ar wyliau a delio ag unrhyw broblemau posibl â’ch diabetes.

Mae arbenigwyr iechyd yn cynghori eich bod yn paratoi ar gyfer taith bedair i chwe wythnos cyn i chi deithio.

Mae pethau i’w hystyried fel rhan o’ch paratoadau yn cynnwys:

Deiet

P’un a ydych gartref neu dramor, dylech sicrhau eich bod yn bwyta'n iach.

Dylech allu dewis bwydydd o fwydlenni lleol a bwyta deiet cytbwys o hyd. Mae teithio dramor yn gyfle delfrydol i roi cynnig ar fwydydd gwahanol hefyd

Os ydych yn hedfan i’ch cyrchfan, peidiwch ag archebu pryd bwyd diabetig arbennig ar yr awyren. Yn aml, nid yw’r rhain yn cynnwys llawer o garbohydrad, felly nid ydynt yn addas, yn gyffredinol.

Ar deithiau hir, ewch â byrbrydau iach gyda chi gan fod prydau bwyd ar awyrennau yn dueddol o fod yn llai na phrydau bwyd arferol.

Mewn rhai gwledydd, caiff glwcos y gwaed ei fesur yn wahanol i’r DU. Gweler siart trawsnewid glwcos y gwaed Diabetes UK.

Meddyginiaeth a brechiadau teithio

Ewch i weld eich meddyg teulu neu arbenigwr diabetes i gael gwybodaeth am bigiadau teithio a sut gall y tywydd lleol a newid parthau amser effeithio ar eich cyflwr.

Gallai brechiadau amharu ar reolaeth glwcos eich gwaed gan fod eich corff yn gwneud gwrthgyrff i frwydro’r clefyd rydych wedi cael eich brechu yn ei erbyn.

Cariwch rywbeth sy’n dangos bod gennych ddiabetes (naill ai cerdyn neu dlws) fel bod pobl yn ymwybodol bod gennych ddiabetes os byddwch yn sâl.

Dewch â dwywaith y cyflenwadau meddygol y byddech yn eu defnyddio fel arfer ar gyfer eich diabetes.

Gallai teithio i hinsawdd boeth neu oer effeithio ar sut mae’ch inswlin a’ch monitor glwcos y gwaed yn gweithio.

Yswiriant teithio

Nid yw’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys cyflyrau meddygol presennol, gan gynnwys diabetes.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn datgan eich holl gyflyrau meddygol, gan gynnwys eich diabetes. Gallai camgymeriad neu esgeulustod arwain at wrthod eich hawliad.

Mae Diabetes UK yn argymell bod pawb sy’n teithio gyda chi yn cael ei yswirio ar bolisi sy’n cynnwys cyflyrau meddygol presennol.

Ar gyfer teithio yn Ewrop, gwnewch yn siŵr fod gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC). Mae hyn yn rhoi’r hawl i chi gael triniaeth feddygol am bris gostyngol ac, ambell waith, yn rhad ac am ddim.

Dylech brynu yswiriant teithio hefyd oherwydd efallai na fydd yr EHIC yn talu am holl gostau eich triniaeth. Nid yw’r EHIC yn cwmpasu’r gost o hedfan yn ôl i’r DU.

Ewch i wefan Diabetes UK i gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i yswiriant teithio os oes gennych ddiabetes.

Teithio yn yr awyr

Dewch â llythyr gan eich meddyg teulu yn esbonio bod angen i chi gario chwistrellau neu ddyfeisiau chwistrellu ac inswlin.

Mae rhai meddygon teulu yn codi tâl am ysgrifennu llythyr, felly os ydych yn teithio’n aml, gofynnwch i’ch meddyg teulu ei ysgrifennu mewn ffordd y gellir ei ddefnyddio mwy nag unwaith.

Cludwch eich holl feddyginiaeth diabetes yn eich bag llaw, rhag ofn y bydd eich bagiau sydd yn howld yr awyren yn mynd ar goll neu y caiff eich meddyginiaeth ei difrodi yn yr howld bagiau.

Mae Diabetes UK yn cynghori i chi beidio â chadw inswlin mewn bagiau sy’n mynd yn yr howld, gan y gallai’r tymheredd rhewllyd ei ddifrodi.

Os oes rhaid i chi roi inswlin yn eich bagiau sy’n mynd yn yr howld, rhowch ef mewn cynhwysydd aerglos neu mewn papur swigod, yna mewn tywel, a’i bacio yng nghanol eich siwtces.

Wedi i chi gyrraedd, gwiriwch nad yw’r inswlin wedi cael ei ddifrodi yn yr howld. Edrychwch am grisialau a gwiriwch y lefelau glwcos yn eich gwaed yn amlach.

Teithio gyda chyflwr ar y galon

Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â chyflwr ar y galon yn gallu teithio, cyn belled â’u bod yn teimlo’n dda a bod eu cyflwr yn sefydlog ac wedi’i reoli’n dda.

Os ydych yn gwella o gyflwr ar y galon, fel trawiad neu lawdriniaeth ar y galon, mae’n aml yn well aros nes i chi wella’n llawn cyn i chi deithio.

Gall eich meddyg teulu neu arbenigwr y galon roi cyngor i chi ynghylch a ydych yn ffit i deithio mewn awyren ai peidio.

Mae arbenigwyr iechyd yn cynghori eich bod yn paratoi ar gyfer taith bedair i chwe wythnos cyn i chi deithio.

Mae pethau i’w hystyried fel rhan o’ch paratoadau yn cynnwys:

  • eich cyrchfan
  • yswiriant teithio
  • teithio yn yr awyr
  • rheoliaduron y galon a deffibrilwyr cardiaidd mewnblanadwy (ICD)

Eich cyrchfan

Pan fyddwch yn trefnu eich gwyliau, ystyriwch sut i wneud eich taith mor hwylus â phosibl. Arhoswch mewn llety sy’n hygyrch ac yn agos at unrhyw amwynderau.

Osgowch gyrchfannau bryniog, oni bai eich bod wedi gwella digon a’ch bod yn ddigon heini ar gyfer gweithgarwch a all fod yn egnïol.

Osgowch deithio ar uchderau uchel (dros 2,000 metr) gan y gallai lefelau isel o ocsigen achosi diffyg anadl neu angina. Gofynnwch am gyngor gan eich meddyg.

Osgowch wledydd â thymereddau eithafol, sydd naill ai’n boeth iawn neu’n oer iawn, gan y gallai hyn roi pwysau ychwanegol ar eich calon.

Darganfyddwch sut y gallwch gael cymorth meddygol (fel ambiwlans neu feddyg lleol) yn eich cyrchfan, yn ôl yr angen.

Cadwch restr gyfredol o’ch holl feddyginiaeth (gan gynnwys yr enwau generig) a’r dosiau yn eich pwrs neu’ch waled, rhag ofn y byddwch yn colli unrhyw rai ohonynt.

Cymerwch ddigon o feddyginiaeth i bara trwy gydol eich taith ac ychydig ddyddiau yn ychwanegol.

Yswiriant teithio

Trefnwch yswiriant teithio a gwiriwch y bydd yn cynnwys eich cyflwr penodol ar y galon.

Datganwch eich holl gyflyrau iechyd blaenorol a phresennol. Gallai camgymeriad neu esgeulustod arwain at wrthod eich hawliad.

Gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu cyn i chi brynu polisi yswiriant. Bydd yn gallu eich helpu i ateb yr holl gwestiynau meddygol am eich iechyd.

Ar gyfer teithio yn Ewrop, gwnewch yn siŵr fod gennych. Mae hyn yn rhoi’r hawl i chi gael triniaeth feddygol am bris gostyngol ac, ambell waith, yn rhad ac am ddim.

Dylech brynu yswiriant teithio hefyd oherwydd efallai na fydd yr EHIC yn talu am holl gostau eich triniaeth. Nid yw’r EHIC yn cwmpasu’r gost o hedfan yn ôl i’r DU.

Ewch i wefan Sefydliad Prydeinig y Galon i gael rhagor o wybodaeth am yswiriant os oes gennych gyflwr ar y galon. Mae ganddynt restr o yswirwyr hefyd sy’n cael eu hargymell gan bobl sydd â chyflwr ar y galon.

Teithio yn yr awyr

Ewch i weld eich meddyg cyn i chi drefnu eich taith i gael cyngor ynghylch a ydych yn ddigon iach i deithio yn yr awyr ai peidio.

Os oes gennych gyflwr ar y galon neu hanes o glefyd y galon, efallai y byddwch mewn mwy o risg o gael thrombosis gwythiennau dwfn (DVT).

Gallwch gael cynghorion ar atal DVT sy'n gysylltiedig â hedfan, gan gynnwys ymarferion a hosanau cywasgu.

Ystyriwch drefnu cymorth yn y maes awyr, fel help gyda’ch bagiau a mynd ar yr awyren yn fuan.

Mae’n ddiogel i chi ddefnyddio eich chwistrell glyseryl trinitrad (GTN) tra’r ydych ar yr awyren.

O dan y cyfyngiadau diogelwch cyfredol, ni allwch gario cynhwysyddion â hylifau, geliau neu hufenau (gan gynnwys meddyginiaeth) sy’n fwy na 100ml yn eich bagiau llaw.

Gallwch gario meddyginiaeth hanfodol sy’n fwy na 100ml, ond bydd angen caniatâd arnoch gan y cwmni hedfan a’r maes awyr ymlaen llaw, ynghyd â llythyr neu bresgripsiwn gan eich meddyg.

Rheoliaduron y Galon a Diffibrilwyr Cardiaidd Mewnblanadwy (ICD)

Os oes gennych reoliadur neu ddifibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD), dewch â cherdyn adnabod eich dyfais gyda chi.

Dywedwch wrth y staff diogelwch fod gennych reoliadur neu ICD, gan y gallant wneud i larwm y datgelydd metel diogelwch ganu.

Gofynnwch i’r staff diogelwch eich chwilio â llaw neu â datgelydd metel llaw. Ni ddylai’r datgelydd metel gael ei roi yn uniongyrchol ar ben eich dyfais.