Cyflwyniad

Mae asthma yn gyflwr cyffredin ar yr ysgyfaint sy'n achosi anawsterau anadlu achlysurol.

Mae'n effeithio ar bobl o bob oed ac mae'n aml yn dechrau mewn plentyndod, er ei fod yn gallu datblygu am y tro cyntaf mewn oedolion hefyd.

Nid oes iachâd iddo ar hyn o bryd, ond mae triniaethau syml sy'n gallu helpu i reoli'r symptomau fel nad yw'n cael effaith fawr ar eich bywyd.

Symptomau

Prif symptomau asthma yw:

  • gwichian (swn chwibanu wrth anadlu)
  • diffyg anadl
  • tyndra yn y frest, a allai deimlo fel petai rhwymyn yn tynhau o'i chwmpas
  • peswch

Gall y symptomau waethygu dros dro weithiau. Gelwir hyn yn bwl o asthma.

Darllenwch fwy ynghylch symptomau asthma.

Pryd i fynd at Feddyg Teulu

Ewch at eich Meddyg Teulu os ydych yn amau bod gennych chi neu'ch plentyn asthma.

Mae sawl cyflwr yn gallu achosi symptomau tebyg, felly mae'n bwysig cael diagnosis iawn a'r driniaeth gywir.

Fel arfer, bydd eich Meddyg Teulu'n gallu gwneud diagnosis o asthma trwy ofyn ynglyn â'ch symptomau a chynnal rhai profion syml.

Darllenwch fwy ynghylch gwneud diagnosis o asthma.

Triniaethau

Mae asthma fel arfer yn cael ei drin trwy ddefnyddio mewnanadlydd, sef dyfais fach sy'n gadael i chi anadlu meddyginiaethau.

Dyma'r prif fathau:

  • mewnanadlyddion lleddfol - defnyddir y rhain pan fydd angen i leddfu symptomau asthma'n gyflym am gyfnod byr
  • mewnanadlyddion ataliol - defnyddir y rhain bob dydd i atal symptomau asthma rhag digwydd

Mae angen i rai pobl gymryd tabledi hefyd.

Achosion a sbardunau

Mae asthma'n cael ei achosi wrth i'r tiwbiau bach sy'n cludo aer i mewn ac allan o'r ysgyfaint gael eu llidio (chwyddo). Mae hyn yn gwneud y tiwbiau'n sensitif iawn, ac felly maen nhw'n culhau dros dro.

Gallai ddigwydd ar hap neu ar ôl dod i gysylltiad â sbardun. Mae sbardunau cyffredin asthma yn cynnwys:

  • alergenau - i widdon llwch ty, blew anifeiliaid neu baill, er enghraifft
  • mwg, llygredd ac aer oer
  • ymarfer corff
  • heintiau fel annwyd a'r ffliw

Gall adnabod ac osgoi yr hyn sy'n sbarduno eich asthma eich helpu i reoli'ch symptomau.

Darllenwch fwy ynghylch achosion asthma.

Am ba mor hir mae'n para?

Cyflwr tymor hir yw asthma i lawer o bobl, yn enwedig os yw'n datblygu am y tro cyntaf pan fyddwch yn oedolyn.

Mewn plant, mae'n diflannu neu'n gwella weithiau yn ystod blynyddoedd yr arddegau, ond mae'n gallu dychwelyd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Fel arfer, gellir rheoli'r symptomau â thriniaeth. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn byw bywyd arferol, actif, er y gallai rhai sydd ag asthma mwy difrifol brofi problemau mwy parhaus.

Cymhlethdodau

Er bod asthma'n gallu cael ei reoli fel arfer, mae'n gyflwr difrifol sy'n gallu achosi nifer o broblemau.

Dyna pam mae mor bwysig dilyn eich cynllun triniaeth a pheidio ag anwybyddu'ch symptomau os byddant yn gwaethygu.

Gall asthma a reolir yn wael achosi problemau fel:

  • teimlo'n flinedig drwy'r amser
  • tanberfformio yn y gwaith neu'r ysgol neu absenoldeb
  • straen, gorbryder neu iselder
  • amharu ar eich gwaith a'ch gweithgareddau hamdden oherwydd ymweliadau heb eu cynllunio â'ch Meddyg Teulu neu'r ysbyty
  • heintiau ar yr ysgyfaint (niwmonia)
  • oedi o ran twf neu'r glasoed mewn plant

Mae perygl hefyd o byliau difrifol o asthma, sy'n gallu bygwth bywyd.

^^ Yn ôl i’r brig

Symptomau

Bydd y rhan fwyaf o blant ac oedolion sydd ag asthma yn ei chael hi'n fwy anodd anadlu ar adegau.

Efallai y bydd rhai pobl ag asthma difrifol yn cael problemau anadlu y rhan fwyaf o'r amser.

Symptomau mwyaf cyffredin asthma yw:

  • gwichian (swn chwibanu wrth anadlu)
  • diffyg anadl
  • tyndra yn y frest - gallai deimlo fel petai rhwymyn yn tynhau o'i hamgylch
  • peswch

Mae llawer o bethau'n gallu achosi'r symptomau hyn, ond maen nhw'n fwy tebygol o fod yn asthma:

  • os ydynt yn digwydd yn aml ac yn dychwelyd dro ar ôl tro
  • os ydynt yn waeth yn y nos ac yn gynnar yn y bore
  • os yw'n ymddangos eu bod nhw'n digwydd mewn ymateb i sbardun asthma fel ymarfer corff neu alergedd (fel paill neu flew anifeiliaid)

Ewch at Feddyg Teulu os ydych yn credu y gallai fod asthma arnoch chi neu eich plentyn, neu os oes gennych asthma a'ch bod yn cael trafferth ei reoli.

Pyliau o asthma

Gall asthma waethygu am gyfnod byr weithiau. Gelwir hyn yn bwl o asthma. Mae'n gallu digwydd yn sydyn, neu'n raddol dros ychydig ddiwrnodau.

Mae arwyddion pwl difrifol o asthma yn cynnwys:

  • gwichian, peswch a thyndra yn y frest sy'n mynd yn ddifrifol ac yn gyson
  • dim digon o anadl i fwyta, siarad na chysgu
  • anadlu'n gyflymach
  • curiad calon cyflym
  • teimlo'n gysglyd, yn ddryslyd, yn lluddedig neu'n benysgafn
  • gwefusau neu ewinedd glas
  • llewygu
^^ Yn ôl i’r brig

Achosion

Nid yw'n glir beth yn union sy'n achosi asthma.

Mae gan bobl sydd ag asthma lwybrau anadlu llidus (chwyddedig) a "sensitif" sy'n culhau ac yn cael eu rhwystro gan fwcws gludiog mewn ymateb i sbardunau penodol.

Mae geneteg, llygredd a safonau hylendid modern wedi cael eu hawgrymu fel achosion, ond nid oes digon o dystiolaeth i wybod a yw unrhyw un o'r rhain yn achosi asthma.

Pwy sydd mewn perygl?

Mae nifer o bethau'n gallu cynyddu eich siawns o gael asthma. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • bod â chyflwr sy'n gysylltiedig ag alergedd, fel ecsema, alergedd bwyd neu clefyd y gwair - gelwir y rhain yn gyflyrau atopig
  • bod â hanes teulu o asthma neu gyflyrau atopig
  • cael bronciolitis pan oeddech yn blentyn - haint gyffredin ar yr ysgyfaint
  • bod yn agored i fwg tybaco pan oeddech yn blentyn
  • os oedd eich mam yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd
  • cael eich geni cyn pryd (cyn 37 wythnos) neu â phwysau geni isel

Gallai rhai pobl fod mewn perygl o ddatblygu asthma trwy eu swydd hefyd.

Sbardunau asthma

Mae symptomau asthma'n digwydd yn aml mewn ymateb i sbardun. Mae sbardunwyr cyffredin yn cynnwys:

  • heintiau fel annwyd a'r ffliw
  • alergenau - fel paill, gwiddon llwch, plu neu flew anifeiliaid
  • mwg, mygdarthau a llygredd
  • meddyginiaethau - yn enwedig y cyffuriau lleddfu poen gwrthlidiol fel asbrin ac ibuprofen
  • y tywydd - fel newid sydyn mewn tymheredd, aer oer, gwynt, stormydd taranau, gwres a lleithder
  • llwydni neu leithder
  • ymarfer corff

Pan fyddwch yn gwybod beth sy'n sbarduno eich asthma, gallai ceisio ei osgoi helpu i reoli eich symptomau asthma.

Mae Asthma UK yn cynnig rhagor o wybodaeth am sbardunau asthma.

Asthma cysylltiedig â gwaith

Mewn rhai achosion, mae asthma'n gysylltiedig â sylweddau y gallech fod wedi dod i gysylltiad â nhw yn y gwaith. Gelwir hyn yn asthma galwedigaethol.

Mae rhai o'r achosion mwyaf cyffredin o asthma galwedigaethol yn cynnwys:

  • isoseianadau (cemegau a geir mewn paent chwistrellu yn aml)
  • blawd a llwch grawn
  • resin du (sylwedd a geir mewn mygdarthau sodr yn aml)
  • latecs
  • anifeiliaid
  • llwch pren

Mae chwistrellwyr paent, pobyddion a phasteiwyr, nyrsys, gweithwyr cemegol, pobl sy'n trafod anifeiliaid, gweithwyr pren, weldwyr a gweithwyr prosesu bwyd i gyd yn enghreifftiau o bobl a allai fod mewn perygl uwch o ddod i gysylltiad â'r sylweddau hyn.

Eisiau gwybod mwy?

^^ Yn ôl i’r brig

Diagnosis

Fel arfer, gellir gwneud diagnosis o asthma o'ch symptomau a rhai profion syml.

Bydd eich Meddyg Teulu'n gallu gwneud diagnosis ohono fwy na thebyg, ond fe allai eich atgyfeirio i arbenigwr os nad yw'n siwr.

Gweld eich Meddyg Teulu

Gallai eich Meddyg Teulu ofyn:

  • pa symptomau sydd gennych
  • pryd maen nhw'n digwydd a pha mor aml
  • os yw'n ymddangos bod unrhyw beth yn eu sbarduno nhw
  • os oes gennych gyflyrau fel ecsema neu alergeddau, neu hanes ohonyn nhw yn y teulu

Gallai awgrymu cynnal rhai profion i gadarnhau bod asthma arnoch chi.

Nid yw'n rhwydd cynnal y rhain ar blant ifanc bob amser, felly mae'n bosibl y bydd mewnanadlydd asthma'n cael ei roi i'ch plentyn i weld a yw'n helpu i leddfu ei symptomau hyd nes y bydd yn ddigon hen i gael y profion.

Profion ar gyfer asthma

Dyma'r prif brofion a ddefnyddir i helpu i wneud diagnosis o asthma:

  • prawf FeNO - byddwch yn anadlu i mewn i beiriant sy'n mesur lefel yr ocsid nitrig yn eich anadl, sy'n arwydd o lid ar eich ysgyfaint
  • sbirometreg - byddwch yn chwythu i mewn i beiriant sy'n mesur pa mor gyflym y gallwch anadlu allan a faint o aer y gallwch ei ddal yn eich ysgyfaint.
  • prawf briglif - byddwch yn chwythu i mewn i ddyfais a ddelir yn y llaw sy'n mesur pa mor gyflym y gallwch anadlu allan. Gallai hyn gael ei wneud sawl gwaith dros ychydig wythnosau i weld a yw'n newid dros amser

Ar ôl i chi gael diagnosis o asthma, efallai y byddwch hefyd yn cael profion alergedd i weld a allai eich symptomau gael eu sbarduno gan alergedd.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am wneud diagnosis o asthma.

^^ Yn ôl i’r brig

Triniaeth

Nid oes iachâd ar gyfer asthma ar hyn o bryd, ond gall triniaeth helpu i reoli'r symptomau fel y gallwch fyw bywyd arferol, actif.

Mewnanadlyddion - dyfeisiau sy'n gadael i chi fewnanadlu meddyginiaeth - yw'r brif driniaeth. Efallai y bydd angen tabledi a thriniaethau eraill hefyd os yw eich asthma'n ddifrifol.

Fel arfer, byddwch yn creu cynllun gweithredu personol gyda'ch meddyg neu'ch nyrs asthma. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich meddyginiaethau, sut i fonitro'ch cyflwr a beth i'w wneud os byddwch yn cael pwl o asthma.

Mewnanadlyddion

Mae mewnanadlyddion yn gallu helpu i:

  • leddfu symptomau pan fyddan nhw'n digwydd (mewnanadlyddion lleddfol)
  • atal symptomau rhag datblygu (mewnanadlyddion ataliol)

Mae ar rai pobl angen mewnanadlydd sy'n gwneud y ddau (mewnanadlyddion cyfunol).

Mewnanadlyddion lleddfol

Bydd mewnanadlydd lleddfol yn cael ei roi i'r rhan fwyaf o bobl sydd ag asthma. Mae'r rhain yn las fel arfer.

Dylech ddefnyddio mewnanadlydd lleddfol i drin eich symptomau pan fyddan nhw'n digwydd. Dylai leddfu eich symptomau o fewn ychydig funudau.

Dywedwch wrth eich Meddyg Teulu neu'ch nyrs asthma os oes rhaid i chi ddefnyddio'ch mewnanadlydd lleddfol 3 gwaith neu fwy yr wythnos. Fe allai awgrymu triniaeth ychwanegol, fel mewnanadlydd ataliol.

Ychydig iawn o sgil-effeithiau sydd gan fewnanadlyddion lleddfol, ond weithiau gallant achosi cryndod neu guriad calon cyflym am ychydig funudau ar ôl eu defnyddio.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am fewnanadlyddion lleddfol.

Mewnanadlyddion ataliol

Os oes angen i chi ddefnyddio mewnanadlydd lleddfol yn aml, mae'n bosibl y bydd arnoch angen mewnanadlydd ataliol hefyd.

Byddwch yn defnyddio mewnanadlydd ataliol bob dydd i leihau'r llid a'r sensitifrwydd yn eich llwybrau anadlu, a fydd yn atal eich symptomau rhag digwydd. Mae'n bwysig ei ddefnyddio hyd yn oed pan na fyddwch yn profi symptomau.

Siaradwch â'ch Meddyg Teulu neu'ch nyrs asthma os byddwch yn parhau i brofi symptomau tra byddwch yn defnyddio mewnanadlydd ataliol.

Mae mewnanadlyddion ataliol yn cynnwys meddyginiaeth steroid. Nid ydynt yn arwain at sgil-effeithiau fel arfer, ond weithiau gallant achosi:

Gallwch helpu i atal y sgil-effeithiau hyn trwy ddefnyddio bylchwr - tiwb plastig gwag sy'n cael ei gysylltu â'ch mewnanadlydd - yn ogystal â rinsio'ch ceg neu lanhau eich dannedd ar ôl defnyddio'ch mewnanadlydd.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am fewnanadlyddion ataliol.

Mewnanadlyddion cyfunol

Os nad yw defnyddio mewnanadlyddion lleddfol ac ataliol yn rheoli eich asthma, efallai y bydd arnoch angen mewnanadlydd sy'n cyfuno'r ddau.

Defnyddir mewnanadlyddion cyfunol bob dydd i helpu i atal symptomau rhag digwydd a darparu rhyddhad am gyfnod hir os byddant yn digwydd.

Mae'n bwysig defnyddio'r rhain yn rheolaidd, hyd yn oed os nad ydych yn profi symptomau.

Mae sgil-effeithiau mewnanadlyddion cyfunol yn debyg i rai mewnanadlyddion lleddfol ac ataliol.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am fewnanadlyddion cyfunol.

Tabledi

Efallai y bydd angen i chi gymryd tabledi hefyd os nad yw defnyddio mewnanadlydd ar ei ben ei hun yn helpu i reoli eich symptomau.

Gwrthweithyddion derbynnydd lewcotrin (LTRAs)

LTRAs yw'r prif dabledi a ddefnyddir ar gyfer asthma. Maen nhw'n dod ar ffurf surop a phowdwr.

Byddwch yn eu cymryd bob dydd i helpu i atal eich symptomau rhag digwydd.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys poen stumog a phen tost/cur pen.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am LTRAs.

Theoffylin

Gallai theoffylin gael ei argymell hefyd os nad yw triniaethau eraill yn helpu i reoli eich symptomau.

Mae'n cael ei gymryd bob dydd i atal eich symptomau rhag digwydd.

Mae sgil-effeithiau posibl yn cynnwys pen tost/cur pen a theimlo'n gyfoglyd.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am theoffylin.

Tabledi steroid

Gallai tabledi steroid gael eu hargymell os nad yw triniaethau eraill yn helpu i reoli eich symptomau.

Gellir eu cymryd naill ai:

  • fel triniaeth ar unwaith pan fyddwch yn cael pwl o asthma
  • bob dydd fel triniaeth tymor hir i atal symptomau - fel arfer, bydd angen gwneud hyn dim ond os oes gennych asthma difrifol iawn ac nid yw mewnanadlyddion yn rheoli eich symptomau

Gall defnydd tymor hir neu fynych o dabledi steroid achosi'r sgil-effeithiau canlynol weithiau:

  • mwy o chwant bwyd, gan arwain at ennill pwysau
  • cleisio'n rhwydd
  • hwyliau ansad
  • esgyrn brau (osteoporosis)
  • pwysedd gwaed uchel

Byddwch yn cael eich monitro'n rheolaidd tra byddwch yn cymryd tabledi steroid i wirio am arwyddion o unrhyw broblemau.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am dabledi steroid.

Triniaethau eraill

Ni fydd angen triniaethau eraill, fel pigiadau neu lawdriniaeth, heblaw mewn achosion prin, ond gallent gael eu hargymell os nad yw triniaethau eraill yn helpu.

Pigiadau

Gall pigiadau a roddir bob ychydig wythnosau helpu i reoli symptomau rhai pobl sydd ag asthma difrifol.

Dyma'r prif bigiadau ar gyfer asthma:

  • omalizumab (Xolair)
  • mepolizumab (Nucala)
  • reslizumab (Cinqaero)

Nid yw'r meddyginiaethau hyn yn addas i bawb sydd ag asthma a gallant gael eu rhagnodi gan arbenigwr asthma yn unig.

Y prif sgil-effaith yw anghysur pan roddir y pigiad.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am Xolair a thriniaethau newydd ar gyfer asthma difrifol.

Llawdriniaeth

Mae triniaeth o'r enw thermoplasti bronciol yn cael ei defnyddio ambell waith i drin asthma difrifol.

Mae'n cynnwys pasio tiwb tenau, ystwyth i lawr eich gwddf ac i mewn i'ch ysgyfaint. Yna, defnyddir gwres ar y cyhyrau o amgylch y llwybrau anadlu i helpu i'w hatal rhag culhau ac achosi symptomau asthma.

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai hyn leihau pyliau o asthma, ond mae'n driniaeth gymharol newydd ac nid ydym yn llwyr ddeall yr effeithiau tymor hir eto.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am thermoplasti bronciol

Therapïau cyflenwol

Mae nifer o therapïau cyflenwol wedi cael eu hawgrymu fel triniaeth bosibl ar gyfer asthma, gan gynnwys:

  • ymarferion anadlu - fel technegau o'r enw dull Papworth a dull Buteyko
  • meddyginiaeth lysieuol Dsieineaidd draddodiadol
  • aciwbigo
  • ïoneiddwyr - dyfeisiau sy'n defnyddio cerrynt trydanol i wefru moleciwlau aer
  • therapïau llaw - fel ceiropracteg
  • homeopathi
  • ychwanegion dietegol

Ychydig o dystiolaeth sydd i awgrymu bod llawer o'r triniaethau hyn yn helpu.

Mae rhywfaint o dystiolaeth fod ymarferion anadlu'n gallu gwella symptomau a lleihau'r angen am feddyginiaethau lleddfol mewn rhai pobl, ond ni ddylech eu defnyddio yn lle eich meddyginiaeth.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am therapïau cyflenwol ar gyfer asthma.

Asthma cysylltiedig â gwaith

Os yw'n bosibl bod gennych asthma galwedigaethol, lle mae'ch asthma'n gysylltiedig â'ch swydd, cewch eich atgyfeirio i arbenigwr i gadarnhau'r diagnosis.

Os oes gan eich cyflogwr wasanaeth iechyd galwedigaethol, dylid rhoi gwybod iddyn nhw hefyd, ynghyd â'ch swyddog iechyd a diogelwch.

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb i'ch amddiffyn rhag achosion asthma galwedigaethol. Weithiau, fe allai fod yn bosibl:

  • dileu'r sylwedd sy'n sbarduno'ch asthma o'ch gweithle neu ei ddisodli
  • eich symud i rôl arall yn y cwmni
  • rhoi offer anadlu amddiffynnol i chi

Eisiau gwybod mwy?

^^ Yn ôl i’r brig

Byw gyda

Gyda thriniaeth, gall y rhan fwyaf o bobl sydd ag asthma fyw bywyd arferol. Mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud hefyd i helpu i reoli eich symptomau.

Pethau y gallwch eu gwneud

  • defnyddio'ch mewnanadlydd yn iawn - mae gan Asthma UK wybodaeth ynghylch defnyddio eich mewnanadlydd, a gallwch ofyn i'ch nyrs neu'ch Meddyg Teulu am gyngor os ydych yn dal i fod yn ansicr
  • defnyddio'ch mewnanadlydd ataliol neu gymryd eich tabledi bob dydd - gall hyn helpu i reoli'ch symptomau ac atal pyliau o asthma
  • gwirio cyn cymryd meddyginiaethau eraill - darllenwch y wybodaeth ar y pecyn bob amser i weld a yw meddyginiaeth yn addas i rywun ag asthma, a gofynnwch i fferyllydd, meddyg neu nyrs os nad ydych yn siwr
  • peidio ag ysmygu - gall rhoi'r gorau i ysmygu leihau difrifoldeb ac amlder eich symptomau yn sylweddol
  • ymarfer corff yn rheolaidd - ni ddylai ymarfer corff sbarduno eich symptomau pan fyddwch yn cael triniaeth briodol; mae gan Asthma UK gyngor ynghylch gwneud ymarfer corff gydag asthma
  • bwyta'n iach - gall y rhan fwyaf o bobl sydd ag asthma fwyta diet arferol
  • cael brechiadau - mae'n syniad da cael y brechlyn ffliw blynyddol a'r brechlyn niwmococol

Adnabod ac osgoi eich sbardunwyr

Mae'n bwysig adnabod sbardunwyr asthma trwy nodi ble rydych a beth rydych yn ei wneud pan fydd eich symptomau'n gwaethygu.

Mae'n anodd osgoi rhai sbardunwyr, ond fe allai fod yn bosibl osgoi eraill, fel gwiddon llwch, blew anifeiliaid a rhai meddyginiaethau. Gweler atal alergeddau am fwy o wybodaeth.

Siaradwch â'ch meddyg neu'ch nyrs asthma i gael cyngor os ydych yn credu eich bod wedi adnabod sbardun ar gyfer eich symptomau.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am sbardunwyr asthma.

Archwiliadau rheolaidd

Byddwch mewn cysylltiad rheolaidd â'ch meddyg neu'ch nyrs asthma i fonitro eich cyflwr.

Gallai'r apwyntiadau hyn gynnwys:

  • siarad am eich symptomau - er enghraifft, os ydynt yn effeithio ar eich gweithgareddau beunyddiol neu'n gwaethygu
  • trafod eich meddyginiaethau - gan gynnwys a ydych yn credu y gallech fod yn profi unrhyw sgil-effeithiau ac a oes angen i chi gael eich atgoffa sut i ddefnyddio'ch mewnanadlydd
  • profion anadlu

Mae hefyd yn gyfle da i ofyn unrhyw gwestiynau neu godi unrhyw faterion eraill yr hoffech eu trafod.

Efallai y gofynnir i chi helpu i fonitro eich cyflwr rhwng apwyntiadau. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi wirio'ch briglif os ydych yn credu y gallai eich symptomau fod yn gwaethygu.

Dylai eich cynllun gweithredu personol roi gwybod beth i'w wneud os bydd eich symptomau'n gwaethygu'n raddol neu'n sydyn. Cysylltwch â'ch meddyg neu'ch nyrs asthma os ydych yn ansicr beth i'w wneud.

Tywydd oer ac asthma

Mae tywydd oer yn sbarduno symptomau asthma yn aml. Mae Asthma UK yn rhoi'r cyngor canlynol i'ch helpu i reoli eich symptomau yn yr oerfel:

  • cariwch eich mewnanadlydd gyda chi bob amser a defnyddiwch eich mewnanadlydd ataliol rheolaidd yn unol â'r cyfarwyddiadau
  • os bydd angen i chi ddefnyddio'ch mewnanadlydd yn amlach nag arfer, siaradwch â'ch meddyg ynghylch adolygu eich triniaeth
  • cadwch yn gynnes ac yn sych - gwisgwch fenig, sgarff a het, a chariwch ymbarél
  • lapiwch sgarff yn ysgafn dros eich trwyn a'ch ceg - bydd hyn yn helpu i gynhesu'r aer cyn i chi fewnanadlu
  • ceisiwch fewnanadlu trwy'ch trwyn yn lle'ch ceg - bydd eich trwyn yn cynhesu'r aer wrth i chi anadlu

Teithio gydag asthma

Ni ddylai asthma eich atal rhag teithio, ond bydd angen i chi gymryd rhagofalon ychwanegol pan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau ac ar deithiau hir.

Gwnewch yn siwr fod gennych ddigon o feddyginiaeth gyda chi, a chadwch eich mewnanadlydd lleddfol wrth law.

Os nad ydych wedi gweld eich meddyg neu'ch nyrs asthma ers tro, mae'n syniad da trefnu apwyntiad cyn i chi deithio i adolygu eich cynllun gweithredu personol a sicrhau ei fod yn gyfredol.

Gall eich meddyg neu'ch nyrs asthma hefyd eich cynghori ynghylch teithio gydag asthma.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am asthma a theithio.

Asthma a beichiogrwydd

Nid yw asthma'n effeithio ar eich siawns o gael plant, a bydd y mwyafrif helaeth o fenywod ag asthma yn cael beichiogrwydd arferol.

Yn gyffredinol, bydd eich triniaeth yn aros yr un fath yn ystod beichiogrwydd. Ystyrir bod y rhan fwyaf o feddyginiaethau asthma, yn enwedig mewnanadlyddion, yn ddiogel tra byddwch yn feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Ond dylech siarad â'ch meddyg neu'ch nyrs asthma i gael cyngor os byddwch yn beichiogi neu'n cynllunio beichiogi, oherwydd:

  • gallai eich symptomau waethygu yn ystod beichiogrwydd - er y byddant yn gwella mewn rhai menywod - felly efallai y bydd angen i'ch triniaeth gael ei hadolygu'n rheolaidd
  • gall asthma a reolir yn wael yn ystod beichiogrwydd gynyddu perygl cymhlethdodau fel cyneclampsia a genedigaeth cyn pryd
  • mae'n bosibl y bydd angen cymryd rhagofalon ychwanegol wrth esgor i osgoi pwl o asthma, er bod pyliau o asthma wrth esgor yn anghyffredin

Eisiau gwybod mwy?

Asthma yn yr ysgol

Gall y rhan fwyaf o blant sydd ag asthma a reolir yn dda ddysgu a chymryd rhan yng ngweithgareddau'r ysgol heb i'w cyflwr effeithio arnynt.

Ond mae'n bwysig sicrhau bod gan yr ysgol wybodaeth ysgrifenedig gyfredol am feddyginiaeth asthma eich plentyn, gan gynnwys beth ydyw, faint ohoni mae'n ei chymryd a phryd y mae angen iddo ei chymryd.

Efallai y bydd angen i chi roi mewnanadlydd sbâr i'r ysgol hefyd rhag ofn y bydd eich plentyn yn profi symptomau yn ystod y diwrnod ysgol.

Dylai staff yr ysgol allu adnabod symptomau asthma sy'n gwaethygu a gwybod beth i'w wneud os bydd plentyn yn cael pwl, yn enwedig staff sy'n goruchwylio chwaraeon neu addysg gorfforol.

Efallai y bydd gan ysgol eich plentyn bolisi asthma, y gallwch ofyn am gael ei weld.

Mae Asthma UK yn cynnig mwy o wybodaeth am asthma mewn ysgolion a meithrinfeydd.

Siarad ag eraill

Mae llawer o bobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir, fel asthma, yn teimlo straen, gorbryder ac iselder.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad â phobl eraill am eich profiad o asthma. Mae gan sefydliadau cleifion grwpiau lleol lle y gallwch gyfarfod â phobl sydd wedi cael diagnosis o asthma ac wedi cael triniaeth.

Os ydych chi'n cael trafferth ymdopi, siaradwch â'ch Meddyg Teulu, a fydd yn gallu rhoi cyngor a chymorth. Fel arall, gallwch ddod o hyd i wasanaethau cymorth iselder yn eich ardal.

Eisiau gwybod mwy?

^^ Yn ôl i’r brig


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 07/05/2021 12:47:41