Damweiniau a chymorth cyntaf

Cyflwyniad

First aid
First aid

Mae miloedd o bobl yn marw neu'n cael eu hanafu'n ddifrifol mewn damweiniau bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gallai llawer o'r marwolaethau hyn gael eu hatal os rhoddir cymorth cyntaf yn y fan a'r lle cyn i wasanaethau brys gyrraedd.

Beth i'w wneud

Os yw rhywun wedi'i anafu:

  • yn gyntaf, gwnewch yn siwr nad ydych chi a'r sawl sydd wedi'i anafu mewn unrhyw berygl, a chymerwch gamau i wneud y sefyllfa'n ddiogel os oes modd
  • os oes angen, ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans, pan fydd yn ddiogel
  • rhowch gymorth cyntaf sylfaenol

Darllenwch fwy o wybodaeth am beth i'w wneud ar ôl damwain.

Os yw rhywun yn anymwybodol ac yn anadlu

Os yw unigolyn yn anymwybodol ond yn anadlu, ac nid oes ganddo unrhyw anafiadau eraill a fyddai'n ei rwystro rhag cael ei symud, dylid ei osod yn yr ystum adfer hyd nes bod cymorth yn cyrraedd.

Dylech gadw golwg arno i sicrhau ei fod yn parhau i anadlu yn y ffordd arferol, a pheidiwch â rhwystro ei lwybr anadlu.

Os yw rhywun yn anymwybodol ac nid yw'n anadlu

Os nad yw unigolyn yn anadlu'n arferol ar ôl damwain, ffoniwch am ambiwlans a dechreuwch wneud CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd) ar unwaith. Defnyddiwch CPR dwylo yn unig os nad ydych wedi cael eich hyfforddi i roi anadliadau achub.

Darllenwch fwy am CPR, gan gynnwys cyfarwyddiadau a fideo ar sut i wneud CPR dwylo yn unig.

Damweiniau ac argyfyngau cyffredin

Isod, yn nhrefn yr wyddor, rhoddir rhai o'r anafiadau mwyaf cyffredin y mae angen triniaeth frys arnynt yn y Deyrnas Unedig, a gwybodaeth am sut i ddelio â nhw:

Anaffylacsis

Adwaith alergaidd difrifol yw anaffylacsis (neu sioc anaffylactig) sy'n gallu digwydd ar ôl pigiad pryfyn neu ar ôl i rywun fwyta bwydydd penodol. Gall yr adwaith andwyol fod yn gyflym iawn, gan ddigwydd o fewn eiliadau neu funudau o ddod i gysylltiad â'r sylwedd y mae unigolyn yn alergaidd iddo (alergen).

Yn ystod sioc anaffylactig, gallai unigolyn ei chael hi'n anodd anadlu oherwydd gallai ei dafod a'i wddf chwyddo, gan rwystro ei lwybr anadlu.

Os ydych yn amau bod rhywun yn cael sioc anaffylactig, ffoniwch 999 neu 111 ar unwaith.

Edrychwch i weld a oes gan yr unigolyn unrhyw feddyginiaeth. Efallai y bydd rhai pobl sy'n gwybod bod ganddynt alergeddau difrifol yn cario hunan-chwistrellwr adrenalin gyda nhw, sef math o chwistrell a baratowyd o flaen llaw. Gallwch naill ai helpu'r unigolyn i roi ei feddyginiaeth ei hun neu, os ydych wedi cael hyfforddiant, gallwch chi roi'r feddyginiaeth iddo.

Ar ôl y pigiad, dylech barhau i ofalu am yr unigolyn nes bod cymorth meddygol yn cyrraedd. Rhaid i bob unigolyn clwyfedig sydd wedi cael chwistrelliad o adrenalin i mewn i'r cyhyr neu o dan y croen gael ei weld a'i archwilio'n feddygol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn gynted ag y bo modd ar ôl i'r chwistrelliad gael ei roi.

Gwnewch yn siwr ei fod yn gyfforddus ac yn gallu anadlu cystal â phosibl tra byddwch yn aros i gymorth meddygol gyrraedd. Os yw'n ymwybodol, y safle gorau iddo fel arfer yw eistedd yn unionsyth.

Darllenwch fwy ynghylch trin anaffylacsis.

Gwaedu

Os yw rhywun yn gwaedu'n drwm, y prif nod yw ei atal rhag colli rhagor o waed a lleihau effeithiau sioc cymaint â phosibl (gweler isod).

Yn gyntaf, ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans cyn gynted ag y bo modd.

Os oes gennych fenig tafladwy, defnyddiwch nhw er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo unrhyw haint.

Edrychwch i weld a oes unrhyw beth yn sownd yn y clwyf. Os oes, peidiwch â gwasgu i lawr arno.

Yn lle hynny, gwasgwch yn dynn ar bob ochr i'r gwrthrych a rhoi mwy a mwy o badin o'i amgylch cyn rhwymo er mwyn osgoi rhoi pwysau ar y gwrthrych ei hun.

Os nad oes unrhyw beth yn sownd yn y clwyf:

  • rhowch bwysau cyson ar y clwyf gyda'ch llaw sydd â maneg arni, gan ddefnyddio pad neu orchudd glân os yw'n bosibl; dylech barhau i roi pwysau ar y clwyf nes bod y gwaedu'n stopio
  • defnyddiwch orchudd glân i rwymo'r clwyf yn dynn
  • os yw'r gwaedu'n parhau trwy'r pad, rhowch bwysau ar y clwyf nes i'r gwaedu stopio, ac wedyn rhowch bad arall ar ei ben a'i rwymo yn ei le. Peidiwch â thynnu'r pad neu'r rhwymyn gwreiddiol, ond dylech barhau i wneud yn siwr bod y gwaedu wedi stopio

Os yw rhan o'r corff wedi cael ei thorri ymaith, fel bys, rhowch y rhan mewn bag plastig neu ei lapio mewn haenen lynu (cling film) a gwnewch yn siwr ei bod yn mynd gyda'r unigolyn clwyfedig i'r ysbyty.

Dylech bob amser ofyn am gyngor meddygol ynghylch gwaedu oni bai bod y gwaedu'n ysgafn.

Os bydd rhywun yn cael gwaedlif o'r trwyn nad yw wedi rhoi'r gorau i waedu ar ôl 20 munud, ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf.

Darllenwch fwy am sut i drin mân waedu o doriadau a chrafiadau a sut i drin gwaedlif o'r trwyn.

Gorchuddion a rhwymynnau tynhau gwaedataliol

Mewn sefyllfaoedd penodol, lle mae gwaedu'n ddifrifol iawn ac o rannau'r corff fel y pen, y gwddf a'r torso, gallai fod yn briodol defnyddio gorchuddion neu rwymyn tynhau gwaedataliol.

Mae gorchuddion gwaedataliol yn cynnwys priodoleddau sy'n helpu'r gwaed i geulo (tewhau) yn gyflymach. Band sy'n cael ei rwymo'n dynn o gwmpas braich neu goes i atal gwaed rhag cael ei golli yw rhwymyn tynhau. Dylai gorchuddion a rhwymynnau tynhau gwaedataliol ond cael eu defnyddio gan bobl sydd wedi cael eu hyfforddi i wneud hynny.

Llosgiadau a sgaldiadau

Os bydd gan rywun losgiad neu sgaldiad:

  • oerwch y llosgiad mor gyflym â phosibl trwy redeg dwr oer drosto am 10 munud o leiaf neu hyd nes bod y poen yn lleddfu
  • ffoniwch 999 neu gofynnwch am gymorth meddygol os oes angen
  • wrth i chi oeri'r llosgiad, tynnwch unrhyw ddillad neu emwaith yn ofalus, oni bai eu bod yn sownd wrth y croen
  • os byddwch yn oeri rhan fawr o groen sydd wedi llosgi, yn enwedig mewn babanod, plant a phobl hyn, cofiwch y gallai achosi hypothermia (efallai y bydd angen rhoi'r gorau i oeri'r llosgiad er mwyn osgoi hypothermia)
  • gorchuddiwch y llosgiad yn llac gyda haenen lynu; os nad oes haenen lynu ar gael, defnyddiwch orchudd glân, sych neu ddeunydd nad yw'n wlanog. Peidiwch â lapio'r llosgiad yn dynn, oherwydd gallai chwyddo arwain at anaf pellach
  • peidiwch â rhoi hufennau, golchdrwythau na chwistrelliadau ar y llosgiad

O ran llosgiadau cemegol, gwisgwch fenig amddiffynnol, tynnwch unrhyw ddillad yr effeithiwyd arnynt, a rinsiwch y llosgiad trwy redeg dwr oer drosto am 20 munud o leiaf i olchi'r cemegolyn allan. Os yw'n bosibl, ceisiwch ddarganfod beth sydd wedi achosi'r anaf.

Mewn sefyllfaoedd penodol lle ymdrinnir â chemegolyn yn rheolaidd, efallai y bydd gwrthwenwyn cemegol penodol ar gael i'w ddefnyddio.

Gofalwch nad ydych yn heintio ac anafu eich hun â'r cemegolyn, a gwisgwch ddillad amddiffynnol os oes angen.

Ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am sylw meddygol ar unwaith.

Darllenwch fwy o wybodaeth am sut i drin llosgiadau a sgaldiadau.

Tagu

Mae'r wybodaeth isod yn ymwneud â thagu mewn oedolion a phlant hyn na blwydd oed. Darllenwch wybodaeth am beth i'w wneud os yw baban iau na blwydd oed yn tagu.

Tagu nad yw'n ddifrifol

Os yw'r llwybr anadlu wedi'i rwystro'n rhannol yn unig, bydd yr unigolyn fel arfer yn gallu siarad, crïo, pesychu neu anadlu. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, bydd unigolyn fel arfer yn gallu clirio'r rhwystr ei hun.

Os nad yw'r tagu'n ddifrifol:

  • anogwch yr unigolyn i barhau i besychu er mwyn ceisio clirio'r rhwystr
  • gofynnwch iddo boeri'r gwrthrych allan os yw yn ei geg
  • peidiwch â rhoi eich bysedd yn ei geg i'w helpu oherwydd gallai eich brathu/cnoi yn ddamweiniol

Os nad yw pesychu'n gweithio, dechreuwch roi ergydion i gefn yr unigolyn (gweler isod).

Tagu difrifol

Os yw'r tagu'n ddifrifol, ni fydd yr unigolyn yn gallu siarad, crïo, pesychu nac anadlu, a heb gymorth, bydd yn mynd yn anymwybodol yn y pen draw.

I helpu oedolyn neu blentyn sy'n hyn na blwydd oed:

  • Sefwch y tu ôl i'r unigolyn sy'n tagu ac ychydig i un ochr. Cynhaliwch ei frest ag un llaw. Pwyswch yr unigolyn ymlaen er mwyn i'r gwrthrych sy'n rhwystro ei lwybr anadlu allu dod allan o'i geg, yn hytrach na symud ymhellach i lawr.
  • Rhowch hyd at bum ergyd sydyn rhwng palfeisiau (shoulder blades) yr unigolyn â gwaelod cledr eich llaw (y rhan rhwng cledr eich llaw a'ch arddwrn).
  • Edrychwch i weld a yw'r rhwystr wedi clirio.
  • Os na, rhowch hyd at bum gwthiad abdomenol (gweler isod).

Ni ddylid defnyddio gwthiadau abdomenol ar fabanod sy'n iau na blwydd oed, menywod beichiog na phobl sy'n ordew.

I wneud gwthiadau abdomenol ar rywun sy'n tagu'n ddifrifol ac nad yw'n perthyn i un o'r grwpiau uchod:

  • Sefwch y tu ôl i'r unigolyn sy'n tagu.
  • Rhowch eich breichiau o amgylch ei ganol a'i blygu ymhell ymlaen.
  • Caewch un dwrn a'i leoli ychydig uwchben bogail yr unigolyn.
  • Rhowch eich llaw arall ar ben eich dwrn, yna tynnwch yn galed i mewn ac i fyny.
  • Ailadroddwch hyn hyd at bum gwaith.

Y nod yw cael y rhwystr allan gyda phob gwthiad i'r frest yn hytrach na gwneud pob un o'r pump o reidrwydd.

Os nad yw'r rhwystr yn clirio ar ôl tair cyfres o ergydiau i'r cefn a gwthiadau i'r frest, ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans ac ailadroddwch y patrwm hyd nes bod cymorth yn cyrraedd.

Dylai'r unigolyn sy'n tagu gael archwiliad gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi hynny bob amser i weld a gafodd unrhyw anafiadau neu a oes unrhyw ddarnau llai o'r rhwystr yn parhau.

Boddi

Os bydd rhywun yn cael anhawster mewn dwr, peidiwch â mynd i mewn i'r dwr i helpu oni bai bod hynny'n gwbl hanfodol.

Pan fydd yr unigolyn ar y tir, os nad yw'n anadlu, agorwch y llwybr anadlu a rhowch bum anadl achub gychwynnol cyn dechrau CPR. Os ydych ar eich pen eich hun, gwnewch CPR am un funud cyn galw am gymorth brys.

Darganfyddwch sut i wneud CPR, gan gynnwys anadliadau achub.

Os yw'r unigolyn yn anymwybodol ond yn dal i anadlu, rhowch ef yn yr ystum adfer gyda'i ben yn is na'i gorff, a ffoniwch am ambiwlans ar unwaith.

Dylech barhau i gadw golwg ar yr unigolyn i wneud yn siwr nad yw'n rhoi'r gorau i anadlu neu fod ei lwybr anadlu yn cael ei rwystro.

Trydanu (domestig)

Os yw rhywun wedi cael ei drydanu, diffoddwch y cerrynt trydanol wrth y prif gyflenwad er mwyn torri'r cysylltiad rhwng yr unigolyn a'r cyflenwad trydanol.

Os na allwch gyrraedd y prif gyflenwad:

  • peidiwch â mynd yn agos at yr unigolyn na chyffwrdd ag ef hyd nes y byddwch yn siwr bod y cyflenwad trydanol wedi'i ddiffodd
  • wedi i'r cyflenwad pwer gael ei ddiffodd, ac os nad yw'r unigolyn yn anadlu, ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans

Ar ôl achos o drydanu, gofynnwch am gymorth meddygol bob amser oni bai bod y sioc yn un fach iawn.

Toriadau

Mae'n gallu bod yn anodd gwybod a yw unigolyn wedi torri asgwrn neu gymal, neu a yw wedi anafu cyhyr. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech drin yr anaf fel petai'n asgwrn wedi torri.

Os yw'r unigolyn yn anymwybodol, yn cael trafferth anadlu neu'n gwaedu'n ddifrifol, dylid rhoi sylw i'r pethau hyn yn gyntaf, trwy reoli'r gwaedu â phwysau uniongyrchol a gwneud CPR.

Os yw'r unigolyn yn ymwybodol, gallwch atal unrhyw boen neu niwed ychwanegol trwy gadw'r anaf mor llonydd â phosibl hyd nes y gallwch ei gludo'n ddiogel i'r ysbyty.

Aseswch yr anaf a phenderfynwch ai'r ffordd orau o gludo'r unigolyn i'r ysbyty yw mewn ambiwlans neu gar. Er enghraifft, os nad yw'r poen yn rhy ddifrifol, gallech ei gludo i'r ysbyty mewn car. Mae bob amser yn well cael rhywun arall i yrru, er mwyn i chi allu rhoi sylw i'r unigolyn clwyfedig os bydd ei gyflwr yn dirywio - er enghraifft, os bydd yn mynd yn anymwybodol o ganlyniad i'r poen neu'n dechrau chwydu.

Fodd bynnag:

  • os yw'r unigolyn mewn llawer o boen ac angen meddyginiaeth gref i ladd poen, peidiwch â'i symud, a ffoniwch am ambiwlans
  • os yw'n amlwg ei fod wedi torri ei goes, peidiwch â'i symud. Yn hytrach, cadwch ef yn yr un safle a ffoniwch am ambiwlans
  • os ydych yn amau bod yr unigolyn wedi anafu neu dorri ei gefn, peidiwch â'i symud, a ffoniwch am ambiwlans

Peidiwch â rhoi unrhyw beth i'r unigolyn ei fwyta na'i yfed oherwydd fe allai fod angen iddo gael anesthetig (meddyginiaeth fferru) pan fydd yn cyrraedd yr ysbyty.

Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am dorri esgyrn penodol ar y tudalennau canlynol:

Trawiad ar y galon

Trawiad ar y galon yw un o'r cyflyrau mwyaf cyffredin ar y galon sy'n bygwth bywyd yn y Deyrnas Unedig.

Os ydych yn credu bod unigolyn yn cael trawiad ar y galon neu ei fod wedi cael un, rhowch ef i eistedd i lawr a'i wneud mor gyfforddus â phosibl, a ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans.

Mae symptomau trawiad ar y galon yn cynnwys:

  • poen yn y frest - mae'r poen fel arfer yng nghanol neu ar ochr chwith y frest ac mae'n gallu teimlo fel pwysedd, tyndra neu wasgu
  • poen mewn rhannau eraill o'r corff - mae'n gallu teimlo fel petai'r poen yn teithio o'r frest i un fraich neu'r ddwy fraich, neu i'r ên, y gwddf, y cefn neu'r abdomen (bol/bola)

Rhowch yr unigolyn i eistedd a'i wneud yn gyfforddus.

Os yw'n ymwybodol, tawelwch ei feddwl a rhowch dabled asbrin 300mg iddo i'w chnoi'n araf (oni bai bod unrhyw reswm i beidio â rhoi asbrin iddo - er enghraifft, os yw'n iau nag 16 oed neu'n alergaidd iddo).

Os oes gan yr unigolyn unrhyw feddyginiaeth ar gyfer angina, fel chwistrell neu dabledi, helpwch ef i'w chymryd. Cadwch olwg ar ei arwyddion bywyd, fel anadlu, hyd nes bod cymorth yn cyrraedd.

Os yw'r unigolyn yn dirywio ac yn mynd yn anymwybodol, agorwch ei lwybr anadlu, edrychwch i weld a yw'n anadlu ac, os oes angen, dechreuwch CPR. Cysylltwch â'r gwasanaethau brys eto i roi gwybod iddynt fod gan yr unigolyn ataliad ar y galon erbyn hyn.

Gwenwyno

Mae gwenwyno yn gallu bygwth bywyd. Mae'r rhan fwyaf o achosion o wenwyno yn y Deyrnas Unedig yn digwydd pan fydd unigolyn wedi llyncu sylwedd gwenwynig fel cannydd, wedi cymryd gorddos o feddyginiaeth ar bresgripsiwn, neu wedi bwyta planhigion a ffyngau gwyllt. Mae gwenwyn alcohol yn gallu achosi symptomau tebyg.

Os ydych yn credu bod rhywun wedi llyncu sylwedd gwenwynig, ffoniwch 999 neu 112 i gael cymorth a chyngor meddygol ar unwaith.

Mae effeithiau gwenwyno'n dibynnu ar y sylwedd a lyncwyd, ond maen nhw'n gallu cynnwys chwydu, colli ymwybyddiaeth, poen neu deimlad o losgi. Mae'r cyngor canlynol yn bwysig:

  • Darganfyddwch beth sydd wedi cael ei lyncu, fel y gallwch ddweud wrth y parafeddyg neu'r meddyg.
  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth i'r unigolyn ei fwyta na'i yfed oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn eich cynghori i wneud hynny.
  • Peidiwch â cheisio achosi chwydu.
  • Arhoswch gyda'r unigolyn, oherwydd fe allai ei gyflwr waethygu ac fe allai fynd yn anymwybodol.

Os yw'r unigolyn yn mynd yn anymwybodol tra byddwch yn aros am gymorth, edrychwch i weld a yw'n anadlu, ac os bydd angen, gwnewch CPR.

Peidiwch â gwneud adfywio ceg wrth geg os bydd gwenwyn yng ngheg neu lwybr anadlu'r unigolyn.

Peidiwch â gadael yr unigolyn os yw'n anymwybodol oherwydd fe allai rolio ar ei gefn. Gallai hyn achosi iddo chwydu. Wedyn, gallai'r chwyd gyrraedd ei ysgyfaint a gwneud iddo dagu.

Os yw'r unigolyn yn ymwybodol ac yn anadlu yn y ffordd arferol, rhowch ef yn yr ystum adfer a pharhau i gadw golwg ar ba mor ymwybodol ydyw, a'i anadlu.

Darllenwch fwy o wybodaeth ynghylch trin rhywun sydd wedi cael ei wenwyno a trin gwenwyn alcohol.

Sioc

Yn achos anaf neu salwch difrifol, mae'n bwysig cadw golwg am arwyddion sioc (gweler isod).

Cyflwr sy'n bygwth bywyd yw sioc sy'n digwydd pan fydd y system gylchredol yn methu â darparu digon o waed ocsigenedig i'r corff ac, o ganlyniad, mae'n amddifadu'r organau hanfodol o ocsigen.

Mae hyn fel arfer o ganlyniad i golli llawer iawn o waed, ond fe all hefyd ddigwydd ar ôl llosgiadau difrifol, chwydu difrifol, trawiad ar y galon, haint facteriol neu adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis).

Nid yw'r math o sioc a ddisgrifir yma yr un fath â'r ymateb emosiynol o gael ysgytwad, sydd hefyd yn gallu digwydd ar ôl damwain.

Mae arwyddion sioc yn cynnwys:

  • croen gwelw, oer, llaith
  • chwysu
  • anadlu'n gyflym
  • gwendid a phendro
  • teimlo'n sâl a chwydu o bosibl
  • syched
  • dylyfu gên
  • ochneidio

Gofynnwch am gymorth meddygol ar unwaith os byddwch yn sylwi bod gan rywun unrhyw un o'r arwyddion sioc uchod. Os felly:

  • ffoniwch 999 neu 112 cyn gynted â phosibl a gofynnwch am ambiwlans
  • dylech drin unrhyw anafiadau amlwg
  • rhowch yr unigolyn i orwedd os yw ei anafiadau'n caniatáu i chi wneud hynny, a chodwch ei goesau, a'u cynnal, os oes modd
  • defnyddiwch gôt neu flanced i'w gadw'n gynnes
  • peidiwch â rhoi unrhyw beth iddo i'w fwyta na'i yfed
  • tawelwch ei feddwl a'i gysuro
  • cadwch olwg ar yr unigolyn - os bydd yn peidio ag anadlu, dechreuwch CPR a chysylltwch â'r gwasanaethau brys eto

Strôc

Canllaw FAST yw'r peth pwysicaf i'w gofio wrth ddelio â phobl sydd wedi cael strôc. Gorau po gyntaf y cânt driniaeth. Ffoniwch am gymorth meddygol brys ar unwaith.

Os ydych yn credu bod rhywun wedi cael strôc, defnyddiwch y canllaw FAST:

  • (Facial weakness) Gwendid yn yr wyneb - a yw'r unigolyn yn methu â chodi dwy ochr ei wefus yn gyfartal wrth wenu, neu a yw ei lygaid neu ei geg yn llipa?
  • (Arm weakness) Gwendid yn y fraich - a yw'r unigolyn yn gallu codi un fraich yn unig?
  • (Speech problems) Problemau lleferydd - a yw'r unigolyn yn methu â siarad yn eglur neu eich deall?
  • (Time to call) Amser i ffonio 999 neu 112 i gael cymorth brys os oes gan unigolyn unrhyw un o'r symptomau hyn.

Darllenwch fwy o wybodaeth am symptomau strôc.

Cael cymorth mewn argyfwng

999 yw rhif y gwasanaethau brys yn y Deyrnas Unedig, a hynny ers blynyddoedd lawer.

Fodd bynnag, gallwch ffonio 112 hefyd erbyn hyn i gael cymorth. 112 yw'r rhif ffôn argyfwng ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd a bydd yn eich cysylltu â'r gwasanaethau brys ble bynnag yr ydych yn yr Undeb Ewropeaidd.

Pan fyddwch yn ffonio 999 neu 112, bydd y sawl sy'n ateb yn gofyn i chi ba wasanaeth y mae arnoch ei angen yn ogystal â gofyn i chi roi'r wybodaeth ganlynol:

  • eich rhif ffôn
  • y cyfeiriad lle'r ydych chi
  • disgrifiad bras o beth sy'n bod ar y sawl sydd wedi'i anafu ac a yw'n gwaedu, yn anymwybodol neu heb fod yn anadlu

Mae'n bosibl y bydd y sawl sy'n ymdrin â'r alwad yn rhoi cyngor i chi ar sut i gynorthwyo'r sawl sydd wedi'i anafu hyd nes bod cymorth yn cyrraedd.

T.B.A

Os yw rhywun wedi'i anafu mewn digwyddiad, y peth cyntaf i'w wneud yw sicrhau nad ydych chi a'r sawl sydd wedi'i anafu mewn perygl. Os ydych mewn perygl, cymerwch gamau i wneud y sefyllfa'n ddiogel.

Pan fydd yn ddiogel, aseswch y sawl sydd wedi'i anafu a ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans os bydd angen. Yna, gallwch roi cymorth cyntaf sylfaenol.

Asesu rhywun sydd wedi'i anafu

Dyma'r tri pheth pwysicaf i'w cofio wrth ddelio â rhywun sydd wedi'i anafu:

  • Llwybr anadlu
  • Anadlu
  • Cylchrediad

Llwybr anadlu

Os yw'r sawl sydd wedi'i anafu'n ymddangos yn ddiymateb, gofynnwch iddo'n uchel a yw'n iawn ac a yw'n gallu agor ei lygaid. Os yw'n ymateb, gallwch ei adael yn ei safle presennol hyd nes bod cymorth yn cyrraedd. Tra'ch bod yn aros, cadwch olwg ar ei anadlu, curiad ei galon a'i lefel ymateb:

  • A yw'n effro?
  • A yw'n ymateb i'ch llais?
  • A yw'n ymateb i boen?
  • Dim ymateb i unrhyw ysgogiad (a yw'n anymwybodol)?

Os nad oes ymateb, gadewch y sawl sydd wedi'i anafu yn ei safle presennol ac agorwch ei lwybr anadlu. Os nad yw hyn yn bosibl yn ei safle presennol, rhowch yr unigolyn sydd wedi'i anafu i orwedd ar ei gefn yn ofalus ac agorwch ei lwybr anadlu.

Gallwch agor y llwybr anadlu trwy osod un llaw ar dalcen y sawl sydd wedi'i anafu a gwyro ei ben yn ôl yn ofalus, ac yna codi blaen ei ên gan ddefnyddio dau fys. Gwneir hyn er mwyn symud y tafod i ffwrdd oddi wrth gefn y gwddf. Peidiwch â gwthio ar waelod y geg gan y bydd hyn yn gwthio'r tafod i fyny ac yn rhwystro'r llwybr anadlu.

Os ydych chi'n credu y gallai'r unigolyn fod wedi anafu ei gefn, rhowch eich dwylo ar naill ochr ei ben a defnyddiwch flaenau'ch bysedd i godi ei ên yn ofalus ymlaen ac i fyny, heb symud y pen, er mwyn agor y llwybr anadlu. Gofalwch nad ydych yn symud ei wddf. Fodd bynnag, mae agor y llwybr anadlu yn cael blaenoriaeth dros anaf i'r gwddf. Yr enw a roddir ar hyn yw'r dechneg gwthio'r ên.

Anadlu

I wirio a yw unigolyn yn dal i anadlu:

  • edrychwch i weld a yw ei frest yn codi a gostwng
  • gwrandewch dros ei geg a'i drwyn am synau anadlu
  • teimlwch ei anadl yn erbyn eich boch am 10 eiliad

Os yw'n anadlu'n arferol, rhowch ef yn yr ystum adfer fel bod y llwybr anadlu'n aros yn glir rhag rhwystrau. Daliwch ati i gadw golwg ar anadlu arferol. Nid yw dal anadl neu anadlu afreolaidd yn anadlu arferol.

Os nad yw'n anadlu, ffoniwch 999 neu 112 i ofyn am ambiwlans, ac yna dechreuwch CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd).

Cylchrediad

Os nad yw'r unigolyn sydd wedi'i anafu yn anadlu'n arferol, yna rhaid i chi ddechrau cywasgu'r frest ar unwaith.

Mae anadlu ingol yn gyffredin yn yr ychydig funudau cyntaf ar ôl ataliad calon sydyn (pan fydd y galon yn peidio â churo). Anadliadau sydyn, afreolaidd yw anadlu ingol. Nid anadlu arferol yw hyn a dylid rhoi CPR yn syth.

Cyrsiau cymorth cyntaf

Mae'r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad am sefyllfaoedd cymorth cyntaf cyffredin. Fodd bynnag, ni ddylid eu defnyddio yn lle dilyn cwrs hyfforddi cymorth cyntaf.

Caiff cyrsiau cymorth cyntaf sylfaenol eu cynnal yn rheolaidd yn y rhan fwyaf o ardaloedd ledled y DU. Mae Ambiwlans Sant Ioan, Y Groes Goch Brydeinig a Cymorth Cyntaf Sant Andreas i gyd yn darparu detholiad o gyrsiau cymorth cyntaf.

T.B.A

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad am adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) dwylo yn unig a CPR gydag anadliadau achub.

CPR dwylo yn unig:

I gywasgu'r frest:

  • Rhowch waelod cledr eich llaw ar asgwrn y fron yng nghanol brest yr unigolyn. Rhowch eich llaw arall ar ben eich llaw gyntaf a chyd-gloi eich bysedd.
  • Gwnewch yn siwr fod eich ysgwyddau uwchben eich dwylo.
  • Gan ddefnyddio pwysau eich corff (nid dim ond eich breichiau), gwasgwch yn syth i lawr 5-6cm (2-2.5 modfedd) ar ei frest.
  • Trwy gadw eich dwylo ar ei frest, dylech ryddhau'r cywasgiad a gadael i'r frest fynd yn ôl i'w safle gwreiddiol.
  • Ailadroddwch hyn ar gyfradd o 100 i 120 o weithiau bob munud nes bod ambiwlans yn cyrraedd neu nes byddwch wedi blino'n llwyr.

Pan fyddwch yn ffonio am ambiwlans, mae systemau ffôn yn bodoli bellach sy'n gallu rhoi cyfarwyddiadau sylfaenol ar achub bywydau, gan gynnwys cyngor ar CPR. Mae'r rhain yn gyffredin erbyn hyn ac ar gael yn rhwydd trwy ffôn symudol.

CPR gydag anadliadau achub

Os ydych wedi cael eich hyfforddi i wneud CPR, gan gynnwys anadliadau achub, ac yn teimlo'n hyderus yn defnyddio eich sgiliau, dylech gywasgu'r frest gydag anadliadau achub. Os nad ydych yn gwbl hyderus, rhowch gynnig ar CPR dwylo yn unig yn lle hynny (gweler uchod).

Oedolion

  • Rhowch waelod cledr eich llaw yng nghanol brest yr unigolyn, yna rhowch eich llaw arall ar ben eich llaw gyntaf a gwasgu i lawr 5-6cm (2-2.25 mofedd) yn gyson, gan gywasgu tua 100 i 120 o weithiau bob munud.
  • Ar ôl cywasgu'r frest 30 o weithiau, rhowch ddwy anadl achub.
  • Gwyrwch ben y sawl sydd wedi'i anafu yn ofalus a chodwch ei ên gyda dau fys. Pinsiwch drwyn yr unigolyn. Caewch eich ceg yn dynn dros ei geg ef a chwythwch yn gyson ac yn gryf i mewn i'w geg am ryw un eiliad. Edrychwch i weld a yw ei frest yn codi. Rhowch ddwy anadl achub.
  • Ailadroddwch batrwm o gywasgu'r frest 30 o weithiau a rhoi dwy anadl achub hyd nes ei fod yn dechrau dod at ei hun neu hyd nes bod cymorth brys yn cyrraedd.

Plant hŷn na blwydd oed

  • Agorwch lwybr anadlu'r plentyn trwy roi un llaw ar dalcen y plentyn a gwyro ei ben yn ôl yn ofalus a chodi ei ên. Symudwch unrhyw rwystrau amlwg o'i geg a'i drwyn.
  • Pinsiwch ei drwyn. Caewch eich ceg yn dynn dros ei geg ef a chwythwch yn gyson ac yn gryf i mewn i'w geg, gan edrych i weld a yw ei frest yn codi. Rhowch bum anadl achub gychwynnol.
  • Rhowch waelod cledr eich llaw yng nghanol ei frest a gwthiwch i lawr tua 5cm (tua dwy fodfedd), sydd oddeutu traean diamedr y frest. Mae ansawdd (dyfnder) cywasgiadau i'r frest yn bwysig iawn. Defnyddiwch ddwy law os na allwch wasgu i lawr i ddyfnder o 5cm gan ddefnyddio un llaw.
  • Ar ôl cywasgu'r frest 30 o weithiau ar gyfradd o 100 i 120 bob munud, rhowch ddwy anadl.
  • Ailadroddwch batrwm o gywasgu'r frest 30 o weithiau a rhoi dwy anadl achub hyd nes ei fod yn dechrau dod at ei hun neu hyd nes bod cymorth brys yn cyrraedd.

Babanod iau na blwydd oed

  • Agorwch lwybr anadlu'r baban trwy roi un llaw ar ei dalcen a gwyro ei ben yn ôl yn ofalus a chodi ei ên. Symudwch unrhyw rwystrau amlwg o'i geg a'i drwyn.
  • Rhowch eich ceg dros geg a thrwyn y baban a chwythwch yn gyson ac yn gryf i mewn i'w geg, gan edrych i weld bod ei frest yn codi. Rhowch bum anadl achub gychwynnol.
  • Rhowch ddau fys yng nghanol ei frest a gwthio i lawr 4cm (tua 1.5 modfedd), sydd oddeutu traean diamedr y frest. Mae ansawdd (dyfnder) cywasgiadau i'r frest yn bwysig iawn. Defnyddiwch waelod cledr un llaw os na allwch wasgu i ddyfnder o 4cm gan ddefnyddio blaenau dau fys.
  • Ar ôl cywasgu'r frest 30 o weithiau ar gyfradd o 100 i 120 bob munud, rhowch ddwy anadl achub.
  • Ailadroddwch batrwm o gywasgu'r frest 30 o weithiau a rhoi dwy anadl achub hyd nes ei fod yn dechrau dod at ei hun neu hyd nes bod cymorth brys yn cyrraedd.

Gwyliwch Vinnie Jones yn gwneud CPR dwylo yn unig i guriad Stayin' Alive. Nid yw CPR mor anodd ag y tybiwch. Ffoniwch 999 ac yna gwthiwch yn Galed ac yn Gyflym. Mae'r fideo hwn ar gael ar wefan Sefydliad Prydeinig y Galon.

T.B.A

Os yw unigolyn yn anymwybodol ond yn anadlu ac nid oes ganddo unrhyw gyflyrau eraill sy'n bygwth bywyd, dylid ei osod yn yr ystum adfer.

Bydd gosod rhywun yn yr ystum adfer yn sicrhau bod ei lwybr anadlu'n aros yn glir ac yn agored. Bydd hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw chŵyd neu hylif yn achosi iddo dagu.

I osod rhywun yn yr ystum adfer, dilynwch y camau hyn:

  • gyda'r unigolyn yn gorwedd ar ei gefn, penliniwch ar y llawr wrth ei ochr
  • rhowch y fraich sydd agosaf atoch ar ongl sgwâr i'w gorff gyda'i law i fyny tuag at ei ben
  • rhowch ei law arall o dan ochr ei ben, fel bod cefn ei law yn cyffwrdd â'i foch
  • plygwch y pen-glin sydd bellaf oddi wrthych ar ongl sgwâr
  • rholiwch yr unigolyn ar ei ochr yn ofalus trwy dynnu ar y pen-glin sydd wedi'i blygu
  • dylai'r fraich uchaf fod yn cynnal y pen a bydd y fraich waelod yn eich atal rhag ei rolio'n rhy bell
  • agorwch ei lwybr anadlu trwy wyro ei ben yn ôl yn ofalus a chodi ei ên, a gwnewch yn siwr nad oes unrhyw beth yn rhwystro ei lwybr anadlu
  • arhoswch gyda'r unigolyn a chadwch olwg ar ei gyflwr nes bod cymorth yn cyrraedd

Mae gan y gymdeithas epilepsi fideo ar ei gwefan sy'n dangos sut i roi rhywun yn yr ystum adfer. Cliciwch yma i fynd i'r dudalen.

Anaf i'r cefn

Os ydych chi'n credu y gallai unigolyn fod wedi anafu ei gefn, peidiwch â cheisio ei symud hyd nes bod y gwasanaethau brys yn eich cyrraedd.

Os oes angen i chi agor ei lwybr anadlu, rhowch eich dwylo ar bob ochr i'w ben a chodwch ei ên yn ofalus gyda blaenau eich bysedd i agor y llwybr anadlu. Gofalwch nad ydych yn symud ei wddf.

Dylech amau bod unigolyn wedi anafu ei gefn:

  • os yw wedi bod mewn digwyddiad sydd wedi effeithio'n uniongyrchol ar ei asgwrn cefn, er enghraifft syrthio o uchder neu gael ei daro'n syth yn ei gefn
  • os yw'n cwyno am boen difrifol yn ei wddf neu ei gefn
  • os na fydd yn symud ei wddf
  • os yw'n teimlo'n wan, yn ddideimlad neu wedi'i barlysu
  • os yw wedi colli rheolaeth ar ei freichiau a'i goesau, ei bledren neu ei goluddyn


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 08/09/2023 11:44:38