Triniaeth Feddygol wedi'i Chynllunio yn yr UE, AEE/EFTA a'r Swistir - Llwybr Ariannu S2

Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael cyllid gan y GIG ar gyfer triniaeth iechyd wedi’i chynllunio yn un o wledydd yr UE neu yn Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu'r Swistir gan ddefnyddio tystysgrif S2.

Mae llwybr cyllid S2 yn berthnasol i ddarparwyr gofal iechyd cyhoeddus yn unig –  nid yw'n cynnwys triniaeth breifat. Os ydych chi'n teithio â'r bwriad o gael triniaeth wedi'i chynllunio, rhaid ichi gyflwyno cais S2 a chael cymeradwyaeth gan eich Bwrdd Iechyd Lleol cyn ichi deithio. Mae angen bodloni rhai meini prawf cymhwysedd cyn y gellir cymeradwyo'r cyllid hwn.

Gwledydd sy'n cael eu cynnwys

  • Dyma wledydd yr UE: Awstria, Gwlad Belg, Bwlgaria, Croatia, Gweriniaeth Cyprus, y Weriniaeth Tsiec, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Romania, Slofacia, Slofenia, Sbaen a Sweden.
  • Mae'r Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein yn dod o dan gynllun S2.
  • Ar gyfer y Swistir bydd angen hefyd ichi ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eich statws cenedligrwydd.
  • Rhaid i'r "darparwr" triniaeth fod yn yr UE neu'r Swistir / Norwy / Gwlad yr Iâ / Liechtenstein.
  • Nid yw Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru wedi'u cynnwys gan eu bod yn rhan o'r DU.

Os nad oes gennych dystiolaeth ffurfiol o'ch statws preswylydd sefydlog yn y DU, mae rhagor o wybodaeth i weld a oes angen ichi wneud cais drwy'r Cynllun Windrush.

Y Swistir

Ar gyfer y Swistir bydd angen ichi hefyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol am eich cenedligrwydd/statws. I fod yn gymwys i gael triniaeth wedi’i chynllunio yn y Swistir mae'n rhaid ichi fod â:

  • Statws Claf:
  • Cenedligrwydd y DU, Iwerddon, y Swistir neu'r UE (neu genedligrwydd deuol sy'n cynnwys un o'r rhain).
  • Neu’n berson di-wladwriaeth neu'n ffoadur (yn byw yn y DU).
  • Neu'n aelod o deulu rhywun / yn oroeswr i rywun sydd ag un o’r cenedligrwyddau neu statysau hyn.

Gall ymgeiswyr roi tystiolaeth o'u cenedligrwydd trwy ddangos dogfen swyddogol e.e. pasbort neu dystysgrif geni.

   Neu:

  • Statws aelod o'r teulu: Gall ymgeiswyr hefyd brofi eu cymhwysedd os ydynt yn perthyn i berson sydd â chenedligrwydd y DU / Iwerddon / yr UE neu'r Swistir neu os ydynt yn perthyn i berson di-wladwriaeth neu ffoadur sy'n byw yn y DU. Gall y person hwn fod yn ŵr/gwraig, yn bartner sifil neu'n blentyn iddynt. Rhaid rhoi tystiolaeth o genedligrwydd yr aelod o'r teulu a'r cysylltiad teuluol e.e. trwy dystysgrif geni.
  • Ffoaduriaid: Gellir profi eu statws trwy ddogfennau sy'n dangos eu hawl i breswylio, er enghraifft trwydded breswylio Biometrig y DU, Dogfen Deithio ar gyfer Ffoaduriaid a roddwyd yn y DU neu waith papur y Swyddfa Gartref.
  • Pobl ddi-wladwriaeth: Gellir profi eu statws drwy, er enghraifft, Ddogfen Person Ddi-wladwriaeth a roddwyd yn y DU, trwydded breswylio Biometrig y DU neu waith papur y Swyddfa Gartref.

Nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr, ac efallai y bydd ymgeiswyr yn gallu profi eu bod yn gymwys i gael triniaeth wedi’i chynllunio yn y Swistir drwy ddangos dogfennennau swyddogol nad ydynt wedi’u crybwyll yma.

Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Cymru

Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Cymru yn cynnwys:

  • Cymeradwyaeth Ymlaen Llaw: Rhaid i geisiadau gael eu hawdurdodi cyn i’r driniaeth gael ei rhoi. Ni fydd ceisiadau ôl-weithredol am S2 yn cael eu hystyried.
  • Gofal Iechyd Gwladol: Rhaid i'r driniaeth fod ar gael i'r claf o dan gynllun gofal iechyd gwladol y wlad sy'n darparu'r driniaeth, ac nid fel claf preifat. Rhaid cael cadarnhad ysgrifenedig gan y darparwr bod y driniaeth yn cael ei darparu gan y wladwriaeth.
  • Hawl drwy'r GIG: Rhaid i'r driniaeth fod ar gael fel mater o drefn i'r claf drwy’r GIG yn eu hamgylchiadau meddygol.
  • Oedi Gormodol: Rhaid i’r GIG yng Nghymru gadarnhau na all ddarparu’r driniaeth/triniaethau neu elfennau cyfwerth, o fewn cyfnod amser sy’n dderbyniol yn feddygol, ar gyfer cyflwr/diagnosis y claf (gelwir hyn yn Oedi Gormodol). Bydd y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn cysylltu â'r tîm clinigol lleol i ddarparu'r wybodaeth hon.
  • Cymorth meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth: Rhaid cael cefnogaeth ysgrifenedig gan glinigwr o'r UE neu'r Swistir/Norwy/Gwlad yr Iâ/Liechtenstein, sydd, yn dilyn asesiad meddygol llawn, yn cefnogi'r diagnosis, yr angen am driniaeth a’r amserlen feddygol angenrheidiol ar gyfer y driniaeth.
  • Cymorth i ddarparwyr o ran dyddiadau a chostau: Rhaid cael cefnogaeth ysgrifenedig gan glinigwr/darparwr o'r UE neu'r Swistir/Norwy/Gwlad yr Iâ/Liechtenstein ar gyfer dyddiadau arfaethedig y driniaeth. Dylai hyn gynnwys dyddiad dechrau a dyddiad gorffen y driniaeth a dadansoddiad llawn o'r amcan gostau.
  • Preswylio: Mae'n rhaid i'r claf fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru.

Preswylydd Fel Arfer

Mae person yn breswylydd fel arfer os yw'n byw yn y Deyrnas Unedig:

  • yn gyfreithiol
  • yn wirfoddol
  • at ddibenion sefydlog fel rhan o drefn reolaidd eu bywyd am y tro,

boed hynny am gyfnod hir neu fyr.

  • Rhaid i bobl sy'n destun rheolaeth fewnfudo hefyd fod â hawl i aros yn y DU am gyfnod amhenodol er mwyn cael eu hystyried yn breswylydd fel arfer.

    Nid ystyrir bod unigolyn yn ‘preswylio fel arfer’ yn y wlad dim ond am fod ganddo genedligrwydd Prydeinig, am fod ganddo basbort Prydeinig, am ei fod wedi cofrestru gyda meddyg teulu, am fod ganddo rif GIG, am fod ganddo eiddo yn y DU neu am ei fod wedi talu/yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a threthi yn y DU.

Mae'n bwysig nodi'r pwyntiau canlynol:

  • Rhaid i'r claf / ymgeisydd gael cadarnhad gan ddarparwr o'r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, neu'r Swistir, y byddant yn derbyn S2 i ariannu'r driniaeth / triniaethau a'u bod yn darparu'r pecyn triniaeth trwy ofal iechyd a ariennir gan y wladwriaeth. Mae'r ffurflen Datganiad Darparwr Triniaeth yn egluro hyn yn fanwl. Mae'r ffurflen hon ar gael yn Saesneg yn unig gan ei bod i'w llenwi gan y darparwr.
  • Ni ellir ystyried ffurflenni S2 ar gyfer treialon clinigol neu rannau arbrofol o unrhyw becyn triniaeth.
  • Ni ddylai'r claf dalu am gostau cymwys y driniaeth, ar wahân i unrhyw gyd-daliad.
  • Ni ellir rhoi / cymeradwyo ffurflenni S2 os bydd unrhyw ran o gostau’r driniaeth wedi’u talu eisoes (oni bai bod y taliad yn ymwneud â chyd-daliad).
  • Nid oes gan GIG Cymru unrhyw awdurdod i gymeradwyo ceisiadau os na fydd y meini prawf cyllido yn cael eu bodloni.
  • Yr unig gostau y gellir eu hasesu ar gyfer cyllid yw costau’r driniaeth. Ni fydd modd talu am gostau teithio a llety, gan gynnwys costau o’r fath ar gyfer pobl/gofalwyr a fydd yn teithio gyda’r claf. Ni fydd modd talu am gostau cyfieithu.
  • Dim ond ar gyfer dyddiadau triniaethau wedi’u cynllunio y bydd S2 yn cael ei rhoi, a gall bara ar gyfer hyd at dri mis o driniaeth.
  • Os bydd newid i ddyddiad y driniaeth, bydd angen cyflwyno cais i GIG Cymru i ddiwygio S2.
  • Gellir cyflwyno ceisiadau i ymestyn / parhau â’r driniaeth, a bydd y rhain yn cael eu hasesu fesul achos.
  • Peidiwch â gwneud cais am S2 ar gyfer triniaeth wedi’i chynllunio fwy na 3 mis cyn dyddiad y driniaeth, gan nad yw ceisiadau fel arfer yn cael eu hasesu tan 12 wythnos cyn dyddiad y driniaeth. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth gymhwysedd yn gyfredol.
  • Rhaid cyflwyno tystiolaeth/llythyr y clinigydd ar bapur pennawd swyddogol ac ni ddylai fod wedi cael ei lunio fwy na 6 mis cyn dyddiad dechrau’r driniaeth. Dylid dychwelyd y ffurflen datganiad darparwr hefyd. Mae rhestr wirio ar ddiwedd y ffurflen gais i sicrhau bod yr holl dystiolaeth ategol ofynnol yn cael ei chyflwyno.
  • Bydd S2 yn darparu ar gyfer un darparwr triniaeth ac un pecyn triniaeth i bob cais. Os oes angen mwy nag un pecyn triniaeth neu driniaeth gyda mwy nag un darparwr, yna bydd angen ichi gyflwyno ceisiadau S2 ar wahân ar gyfer pob darparwr.

Yr hyn y bydd S2 yn ei gwmpasu

Mae'r S2 yn warant y bydd taliad yn cael ei ad-dalu drwy drefniadau gofal iechyd cyfatebol y DU, y bydd Llywodraeth y DU yn ei dalu'n uniongyrchol i'r wlad sy'n cynnig y driniaeth ar ôl i'r claf gael y driniaeth.

Fodd bynnag, mae'r gwledydd sy'n cynnig y driniaeth yn darparu'r driniaeth o dan yr un amodau gofal a thalu ag y byddent yn berthnasol i'w preswylwyr. Gallai hyn olygu bod yn rhaid i chi eich hun dalu canran o gostau eich triniaeth (cyd-daliad; gweler rhagor isod) cyn eich triniaeth.

Ni ddylid gofyn ichi dalu, ac ni ddylech dalu, am gost lawn eich triniaeth ymlaen llaw.

Ni fydd S2 yn talu am unrhyw gostau gofal iechyd preifat nad ydynt yn cael eu cynnwys fel rhan o'r system gofal iechyd cyhoeddus yn y wlad rydych yn teithio iddi (er enghraifft costau ar gyfer uwchraddio ystafelloedd ac ati). 

Dyna pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y darparwr yn cadarnhau y bydd yn derbyn S2, ac y bydd y driniaeth yn cael ei darparu o dan eu cynllun gofal iechyd gwladol. Felly, sicrhewch eich bod wedi cael tystiolaeth ysgrifenedig gan ddarparwr y triniaethau a dadansoddiad llawn o'r costau a gynhwysir o dan yr S2; fel arall mae’n bosibl y gofynnir ichi dalu'r costau eich hun, a gallech fod yn gyfrifol amdanynt wedyn.  Dylid defnyddio'r ffurflen datganiad darparwr i gadarnhau'r meini prawf wrth drafod gyda'r darparwr cyn cyflwyno eich cais.

Costau S2 a'r Cyd-daliad

Os cymeradwyir eich cais o dan lwybr S2, bydd eich triniaeth yn cael ei darparu o dan yr un amodau gofal a thalu a fyddai'n berthnasol i breswylwyr y wlad y cewch eich trin ynddi.

Gallai hyn olygu bod rhaid i chi eich hun dalu canran o gostau eich triniaeth (cyd-daliad).

Er enghraifft: Mewn rhai gwledydd, mae cleifion yn talu 25% o gostau'r driniaeth a ddarperir iddynt gan y wladwriaeth. Mae'r wladwriaeth yn talu am y 75% arall. Pe byddech yn cael triniaeth o dan system gofal iechyd o'r fath, byddai disgwyl ichi dalu'r un cyd-daliad â chleifion sy'n byw yn y wlad honno.

Mewn rhai gwledydd, fel yn y DU, mae gofal iechyd y wladwriaeth i'w gael am ddim yn llwyr. Mae hyn yn golygu y bydd S2 cymeradwy yn talu 100% o gostau eich gofal iechyd, felly ni fyddai'n ofynnol ichi dalu unrhyw gostau triniaeth.

Felly, ni ddylid gofyn ichi dalu am unrhyw gostau triniaeth ymlaen llaw, oni bai eu bod yn ymwneud â'r cyd-daliad.  Ni ellir rhoi / cymeradwyo ffurflenni S2 os bydd unrhyw ran o gostau’r driniaeth wedi’u talu eisoes (oni bai bod y taliadau'n ymwneud â'r chyd-daliad).

Cyn cyflwyno eich cais am gyllid, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gofyn am amcangyfrif, wedi'i restru fesul eitem, o holl gostau'r driniaeth, gan gynnwys unrhyw gyd-daliad disgwyliedig. Os yw eich dogfennaau ategol mewn iaith wahanol, bydd angen ichi ddarparu cyfieithiad Saesneg. Nid oes rhaid i gyfieithiadau gael eu gwneud gan gyfieithydd swyddogol; gweler y nodiadau canllaw am ragor o wybodaeth.

Byddwch yn gallu hawlio unrhyw gyd-daliad cymwys yn ôl pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU. Nid yw costau gofal iechyd preifat, megis uwchraddio ystafelloedd, yn gostau cymwys i gael eu had-dalu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o unrhyw gostau y byddwch yn atebol i'w talu cyn i'r driniaeth ddigwydd.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais i hawlio cyd-daliad yn ôl, bydd angen ichi gysylltu â'r Gwasanaethau Gofal Iechyd Tramor ar 0191 218 1999 neu lenwi'r ffurflen hon: Cysylltu â Gwasanaethau Gofal Iechyd Tramor | NHSBSA

Ni fydd GIG Cymru yn ad-dalu costau teithio na llety.

Gwneud Cais am S2

Dylai preswylwyr Cymru gysylltu â'r Bwrdd Iechyd Lleol yn eu hardal nhw i gael arweiniad pellach ac i wneud cais. Byrddau Iechyd Lleol yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer asesu ceisiadau S2 yng Nghymru.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rhif ffôn: 01633 623432
E-bost: abb.ipfr@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rhif ffôn: 03000 855145
E-bost: BCU.IPFR@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro                           
Tîm Comisiynu Ceisiadau Ariannu Cleifion Unigol (IPFR)
Rhif ffôn: 02921 836535
E-bost: CAV.IPFR@wales.nhs.co.uk          

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Rhif ffôn y Tîm Comisiynu: 01443 744800
E-bost: Cwmtaf.IPFR@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Rhif ffôn: 01437 834485
E-bost: hdd.ipfr@wales.nhs.uk

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Rhif ffôn: 01874 712694
E-bost: Monitoring@powyslhb@nhs.net

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe                            
Rhif ffôn y Swyddfa Gynllunio:  01639 683615 neu 01639 683389
E-bost: Planning.office@wales.nhs.uk      

Gall gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith i’r Bwrdd Iechyd Lleol brosesu cais gorffenedig a gwneud penderfyniad yn ei gylch. Byddwch yn cael gwybod canlyniad eich cais unwaith y bydd penderfyniad wedi’i wneud.

Mae Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG  (NHS BSA) yn asesu ceisiadau am dystysgrifau S2 safonol a mamolaeth ac yn gyfrifol am eu rhoi i breswylwyr y DU. 

Os cymeradwyir eich cais o dan lwybr S2, byddwch yn cael ffurflen gwarant S2, y bydd angen ichi ei chyflwyno i'r darparwr gofal iechyd perthnasol dramor.  Bydd eich triniaeth yn cael ei darparu o dan yr un amodau gofal ac amodau talu a fyddai'n berthnasol i breswylwyr y wlad y cewch eich trin ynddi. Efallai y bydd angen ichi dalu canran o'r costau eich hun – gelwir hyn yn gyd-daliad, ond mae'n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhywfaint neu'r cyfan ohono yn ôl pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU.

Os codir tâl cyd-daliad, bydd Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG yn gallu eich cynghori a ydych yn gymwys i gael ad-daliad o'r ffioedd hyn (nodwch nad yw GIG Cymru yn gallu rhoi cyngor ar ad-daliadau). Dylai'r holl gostau triniaeth cymwys eraill gael eu talu drwy'r S2 ac ni ddylech chi eu talu'n uniongyrchol. Noder mai dim ond taliadau cyd-daliad y gellir eu had-dalu.

Er enghraifft, mewn rhai gwledydd, mae cleifion yn talu 25% o gost eu triniaeth a ddarperir gan y wladwriaeth, tra bod y wladwriaeth yn talu'r 75% arall. Felly os yw llawdriniaeth yn costio £8,000, y disgwyliad yw y byddwch yn talu £2,000. Byddai hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r darparwr, gennych chi, cyn ichi gael triniaeth a gallwch ofyn am ad-daliad o'r costau cymwys gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Byddai'r GIG yn talu'r £6,000 sy'n weddill drwy'r trefniadau cyfatebol sydd ar waith. 

Nid yw costau gofal iechyd preifat, fel uwchraddio ystafelloedd, yn gostau cymwys ac ni ellir eu had-dalu. Dylid cytuno ar yr holl gostau cyn derbyn triniaeth i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r costau rydych yn gyfrifol amdanynt. Os yw eich dogfennau ategol mewn iaith wahanol, bydd angen ichi ddarparu cyfieithiad Saesneg.

I gael ad-daliad o'r holl gyfraniadau cleifion sy'n gymwys, cysylltwch ag Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG dros y ffôn ar 0191 218 1999, neu +44 191 218 1999 o'r tu allan i'r DU, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm.

Gofyn am Adolygiad neu Apêl o'ch Cais S2

Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cais, gallwch ofyn am adolygiad neu apêl.

Gallwch ofyn am adolygiad o'r penderfyniad os oes gennych wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol na ddarparwyd fel rhan o'r cais gwreiddiol y credwch a allai effeithio ar y penderfyniad i wrthod.

Gallwch ofyn am apêl ffurfiol os nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad i wrthod, ond nad oes gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol.

I ofyn am adolygiad neu apêl, cysylltwch â'ch Bwrdd Iechyd Lleol gan ddyfynnu'r cyfeirnod sydd wedi'i gynnwys gyda chanlyniad y cais.