Cynghorion teithio

Mae arbenigwyr iechyd teithio yn cynghori eich bod yn paratoi ar gyfer taith bedair i chwe wythnos cyn i chi deithio, yn enwedig os oes angen brechiadau arnoch.

“Un elfen yn unig o amddiffyn eich hun rhag clefyd heintus yw brechiad,” meddai’r Athro David Hill, cyfarwyddwr y Rhwydwaith a Chanolfan Iechyd Teithio Cenedlaethol (NaTHNaC).

Dylai rhai sy’n byw yn y DU ac sy’n ymweld â’u gwlad wreiddiol gael eu brechu hefyd, gan y bydd unrhyw imiwnedd y gallant fod wedi’i gronni’n flaenorol wedi lleihau dros amser.

Cwestiynau ac atebion ynghylch diogelwch yn yr haul

Mae’n bwysig eich bod yn amddiffyn eich croen eich hun a chroen eich plant yn yr haul er mwyn osgoi llosg haul a lludded gwres.

Pa ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) y dylwn i ei ddefnyddio?

Defnyddiwch eli haul sydd â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) o 15, o leiaf. Gorau po fwyaf yw’r SPF. Dewiswch eli haul sbectrwm eang, sy’n amddiffyn rhag pelydrau UVA ac UVB. Gwnewch yn siŵr nad yw’r eli wedi mynd heibio i’w ddyddiad dod i ben. Mae gan y rhan fwyaf o elïau haul oes silff o ddwy i dair blynedd.

Beth yw sbectrwm eang a’r sgôr sêr?

Mae elïau sbectrwm eang yn amddiffyn rhag pelydrau UVA ac UVB yr haul. Mae’r ffactor amddiffyn rhag yr haul, neu’r SPF, yn mesur yr amddiffyniad UVB. Po fwyaf yw’r rhif, y mwyaf o amddiffyniad. Yn y DU, caiff amddiffyniad UVA ei fesur â sgôr sêr. Mae gan elïau haul rhwng 0 a 5 seren. Po fwyaf o sêr, y mwyaf o amddiffyniad.

Am ba hyd y gallaf aros yn yr haul?

Peidiwch â threulio mwy o amser yn yr haul ag y byddech heb eli haul. Ni ddylai eli haul gael ei ddefnyddio fel esgus i aros yn yr haul. Yn lle hynny, mae’n cynnig amddiffyniad pan nad oes modd osgoi mynd allan yn yr haul. Mae haul yr haf yn achosi’r mwyaf o niwed i’ch croen yng nghanol y dydd. Dylech dreulio amser dan gysgod rhwng 11am a 3pm, dan ymbarél, coed, canopi neu dan do.

A ddylaf roi rhagor o eli haul os byddaf yn nofio?

Mae dŵr yn golchi eli haul i ffwrdd a gall effaith oeri’r dŵr wneud i chi feddwl nad ydych yn llosgi. Hefyd, mae dŵr yn adlewyrchu pelydrau uwchfioled, gan gynyddu eich datguddiad i’r haul. Dylech roi rhagor o eli haul “gwrth-ddŵr” ar ôl bod yn y dŵr, hyd yn oed.

Beth os byddaf yn cael llosg haul?

Bydd poenladdwyr, fel paracetamol neu ibuprofen, yn lleddfu’r boen trwy helpu i leihau’r llid sy’n cael ei achosi gan losg haul. Gallwch roi sbwng â dŵr oer ar y croen ac yna rhoi eli ôl-haul neu eli calamin. Os byddwch yn teimlo’n sâl neu os bydd eich croen yn chwyddo’n ofnadwy neu’n pothellu, dylech geisio cymorth meddygol. Arhoswch allan o’r haul nes i unrhyw gochni ddiflannu.

A yw plant mewn mwy o berygl o gael llosg haul?

Mae croen ifanc yn eiddil ac mae’n hawdd iawn i’r haul ei niweidio. Defnyddiwch o leiaf eli haul â ffactor 15 a dewiswch frand sbectrwm eang sydd â sgôr o 4 neu 5 seren. Rhowch yr eli ar unrhyw fannau nad ydynt yn cael eu hamddiffyn gan ddillad, fel yr wyneb, clustiau, traed a chefn y dwylo. Dewiswch eli haul sydd wedi’i greu ar gyfer croen plant a babanod, gan fod y rhain yn llai tebygol o lidio eu croen.

Mae gan fy mhlentyn ecsema. Pa eli haul ddylwn i ei ddefnyddio?

Gallai rhai elïau haul waethygu ecsema. Gwiriwch y label am unrhyw gynhwysion rydych chi’n gwybod y mae gan eich plentyn alergedd iddynt. Profwch unrhyw eli haul newydd ar ran fach o’r croen cyn i chi ei roi ar y corff i gyd. Rhowch feddalydd croen a steroidau eich plentyn yn gyntaf, yna rhowch yr eli haul 30 munud yn ddiweddarach. Cofiwch roi rhagor o eli haul yn rheolaidd yn ystod y dydd ac yn enwedig ar ôl nofio.

Beth yw symptomau lludded gwres?

Mae lludded gwres yn digwydd pan na all y corff golli gwres yn ddigon cyflym. Os nad yw’n cael ei drin yn gyflym, gall arwain at drawiad gwres, sy’n gyflwr mwy peryglus o lawer. Mae arwyddion o ludded gwres yn cynnwys gwendid, penysgafnder, crychguriadau’r galon, cyfog, cur pen, pwysedd gwaed isel, blinder, dryswch, colli archwaeth a rhithweledigaethau.

Beth ddylwn ei wneud os oes gan rywun arwyddion o ludded gwres?

Gwnewch iddynt orffwys mewn man oer, braf - ystafell ag aerdymheru, yn ddelfrydol. Rhowch ddigon o ddŵr iddynt. Osgowch alcohol neu gaffein, gan y gall y rhain gynyddu lefelau dadhydradiad. Defnyddiwch gawod neu fath oer i’w hoeri neu, os nad yw hynny’n bosibl, gwlychwch wlanenni a chlytiau mewn dŵr a’u rhoi ar eu croen. Llaciwch unrhyw ddillad diangen a gwnewch yn siŵr fod yr unigolyn yn cael digon o awyriad. Cadwch lygad ar eu cyflwr.

A ddylwn orchuddio fy mannau geni pan rwyf yn yr haul?

Os oes gennych lawer o fannau geni neu frychni, rydych chi’n fwy tebygol o ddatblygu canser y croen, felly mae angen i chi gymryd mwy o ofal. Osgowch gael eich llosgi yn yr haul. Defnyddiwch gysgod, dillad ac eli haul ag SPF o 15, o leiaf, i amddiffyn eich hun. Cadwch olwg ar unrhyw newidiadau i’ch croen a rhowch wybod i’ch meddyg am y rhain ar unwaith. Mae canser y croen yn llawer haws ei drin os caiff ei ddarganfod yn gynnar.

P’un a ydych ar wyliau neu gartref, gallwch amddiffyn eich hun trwy ddilyn negeseuon SunSmart Ymchwil Canser y DU:

  • Treuliwch amser dan gysgod rhwng 11am a 3pm.
  • Ceisiwch sicrhau nad ydych yn llosgi.
  • Ceisiwch orchuddio’ch hun â chrys-T, het a sbectol haul.
  • Cofiwch gymryd gofal ychwanegol gyda phlant.
  • Defnyddiwch eli haul ffactor 15+.

Osgoi cael eich brathu gan bryfed

Ceisiwch beidio â mynd i ardaloedd sydd â phla o bryfed sy’n brathu. Mae mosgitos malaria yn brathu rhwng y cyfnos a’r wawr, felly gall bod dan do yn ystod yr oriau hyn leihau nifer y brathiadau. Mae ymchwil yn dangos mai cynnyrch yn cynnwys y cemegyn DEET yw’r ymlidyddion pryfed mwyaf effeithiol ac maent yn ddiogel pan gânt eu defnyddio’n gywir.

Gall mosgitos frathu trwy ddillad tynn, felly gwisgwch drowsus hir llac a llewys hir gyda’r nos mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion o falaria. Cysgwch dan rwyd mosgitos er mwyn osgoi cael eich brathu yn ystod y nos. Cariwch git gwnïo bach fel y gallwch drwsio unrhyw dyllau sy’n ymddangos.

Bwyd a Dŵr Dramor

Mae llawer o afiechydon, gan gynnwys dolur rhydd teithwyr, hepatitis A, teiffoid a cholera, yn cael eu dal trwy fwyd a dŵr wedi’u halogi.

Dolur rhydd teithwyr yw’r afiechyd mwyaf cyffredin sy’n cael ei ddal dramor, ac mae’n effeithio ar 20-60% o bobl sy’n teithio dramor.

Mewn gwledydd lle mae iechydaeth yn wael, gallwch leihau’r perygl o ddal y clefydau hyn trwy ddilyn y canllawiau sylfaenol canlynol.

Dŵr

Mewn gwledydd ag iechydaeth wael, peidiwch ag yfed dŵr tap na’i ddefnyddio i frwsio eich dannedd, oni bai ei fod wedi’i drin. Am wybodaeth am lefelau iechydaeth yn y wlad rydych yn teithio iddi, ewch i wefan y Rhwydwaith a Chanolfan Iechyd Teithio Cenedlaethol (NATHNAC).

Dylech ddefnyddio dŵr wedi’i hidlo, ei ferwi neu ei drin yn gemegol.

Fel arfer, mae diodydd swigod mewn potel â sêl gyflawn yn ddiogel, ynghyd â dŵr berwedig a diodydd poeth wedi’u gwneud â dŵr berwedig. Dylech osgoi cael rhew mewn diodydd.

Y ffordd fwyaf dibynnol o buro dŵr yw ei ferwi, ond nid yw hyn yn bosibl bob amser.

Fel arfer, bydd diheintyddion cemegol, fel ïodin a chlorin, yn lladd bacteria a firysau ac maent yn hawdd eu cael mewn fferyllfeydd mawr neu siopau teithio arbenigol.

Fodd bynnag, ni fydd cymysgeddau ïodin neu glorin yn lladd rhai parasitiaid yn ddibynadwy. Dylai cyfuno ïodin neu glorin â hidliad gan ddefnyddio hidlydd arbenigol (wedi’i brynu o siop deithio) fod yn effeithiol.

Nid yw hidlyddion dŵr domestig a luniwyd i’w defnyddio yn y DU yn addas.

Bwyd

Mae rhai gwledydd sy’n datblygu yn defnyddio gwastraff anifeiliaid fel gwrtaith. Mae bwydydd penodol, yn enwedig rhai sy’n tyfu’n agos at y ddaear, yn dueddol o gael eu halogi a dylech eu hosgoi.

Bwydydd i’w hosgoi:

  • saladau, fel letys
  • ffrwythau a llysiau heb eu coginio, oni bai eu bod wedi’u golchi mewn dŵr diogel a’u pilio gan y sawl sy’n teithio
  • bwyd ffres neu wedi’i goginio a adawyd i sefyll ar dymheredd yr ystafell mewn amgylchedd cynnes, neu sydd wedi’i ddinoethi i bryfed, fel mewn bwffe agored
  • llaeth, caws, hufen iâ neu gynnyrch llaeth arall amhasteuraidd
  • pysgod cragen neu fwyd môr amrwd neu heb eu coginio digon
  • bwyd gan fasnachwyr stryd, oni bai ei fod wedi’i baratoi’n ddiweddar a’i weini’n boeth ar lestri glân

Efallai na fydd bwyd wedi’i weini mewn gwestai neu fwytai o safon dda yn ddiogel bob tro, gan y gallai fod wedi’i halogi wrth ei baratoi. Ceisiwch ddewis lleoedd i fwyta sydd ag enw da am weini bwydydd diogel.

Fel rheol, dylech fwyta bwyd wedi’i baratoi’n ffres, sydd wedi’i goginio drwyddo ac wedi’i weini’n boeth iawn yn unig.

Golchwch eich dwylo ar ôl mynd i’r tŷ bach a chyn paratoi neu fwyta bwyd bob tro.

Rhagor o wybodaeth am atal dolur rhydd teithwyr.

Dolur Rhydd Teithwyr

Dolur rhydd teithwyr yw’r afiechyd mwyaf cyffredin ymhlith pobl sy’n teithio o’r DU i wledydd sy’n datblygu. Caiff ei achosi gan fwyta neu yfed bwyd neu ddŵr wedi’i halogi. Y bwydydd sydd fwyaf tebygol o achosi’r dolur rhydd yw’r rhai nad ydynt wedi’u gwresogi’n drylwyr neu sydd wedi’u gadael allan ar dymheredd yr ystafell.

Gallwch leihau’r perygl o gael dolur rhydd teithwyr trwy ddilyn arferion hylendid bwyd a diod da. Os byddwch yn datblygu’r dolur rhydd, yfwch yn rheolaidd er mwyn osgoi dadhydradu. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn para ychydig ddyddiau yn unig, ond efallai y byddwch am bacio meddyginiaeth.

Rhagor o wybodaeth am atal dolur rhydd teithwyr.

Afiechydon a brechiadau teithio eraill

Malaria

Mae malaria yn glefyd difrifol a all fod yn farwol, ac mae’n gyffredin mewn gwledydd trofannol. Caiff ei ledaenu trwy fosgitos benywaidd yn brathu yn y nos, sy’n cludo parasit o’r enw plasmodiwm. Mae tuag 1,750 o bobl y flwyddyn yn dychwelyd i’r DU â malaria. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ei ddal gan na wnaethant gymryd unrhyw dabledi neu na wnaethant gymryd y rhai cywir ar gyfer yr ardaloedd yr oeddent yn ymweld â nhw.

Ewch i weld eich meddyg teulu neu ewch i glinig teithio i gael cyngor penodol a’r tabledi cywir ar gyfer y wlad rydych yn ymweld â hi cyn i chi deithio. Bydd osgoi cael eich brathu gan fosgitos yn lleihau’r perygl hefyd.

Rhagor o wybodaeth am atal malaria.

Deng

Mae deng yn firws sy’n cael ei ledaenu gan fosgito Aedes heintiedig, sydd fel arfer yn brathu yn ystod y dydd. Mae deng yn berygl mewn ardaloedd fel de-ddwyrain Asia, y Caribî a de America. Y ffordd orau i osgoi cael eich heintio yw osgoi cael eich brathu gan fosgitos.

Mae’r symptomau’n cynnwys twymyn, cur pen/pen tost, poen yn y cyhyrau a’r cymalau ac, mewn rhai achosion, brech. Fel arfer, mae’r afiechyd yn para ychydig ddyddiau ac mae cymhlethdodau difrifol yn anghyffredin. Nid oes unrhyw driniaeth gwrthfiraol benodol. Gellir trin symptomau fel twymyn a chur pen/pen tost ar wahân.

Rhagor o wybodaeth am deng.

Hepatitis A

Caiff hepatitis A ei achosi gan firws. Caiff ei ddal trwy fwyd a dŵr sydd wedi’i halogi gan ysgarthion dynol. Mae bwydydd sy’n tyfu’n agos at y ddaear, fel mefus a letys, yn arbennig o beryglus. Mae cramenogion sy’n bwyta ar wely’r môr, fel wystrys a chregyn bylchog, yn beryglus hefyd.

Gall pobl heintiedig drosglwyddo’r firws os nad ydynt yn dilyn arferion hylendid cywir. Mae symptomau cynnar yn cynnwys gwendid, colli archwaeth, cyfog a thwymyn, ac yna’r clefyd melyn. Mae brechlynnau effeithiol iawn ar gael ar gyfer hepatitis A a dylai’r rhan fwyaf o deithwyr eu hystyried.

Rhagor o wybodaeth am atal Hepatitis A.

Hepatitis B

Caiff hepatitis B ei achosi gan un o’r firysau mwyaf cyffredin yn y byd. Mae’n un o’r prif bethau sy’n achosi clefyd cronig yr afu/iau a chanser yr afu/iau. Mae’r symptomau’n cynnwys anhwylderau’n debyg i’r ffliw, colli archwaeth, cyfog, dolur rhydd, poenau yn y stumog a chlefyd melyn.

Caiff y firws ei ledaenu trwy gyfathrach rywiol, trallwysiadau gwaed, nodwyddau wedi’u halogi (gan gynnwys nodwyddau tatŵ) ac offer meddygol a deintyddol wedi’u diheintio’n wael. Mae ardaloedd â risg uchel yn cynnwys Affrica is-Saharaidd, de-ddwyrain Asia ac ynysoedd y Môr Tawel. Mae brechlyn ar gael i rai sydd mewn perygl o gael hepatitis B.

Rhagor o wybodaeth am atal hepatitis B.

Teiffoid

Gall teiffoid fod yn glefyd marwol sy’n cael ei achosi gan y bacteria Salmonella typhi. Caiff teiffoid ei ddal trwy fwyd neu ddŵr wedi’i halogi mewn ardaloedd sydd ag iechydaeth wael. Isgyfandir India sydd â’r nifer fwyaf o achosion o deiffoid.

Mae’r symptomau’n cynnwys twymyn sydyn, cur pen/pen tost difrifol, cyfog, poen yn y stumog, colli archwaeth, rhwymedd neu ddolur rhydd. Caiff brechiad ei argymell i deithwyr sy’n ymweld ag ardaloedd â risg uchel.

Rhagor o wybodaeth am atal teiffoid.

Y dwymyn felen

Clefyd firaol yw’r dwymyn felen sy’n cael ei drosglwyddo gan fosgitos heintiedig yn ardaloedd trofannol Affrica is-Saharaidd a de America. Mae’r symptomau cynnar yn cynnwys dolur, twymyn, cur pen/pen tost, colli archwaeth, cyfog a chwydu. Mewn achosion difrifol, gall hyn arwain at fethiant organau a marwolaeth. Gellir atal y clefyd trwy frechiad ac mae’n brin ymhlith teithwyr. Mae rhai gwledydd yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael eich brechu rhag y dwymyn felen fel un o’r amodau ar gyfer mynd i’w wlad honno.

Rhagor o wybodaeth am atal y dwymyn felen.

Y gynddaredd

Caiff y gynddaredd ei hachosi gan firws sy’n ymosod ar y brif system nerfol. Wedi iddi gyrraedd yr ymennydd, mae’n achosi chwyddo, llid a marwolaeth. Caiff y firws ei ddarganfod ym mhoer anifeiliaid heintiedig, gan gynnwys cŵn ac ystlumod, a chaiff ei drosglwyddo i bobl trwy frathiadau neu grafiadau.

Mae Affrica, Asia a de America yn ardaloedd sydd â risg o’r gynddaredd. Caiff brechiad ei argymell cyn i chi deithio i ardaloedd â risg uchel. Os cewch eich brathu neu’ch crafu gan anifail a all fod yn heintiedig, golchwch y briw gyda dŵr a sebon a cheisiwch gael gofal meddygol brys.

Rhagor o wybodaeth am atal y gynddaredd.

Meningitis

Meningitis yw pan fo’r leinin o gwmpas yr ymennydd a madruddyn y cefn yn chwyddo, a chaiff ei achosi gan wahanol fathau o germau. Mae’r symptomau cynnar yn cynnwys twymyn, cur pen/pen tost, cyfog a chwydu, yn debyg iawn i lawer o afiechydon ysgafn. Gall y germau, sy’n bresennol yn y trwyn a’r gwddf, gael eu trosglwyddo o un unigolyn i’r llall trwy gysylltiad agos a rheolaidd trwy besychu, tisian a chusanu.

Mae ardaloedd sydd â pherygl o feningitis yn cynnwys Affrica is-Saharaidd, lle ceir achosion blynyddol. Mae brechlynnau ar gael i deithwyr sy’n ymweld ag ardaloedd â risg uchel, er bod y perygl o feningitis i deithwyr yn isel. Mae brechiad rhag meningitis yn ofyniad ar gyfer pererinion sy’n mynychu’r Hajj neu’r Umrah yn Sawdi Arabia.

Rhagor o wybodaeth am atal meningitis.

Yswiriant Teithio

Trwy dalu am yswiriant teithio a chael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) yn rhad ac am ddim, gallwch osgoi biliau meddygol anferth os byddwch yn cael argyfwng yn ystod eich taith.

Mae gofal iechyd ar gael yn rhad ac am ddim yn y man y caiff ei ddarparu yn y DU, ond peidiwch â thybio y bydd yr un fath dramor. Yn aml, bydd angen i chi dalu rhan o’ch biliau meddygol, os nad y biliau cyfan. Os yw’n ddifrifol, gall y costau fod yn uchel iawn yn hawdd.

Gall yswiriant teithio a’r EHIC osgoi biliau meddygol mawr, oedi o ran triniaeth a straen diangen mewn argyfwng meddygol.

Mae’r EHIC, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, yn disodli’r ffurflen E111 ddarfodedig. Mae’n rhoi’r hawl i breswylwyr y DU gael triniaeth feddygol yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol mewn gwledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac yn y Swistir.

Gwiriwch eich polisi

Nid yw’r EHIC yn ddewis arall i yswiriant teithio. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw ofal iechyd meddygol preifat na chostau achub ar fynydd mewn cyrchfannau sgïo, cael eich hedfan yn ôl i’r DU nac eiddo coll neu wedi’i ddwyn.

Mae’n bwysig bod gennych EHIC a pholisi yswiriant teithio preifat dilys. Erbyn hyn, mae rhai yswirwyr yn mynnu bod gennych EHIC a bydd llawer ohonynt yn hepgor y tâl ychwanegol os oes gennych un.

Mae system gofal iechyd pob gwlad yn wahanol, felly efallai na fydd yr EHIC yn talu’r holl gostau neu efallai y bydd disgwyl i chi dalu am eich triniaeth ac yna hawlio ad-daliad gan ddefnyddio eich EHIC neu’ch polisi yswiriant.

Bydd yswiriant teithio yn cwmpasu costau meddygol eraill nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan yr EHIC, fel talu am eich taith adref os bydd salwch yn achosi oedi, neu dalu eich cyfraniadau personol tuag at eich triniaeth.

Fel arfer, bydd yn cwmpasu argyfyngau nad ydynt yn feddygol hefyd, fel cael eiddo newydd neu basbort os bydd eich un chi wedi mynd ar goll.

Bydd eich polisi yswiriant yn amrywio gan ddibynnu ar eich cyrchfan a’ch yswiriwr ond, yn gyffredinol, mae yswiriant yn dechrau am ychydig bunnoedd yn unig a gallech arbed degau o filoedd o bunnoedd.

Efallai na fydd gennych yswiriant llawn os byddwch yn gwneud unrhyw chwaraeon peryglus, fel dringo neu sgïo. Gwiriwch a yw eich polisi’n cynnwys y gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud.

Sut i guro lludded jet

Mae lludded jet yn cyfeirio at batrymau cysgu aflonydd, gwendid a dryswch sy’n cael eu hachosi gan deithio. Mae’n digwydd pan fydd teithio trwy sawl parth amser yn tarfu ar gloc arferol eich corff.

Mae lludded jet yn waeth pan fyddwch yn teithio o’r gorllewin i’r dwyrain, gan fod y corff yn ei chael yn anoddach addasu i ddiwrnod byrrach nag un hirach.

Dylai teithwyr sy’n cymryd meddyginiaeth ar amseroedd llym (fel inswlin neu’r bilsen atal cenhedlu) ofyn am gyngor meddygol gan weithiwr iechyd proffesiynol cyn teithio.

Cyn i chi deithio

Ceisiwch ddal i fyny ar eich cwsg

Gwnewch yn siŵr eich bod yn bwrw’ch blinder cyn i chi deithio. Os ydych yn hedfan dros nos a’ch bod yn gallu cael rhywfaint o gwsg wrth hedfan, bydd hyn yn eich helpu i aros yn effro tan y nos wedi i chi gyrraedd pen y daith.

Newidiwch eich trefn gysgu

Ychydig ddyddiau cyn i chi deithio, dechreuwch godi a mynd i’r gwely ynghynt (os ydych yn teithio i’r dwyrain) neu’n hwyrach (os ydych yn teithio i’r gorllewin). Yn ystod y dydd, ceisiwch fwyta a chysgu yn unol ag amser lleol eich cyrchfan.

Arhoswch ar y ffordd

Bydd cynnwys arhosiad tra’r ydych yn teithio yn ei gwneud yn haws i chi addasu i’r newid o ran amser, a byddwch yn llai blinedig wedi i chi gyrraedd. Manteisiwch ar unrhyw arosiadau byr yn y maes awyr i gael cawod adfywiol neu i nofio yn  y maes awyr, os yn bosibl.

Yn ystod eich taith

Yfwch ddigon o dŵr

Gall dadhydradiad wneud effeithiau lludded jet yn waeth, yn enwedig ar ôl eistedd mewn caban awyren sych am oriau maith. Osgowch ddiodydd alcoholig a chaffein (fel coffi, te a chola), sy’n gallu amharu ar eich cwsg.

Paratowch i gysgu

Yn ystod eich taith, ceisiwch greu’r amodau cywir pan fyddwch yn paratoi i gysgu. Gallai gorchuddion llygaid a phlygiau clustiau eich helpu i gysgu. Gallai ymarfer corff rheolaidd yn ystod y dydd eich helpu i gysgu hefyd, ond osgowch ymarfer corff egnïol yn syth cyn mynd i’r gwely.

Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio meddyginiaeth

Mae llawer o staff cwmnïau hedfan yn cymryd melatonin, sef hormon sy’n cael ei greu gan y corff gyda’r nos neu yn y tywyllwch, er mwyn ceisio curo lludded jet. Nid yw meddyginiaeth cysgu yn cael ei hargymell gan nad yw’n helpu’ch corff i addasu i batrwm cysgu newydd yn naturiol.

Pan fyddwch yn cyrraedd pen y daith

Cwsg angori

Ceisiwch gael cymaint o gwsg mewn 24 awr ag y byddech fel arfer. Credir bod angen o leiaf bloc o bedair awr o gwsg yn ystod y nos leol – sy’n cael ei alw’n “gwsg angori” – i’ch helpu i addasu’r i barth amser newydd. Os yn bosibl, gwnewch gyfanswm yr amser cysgu i fyny trwy gael cyntun yn ystod y dydd.

Golau naturiol

Cylchred golau a thywyllwch yw un o’r ffactorau pwysicaf o ran gosod cloc mewnol y corff. Fel arfer, bydd mynd allan i olau’r dydd ym mhen y daith yn eich helpu i addasu i’r parth amser newydd ynghynt.

Teithiau byr

Os byddwch yn aros am lai na thri neu bedwar diwrnod, efallai y byddai’n well i chi aros ar eich “amser eich hun” (hynny yw, amseru gweithgareddau fel cysgu a bwyta i ddigwydd ar yr amser y byddant yn digwydd gartref) er mwyn lleihau unrhyw amharu ar y cylchred cysgu/deffro arferol, er nad yw hyn yn ymarferol bob tro.

Atal thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) pan fyddwch yn teithio

Os ydych yn hedfan ymhell, mae sawl ffordd y gallwch leihau’r risg o gael thrombosis gwythiennau dwfn (DVT).

Cofnodwyd y thrombosis gwythiennau dwfn cyntaf yn gysylltiedig â theithio ym 1954, mewn meddyg 54 oed a ddatblygodd dolchen waed ar ôl hedfan am 14 awr.

Yn fuan wedi hynny, galwyd y cyflwr yn “syndrom dosbarth economi” gan ymchwilwyr, a oedd yn credu bod cysylltiad rhwng DVT a theithio’n bell ar awyren mewn amodau clos.

Nid yw nifer wirioneddol y bobl sy’n cael DVT o hedfan yn bell yn hysbys ac mae’n anodd ei darganfod, gan y gallai’r cyflwr fod yn ddi-symptom ac efallai na fydd yn digwydd am beth amser ar ôl teithio.

Fodd bynnag, ceir ychydig o dystiolaeth sy’n awgrymu bod grwpiau penodol o bobl, fel merched beichiog neu unrhyw un sydd wedi cael strôc, mewn mwy o berygl o ddatblygu DVT wrth hedfan am wyth awr neu fwy.

Mae DVT yn digwydd pan fydd y gwaed yn llifo’n rhy araf trwy’r gwythiennau. Mae’r gwaed yn ffurfio clot sy’n rhwystro’r gwythiennau dwfn yn y coesau, fel arfer.

Yn gyffredinol, nid oes gan DVT unrhyw symptomau ar unwaith, sy’n ei wneud yn anodd ei ddarganfod. Fodd bynnag, mae’r arwyddion nodweddiadol yn cynnwys croth coes neu forddwyd chwyddedig neu boenus, gwelwedd a gwres uwch o gwmpas yr ardal dan sylw.

Os cânt eu gadael heb eu trin, mae pobl â DVT mewn perygl o ddatblygu emboledd ysgyfeiniol, pan fydd rhan o’r dolchen waed yn torri i ffwrdd ac yn teithio i’r ysgyfaint, a all fod yn farwol.

Hosanau teithio

  • Caiff hosanau teithio eu hargymell i bobl sydd â risg uchel neu ganolig o ddatblygu DVT.
  • Dylent gael eu gwisgo trwy gydol y daith.
  • Defnyddiwch hosanau graddedig dan y pen-glin â chywasgedd priodol.
  • Yn gyffredinol, mae hosanau dosbarth 1 (sy’n rhoi pwysedd o 14-17 mmHg ar y ffêr) yn ddigonol.
  • Gofynnwch am gyngor gan weithiwr iechyd proffesiynol (meddyg, nyrs neu fferyllydd) ar y maint a’r ffitiad cywir.

Cyn i chi deithio

Os ydych yn credu bod gennych risg uchel o ddatblygu DVT, ewch i weld eich meddyg teulu cyn i chi deithio.

Efallai y bydd yn rhoi presgripsiwn i chi ar gyfer cyffuriau teneuo’r gwaed er mwyn lleihau’r risg o gael tolchen waed, neu hosanau cywasgu (sydd hefyd yn cael eu galw’n hosanau hedfan).

Mae astudiaethau wedi dod i’r casgliad y gall teithwyr ar awyrennau sy’n gwisgo hosanau cywasgu wrth hedfan am bedair awr neu fwy leihau’r perygl o DVT yn sylweddol, yn ogystal â chwyddo yn y coesau (oedema).

Mae hosanau o dan y pen-glin yn rhoi pwysau ysgafn ar y ffêr er mwyn helpu llif y gwaed. Maent yn dod mewn amrywiaeth o feintiau a cheir lefelau gwahanol o gywasgedd hefyd. Yn gyffredinol, mae hosanau dosbarth 1 (sy’n rhoi pwysedd o 14-17 mmHg ar y ffêr) yn ddigonol.

Mae’n hanfodol y caiff hosanau cywasgu eu mesur a’u gwisgo’n gywir. Gallai hosanau sy’n ffitio’n wael gynyddu’r perygl o DVT.

Mae hosanau hedfan ar gael mewn fferyllfeydd, meysydd awyr a llawer o siopau manwerthu. Gofynnwch am gyngor gan fferyllydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall ar y maint a’r ffitiad cywir .

Gwella ar ôl cael DVT

Os ydych wedi cael DVT yn ddiweddar, mae’n debyg eich bod yn cymryd meddyginiaeth, fel warfarin, er mwyn atal clotiau gwaed.

Os yw hynny’n wir, yna mae’r perygl ohonoch yn datblygu DVT yn isel ac nid oes unrhyw reswm pam na allwch deithio, gan gynnwys teithio’n bell.

Fodd bynnag, os ydych yn gwella o hyd, dylech gael caniatâd eich meddyg ymgynghorol cyn i chi deithio. Hefyd, dylech ddilyn y cyngor cyffredinol i deithwyr â risg uchel ar atal DVT, sydd i’w weld isod.

Tra’r ydych yn teithio

Os ydych yn bwriadu teithio’n bell mewn awyren, trên neu gar, sicrhewch eich bod:

  • yn gwisgo dillad llac, cyfforddus
  • yn ystyried prynu hosanau hedfan (hosanau cywasgu)
  • yn cadw bagiau uwch eich pen fel bod gennych le i ymestyn eich coesau
  • yn gwneud ymarferion i atal DVT. Codwch eich sodlau gan gadw bysedd eich traed ar y llawr, yna dewch â nhw i lawr. Gwnewch hyn 10 gwaith. Nawr, codwch a gollyngwch fysedd eich traed 10 gwaith. Gwnewch hyn o leiaf bob hanner awr (gallwch ei wneud yn amlach, os ydych yn dymuno)
  • yn cerdded o gwmpas pa bryd bynnag y gallwch
  • yn yfed digon o ddŵr
  • yn peidio ag yfed alcohol na chymryd pils cysgu

Rhyw diogelach ar wyliau

Gall rhyw heb ddiogelwch ar wyliau gael yr un canlyniad â phan rydych gartref – heintiau a drosglwyddir yn rhywiol neu feichiogrwydd anfwriadol. Darganfyddwch sut i amddiffyn eich hun, a ble i fynd os oes angen help arnoch.

Cael symptomau – neu beidio

Os ydych wedi cael rhyw heb ddiogelwch, cofiwch nad yw pawb sy’n cael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn cael symptomau. Er enghraifft, nid yw’r rhan fwyaf o bobl â chlamydia yn sylwi ar unrhyw symptomau, ac nid ydynt yn gwybod bod ganddynt glamydia. Mae ymchwil yn awgrymu nad yw 50% o ddynion a 70-80% o ferched yn cael unrhyw symptomau o gwbl â haint clamydia.

Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael eu heintio â HIV yn cael salwch byr yn debyg i’r ffliw bythefnos i chwe wythnos ar ôl cael eu heintio. Wedi hynny, yn aml, nid yw HIV yn achosi unrhyw symptomau am sawl blwyddyn.

Os byddwch yn cael symptomau haint a drosglwyddir yn rhywiol, gallant gynnwys:

  • rhedlif anarferol o’r wain
  • rhedlif o’r pidyn/cala
  • cosi, briwiau, pothelli neu lympiau ar yr organau cenhedlu neu o’u cwmpas
  • poen wrth droethi
  • mewn merched, gwaedu rhwng mislifoedd neu ar ôl cael rhyw

Gallai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol fod yn fwy cyffredin mewn rhai gwledydd, felly gallai cael rhyw heb ddiogelwch eich rhoi mewn mwy o berygl nag y byddai gartref.

Defnyddio condom

Trwy ddefnyddio condom, gallwch leihau’n fawr y perygl o feichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Wrth gwrs, nid yw pawb yn cael rhyw ar wyliau - ond, os oes siawns y gallai ddigwydd, dylech fod yn barod. Prynwch becyn o gondomau cyn i chi fynd a gwnewch yn siŵr fod ganddynt y nod CE ar y pecyn. Mae hyn yn golygu eu bod wedi’u profi i’r safonau diogelwch uchaf sy’n ofynnol yn Ewrop. Ni fydd condomau nad ydynt yn dwyn y nod CE yn bodloni’r safonau hyn.

Os ydych yn mynd i gael rhyw, dywedwch wrth eich partner rhywiol bod angen i chi ddefnyddio condom. Peidiwch ag aros iddo/iddi godi’r pwnc ei hun, oherwydd efallai na fydd yn gwneud hynny.

Cofiwch:

gallai condomau gael eu niweidio gan nwyddau wedi’u seilio ar olew, fel lleithydd, eli (gan gynnwys eli haul), olew babanod a minlliw
gall gwres fod yn broblem hefyd – felly cadwch nhw mewn man oer, sych

Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio condomau i ddynion a merched, gweler Sut i ddefnyddio condom.

Chwydu, dolur rhydd a meddyginiaeth

Mae siawns y gallech chi gael byg stumog tra’r ydych ar wyliau. Os byddwch, cofiwch y gall chwydu neu ddolur rhydd wneud y bilsen atal cenhedlu yn llai effeithiol – gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Beth os wyf ar y bilsen ac yn sâl neu'n cael dolur rhydd?

Gall rhai mathau o feddyginiaeth wneud y bilsen (y bilsen gyfunol a’r bilsen progestogen yn unig), y pats atal cenhedlu a’r mewnblaniad atal cenhedlu yn llai effeithiol. Gallai hyn roi merch mewn perygl o feichiogi os bydd yn cael rhyw heb ddiogelwch. Nid yw’r rhan fwyaf o wrthfiotigau cyffredin yn effeithio ar ddulliau atal cenhedlu, ond mae rhai ohonynt, ynghyd â rhai cyffuriau gwrthmalaria.

Nid yw salwch na meddyginiaeth yn effeithio ar ddulliau atal cenhedlu gwrthdroadwy hirdymor, fel y pigiadsystem atal cenhedlu yn y groth (IUS)dyfais atal cenhedlu yn y groth (IUD). Fodd bynnag, gall mathau penodol o feddyginiaeth leihau effeithiolrwydd y mewnblaniad atal cenhedlu.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth o dan A yw'r bilsen atal cenhedlu yn rhyngweithio â meddyginiaethau eraill? I leihau’r risg, defnyddiwch gondom os byddwch yn cael rhyw er mwyn helpu i’ch amddiffyn rhag beichiogrwydd a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.

Os ydych yn defnyddio’r mewnblaniad, y pats neu’r bilsen atal cenhedlu a’ch bod yn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaeth tra’r ydych ar wyliau, dywedwch wrth y sawl sy’n rhoi’r feddyginiaeth i chi eich bod yn defnyddio’r mewnblaniad, y pats neu’r bilsen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio condom tra’r ydych yn cymryd meddyginiaeth neu wrthfiotigau a allai effeithio ar eich dull atal cenhedlu, ac am 28 diwrnod wedi hynny.

Mastyrbio a rhyw geneuol

Gall cyd-fastyrbio fod yn fwy diogel na rhyw, yn ôl Dr O’Mahoney, cyn belled â nad yw hylifau’n cael eu trosglwyddo o organau cenhedlu un unigolyn i’r llall trwy’r bysedd neu unrhyw ffordd arall.

Mae rhyw geneuol (defnyddio’r geg ar wain, pidyn neu anws eich partner) yn fwy peryglus nag y mae’r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli. Caiff dolur annwyd ar y geg ei achosi gan firws herpes simplecs. Gallai hyn gael ei drosglwyddo i organau cenhedlu eich partner yn ystod rhyw geneuol, gan roi herpes gwenerol iddo/iddi. Gallai gonorrhoea fyw yn y gwddf hefyd a chael ei drosglwyddo.

Mae brechiad ar gael yn erbyn hepatitis B (sy’n gallu cael ei drosglwyddo trwy ryw, yn ogystal â nodwyddau wedi’u halogi) a gellir ei ychwanegu at y pigiadau y byddwch yn eu cael cyn teithio.

Beth i’w wneud os ydych yn poeni

Os ydych gartref yn barod

Os ydych yn poeni y gallech chi fod yn feichiog neu y gallech fod wedi dal haint a drosglwyddir yn rhywiol, gallech gael eich gwirio mewn:

  • clinig meddygaeth genhedlol-wrinol (GUM) neu iechyd rhywiol
  • clinig atal cenhedlu cymunedol

Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gyrraedd adref.

Dywedwch wrth staff y clinig GUM am eich hanes teithio a’ch hanes rhywiol, gan y bydd hyn yn eu helpu i roi’r profion mwyaf priodol i chi. Dewch o hyd i glinigau iechyd rhywiol yn eich ymyl chi.

Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn feichiog, gwnewch brawf beichiogrwydd. Os ydych chi’n feichiog ac nad ydych eisiau bod yn feichiog, gallwch chi siarad â meddyg teulu neu’r staff mewn clinig iechyd rhywiol neu atal cenhedlu i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau. Ym Mhrydain Fawr, mae erthyliad yn opsiwn.

Mae gan yr FPA daflen o’r enw Pregnant and don't know what to do? A guide to your options, a allai fod o gymorth i chi.

Os ydych dramor o hyd

Edrychwch ar eich yswiriant teithio, oherwydd efallai na fydd yn cynnwys profion a thriniaeth ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol neu HIV. Beth bynnag, efallai y bydd yn well i chi aros.

Mae gan rai gwledydd wasanaeth iechyd rhywiol da, ond efallai nad yw hynny’n wir mewn gwledydd eraill. Gan ddibynnu ar ble ydych, efallai na fydd y meddyg, yr ysbyty neu’r clinig yn gwneud yr holl brofion priodol. “Gall meddygon preifat fod yn ddrud ac nid oes unrhyw sicrwydd o ran safon y gofal,” meddai Dr O’Mahoney.

“Ceisiwch osgoi cael pigiadau mewn gwledydd sy’n datblygu, os yw hynny’n bosibl. Gall y rhan fwyaf o wrthfiotigau gael eu cymryd trwy’r geg. Gofynnwch am gopi o’ch taflen gyffuriau [y daflen sy’n dod gyda’ch meddyginiaeth] ac am fanylion unrhyw brofion a chanlyniadau, a dewch â nhw gyda chi pan fyddwch yn cael ei gwiriad gartref.”

Os byddwch yn cael prawf positif ar gyfer unrhyw beth, ceisiwch gysylltu â phartneriaid blaenorol. Gall eich clinig iechyd rhywiol eich helpu â hyn.

Rhestr wirio ar gyfer pecyn teithio

  • antiseptig
  • eli haul
  • eli ôl-haul
  • pethau ymlid pryfed
  • condomau
  • gwrth-histaminau
  • tabledi ar gyfer y dolur rhydd
  • codenni ail-hydradu
  • pecyn cymorth cyntaf

Peidiwch ag anghofio eich pasbort

Gallwch adnewyddu eich pasbort hyd at naw mis cyn iddo ddod i ben – gwiriwch nawr.