Gwybodaeth beichiogrwydd


25 - 28 wythnos

Yn feichiog o 25 i 28 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Bydd y babi yn symud o gwmpas yn egniol ac yn ymateb i gyffyrddiad a sain. Gall swn uchel iawn gwneud iddo ef neu hi neidio a chicio. Bydd eich babi yn pasio troeth i mewn i'r hylif amniotig. Weithiau, efallai y bydd y babi yn igian a gallwch deimlo ysgytwad pob ig.

Bydd  llygaid y baban yn agor am y tro cyntaf, a bydd ef neu hi'n dechrau eu hagor a chau yn fuan. Dyw hi ddim tan rai wythnosau ar ôl y geni bydd llygaid eich babi yn troi i'w lliw parhaol. Dysgwch mwy am eich babi ar ôl yr enedigaeth.

Erbyn hyn bydd calon eich baban yn curo'n arafach tua 140 curiad y munud. Mae hyn cryn dipyn yn gyflymach na churiad eich calon chi.

Bydd ymenydd, ysgyfaint a system treulio eich baban wedi eu ffurfio erbyn hyn ond ni fyddan nhw wedi llawn aeddfedu - fe fyddan nhw'n dal i ddatblygu tra byddwch yn feichiog fel y byddan nhw'n gweithio'n iawn wrth i'r baban gael ei eni.

Erbyn wythnos 28 bydd eich baban yn pwyso tua 1kg ac wedi ei ffurfio'n llawn. Mae hi'n bosib yn awr i glywed curiad calon y baban gyda stethosgop. Mae hi'n bosib y gall eich cymar ei glywed hefyd, wrth roi ei glust ar eich bola, er gall fod yn anodd dod o hyd i'r man iawn.

Bydd eich baban yn dal i fagu pwysau wrth i floneg ymddangos o dan ei groen.

Eich corff

Efallai y byddwch yn dioddef camdreuliad neu losg cylla, a gall fod yn anodd bwyta prydau mawr wrth i'ch babi dyfu ac yn llenwi darn o'r gofod lle mae stumog fel arfer. Yn aml gallech hefyd ffeindio'ch bod yn teimlo'n eithaf blinedig.

Efallai y bydd eich wyneb, dwylo a thraed yn chwyddo. Gallai hyn gael ei achosi gan ataliad dwr, sy'n normal (ceisiwch orffwys a chodi eich traed chwyddedig i leddfu ar hyn). Byddwch yn siwr i sôn am unrhyw chwyddo i'ch bydwraig neu'ch meddyg fel eu bod yn gallu cymryd eich pwysedd gwaed a diystyrru cyflwr o'r enw cyn-eclampsia, sy'n gallu achosi chwyddo.

Pethau i'w hystyried

Absenoldeb mamolaeth

Os ydych yn bwriadu cymryd absenoldeb mamolaeth o'r gwaith, bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr a ffurf ysgrifenedig o leiaf 15 wythnos cyn i'ch babi gael ei eni. Hynny yw yn ystod wythnos 25 o'ch beichiogrwydd. Os ydy eich partner yn bwriadu cymryd absenoldeb tadolaeth (gall partneriaid benywaidd gymryd absenoldeb tadolaeth hefyd) mae angen iddynt ddweud wrth eu cyflogwr erbyn hyn hefyd.

Lwfans mamolaeth

Os ydych yn gymwys i gael lwfans mamolaeth, gallwch ei hawlio o'r adeg pan fyddwch yn 26 wythnos yn feichiog. Mae gan Directgov wybodaeth am fudd-daliadau pan fyddwch yn disgwyl neu'n magu plant.

Dechrau eich cynllun geni

Meddyliwch am eich dewisiadau ar gyfer esgor a genedigaeth, er enghraifft ar gyfer lleddfu poen, ac am ba osgo y byddech yn hoffi ei ddefnyddio i roi genedigaeth. Gallwch arbed eich cynllun geni ar-lein, a hefyd argraffu fersiwn wag i'w llenwi a'i thrafod gyda'ch bydwraig.

Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:

Pwysedd gwaed uchel a chyn-eclampsia

Gall pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd fod yn arwydd o gyn-eclampsia, a all fod yn bygwth bywyd os na chaiff ei drin.

Cosi difrifol

Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder afu/iau prin o'r enw golestasis obstetrig.

Pan fydd feichiogrwydd yn mynd o'i le

Bydd cymorth ar gael gan eich tim mamolaeth a sefydliadau eraill. Dysgwch mwy am sut gall feichiogrwydd fynd o'i le.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

Darganfyddwch beth sy'n digwydd i chi a'ch babi yn ystod:

29, 30, 31, 32 wythnos yn feichiog

33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos o feichiogrwydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:05:43
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk