Gwybodaeth beichiogrwydd


37 - 40 wythnos

Yn feichiog o 37 i 40 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Wrth gyrraedd wythnos 37 ystyrir eich beichiogrwydd yn un llawn-tymor.

Mae perfedd (system treulio) y baban yn llawn meconium - y sylwedd gludiog gwyrdd a fydd yn ffurfio carthion cyntaf eich baban wedi'r enedigaeth. Gall gynnwys darnau o'r lanugo (blewiach) a orchuddiodd eich baban yn gynharach yn ystod y beichiogrwydd.

Os bydd eich baban yn pasio carthion yn ystod yr esgor, sydd yn gallu digwydd, bydd yr hylif yn cynnwys meconium. Os bydd hyn yn wir, fe fydd eich bydwraig am fonitor eich baban yn agos gan fe all hyn fod yn arwydd ei bod/ei fod o dan straen.

Yn ystod wythnosau diwethaf, rhywbryd cyn yr enedigaeth, fe symuda pen y baban i lawr i'ch pelfis. Unwaith bydd pen eich baban yn symud i lawr fel hyn fe ddywedir ei bod mewn cyswllt. Wrth i hyn ddigwydd, efallai byddwch yn sylwi bod eich bwmp wedi symud i lawr tipyn bach. Weithiau nid yw'r pen mewn cyswllt nes bod yr esgor wedi dechrau.

Ar gyfartaledd mae baban yn pwyso 3 i 4kg erbyn hyn.

Bydd y lanugo a orchuddiodd corff eich baban bron i gyd wedi mynd yn awr, er gall rhai babanod bod â chlytiau bach ohono ar ôl wrth gael eu geni.  

O ganlyniad i'r hormonau sydd yn eich corff, gall organau cenhedlu'r baban edrych yn chwyddedig wrth gael ei eni, ond byddan nhw'n mynd yn ôl i'w maint cyffredin yn fuan.

Mae'ch baban yn barod am ei eni, a byddwch yn ei gwrdd/ei chwrdd rhywbryd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. 

Eich corff

Pan fyddwch tua 37 wythnos yn feichiog, os hyn yw'ch beichiogrwydd cyntaf, efallai y byddwch yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth i'ch babi symud i lawr yn barod i gael ei eni, ond mae'n debyg y byddwch yn teimlo mwy o bwysau yn isel yn eich bol. Os nad eich beichiogrwydd cyntaf ydy hyn, mae hi'n bosib na fydd y babi yn symud i lawr tan gyfnod yr esgor ei hun.

Bydd y rhan fwyaf o ferched yn dechrau esgor ar ôl 38 i 42 wythnos o fod yn feichiog. Dylai eich bydwraig neu feddyg roi gwybodaeth i chi am eich opsiynau os byddwch yn disgwyl am fwy na 41 wythnos.

Ffoniwch eich ysbyty neu'ch bydwraig ar unrhyw adeg os oes gennych bryderon am eich babi neu am y cyfnod esgor a genedigaeth,.

Darganfyddwch beth i'w ddisgwyl os bydd eich babi yn hwyr.

Byddwch yn barod ar gyfer y cyfnod esgor

Beth sy'n digwydd yn ystod y cyfnod esgor

Dysgwch am sut i wybod fod esgor yn dechrau, a beth sy'n digwydd ym mhob un o'r tri cham o esgor.

Lleddfu poen yn ystod y cyfnod esgor

Paratowch trwy ddysgu am yr holl ffyrdd y gallwch leddfu poen yn ystod cyfnod esgor fel y gallwch benderfynu beth sydd orau gennych chi.

Beth gall eich partner geni ei wneud

Gall eich partner geni, boed yn dad y babi, ffrind neu'n berthynas, eich cynorthwyo yn ystod y cyfnod esgor a'r enedigaeth.

Pryderon cyffredin am roi genedigaeth

Genedigaeth ffolennol

Genedigaeth ffolennol yw pan fydd y babi yn cael ei eni pen ôl yn gyntaf, sy'n fwy cymhleth na genedigaeth ben yn gyntaf.

Toriad cesaraidd

Toriad cesaraidd yw pan fyddwch yn cael llawdriniaeth i roi genedigaeth i'ch babi.

Cymell geni

Efallai bydd eich tim mamolaeth yn argymell bod eich cyfnod esgor yn cael ei ddechrau'n artiffisial. Gelwir hyn yn 'cymell geni'.

Os caiff eich babi ei eni yn rhy fuan

Esgor cynamserol

Mae esgor sy'n dechrau cyn 37 wythnos yn cael ei ystyried yn gynamserol. Os caiff eich babi ei eni'n gynnar, efallai bydd angen gofal arbennig yn yr ysbyty arno ef neu hi.

Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:

Gwaedu o'r wain

Gall gwaedu o'r wain fod yn arwydd o broblemau difrifol, felly gofynnwch am gymorth.

Pwysedd gwaed uchel a chyn-eclampsia

Gall pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd fod yn arwydd o gyn-eclampsia, a all fod yn bygwth bywyd os na chaiff ei drin.

Cosi difrifol

Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder afu/iau prin o'r enw golestasis obstetrig.

Gallwch gadw rhestr o bethau i wneud i gadw golwg ar hanfodion eich beichiogrwydd.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

Darganfyddwch beth sy'n digwydd i chi a'ch babi yn ystod:

Dros 40 wythnos o feichiogrwydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:06:46
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk