Gwybodaeth beichiogrwydd


33 - 36 wythnos

Yn feichiog o 33 i 36 wythnos - eich babi a chi

Eich babi

Erbyn wythnos 33 o feichiogrwydd mae ymennydd y baban a'r system nerfol wedi'u datblygu'n llawn. Mae esgyrn eich baban hefyd yn dal i galedu, heblaw am esgyrn y penglog. Bydd y rhain yn aros yn feddal ac ar wahan i wneud y daith drwy'r sianel eni (y serfics a'r fagina) yn haws - gall yr esgyrn symud ychydig a llithro dros ei gilydd er mwyn i'r pen cael ei eni'n ddiogel tra dal i amddiffyn yr ymenydd.

Tua'r adeg yma, fe allwch ddod yn ymwybodol o'ch croth yn tynhau o bryd i'w gilydd. Gelwir y rhain yn gyfangiadau Braxton Hicks, ac maen nhw'n rhan arferol o fod yn feichiog - ymarfer ar gyfer cyfangiadau'r esgor mae eich croth.

Bydd eich baban yn ei gwrcwd erbyn hyn gyda'i goesau wedi'u plygu at ei fron. Nid oes llawer o le iddo/iddi symud, ond fe fydd ef neu hi'n dal i newid ei osgo, a felly y byddwch yn dal i'w synhwyro'r symudiadau, a'u gweld ar arwyneb eich bola.

Os mai bachgen yw eich baban fe fydd ei geilliau yn awr yn dechrau symud i lawr o'i abdomen i mewn i'w sgrotwm.

Erbyn wythnos 36 bydd ysgyfaint eich baban wedi eu llawn ddatblygu ac yn barod am yr anadliad cyntaf wedi iddo (iddi hi) gael ei eni. Bydd hi neu ef hefyd yn medru sugno am laeth yn awr, a bydd y system treulio yn barod am laeth o'r fron.

Eich corff

Mae angen i chi arafu oherwydd bydd y pwysau ychwanegol yn eich gwneud yn flinedig, ac efallai y byddwch yn cael poen yn eich cefn.

O tua wythnos 34 o feichiogrwydd, efallai y byddwch yn ymwybodol o'ch croth yn tynhau o bryd i'w gilydd. Mae'r rhain yn gyfyngiadau ymarfer a elwir yn gyfangiadau Braxton Hicks, ac maent yn rhan normal o feichiogrwydd. Dim ond pan fyddant yn dechrau bod yn boenus neu'n dod yn aml bydd angen i chi gysylltu â'ch bydwraig neu ysbyty.

Dim ond tua 5% o fabanod sy'n cyrraedd ar y dyddiad disgwyliedig. Dysgwch mwy am arwyddion esgor a beth sy'n digwydd yn y cyfnod esgor.

Os oes gennych blant yn barod, efallai y byddwch am wneud trefniadau gofal ar eu cyfer nhw erbyn y byddwch yn mynd mewn i'r cyfnod esgor. Paciwch eich bag yn barod ar gyfer yr enedigaeth, os ydych yn bwriadu rhoi genedigaeth yn yr ysbyty neu mewn uned bydwreigiaeth.  Pan fyddwch tua 36 wythnos yn feichiog, gwnewch yn siwr bod gennych eich holl rifau ffôn pwysig wrth law rhag ofn bod y cyfnod esgor yn dechrau.

Dysgwch mwy am eich opsiynau ar gyfer ble i roi genedigaeth, ac am arwyddion esgor.

Gallwch hefyd ddarllen canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ar ofal merched a babanod yn ystod y cyfnod esgor (PDF, 212KB).

Pethau i'w hystyried

Lleddfu poen yn ystod cyfnod esgor

Paratowch trwy ddysgu am yr holl ffyrdd y gallwch leddfu poen yn ystod esgor fel y gallwch benderfynu beth sy'n orau i chi

Dechrau eich cynllun geni

Meddyliwch am eich dewisiadau ar gyfer esgor a genedigaeth, er enghraifft ar gyfer lleddfu poen, ac am ba osgo y byddech yn hoddi ei ddefnyddio i roi genedigaeth. Gallwch argraffu fersiwn wag i'w llenwi a'i thrafod gyda'ch bydwraig. 

Os bydd esgor yn dechrau'n gynnar

Mae esgor sy'n dechrau cyn 37 wythnos yn cael ei ystyried yn esgor cynamserol. Os caiff eich baban ei eni'n gynnar, efallai bydd angen gofal arbennig arno fe neu arni hi yn yr ysbyty.

Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:

Gwaedu o'r wain

Gall gwaedu o'r wain fod yn arwydd o broblemau difrifol, felly gofynnwch am gymorth.

Pwysedd gwaed uchel a chyn-eclampsia

Gall pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd fod yn arwydd o gyn-eclampsia, a all fod yn bygwth bywyd os na chaiff ei drin.

Cosi difrifol

Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder afu/iau prin o'r enw golestasis obstetrig

Gallwch gadw rhestr o bethau i wneud ar-lein i gadw golwg ar hanfodion eich beichiogrwydd.

Beichiogrwydd wythnos i wythnos

37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog

Dros 40 wythnos o feichiogrwydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 31/07/2023 08:06:26
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk