29 - 32 wythnos
Yn feichiog o 29 i 32 wythnos - eich babi a chi
Eich babi
Bydd eich baban yn dal i symud llawer ar hyn o bryd, ac mae hi'n debyg y byddwch yn ymwybodol o'r symudiadau hyn. Nid oes rhif penodol o symudiadau y dylech chi deimlo pob dydd - mae bob beichiogrwydd yn wahanol. Dylech chi fod yn ymwybodol o batrwm symudiadau eich baban, ac os bydd y patrwm hwn yn newid cysylltwch â'ch bydwraig neu ysbyty i ddweud amdano.
Bydd yr atgyrch sugno'n datblygu erbyn hyn a bydd eich baban yn medru sugno ei fys bawd a bysedd eraill.
Mae'r baban yn tewychu a bydd y croen yn dechrau edrych yn llai crychiog ac yn llawer llyfnach.
Bydd y fernics gwyn seimllyd a'r lanugo (blewiach) a oedd yn gorchuddio croen eich baban ers tipyn nawr yn dechrau diflannu.
Gall llygaid eich baban ffocysu'n awr. Mae'r ysgyfaint yn datblygu'n gyflym, ond ni fydd eich baban yn medru anadlu drosto fe ei hun nes tuag wythnos 36.
Erbyn tuag wythnos 32 bydd y baban yn gorwedd â'i ben i lawr yn barod am yr enedigaeth. Gelwir hyn yn gyflwyniad ceffalig. Peidiwch â phoeni os nad yw eich baban a'i ben i lawr eto - mae digon o amser ar ôl iddo droi.
Mae cyfaint yr hylif amniotig yn eich croth yn cynyddu, a bydd eich baban yn dal i lyncu hylif a'i basio yn ôl fel troeth.
Eich corff
Gan fod eich bwmp yn gwthio i fyny yn erbyn eich ysgyfaint ac mae arnoch chi bwysau ychwanegol i gario, gallwch deimlo'n fyr eich anadl.
Mae cramp coes yn ystod y nos yn gyffredin ar ôl tua 29 i 32 wythnos o feichiogrwydd. Efallai y byddwch yn ei gweld hi'n anodd cysgu oherwydd na allwch orwedd yn gyfforddus. Ceisiwch orwedd yn eich cwrcwd, ar eich ochr gyda chlustog rhwng eich coesau a chlustog o dan eich bwmp i weld a yw'n teimlo'n fwy cyfforddus. Efallai y bydd angen i chi basio llawer o ddwr hefyd. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am broblemau iechyd cyffredin yn ystod beichiogrwydd.
Os mai hwn yw eich baban cyntaf chi, dylai'ch bydwraig neu'ch meddyg mesuro maint eich croth a chwilio pa ffordd mae'r baban yn gorwedd yn ystod wythnos 31. Byddant yn mesuro eich pwysedd gwaed, profi eich troeth am brotein ac yn trafod canlyniadau unrhyw brofion sgrinio o'ch apwyntiadau diwethaf.
Dysgwch am gamau esgor, a beth sy'n digwydd.
Pethau i'w hystyried
Absenoldeb mamolaeth
Os ydych yn bwriadu cymryd absenoldeb mamolaeth o'r gwaith, bydd angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr ar ffurf ysgrifenedig o leiaf 15 wythnos cyn i'ch babi gael ei eni. Hynny yw yn ystod wythnos 25 o'ch beichiogrwydd. Os ydy'ch partner yn bwriadu cymryd absenoldeb tadolaeth (gall partneriaid benywaidd gymryd absenoldeb tadolaeth hefyd) mae hefyd angen iddynt ddweud wrth eu cyflogwr ar hyn o bryd.
Lwfans mamolaeth
Os ydych yn gymwys i gael lwfans mamolaeth, gallwch ei hawlio o'r adeg pan fyddwch yn 26 wythnos yn feichiog. Mae gan Directgov wybodaeth am fudd-daliadau pan fyddwch yn disgwyl neu'n magu plant.
Dechrau eich cynllun geni
Meddyliwch am eich dewisiadau ar gyfer esgor a genedigaeth, er enghraifft ar gyfer lleddfu poen, ac am ba osgo y byddech yn hoffiei ddefnyddio i roi genedigaeth. Gallwch argraffu fersiwn wag o'r cynllun i'w lenwi a'i drafod gyda'ch bydwraig.
Mae eisiau bod yn wyliadwrus am:
Pwysedd gwaed uchel a chyn-eclampsia
Gall pwysedd gwaed uchel yn ystod beichiogrwydd fod yn arwydd o gyn-eclampsia, a all fod yn bygwth bywyd os na chaiff ei drin.
Cosi difrifol
Gallai cosi difrifol fod yn arwydd o anhwylder afu/iau prin o'r enw golestasis obstetrig.
Gallwch gadw rhestr o bethau i'w wneud ar-lein i gadw golwg ar hanfodion eich beichiogrwydd.
Beichiogrwydd wythnos i wythnos
33, 34, 35, 36 wythnos yn feichiog
37, 38, 39, 40 wythnos yn feichiog
Dros 40 wythnos o feichiogrwydd
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.
Last Updated: 31/07/2023 08:06:07
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk