Cyflwyniad
Mae diabetes yn gyflwr oes sy’n gwneud i lefel siwgr (glwcos) gwaed unigolyn fynd yn rhy uchel.
Mae'r hormon inswlin - sy'n cael ei gynhyrchu gan y pancreas - yn gyfrifol am reoli faint o glwcos sydd yn y gwaed.
Mae dau brif fath o ddiabetes:
- Math 1 - pan nad yw'r pancreas yn cynhyrchu unrhyw inswlin
- Math 2 - pan nad yw'r pancreas yn cynhyrchu digon o inswlin neu pan nad yw celloedd y corff yn adweithio i inswlin
Mae'r pwnc hwn yn ymwneud â diabetes math 1. Ymdrinnir â mathau eraill o ddiabetes ar wahân (darllenwch am diabetes math 2 a diabetes cyfnod cario, sy'n effeithio ar rai menywod yn ystod beichiogrwydd).
Symptomau diabetes
Dyma symptomau nodweddiadol diabetes math 1:
- teimlo'n sychedig iawn
- troethi'n amlach na'r arfer, yn enwedig dros nos
- teimlo'n flinedig iawn
- colli pwysau a cholli swmp cyhyrau
Fel arfer, mae symptomau diabetes math 1 yn datblygu'n gyflym iawn ymhlith pobl ifanc (dros ychydig ddiwrnodau neu wythnosau). Ymhlith oedolion, mae'r symptomau'n aml yn cymryd mwy o amser i ddatblygu (ychydig fisoedd).
Darllenwch fwy am symptomau diabetes math 1.
Mae'r symptomau hyn yn digwydd oherwydd bod y diffyg inswlin yn golygu bod glwcos yn aros yn y gwaed ac nid yw'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd ar gyfer egni. Mae eich corff yn ceisio lleihau lefel y glwcos yn y gwaed trwy gael gwared â'r glwcos dros ben yn eich troeth.
Mae'n bwysig iawn cael diagnosis o ddiabetes cyn gynted â phosibl, oherwydd bydd yn mynd yn waeth ac yn waeth os caiff ei adael heb ei drin.
Darllenwch am sut y gwneir diagnosis o ddiabetes math 1.
Achosion diabetes math 1
Mae diabetes math 1 yn gyflwr hunanimiwn, sy'n golygu bod eich system imiwnedd yn ymosod ar feinwe iach y corff ar gam. Yn yr achos hwn, mae'n ymosod ar y celloedd yn eich pancreas.
O ganlyniad, ni fydd eich pancreas wedi'i niweidio yn gallu cynhyrchu inswlin. Felly, ni all glwcos gael ei symud allan o'ch llif gwaed ac i mewn i'ch celloedd.
Yn aml, mae diabetes math 1 yn cael ei etifeddu (mae'n rhedeg mewn teuluoedd), felly gallai'r adwaith hunanimiwn fod yn un genetig.
Nid ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi i'r system imiwnedd ymosod ar y pancreas, ond mae rhai ymchwilwyr wedi awgrymu y gallai fod yn haint firaol.
Os oes gennych berthynas agos - fel rhiant, brawd neu chwaer - sydd â diabetes math 1, mae gennych chi siawns 6% o ddatblygu'r cyflwr hefyd. Mae'r risg i bobl nad oes ganddynt berthynas agos sydd â diabetes math 1 ychydig yn llai na 0.5%.
Trin diabetes math 1
Does dim modd iacháu diabetes, ond nod triniaeth yw cadw lefelau glwcos eich gwaed mor normal â phosibl a rheoli eich symptomau, i atal problemau iechyd rhag datblygu'n ddiweddarach mewn bywyd.
Os cewch ddiagnosis o ddiabetes, cewch eich cyfeirio at dîm gofal diabetes i gael triniaeth arbenigol a monitro.
Oherwydd nad yw eich corff yn gallu cynhyrchu inswlin, bydd angen pigiadau rheolaidd arnoch o inswlin i gadw'ch lefel glwcos ar lefel normal.
Mae opsiynau eraill ar gael yn lle pigiadau inswlin, ond mae'r rhain yn addas i nifer fach o gleifion yn unig
Darllenwch ragor ynghylch trin diabetes math 1.
Cymhlethdodau
Gall diabetes achosi problemau iechyd tymor hir difrifol. Dyma achos mwyaf cyffredin colli golwg a dallineb ymhlith pobl oed gweithio.
Dylai pawb 12 oed neu hŷn sydd â diabetes gael eu gwahodd i gael eu llygaid wedi'u sgrinio unwaith y flwyddyn am retinopathi diabetig.
Mae'r sgrinio diabetig yn chwilio am newidiadau oherwydd diabetes yn unig. Mae cael diabetes yn golygu y gallech fod yn fwy tebygol o gael cyflyrau eraill ar y llygaid, fel glawcoma neu gataractau, felly mae'n bwysig hefyd i chi gael archwiliadau rheolaidd y llygaid (yn rhad ac am ddim drwy'r GIG) gyda'ch optometrydd/optegydd lleol.
Dod o hyd i optometrydd/optegydd yma
Mae diabetes yn gyfrifol am lawer o achosion o methiant yr arennau a gorfod torri aelodau isaf y corff i ffwrdd.
Mae pobl sydd â diabetes hyd at 5 gwaith yn fwy tebygol o gael clefyd cardiofasgwlaidd, fel strôc, na'r rhai heb ddiabetes.
Darllenwch ragor ynghylch cymhlethdodau diabetes math 1.
Byw gyda diabetes
Os oes gennych ddiabetes math 1, bydd angen i chi ofalu am eich iechyd yn ofalus iawn. Mae hyn yn golygu:
Darllenwch ragor ynghylch byw gyda diabetes.
Symptomau
Gall symptomau diabetes math 1 ddatblygu'n gyflym iawn (dros ychydig ddiwrnodau neu wythnosau), yn enwedig ymhlith plant.
Ymhlith oedolion hŷn, gall y symptomau gymryd mwy o amser i ddatblygu (ychydig fisoedd) yn aml.
Fodd bynnag, dylent ddiflannu pan fyddwch chi'n dechrau cymryd inswlin a byddwch chi'n cael y cyflwr o dan reolaeth.
Dyma brif symptomau diabetes:
- teimlo’n sychedig iawn
- troethi'n fwy aml nag arfer, yn enwedig yn y nos
- teimlo'n flinedig iawn
- colli pwysau a cholli swmp cyhyrau
- cosi yn ardal yr organau cenhedlu, neu ddioddef o'r llindag (haint burum) yn rheolaidd
- golwg aneglur, oherwydd bod lens y llygaid yn newid siâp
- briwiau a chlwyfau sy'n araf i wella
Gall chwydu neu anadlu trwm iawn ddigwydd yn ddiweddarach hefyd. Mae hyn yn arwydd peryglus ac mae angen triniaeth ysbyty ar ei gyfer ar unwaith.
Dylech fynd at eich meddyg teulu ar unwaith os ydych chi'n amau bod gennych ddiabetes.
Pryd i gael sylw meddygol ar frys
Dylech gael sylw meddygol ar frys os oes gennych ddiabetes ac rydych yn datblygu:
- colli awydd bwyd
- cyfog neu chwydu
- tymheredd uchel
- poen stumog
- anadl sy'n arogli o ffrwythau - gallai arogli'n debyg i losin pear drops neu farnais ewinedd (bydd pobl eraill fel arfer yn gallu ei arogli, ond ni fyddwch chi'n gallu gwneud hynny)
Hypoglycaemia (glwcos gwaed isel)
Os bydd gennych ddiabetes, gall lefelau glwcos eich gwaed fynd yn isel iawn. Hypoglycaemia (neu "hypo") yw'r enw ar hyn, ac mae'n digwydd pan fydd yr inswlin sy'n cael ei roi yn eich corff trwy bigiadau yn symud gormod o glwcos allan o'ch llif gwaed.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hypoglycaemia'n digwydd os byddwch yn cymryd gormod o inswlin, er y gall ddigwydd hefyd os byddwch yn colli pryd bwyd, yn ymarfer corff yn egnïol iawn, neu'n yfed alcohol ar stumog wag.
Mae symptomau "hypo" yn cynnwys:
- teimlo'n sigledig ac yn bigog
- chwysu
- merwino yn y gwefusau
- teimlo'n wan
- teimlo'n ddryslyd
- llwgu
- cyfog (teimlo fel petaech chi eisiau chwydu)
Gellir rheoli 'hypo' yn syml drwy fwyta neu yfed rhywbeth sy'n cynnwys siwgr.
Os na chaiff 'hypo' ei reoli, gall arwain at ddryswch, siarad yn aneglur ac, yn y pen draw, anymwybyddiaeth.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gael pigiad o hormon o'r enw glwcagon ar frys. Mae glwcagon yn codi lefel y glwcos yn eich gwaed.
Hyperglycaemia (glwcos gwaed uchel)
Oherwydd nad yw pobl â diabetes math 1 yn gallu cynhyrchu unrhyw inswlin, gallai lefel y glwcos yn eu gwaed fynd yn uchel iawn.
Pan fydd lefelau glwcos eich gwaed yn mynd yn rhy uchel, gelwir hyn yn hyperglycaemia. Gall symptomau hyperglycaemia ddigwydd yn sydyn ac maen nhw'n cynnwys:
- sychder eithriadol
- ceg sych
- golwg aneglur
- teimlo'n gysglyd
- angen troethi'n fynych
Heb ei drin, gall hyperglycaemia arwain at cetoasidosis diabetig. Cyflwr difrifol yw hwn, pan fydd y corff yn dechrau torri braster a chyhyr i lawr i greu egni yn lle glwcos. Mae hyn yn arwain at groniad o asidau yn eich gwaed, sy'n gallu achosi chwydu, dadhydradiad, anymwybyddiaeth a marwolaeth hyd yn oed.
Mae gan wefan Diabetes UK ragor o wybodaeth am symptomau diabetes.
Diagnosis
Mae'n bwysig gwneud diagnosis o ddiabetes mor gynnar â phosibl, er mwyn gallu dechrau triniaeth.
Os cewch symptomau diabetes, ewch i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd. Bydd yn eich holi ynglŷn â'ch symptomau ac efallai'n gofyn am brawf wrin a prawf gwaed.
Cynhelir profion ar eich sampl wrin i weld a yw’n cynnwys glwcos. Nid yw wrin yn cynnwys glwcos fel arfer, ond gall glwcos basio o'r arennau i mewn i'ch wrin os oes gennych ddiabetes.
Os bydd eich wrin yn cynnwys glwcos, gall prawf gwaed arbennig o'r enw hemoglobin glycedig (HbA1c) gael ei ddefnyddio i benderfynu a oes gennych ddiabetes.
Prawf hemoglobin glycedig (HbA1c)
Gellir defnyddio'r prawf hemoglobin glycedig (HbA1c) i wneud diagnosis o ddiabetes.
Gellir ei ddefnyddio hefyd i ddangos pa mor dda y mae diabetes pobl yn cael ei reoli.
Mae'r prawf HbA1c yn rhoi lefel glwcos gyfartalog eich gwaed yn ystod y ddau i dri mis diwethaf. Gall y canlyniadau ddangos a yw'r mesurau rydych chi'n eu cymryd i reoli eich diabetes yn gweithio, trwy gyrraedd targedau personol y cytunwyd arnynt.
Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes, argymhellir bod eich HbA1c yn cael ei fesur o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Ond, efallai y bydd angen i'ch HbA1c gael ei fesur yn amlach:
- os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes yn ddiweddar
- os yw'r lefel glwcos yn eich gwaed yn parhau'n rhy uchel
- os yw eich cynllun triniaeth wedi newid
Gall y prawf HbA1c gael ei gynnal unrhyw bryd yn ystod y dydd ac nid oes angen unrhyw baratoadau arbennig ar ei gyfer, fel ymprydio. Fodd bynnag, mae'n llai dibynadwy mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft yn ystod beichiogrwydd.
Oherwydd y manteision sy'n gysylltiedig â'r prawf HbA1c, dyma'r dull o ddewis ar gyfer asesu pa mor dda y mae lefelau'r glwcos yn y gwaed yn cael eu rheoli gan rywun sydd â diabetes.
Hefyd, mae HbA1c yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel prawf diagnostig ar gyfer diabetes math 2 ac fel prawf sgrinio i bobl sydd â risg uchel o ddatblygu diabetes.
Diabetes math 1 mewn plant
Pan fydd plant yn datblygu diabetes, bydd y mwyafrif ohonynt yn datblygu diabetes math 1.
Bydd angen i chi reoli cyflwr eich plentyn yn rhan o'ch bywyd dyddiol, ond cewch eich cyflwyno i dîm gofal diabetes arbenigol a fydd yn gallu eich helpu i ymdopi ag unrhyw heriau.
Triniaeth
Nid oes iachâd ar gyfer diabetes, felly nod triniaeth yw cadw lefelau glwcos eich gwaed mor normal â phosibl a rheoli eich symptomau er mwyn atal problemau iechyd rhag datblygu yn ddiweddarach yn eich bywyd.
Os byddwch wedi cael diagnosis o ddiabetes, cewch eich cyfeirio ar gyfer triniaeth arbenigol gan dîm gofal diabetes. Bydd eich tîm gofal yn gallu eich helpu i ddeall eich triniaeth ac yn monitro'ch cyflwr yn fanwl er mwyn nodi unrhyw broblemau iechyd a all ddigwydd.
Bydd diabetes math 1 yn digwydd am nad yw'ch corff yn cynhyrchu unrhyw inswlin. Oherwydd hyn, bydd angen i chi gael triniaeth inswlin reolaidd er mwyn cadw'ch lefelau glwcos yn normal.
Daw inswlin ar ffurf nifer o baratoadau gwahanol, ac mae pob un ohonynt yn gweithio ychydig yn wahanol. Er enghraifft, mae rhai yn para hyd at ddiwrnod cyfan (hir-weithredol), mae rhai yn para hyd at wyth awr (byr-weithredol) ac mae rhai yn gweithio'n gyflym ond nid ydynt yn para'n hir iawn (cyflym-weithredol). Mae eich triniaeth yn debygol o gynnwys cyfuniad o'r paratoadau inswlin gwahanol hyn.
Pigiadau inswlin
Os oes diabetes math 1 gennych, hwyrach y bydd angen i chi gael pigiadau inswlin. Mae'n rhaid chwistrellu inswlin, oherwydd pe byddai'n cael ei gymryd ar ffurf tabled, byddai'n cael ei dorri i lawr yn eich stumog - fel bwyd - ac ni fyddai'n gallu mynd i mewn i'ch llif gwaed.
Pan gewch ddiagnosis gyntaf, bydd eich tîm gofal diabetes yn eich helpu gyda'ch pigiadau inswlin, cyn dangos i chi sut a pha bryd i'w gwneud eich hun. Yn ogystal, byddant yn dangos sut y bydd angen i chi storio'ch inswlin a gwaredu'ch nodwyddau yn gywir.
Mae pigiadau inswlin fel arfer yn cael eu rhoi gan ddefnyddio pen pigiadau; enwau eraill ar hwn yw pen inswlin neu awto-bigiad. Weithiau, rhoddir pigiadau gan ddefnyddio chwistrell. Bydd ar y rhan fwyaf o bobl angen rhwng dau a phedwar pigiad y dydd.
Gall eich meddyg teulu neu’ch nyrs diabetes ddysgu un o'ch ffrindiau agos, neu berthynas, sut i roi pigiad inswlin yn gywir hefyd.
Therapi pwmp inswlin
Dull amgen o chwistrellu inswlin yw therapi pwmp inswlin. Mae pwmp inswlin yn ddyfais fechan sy’n dal yr inswlin ac mae tua’r un maint â phecyn o gardiau.
Bydd y pwmp yn cael ei gysylltu â chi drwy ddarn hir o diwb tenau sydd â nodwydd ar ei ben, sy’n cael ei gosod o dan eich croen. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn rhoi’r nodwydd yn eu stumog, ond gallech ddefnyddio'ch cluniau, eich morddwydydd, eich pen-ôl neu’ch breichiau hefyd.
Mae’r pwmp yn galluogi inswlin i lifo'n ddi-dor i’ch llif gwaed ar gyflymder y gallwch ei reoli. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi roi pigiadau i chi’ch hun mwyach, er y bydd yn rhaid i chi fonitro lefelau glwcos eich gwaed yn fanwl iawn er mwyn sicrhau eich bod yn cael y lefel gywir o inswlin.
Gall therapi pwmp inswlin gael ei ddefnyddio gan oedolion, pobl ifanc yn eu harddegau a phlant (dan oruchwyliaeth oedolyn) sydd â diabetes math 1. Fodd bynnag, efallai na fydd yn addas i bawb. Gallai eich tîm gofal diabetes awgrymu therapi pwmp os byddwch yn cael glwcos gwaed isel (hypoglycaemia) yn aml.
Monitro'r lefel glwcos yn y gwaed
Os oes gennych ddiabetes math 1, bydd angen i'ch meddyg teulu neu'ch tîm gofal diabetes fesur lefel y glwcos yn eich gwaed oddeutu bob dau i chwe mis.
Bydd hyn yn dangos pa mor sefydlog y bu'ch lefelau glwcos yn y gorffennol diweddar a pha mor dda y mae'ch cynllun triniaeth yn gweithio.
Defnyddir y prawf HbA1c i fesur lefelau glwcos y gwaed yn ystod y ddau i dri mis blaenorol.
Mae HbA1c yn fath o hemoglobin, sef y cemegyn sy'n cludo ocsigen mewn celloedd gwaed coch, y mae glwcos ynghlwm wrtho hefyd.
Mae lefel HbA1c uchel yn golygu bod lefel y glwcos yn eich gwaed wedi bod yn gyson uchel yn ystod yr wythnosau diweddar, ac efallai y bydd angen i'ch cynllun triniaeth diabetes gael ei newid.
Gall eich tîm gofal diabetes eich helpu i osod targed HbA1c i anelu ato. Fel arfer, bydd hyn yn llai na 59mmol/mol (7.5%). Fodd bynnag, fe all fod mor isel â 48mmol/mol (6.5%) i rai pobl.
Monitro eich glwcos gwaed eich hun
Os oes gennych ddiabetes math 1, yn ogystal â chael lefel y glwcos yn eich gwaed wedi'i gwirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol bob dau i chwe mis, mae'n bosibl y cewch eich cynghori i fonitro lefel y glwcos yn eich gwaed eich hun gartref.
Hyd yn oed os ydych yn bwyta diet iach ac yn cymryd tabledi neu'n defnyddio therapi inswlin, gall ymarfer corff, salwch a straen effeithio ar lefel y glwcos yn eich gwaed.
Mae ffactorau eraill a allai effeithio ar lefel y glwcos yn eich gwaed yn cynnwys yfed alcohol, cymryd meddyginiaethau eraill ac, o ran menywod, newidiadau hormonaidd yn ystod y mislif.
Mae mesurydd glwcos gwaed yn ddyfais fach sy'n mesur crynodiad y glwcos yn eich gwaed. Mae'n gallu bod yn ddefnyddiol i ganfod siwgr gwaed uchel (hyperglycaemia) neu siwgr gwaed isel (hypoglycaemia).
Os argymhellir monitro glwcos gwaed, dylech gael eich hyfforddi ar sut i ddefnyddio mesurydd glwcos gwaed a beth y dylech ei wneud os yw'r darlleniad yn rhy uchel neu'n rhy isel.
Nid yw mesuryddion glwcos gwaed ar gael am ddim trwy'r GIG ar hyn o bryd, ond efallai y bydd stribedi monitro gwaed ar gael mewn rhai achosion. Gofynnwch i aelod o'ch tîm gofal diabetes os ydych yn ansicr.
Mae Diabetes UK hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am argaeledd stribedi profi glwcos gwaed (PDF, 195kb).
Bydd monitro lefel y glwcos yn eich gwaed yn rheolaidd yn sicrhau bod eich glwcos gwaed mor normal a sefydlog â phosibl.
Gan fod lefel y glwcos yn eich gwaed yn debygol o amrywio drwy gydol y dydd, mae'n bosibl y bydd angen i chi ei gwirio sawl gwaith y dydd, yn dibynnu ar eich triniaeth.
Wrth brofi gartref, mae lefel y glwcos yn y gwaed fel arfer yn cael ei mesur yn ôl sawl milimol o glwcos sydd mewn litr o waed.
Mae milimol yn fesuriad a ddefnyddir i ddiffinio crynodiad y glwcos yn eich gwaed. Mae'r mesuriad yn cael ei fynegi fel milimolau fesul litr, neu mmol/l yn fyr.
Mae lefel glwcos gwaed normal yn 4-6 mmol/l cyn prydau bwyd (cyn ciniawa - preprandial) a llai na 10 mmol/l ddwy awr ar ôl prydau bwyd (wedi ciniawa - postprandial), er bod hyn yn gallu amrywio o un unigolyn i'r llall.
Gall eich tîm gofal diabetes drafod eich lefel glwcos gwaed gyda chi yn fanylach.
Trin hypoglycaemia (glwcos gwaed isel)
Os oes gennych ddiabetes math 1 sy'n cael ei reoli gan ddefnyddio inswlin neu fathau penodol o dabledi, gallech brofi pyliau o hypoglycaemia.
Hypoglycaemia yw pan fydd y lefelau glwcos yn eich gwaed yn mynd yn isel iawn.
Gall hypoglycaemia (neu "hypo") ysgafn wneud i chi deimlo'n sigledig, yn wan ac yn llwglyd, ond fel arfer gellir ei reoli trwy fwyta neu yfed rhywbeth sy'n cynnwys siwgr.
Os ydych yn cael 'hypo', yn y lle cyntaf dylech gael math o garbohydrad a fydd yn gweithio'n gyflym, fel diod siwgrog neu dabledi glwcos.
Dylai hyn gael ei ddilyn gan garbohydrad mwy hir-weithredol, fel bar grawnfwyd, brechdan neu ddarn o ffrwyth.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y camau hyn yn ddigon i godi lefel y glwcos yn eich gwaed i lefel normal, er y gallai hyn gymryd rhai oriau.
Os byddwch yn datblygu hypoglycaemia difrifol, gallech fynd yn gysglyd ac yn ddryslyd, a hyd yn oed colli ymwybyddiaeth.
Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi gael pigiad glwcagon i mewn i'ch cyhyr neu glwcos i mewn i wythïen. Mae glwcagon yn hormon sy'n cynyddu lefel y glwcos yn eich gwaed yn gyflym.
Gall eich tîm gofal diabetes eich cynghori ar sut i osgoi hypo a beth i'w wneud os bydd yn digwydd.
Trin hyperglycaemia
Gall hyperglycaemia ddigwydd pan fydd y lefelau glwcos yn eich gwaed yn mynd yn rhy uchel. Gall ddigwydd am nifer o resymau, fel bwyta gormod, bod yn anhwylus, neu beidio â chymryd digon o inswlin.
Os byddwch yn datblygu hyperglycaemia, gall fod angen i chi addasu'ch diet neu ddos eich inswlin, er mwyn cadw'ch lefelau glwcos yn normal. Bydd eich tîm gofal diabetes yn gallu'ch cynghori ynghylch y ffordd orau o wneud hyn.
Os na chaiff hyperglycaemia ei drin, gall arwain at gyflwr o'r enw cetoasidosis diabetig, pan fydd y corff yn dechrau torri brasterau i lawr i greu egni yn lle glwcos, a fydd yn achosi i getonau (asidau) gronni yn eich gwaed.
Mae cetoasidosis diabetig yn ddifrifol iawn ac os na chaiff ei drin yn gyflym, gall arwain at anymwybyddiaeth ac, yn y pen draw, at farwolaeth.
Mae arwyddion cetoasidosis diabetig yn cynnwys:
- troethi'n fynych
- syched
- blinder a lludded (diffyg egni)
- golwg aneglur
- poen abdomenol (stumog)
- cyfog a chwydu
- anadlu'n ddwfn
- arogl cetonau ar eich anadl (disgrifiwyd fel arogl 'pear drops')
- ymgwympo ac anymwybyddiaeth
Bydd eich tîm gofal iechyd yn eich cynghori ar sut i leihau risg cetoasidosis trwy brofi eich gwaed eich hun am getonau gan ddefnyddio stribedi mesur cetonau gwaed, os byddwch yn anhwylus.
Os byddwch yn datblygu cetoasidosis diabetig, bydd angen i chi gael triniaeth frys yn yr ysbyty. Byddwch yn cael inswlin yn uniongyrchol i mewn i wythïen (yn fewnwythiennol). Os byddwch wedi dadhydradu, gall fod angen i chi gael hylifau eraill hefyd trwy ddiferiad, gan gynnwys hydoddiant halen a photasiwm.
Mae rhagor o wybodaeth am cetoasidosis diabetig ar gael ar wefan Diabetes UK.
Triniaethau eraill
Gall diabetes math 1 arwain at gymhlethdodau hirdymor. Os bydd gennych y cyflwr hwn, byddwch mewn perygl uwch o ddatblygu clefyd y galon, strôc a clefyd yr arennau. I leihau'r siawns o hyn, efallai y cewch eich cynghori i gymryd:
Mae presenoldeb meintiau bach o brotein o'r enw albwmin yn eich wrin yn arwydd o glefyd diabetig yr arennau. Gellir ei wrthdroi yn aml os caiff ei drin yn ddigon cynnar.
Safonau gofal ar gyfer diabetes
Nod trin diabetes yw helpu pobl sydd â'r cyflwr i reoli'r lefelau glwcos yn eu gwaed a lleihau'r risg y byddant yn datblygu cymhlethdodau yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru. Bydd gweithredu hwn fesul cam yn arwain at wella ansawdd gofal a thriniaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda diabetes.
Cymhlethdodau
Os na chaiff diabetes ei drin, gall arwain at nifer o wahanol broblemau iechyd. Gall lefelau uchel o glwcos wneud niwed i waedlestri, nerfau ac organau.
Gall hyd yn oed lefel glwcos ychydig yn uchel, nad yw'n achosi unrhyw symptomau, gael effaith niweidiol yn y tymor hir.
Clefyd y galon a strôc
Os bydd gennych ddiabetes, byddwch hyd at 5 gwaith yn fwy tebygol ddatblygu clefyd coronaidd y galon neu gael strôc.
Bydd cyfnodau hir o reoli lefelau glwcos gwaed yn wael yn cynyddu'r tebygolrwydd o ddatblygu atherosglerosis (sef pan fydd eich gwaedlestri'n caledu ac yn culhau).
Gall hyn arwain at gyflenwad gwaed gwael i'ch calon, gan achosi angina (poen mud, tynn neu drwm yn y frest). Mae hefyd yn cynyddu'r siawns y bydd gwaedlestr yn eich calon neu'ch ymennydd yn blocio'n gyfan gwbl, gan achosi trawiad ar y galon, neu strôc.
Niwed i'r nerfau
Gall lefelau glwcos gwaed uchel niweidio gwaedlestri bychain eich nerfau. Gall hyn arwain at boen merwino neu losgi sy'n lledaenu o'ch bysedd a bysedd eich traed i fyny drwy'ch coesau a'ch breichiau. Gall hefyd achosi fferdod, sy'n gallu arwain at wlseriad yn y traed.
Mae niwed i'r system nerfol ymylol (y system nerfol y tu allan i'r ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) yn cael ei alw'n niwropathi'r ymylon.
Os effeithir ar y nerfau yn eich system dreulio, gallech ddioddef cyfog, chwydu, dolur rhydd neu rwymedd.
Retinopathi Diabetig
Mae Retinopathi Diabetig yn gyflwr lle mae'r retina (yr haen feinwe sensitif i olau) yng nghefn y llygad yn cael ei niweidio.
Mae angen i'r retina gael cyflenwad gwaed cyson, y mae'n ei dderbyn trwy rwydwaith o waedlestri bychain. Dros amser, gall lefel siwgr gwaed gyson uchel niweidio'r gwaedlestri hyn ac effeithio ar eich golwg.
Mae archwiliadau llygaid blynyddol yn cael eu trefnu gan uned ffotograffig ranbarthol fel arfer. Os canfyddir niwed sylweddol, gallech gael eich cyfeirio at feddyg sy'n arbenigo mewn trin cyflyrau'r llygaid (offthalmolegydd).
Po orau y byddwch chi'n rheoli'r lefelau siwgr yn eich gwaed, y lleiaf yw'r risg y byddwch yn datblygu problemau difrifol y llygaid.
Gall retinopathi diabetig gael ei reoli gan ddefnyddio triniaeth laser os caiff ei ddal yn ddigon cynnar. Fodd bynnag, bydd hyn yn gwarchod y golwg sydd gennych yn unig, yn hytrach na'i wella.
Clefyd yr arennau
Os bydd gwaedlestri bach eich aren yn blocio ac yn gollwng, bydd eich arennau'n gweithio'n llai effeithlon.
Mae hyn fel arfer yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel, ac mae trin hyn yn rhan allweddol o'i reoli.
Mewn achosion prin, difrifol, gall hyn arwain at methiant yr arennau. Gall hyn olygu bod angen triniaeth gyda dialysis neu weithiau bydd angen trawsblaniad yr arennau.
Problemau'r traed
Gall niwed i nerfau'r traed olygu y gall toriadau a briwiau bach fynd yn ddisylw, a gall hyn, ynghyd â chylchrediad gwael, achosi wlser y traed. Bydd oddeutu 1 o bob 10 o bobl â diabetes yn cael wlserau'r traed, sy'n gallu achosi haint ddifrifol.
Os oes gennych ddiabetes, cadwch lygad am ddoluriau a thoriadau nad ydynt yn gwella, ac am chwyddo a chroen sy'n teimlo'n boeth i gyffwrdd ag ef. Dylech gael archwiliad traed o leiaf unwaith y flwyddyn hefyd.
Os canfyddir cylchrediad gwael neu niwed i'r nerfau, archwiliwch eich traed bob dydd a rhowch wybod i'ch meddyg, eich nyrs neu'ch podiatregydd am unrhyw newidiadau.
Camweithredu rhywiol
Gall niwed i'r nerfau a'r gwaedlestri arwain at broblemau gyda chodiad ymhlith dynion â diabetes, yn enwedig dynion sy'n ysmygu. Fel arfer, gellir ei drin gan ddefnyddio meddyginiaeth.
Gall menywod â diabetes ddioddef:
- llai o ysfa rywiol (colli libido)
- llai o bleser o gyfathrach rywiol
- sychder y wain
- llai o allu i gael orgasm
- poen yn ystod cyfathrach rywiol
Os na fydd eich gwain yn iro digon neu os bydd cyfathrach rywiol yn boenus i chi, gallech ddefnyddio iraid y wain neu gel â dŵr yn sylfaen iddo.
Camesgor a marw-enedigaeth
Mae mwy o risg camesgoriad a marw-enedigaeth gan fenywod beichiog â diabetes. Os nad yw lefel glwcos eich gwaed yn cael ei rheoli’n ofalus yn union cyn beichiogi ac yn ystod camau cynnar y beichiogrwydd, mae mwy o risg hefyd y bydd eich baban yn datblygu nam geni difrifol.
Fel arfer, bydd menywod beichiog â diabetes yn cael eu harchwiliadau cyn geni mewn ysbyty neu glinig diabetes, ac yn ddelfrydol gan feddyg sy'n arbenigo mewn gofal beichiogrwydd (obstetregydd).
Bydd hyn yn caniatáu i'ch tîm gofal gadw llygad barcud ar eich lefelau glwcos gwaed a rheoli eich dos inswlin yn haws, yn ogystal â monitro twf a datblygiad eich baban.
Gofalu am eich llygaid
Bydd Gwasanaeth Sgrinio Retinopatheg Diabetig Cymru (DRSSW) yn trefnu i chi gael archwiliad llygaid bob blwyddyn. Gwasanaeth rhad ac am ddim yw hwn a sefydlwyd ar gyfer pob unigolyn cymwys sydd wedi'i gofrestru â diabetes yng Nghymru, er mwyn lleihau risg colli'r golwg oherwydd retinopathi diabetig. Os cewch ddiagnosis o ddiabetes, bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio a dylech gael gwahoddiad i fynychu apwyntiad sgrinio o fewn 3 mis o gael eich cynnwys ar gofrestr DRSSW. Mae'n bwysig mynd i'ch apwyntiadau sgrinio llygaid rheolaidd er mwyn darganfod retinopathi a allai fygwth eich golwg, gan fod triniaeth amserol yn hynod effeithiol wrth atal y cyflwr rhag gwaethygu.
Byw gyda
Os bydd gennych ddiabetes math 1, mae'n bwysig i chi ofalu am eich iechyd a'ch lles gyda chymorth y bobl sy'n ymwneud â'ch gofal.
Eich tîm gofal diabetes
Gan fod diabetes math 1 yn gyflwr hirdymor, byddwch mewn cysylltiad â'ch tîm gofal diabetes yn rheolaidd.
Yn ogystal, bydd angen i'ch meddyg teulu neu'ch tîm gofal diabetes archwilio'ch llygaid, eich traed a'ch nerfau yn rheolaidd, oherwydd gall diabetes effeithio ar y rhain hefyd.
Dylech hefyd gael prawf rheolaidd - unwaith y flwyddyn o leiaf - i wirio pa mor dda mae eich diabetes yn cael ei reoli yn y tymor hir.
Bydd sampl o waed yn cael ei thynnu o'ch braich a bydd y prawf HbA1c yn cael ei gynnal. Mae'n mesur faint o glwcos sydd yng nghelloedd coch eich gwaed, ac yn rhoi lefelau glwcos eich gwaed ar gyfer y ddau i dri mis blaenorol.
Mae rhagor o wybodaeth am y prawf HbA1c ar gael ar wefan Diabetes UK.
Bwyta'n iach
Mae bwyta diet iach a chytbwys yn bwysig iawn os oes gennych ddiabetes. Fodd bynnag, nid oes angen i chi osgoi grwpiau bwyd penodol yn gyfan gwbl.
Gallwch fwyta diet amrywiol a mwynhau amrywiaeth eang o fwydydd cyhyd â'ch bod yn bwyta'n rheolaidd ac yn gwneud dewisiadau iachus.
Gallwch wneud addasiadau wrth goginio prydau bwyd, fel lleihau faint o fraster, halen a siwgr rydych chi'n ei fwyta, a chynyddu ffeibr.
Nid oes angen i chi eithrio bwydydd siwgrog a braster uchel o'ch diet yn llwyr, ond dylech gyfyngu arnynt.
Y peth pwysig wrth reoli diabetes trwy eich diet yw bwyta'n rheolaidd a chynnwys carbohydradau startshlyd, fel pasta, yn ogystal â digon o ffrwythau a llysiau.
Os yw'ch diet yn gytbwys, dylech allu cyflawni iechyd da a chynnal pwysau iachus.
Mae gan Diabetes UK fwy o cyngor dietegol ac awgrymiadau coginio.
Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
Mae gweithgarwch corfforol yn gostwng lefel glwcos eich gwaed, felly mae'n arbennig o bwysig gwneud ymarfer corff yn rheolaidd os bydd gennych ddiabetes.
Fel unrhyw un arall, dylech anelu at wneud o leiaf 150 munud (2 awr a 30 munud) o weithgarwch aerobig dwyster cymedrol, fel beicio neu gerdded yn gyflym, bob wythnos. Fodd bynnag, siaradwch â'ch meddyg teulu neu'ch tîm gofal diabetes yn gyntaf cyn dechrau unrhyw weithgarwch newydd.
Bydd ymarfer corff yn effeithio ar lefel glwcos eich gwaed, felly gall fod angen i'ch tîm gofal addasu eich triniaeth inswlin neu'ch diet i'w chadw'n sefydlog.
Peidio ag ysmygu
Os bydd gennych ddiabetes, bydd gennych risg uwch o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, fel trawiad ar y galon neu strôc.
Yn ogystal â chynyddu'ch risg fwy fyth, mae ysmygu hefyd yn cynyddu'ch risg o ddatblygu llawer o gyflyrau difrifol eraill sy'n gysylltiedig ag ysmygu, fel canser yr ysgyfaint.
Os hoffech roi'r gorau i ysmygu, gall eich meddyg teulu roi cyngor, cymorth a thriniaeth i'ch helpu i roi'r gorau iddi.
Darllenwch ragor ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu.
Cyfyngu ar alcohol
Os oes gennych ddiabetes ac rydych yn penderfynu yfed alcohol, dylech osgoi yfed mwy na'r symiau dyddiol a argymhellir, a pheidiwch byth ag yfed alcohol ar stumog wag. Gan ddibynnu ar faint byddwch yn ei yfed, gall alcohol achosi lefelau glwcos uchel neu isel yn y gwaed (hyperglycaemia neu hypoglycaemia).
Hefyd, gallai yfed alcohol effeithio ar eich gallu i gynnal eich triniaeth inswlin neu'ch gallu i fonitro glwcos y gwaed, felly gofalwch beidio ag yfed gormod.
Cynghorir dynion a menywod i beidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos yn rheolaidd.
Cadw'n iach
Mae pobl â chyflwr hirdymor, fel diabetes math 1, yn cael eu hannog i gael pigiad y ffliw bob hydref i amddiffyn rhag y ffliw. Mae brechiad niwmococol, sy'n amddiffyn rhag haint difrifol ar y frest o'r enw niwmonia niwmococol, yn cael ei argymell hefyd.
Gofalu am eich traed
Os oes gennych ddiabetes, byddwch mewn perygl uwch o ddatblygu problemau gyda'ch traed, gan gynnwys wlserau'r traed a heintiau o friwiau neu grafiadau bach.
Y rheswm am hyn yw bod diabetes yn gysylltiedig â chylchrediad gwaed gwael yn y traed, ac mae glwcos gwaed yn gallu niweidio'r nerfau.
I atal problemau gyda'ch traed, dylech gadw'ch ewinedd yn fyr a golchi'ch traed gyda dŵr cynnes bob dydd. Gwisgwch esgidiau sy'n ffitio'n iawn, ac ewch i weld podiatregydd neu giropodydd (arbenigwr gofal traed) yn rheolaidd, er mwyn canfod unrhyw broblemau'n gynnar.
Dylech archwilio'ch traed yn aml am unrhyw friwiau, pothelli neu grafiadau, gan na fyddwch efallai'n gallu eu teimlo os oes niwed i'r nerfau yn eich traed. Ewch i weld eich meddyg teulu os bydd mân anaf gennych i'ch troed nad yw'n dechrau gwella ymhen ychydig ddyddiau.
Cael profion llygaid rheolaidd
Os bydd gennych ddiabetes math 1, dylech gael eich gwahodd i gael sgriniad llygaid o leiaf unwaith y flwyddyn i wirio am retinopathi diabetig.
Mae retinopathi diabetig yn gyflwr llygaid lle mae'r gwaedlestri bach yn eich llygaid yn cael eu niweidio. Gall ddigwydd os bydd lefel glwcos eich gwaed yn rhy uchel am gyfnod hir (hyperglycaemia). Os na chaiff ei drin, gall retinopathi arwain at colli golwg yn y pen draw.
Mae rhagor o wybodaeth am retinopathi ar gael ar wefan Diabetes UK.
Beichiogrwydd
Os oes gennych ddiabetes ac rydych chi'n ystyried cael baban, byddai'n syniad da trafod hyn gyda'ch tîm gofal diabetes.
Trwy gynllunio beichiogrwydd, gallwch sicrhau bod lefelau glwcos eich gwaed yn cael eu rheoli mor dda â phosibl cyn i chi feichiogi.
Bydd angen i chi gadw rheolaeth lem ar eich glwcos gwaed, yn enwedig cyn beichiogi ac yn ystod wyth wythnos gyntaf datblygiad y baban i leihau'r risg y bydd y baban yn datblygu namau geni.
Dylech hefyd:
- wirio'ch meddyginiaethau - gallai rhai tabledi a ddefnyddir i drin diabetes niweidio'ch baban, felly efallai y bydd angen i chi newid i bigiadau inswlin
- cymryd dos uwch o dabledi asid ffolig. Mae asid ffolig yn helpu i atal eich baban rhag datblygu problemau madruddyn y cefn ac argymellir bod pob menyw sy'n ystyried cael baban yn cymryd asid ffolig. Cynghorir menywod sydd â diabetes i gymryd 5mg y dydd (sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig).
- dylech gael archwiliad llygaid. Mae retinopathi (gweler uchod) yn effeithio ar y gwaedlestri yn eich llygaid ac mae'n risg i bawb sydd â diabetes. Gall beichiogrwydd roi pwysedd ychwanegol ar y gwaedlestri bach yn eich llygaid, felly mae'n bwysig trin retinopathi cyn i chi feichiogi.
Gall eich meddyg teulu neu dîm gofal diabetes roi cyngor pellach i chi.
Cymorth a chefnogaeth
I lawer o bobl, mae'n ddefnyddiol siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg, a gallech gael cefnogaeth gan grŵp ar gyfer pobl â diabetes.
Mae mudiadau i gleifion yn cynnal grwpiau lleol, lle y gallwch gyfarfod â phobl eraill sydd wedi cael diagnosis o'r cyflwr.
Ar wefan Diabetes UK, gallwch chwilio am eich grŵp cymorth lleol ar gyfer diabetes. Os hoffech gysylltu'n uniongyrchol â chwnselydd hyfforddedig, gallwch ffonio llinell ofal Diabetes UK ar 0345 123 2399, neu anfonwch neges e-bost at helpline@diabetes.org.uk.
Cymorth ariannol a budd-daliadau
Os bydd eich diabetes yn cael ei reoli gan feddyginiaeth, bydd hawl gennych i gael archwiliadau llygaid am ddim.
Gall rhai pobl â diabetes fod yn gymwys i gael budd-daliadau anabledd a budd-daliadau analluogrwydd, yn dibynnu ar yr effaith y mae'r cyflwr yn ei chael ar eu bywyd.
Y prif grwpiau sy'n debygol o fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau lles yw plant, pobl oedrannus, pobl ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, a phobl sydd wedi dioddef cymhlethdodau diabetes.
Gall pobl dros 65 oed sy'n anabl iawn fod yn gymwys i gael math o fudd-dal anabledd o'r enw Lwfans Gweini.
Gallai gofalwyr fod yn gymwys i gael rhywfaint o fudd-dal hefyd, yn dibynnu sut maen nhw'n ymwneud â gofalu am yr unigolyn â diabetes.
Gall staff yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol wirio a ydych chi'n cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Dylen nhw a'ch nyrs diabetes arbenigol hefyd allu rhoi cyngor i chi ar lenwi'r ffurflenni.
Mae GOV.UK yn cynnwys rhagor o wybodaeth am budd-daliadau.
Rheolau diwrnod salwch diabetes
Os oes angen i chi gymryd inswlin i reoli eich diabetes, dylech fod wedi cael cyfarwyddiadau ar ofalu amdanoch eich hun pan fyddwch yn sâl - gelwir y rhain yn "rheolau diwrnod salwch".
Cysylltwch â'ch tîm gofal diabetes neu'ch meddyg teulu am gyngor os nad ydych wedi cael y rhain.
Bydd y cyngor a roddir yn benodol i chi, ond gallai eich rheolau diwrnod salwch gynnwys y camau cyffredinol canlynol:
- parhau i gymryd eich inswlin - mae'n bwysig iawn peidio â rhoi'r gorau i'ch triniaeth pan fyddwch yn sâl; gallai eich cynllun triniaeth ddweud p'un a oes angen i chi gynyddu eich dos dros dro
- profi lefel siwgr eich gwaed yn amlach nag arfer - cynghorir y rhan fwyaf o bobl i wirio'r lefel o leiaf bedair gwaith y dydd
- cadw'ch hun wedi'ch hydradu - gwnewch yn siwr eich bod yn yfed digon o ddiodydd sy'n rhydd rhag siwgr
- parhau i fwyta - bwytewch fwydydd solet os ydych chi'n teimlo'n ddigon da i wneud hynny, neu garbohydradau hylifol fel llaeth, cawl ac iogwrt os yw hyn yn haws
- gwirio'ch lefelau cetonau os yw lefel y siwgr yn eich gwaed yn uchel
Ceisiwch gyngor gan eich tîm gofal diabetes neu'ch meddyg teulu os yw'ch lefel siwgr gwaed neu getonau'n parhau i fod yn uchel ar ôl cymryd inswlin:
- os ydych yn ansicr p'un a ddylech wneud unrhyw newidiadau i'ch triniaeth
- os ydych yn datblygu symptomau cetoasidosis diabetig
- os oes gennych unrhyw bryderon eraill
Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf:
19/01/2022 15:04:16