Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol

Cyflwyniad

Mae heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI) yn glefydau sy'n cael eu trosglwyddo o un unigolyn i'r llall trwy gael rhyw ddiamddiffyn (rhyw heb gondom) neu drwy  gyffwrdd yn yr organau rhywiol.

Gallwch gael eich profi am STI mewn clinig iechyd rhywiol, clinig GUM (meddyginiaeth genhedlol droethol) neu feddygfa.

Mae'r dudalen hon yn rhoi trosolwg i chi o'r gwahanol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac yn rhoi dolenni cyswllt i ragor o wybodaeth am y cyflyrau hyn.

Chlamydia

Chlamydia yw un o'r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin yn y DU ac fe drosglwyddir yn rhwydd yn ystod rhyw. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sydd â clamydia yn sylwi ar unrhyw symptomau ac felly ni fyddant yn gwybod bod yr haint arnynt.

Mewn menywod, gall chlamydia achosi poen, neu deimlad o losgi wrth wneud dwr, rhedlif o'r wain, poen yng ngwaelod y bol yn ystod neu ar ôl rhyw, a gwaedu yn ystod neu ar ôl rhyw, neu rwng mislifoedd. Gall hefyd achosi mislif trwm.

Mewn dynion, gall chlamydia achosi poen, neu deimlad o losgi wrth wneud dwr, rhedlif gwyn, dyfrllyd o ben y pidyn (cala), a phoen neu dynerwch yn y ceilliau.

Mae hi hefyd yn bosib dioddef haint chlamydia yn eich pen-ôl, llwnc neu lygaid.

Gellir gwneud diagnosis o chlamydia yn hawdd gyda phrawf wrin neu swab o'r man sydd wedi'i effeithio. Gellir trin chlamydia yn hawdd â gwrthfiotigau, ond gall arwain at broblemau iechyd tymor hir, gan gynnwys anffrwythlondeb, os na chaiff ei drin.

Darllenwch fwy am chlamydia.

Dafadennau ar yr organau rhyw 

Tyfiannau bach cnawdog, lympiau neu newidiadau yn y croen sy'n ymddangos ar eich organau rhyw neu yn yr anws neu o gwmpas y mannau hynny yw dafadennau'r organau rhyw. Maent yn digwydd o ganlyniad i haint firol ar y croen a achosir gan y firws papiloma dynol (HPV).

Fel arfer fe fyddd y dafadennau'n ddi-boen, ond gallwch chi sylwi ar gosi neu gochni. Weithiau byddant yn achosi gwaedu.

Nid oes angen i chi gael rhyw dreiddiol i drosglwyddo'r haint gan fod HPV yn cael ei ledaenu trwy gyswllt croen ar groen.

Mae sawl triniaeth ar gael, fel elïau a chryotherapi (rhewi'r dafadennau).

Darllenwch fwy ynghylch dafadennau ar yr organau rhyw.

Herpes yr organau rhyw

Cyflwr cyffredin a achosir gan y firws herpes simplex (HSV) yw herpes yr organau rhyw. Dyma'r un firws sydd yn achosi doluriau annwyd.

Bydd rhai pobl yn datblygu symptomau ychydig ddyddiau ar ôl dod i gysylltiad â'r firws. Fel arfer bydd pothelli neu ddoluriau bach yn datblygu, a all achosi cosi neu oglais neu yn achosi poen wrth ichi wneud dwr.

Ar ôl i chi gael eich heintio, mae'r firws yn aros yn segur (anweithredol) am y rhan fwyaf o'r amser.  Fodd bynnag, mae sbardunau penodol yn gallu ysgogi'r firws, gan arwain at achosion o bothelli ail-ddatblygu eto, er fel arfer byddant yn llai o faint ac yn llai poenus.

Mae hi'n haws profi am herpes os bydd symptomau arnoch chi. Nid oes gwellhad ar gyfer herpes yr organau rhyw, ond gellir rheoli'r symptomau yn effeithiol fel arfer gan ddefnyddio meddyginiaethau gwrth-firol.

Darllenwch fwy ynghylch herpes yr organau rhyw.

Gonorrhoea

Haint facteriol yw gonorrhoea sy'n lledaenu'n rhwydd trwy ryw.

Ni fydd 50% o fenywod a 10% o ddynion yn profi symptomau a ni wyddant eu bod nhw wedi eu heintio.

Mewn menywod, gall gonorrhoea achosi poen, neu deimlad o losgi wrth wneud dwr, rhedlif o'r wain (yn aml dyfrllyd, melyn neu wyrdd), poen yng ngwaelod y bol yn ystod neu ar ôl rhyw, a gwaedu yn ystod neu ar ôl rhyw, neu rwng mislifoedd. Gall hefyd weithiau achosi mislifoedd trwm.

Mewn dynion, gall gonorrhoea achosi poen, neu deimlad o losgi wrth wneud dwr, rhedlif gwyn, melyn neu wyrdd o ben y pidyn (cala), a phoen neu dynerwch yn y ceilliau.

Mae hi hefyd yn bosib dioddef haint gonorrhoea yn eich pen-ôl, llwnc neu lygaid.

Gellir gwneud diagnosis o onorrhoea yn hawdd trwy brawf  troeth neu swab syml o'r man a effeithir. Mae'n hawdd trin y cyflwr gyda gwrthfiotigau. Os na chaiff ei drin, gall arwain at broblemau iechyd tymor hir mwy difrifol ac anffrwythlondeb.

Darllenwch fwy ynghylch gonorrhoea.

Syffilis

Haint facteriol sydd, yn ystod y cyfnod cyntaf, yn achosi dolur di-boen ond hynod heintus ar eich organau rhyw neu weithiau o amgylch y geg. Mae'r dolur yn para rhwng pythefnos a chwe wythnos cyn diflannu.

Wedyn, mae symptomau eilaidd, fel brech ar y croen a chlefyd yn debyg i ffliw neu golli gwallt clytiog, yn datblygu. Gallai'r rhain ddiflannu ymhen rhai wythnosau, ac ar ôl hynny, byddwch yn cael cyfnod heb symptomau.

Bydd y cyfnod diweddar neu drydyddol syffilis fel arfer yn digwydd ar ôl sawl blwyddyn, ac fe all achosi cyflyrau difrifol, fel problemau ar y galon, parlys a dallineb.

Gall symptomau syffilis fod yn anodd ei hadnabod. Fel arfer gellir defnyddio prawf gwaed hawdd i adnabod syffilis ar unrhyw gyfnod. Gellir ei drin a moddion gwrthfiotig, fel arfer chwistrelliadau o benisilin. Wrth i syffilis gael ei drin yn iawn mae hi'n bosib atal cyfnodau diweddarach y cyflwr rhag datblygu.

 Darllenwch fwy ynghylch syffilis.

HIV

Firws sydd fel arfer yn cael ei ddal trwy gael rhyw ddiamddiffyn neu rannu nodwyddau wedi eu heintio i chwistrellu cyffuriau yw HIV.

Bydd y firws HIV yn ymosod  ar, ac yn gwanhau eich gallu i ymladd heintiau a chlefydau. Nid oes gwellhad o HIV ond mae triniaethau ar gael sydd yn galluogi'r rhan fwyaf o bobl i fyw bywyd hir ac iach fel arall.

AIDS yw cyfnod terfynol haint HIV, pan nad yw eich corff yn gallu ymladd heintiau angheuol mwyach.

Bydd y mwyafrif o bobl sydd â HIV arnynt yn edrych ac yn teimlo'n iach a ni fydd symptomau arnynt. Wrth ddatblygu HIV yn gyntaf mae'n bosib y byddwch chi'n profi clefyd yn debyg i ffliw gyda gwres, llwnc tost neu frech. Fe elwir hyn yn glefyd trawsiadserwm.

Fel arfer defnyddir prawf gwaed syml i brofi am haint HIV. Bydd rhai clinigau hefyd yn cynnig prawf cyflym trwy brawf gwaed pigiad bys neu sampl boer

Darllenwch fwy ynghylch HIV ac AIDS ac Ymdopi â phrawf HIV positif.

Tricomoniasis vaginalis

Haint a drosglwyddir yn rhywiol sy'n cael ei achosi gan barasit bach yw tricomoniasis vaginalis (TV). Mae cael ei basio yn hawdd yn ystod rhyw a ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn ymwybod eu bod nhw wedi'u heintio.

Mewn menywod, gall TV achosi rhedlif ewynog melyn neu ddyfrllyd o'r wain bydd âg arogl annymunol, dolur neu gosi o amgylch y wain a phoen wrth wneud dwr.

Mewn dynion, prin iawn y bydd TV yn achosi symptomau. Mae'n bosib y byddwch yn profi poen wedi gwneud dwr, rhedlif gwyn, neu flaengroen llidus.

Weithiau, gall fod yn anodd adnabod TV ac mae hi'n bosib y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu ichi ymweld â chlinig arbennig am brawf troeth neu brawf swab. Unwaith y caiff ef ei adnabod, fel arfer gall TV ei drin â moddion gwrthfiotig.

Darllenwch fwy ynghylch tricomoniasis.

Llau pwbig (pubic lice)

Pryfed bach ('crabs') yw llau pwbig sydd yn cael eu lledaenu i eraill trwy gyffyrddiad agos o'r organau rhywiol. Fe arfer maent i'w darganfod ym mlew'r cedor, er fe fedrant fyw ym mlew'r gesail, blew'r corff, barf ac weithiau blew'r aeliau a blew'r amrannau.

Mae'r llau yn cropian o flewyn i flewyn ond nid ydynt yn neidio o berson i berson. Gall gymryd ychydig o wythnosau cyn y byddwch yn sylwi ar symptomau. Bydd y mwyafrif o bobl yn profi cosi, ac efallai y sylwch chi ar lau neu wyau ar y blew.

Gellir trin llau pwbig yn llwyddiannus gan amlaf  gydag eli neu siampw arbennig sydd i'w gael dros y cownter o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd neu o feddygfa neu glinig GUM. Nid oes angen ichi eillio blew eich cedor neu flew eich corff.

Darllenwch fwy ynghylch llau pwbig.

Y crafu

Caiff y crafu ei achosi gan widdon bach iawn sy'n tyrchu i mewn i'r croen. Fe gaiff ei ledaenu trwy gyffyrddiad agos y corff neu gyffyrddiad rhywiol, neu o ddillad, cynfasau a chlustogau neu lieiniau.

Os bydd y crafu arnoch chi mae'n debyg y byddwch yn dioddef cosi dwys yn enwedig yn ystod y nos. Gall y cosi fod o gylch eich organau rhyw, ond hefyd fe ddigwydd yn aml rhwng eich bysedd, ar eich arddwrn a migyrnau, yn eich cesail, neu ar eich corff a bronnau.

Gall fod frech neu smotiau bach arnoch. Mewn rhai pobl fe all y crafu cael ei gamgymryd am ecsema. Fel arfer mae hi'n anodd iawn gweld y gwiddon eu hun.

Gellir trin y crafu yn llwyddiannus gan amlaf gydag eli neu siampw arbennig sydd i'w gael dros y cownter o'r rhan fwyaf o fferyllfeydd neu o feddygfa neu glinig GUM. Gall y cosi para am ychydig o amser hyd yn oed wedi triniaeth effeithlon.

Darllenwch fwy ynghylch y crafu.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 04/12/2023 11:27:15