Brechau croen babandod a phlant

Cyflwyniad

Mae'n arferol i fabanod ddatblygu brechau'r croen hyd yn oed pan fyddant ond ychydig ddyddiau oed, gan fod eu croen sensitif yn addasu i amgylchedd gwahanol. Mae'r rhan fwyaf o frechau yn  ddiniwed a byddant yn diflannu ar eu pennau'u hunain.

Fodd bynnag, os yw eich babi wedi datblygu brech ac mae i weld yn anhwylus, neu os ydych chi'n pryderu, dylech fynd i weld eich meddyg teulu i ganfod yr achos ac i gael unrhyw driniaeth angenrheidiol. Mae'n arbennig o bwysig i fod yn ymwybodol o symptomau meningitis.

Gall y canllaw isod roi syniad gwell i chi o beth sy'n achosi'r frech, ond peidiwch â defnyddio hwn i wneud diagnosis eich hun o gyflwr eich babi. Ewch i weld meddyg teulu i gael diagnosis iawn bob amser.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys achosion mwyaf cyffredin brechau ymhlith babanod, sef:

  • milia (chwarennau olew wedi'u blocio)
  • erythema toxicum (y "frech arferol mewn babanod newydd eu geni")
  • acne newydd-anedig ("acne babanod")
  • crudgen
  • ecsema
  • brech clwt/cewyn
  • tarwden
  • milaria ("brech chwysu")
  • impetigo
  • wrticaria / llosg danadl [hives]
  • syndrom y foch goch
  • clwy'r dwylo, y traed a'r genau
  • y crafu

Mae hefyd yn disgrifio arwyddion rhybudd meningitis ac yn esbonio beth i wneud os ydych chi'n pryderu y gall fod perygl i'ch babi.

Milia

Bydd tua hanner o'r holl fabanod newydd eu geni yn datblygu smotiau mân gwyn (1-2mm), o'r enw milia, ar eu hwynebau. Dim ond mandyllau sydd wedi'u blocio ydynt a byddant yn clirio ymhen y pedair wythnos gyntaf ar ôl geni fel arfer.

Erythema toxicum

Bydd tua hanner o'r holl fabanod newydd eu geni yn datblygu adwaith coch blotiog ar y croen o'r enw erythema toxicum, pan fydd y babi yn ddau i dri diwrnod oed fel arfer. Mae'n frech arferol mewn babanod newydd eu geni na fydd yn poeni eich babi, a bydd yn clirio'n fuan ar ôl ychydig ddyddiau.

Acne newydd-anedig ('acne babanod')

Weithiau bydd plorod yn datblygu ar fochau, trwyn a thalcen babi o fewn mis wedi iddo gael ei eni. Mae'r rhain yn tueddu gwaethygu, cyn clirio'n gyfan gwbl ar ôl ychydig wythnosau neu fisoedd.

Gall golchi wyneb eich babi gyda dwr a lleithydd ysgafn wella golwg ei groen. Dylech osgoi meddyginiaethau acne sydd ar gyfer plant hyn ac oedolion.

Mae plorod neu bendduynnod sy'n datblygu ar ôl tri mis oed (acne babanaidd) yn tueddu bod yn fwy difrifol a bydd angen triniaeth feddygol yn aml.

Crudgen

Crudgen yw’r enw a roddir i’r darnau melynaidd, seimllyd a chennog sy’n ymddangos ar groen pen babi. Weithiau, bydd yr wyneb, y clustiau a'r gwddf yn cael eu heffeithio hefyd.

Nid yw crudgen yn cosi ac ni ddylai boeni eich babi. Os yw eich babi yn crafu neu wedi'i gynhyrfu, gall fod ecsema ganddo (gweler isod).

Mae crudgen yn gyflwr cyffredin sy'n tueddu datblygu o fewn dau i dri mis ar ôl geni. Bydd yn gwella heb driniaeth ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd fel arfer.

Gall golchi gwallt a phen eich babi gyda siampw babanod helpu i atal darnau newydd rhag datblygu.

Ecsema

Mae ecsema yn gyflwr hirdymor sy'n achosi i'r croen fynd yn goslyd, yn goch, yn sych a chracio. Y math mwyaf cyffredin yw ecsema atopig. Mae'n effeithio ar fabanod a phlant yn bennaf, ond gall barhau nes eich bod yn oedolyn.

Mae ecsema mewn babanod dan chwe mis oed yn cael ei gysylltu gydag alergeddau i laeth ac wyau.

Bydd ecsema atopig yn aml yn dechrau mewn babanod ifanc fel brech goch, goslyd ar yr wyneb, croen y pen a'r corff. Wrth i'r plentyn fynd yn hyn, bydd yn aml yn dechrau datblygu mewn rhannau lle ceir plygiadau croen, fel tu ôl i'r pen-glin neu ar flaen y penelin. Mae hufenau ac elïau yn gallu lleddfu'r symptomau yn aml.

Brech clwt/cewyn

Bydd brech clwt/cewyn yn digwydd pan fydd y croen o amgylch y rhan sy'n cael ei gorchuddio gan glwt/cewyn y babi yn llidio. Achosir hyn yn aml gan amlygu'r croen i wrin neu garthion am gyfnod hir, ond gall weithiau ddigwydd o ganlyniad i haint ffwngaidd neu gyflwr prin y croen.

Gallwch leihau brech clwt/cewyn weithiau trwy gymryd camau syml i gadw croen eich babi yn lân ac yn sych, a defnyddio eli rhwystrol os oes angen. Efallai y bydd angen hufen gwrthffyngol os yw'r frech yn cael ei hachosi gan haint ffyngaidd. Darllenwch fwy am clytiau/cewynnau a'r frech clwt/cewyn.

Tarwden

Haint ffyngaidd cyffredin yw tarwden sy'n achosi brech goch fel cylch bron unrhyw le ar y corff (mae croen pen, traed a morddwyd y babi yn fannau cyffredin). Gellir ei thrin yn hawdd fel arfer gan ddefnyddio hufenau y gallwch eu prynu dros y cownter.

Miliria ('brech chwysu')

Gall brech chwysu fflamychu pan fydd eich babi yn chwysu – er enghraifft, am ei fod wedi gwisgo mewn gormod o ddillad neu am fod yr amgylchedd yn boeth a llaith. Mae'n arwydd fod chwarennau eich babi wedi blocio. Gall ddatblygu lympiau coch mân neu bothelli ar ei groen, ond bydd y rhain yn clirio'n fuan heb driniaeth.

Impetigo

Mae impetigo yn haint bacterol heintus iawn ar haenau wyneb y croen sy'n achosi briwiau a phothelli. Nid yw'n ddifrifol fel arfer, ond gallwch fynd i weld eich meddyg teulu i gael presgripsiwn am wrthfiotigau, a ddylai glirio'r haint ymhen 7-10 diwrnod.

Wrticaria (llosg danadl)

Mae wrticaria (a elwir hefyd yn llosg danadl) yn frech goslyd, goch, uchel sy'n ymddangos ar y croen. Bydd yn digwydd pan fydd ysgogydd (fel bwyd y mae gan eich babi alergedd iddo) yn achosi i sylwedd o'r enw histamin gael ei ryddhau yn ei groen.

Os bydd eich babi yn cael wrticaria tra'n bwydo, gall y cyflwr gael ei ysgogi gan rywbeth y mae wedi'i fwyta neu'i yfed. Wyau a llaeth yw'r bwydydd mwyaf cyffredin, ond gall llawer o fwydydd eraill ei achosi weithiau.

Ni fydd brech wrticaria yn para'n hir fel arfer, a gellir ei rheoli gyda gwrth-histaminau.

Os bydd eich babi yn cael llosg danadl dro ar ôl tro, mae'n bwysig i chi weld eich meddyg teulu i drafod alergeddau posibl.

Syndrom y foch goch

Mae syndrom y foch goch (a elwir hefyd yn bumed clefyd) yn haint firaol cyffredin ymysg plant a babanod. Yn nodweddiadol mae'n achosi brech goch lachar ar y ddwy foch, a thwymyn.

Ni fydd angen triniaeth ar y rhan fwyaf o fabanod, gan mai cyflwr ysgafn sy'n diflannu ymhen ychydig ddyddiau yw syndrom y foch goch fel arfer.

Clwy'r dwylo, y traed a'r genau

Mae clwy'r dwylo, y traed a'r genau yn salwch firaol ysgafn, cyffredin sy'n achosi brech pothelli ar gledrau'r dwylo a gwadnau'r traed, yn ogystal ag wlserau yn y geg. Gall eich babi deimlo'n anhwylus a chael twymyn.

Nid oes angen triniaeth fel arfer gan y bydd system imiwnedd y babi yn clirio'r firws, a bydd y symptomau'n diflannu ar ôl rhyw 7 i 10 diwrnod. Os ydych chi'n poeni, ewch i weld eich meddyg teulu.

Y crafu

Mae'r crafu yn heigiad cyffredin y croen sy'n gallu effeithio ar bobl o bob oed. Fe'i achosir gan widdon mân sy'n turio i mewn i'r croen.

Mae'n cael ei ledaenu rhwng aelodau'r teulu yn aml, felly pan fydd babanod yn cael y crafu, bydd hynny'n digwydd fel arfer am fod rhywun arall yn y teulu wedi'i gael yn ddiweddar. Bydd babis sy'n dioddef o'r crafu yn datblygu smotiau mân coslyd iawn dros y corff i gyd, gan gynnwys ar wadnau'r traed, y ceseiliau a'r organau rhywiol.

Bydd angen i driniaeth gyda hufenau sy'n lladd gwiddon y crafu gael ei rhoi i'r teulu cyfan ar yr un pryd er mwyn iddi fod yn effeithiol.

Arwyddion rhybuddio meningitis

Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion rhybuddio meningitis yn eich babi, sy'n cynnwys:

  • mynd yn llipa ac yn ddiymateb, neu'n anystwyth gyda symudiadau plyciog
  • mynd yn biwis a ddim eisiau cael ei godi
  • crïo anarferol
  • chwydu a gwrthod bwyd
  • croen gwelw a blotiog
  • colli archwaeth
  • golwg o lygadrythu
  • cysglyd iawn ac yn amharod i ddeffro
  • twymyn

Bydd rhai babanod yn datblygu chwydd yn y rhan feddal o'u pen (ffontanél).

Dilynwch eich greddf. Os ydych yn credu bod meningitis gan eich babi, ewch i weld eich meddyg teulu ar unwaith neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys (A&E) agosaf.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 12/06/2023 10:07:16