Sgil effeithiau brechlyn ffliw plant
Sgîl-effeithiau cyffredin brechlyn chwistrell trwyn y ffliw
Ychydig iawn o sgîl-effeithiau sydd gan y brechlyn chwistrell trwyn y ffliw, a’r prif un yw y gall plant gael trwyn bach yn rhedeg neu’n stwffio am gyfnod byr. Mae sgîl-effeithiau posibl eraill yn cynnwys:
• tymheredd
• cur pen
• gwendid
• cyhyrau poenus
• colli archwaeth
Gall sgîl-effeithiau anghyffredin gynnwys brech, wyneb chwyddedig neu waed trwyn.
Os ydych yn pryderu am eich iechyd/iechyd eich plentyn ar unrhyw adeg, ceisiwch gyngor gan eich meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.
Sgîl-effeithiau prin y brechlyn chwistrell trwyn ffliw
Fel gyda phob brechlyn, mae siawns fach iawn o adwaith alergaidd difrifol (a elwir yn feddygol yn anaffylacsis).
Mae anaffylacsis yn ddifrifol iawn, ond gellir ei drin ag adrenalin. Pan fydd yn digwydd, fel arfer mae'n gwneud hynny o fewn ychydig funudau i'r brechiad. Mae staff sy'n rhoi brechiadau i gyd wedi'u hyfforddi i ganfod a delio ag adweithiau anaffylactig ac mae'r plant yn gwella'n llwyr ar ôl cael triniaeth.
Beth i'w wneud os yw'ch plentyn yn cael sgil-effaith o'r brechlyn chwistrell trwyn y ffliw
Os oes gan eich plentyn drwyn yn rhedeg ar ôl ei frechiad ffliw, sychwch ei drwyn â hances bapur ac yna ei daflu (a golchwch eich dwylo'n drylwyr).
Os bydd eich plentyn yn datblygu twymyn ar ôl ei frechiad ffliw, cadwch ef yn oer trwy:
• sicrhau nad oes gormod o haenau o ddillad neu flancedi arnynt
• rhoi diodydd oer iddynt
Gallech hefyd roi paracetamol neu ibuprofen i fabanod (yn y dos a'r ffurf gywir ar gyfer eu hoedran) i leihau eu twymyn. Mae'n bwysig darllen y cyfarwyddiadau dosio ar (neu yn) y pecyn.
Cofiwch – ni ddylai plant a phobl ifanc o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin.
Os ydych chi'n poeni am eich plentyn, ymddiriedwch yn eich greddf a siaradwch â'ch meddyg neu GIG 111 Cymru.
Os oes gan eich plentyn symptomau y credwch y gallent fod yn COVID-19 dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol sydd ar gael yn: https://llyw.cymru/coronafeirws
Ffoniwch y meddyg ar unwaith os bydd eich plentyn ar unrhyw adeg:
• sydd â thymheredd o 39 gradd C neu uwch, neu
• yn cael ffit
Sut i roi gwybod am sgil-effaith brechlyn a amheuir
Mae'r Cynllun Cerdyn Melyn yn system adrodd genedlaethol, sy'n eich galluogi i roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlyn. Mae'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), rheolydd meddyginiaethau a brechlynnau yn y DU.
Os byddwch chi neu'ch plentyn yn cael unrhyw sgîl-effeithiau o frechlyn, siaradwch â'ch meddyg, fferyllydd neu nyrs. Gallwch hefyd roi gwybod am sgîl-effeithiau yn uniongyrchol trwy Gynllun Cerdyn Melyn MHRA neu chwilio am Gerdyn Melyn MHRA yn Google Play neu Apple App Store.
Mae rhoi gwybod am sgîl-effeithiau a amheuir yn bwysig. Mae'n caniatáu monitro diogelwch brechlyn yn barhaus.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i phw.nhs.wales/brechlynffliw.
Last Updated: 08/09/2021 11:41:07
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by
NHS website
nhs.uk