Gwybodaeth beichiogrwydd


Tadau a Partneriaid

Bod yn gefn i'ch partner beichiog

Os mai chi yw gŵr neu bartner menyw feichiog, yr agosaf yr ydych at eich gilydd y mwyaf y byddwch yn gallu rhannu'r profiad o feichiogrwydd a genedigaeth. Gallwch edrych ar y wybodaeth am y gwahanol wythnosau o feichiogrwydd i weld beth sy'n digwydd i fenyw feichiog a'i baban drwy gydol y beichiogrwydd.

Yn ystod yr wythnosau cynnar (wythnos 4-14 o feichiogrwydd) gall merched beichiog deimlo'n flinedig iawn ac yn sâl. Gall rhai arogleuon a blasau gwneud i'ch partner teimlo'n gyfoglyd, ac efallai ni fydd hi ddim ond eisiau cysgu. Gall hi fynd yn grac am bethau sy'n ymddangos yn ddibwys i chi.

Yn ystod y misoedd canol (o wythnos 15-26 o feichiogrwydd) mae llawer o fenywod beichiog yn adennill eu hegni, ac efallai na fydd hi am gael ei thrin yn ofalus rhagor.

Tuag at ddiwedd y beichiogrwydd (o wythnos 27-40) gall y baban deimlo'n drwm iawn. Mae blinder a hydeimledd yr wythnosau cynnar yn dychwelyd yn aml, ac efallai y bydd eich partner yn dechrau teimlo'n ofnus am yr enedigaeth. Os bydd hi wedi dechrau ar gyfnod mamolaeth o'r gwaith, gallai hi deimlo'n unig heb gwmni ei chydweithwyr.

Os ydy eich partner yn bryderus, ceisiwch ei hannog hi i siarad amdano. Mae llawer o fenywod yn fwy cyfarwydd â gwrando nag â chael rhywun yn gwrando arnyn nhw, felly gallai gymryd ychydig o amser cyn iddi ddechrau siarad. Byddwch yn amyneddgar. Os ddysgwch chi sut i fod yn gefn i'ch gilydd yn awr, bydd eich perthynas yn gryfach pan fydd y baban yn cael ei eni.

Cefnogaeth ymarferol

Nawr yw'r amser i ddechrau rhannu'r gwaith ty, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny. Mae dau faes lle y gallwch fod o gymorth:

  • Coginio: yn y misoedd cynnar gall yr arogl o goginio troi arni hi ac os ydych chi'n coginio, mae hi'n fwy tebygol o fwyta'r hyn sydd ei angen arni
  • Cario bagiau siopa trwm: gall cario rhoi llawer o straen ar ei chefn, felly gwnewch y siopa eich hun neu gyda'ch partner

Gadewch i'ch partner gwybod nad yw hi ar ben ei hun. Dechreuwch trwy edrych trwy'r wefan yma gyda hi fel bod y ddau ohonoch yn dysgu gyda'ch gilydd. Mae'r cyngor iechyd sylfaenol yr un mor bwysig i chi ag yw hi iddi hi:

  • Mae bwyta'n dda yn llawer haws os ydych yn ei wneud gyda'ch gilydd: dechreuwch ar yr arferion bwyta'n iach y byddwch chi am drosglwyddo i'ch plentyn
  • Mae mwg sigarets yn beryglus i fabanod, felly os ydych chi'n ysmygu, ceisiwch gyngor ar sut i roi'r gorau. Os byddwch yn parhau i ysmygu, peidiwch ag ysmygu yn agos at eich partner, peidiwch â chynnig sigarets iddi, a pheidiwch â gadael eich sigarets dros y lle
  • Ewch gyda'ch partner at y meddyg os ydy hi'n poeni, neu sicrhewch eich bod yn siarad amdano pan ddaw hi adref
  • Os bydd hi'n cael sgan byddwch yno gyda hi, a gweld eich baban ar y sgrin: os bydd yn rhaid iddi gael profion ychwanegol mae bod yno i fod yn gefn iddi hi'n arbennig o bwysig

Pan fydd eich partner yn cael ei chynnig profion gwaed yn ystod beichiogrwydd cynnar, efallai y gofynnir i chi gael profion gwaed hefyd. Mae hyn er mwyn gweld a yw eich baban mewn perygl o gael cyflwr etifeddol neu enetig, megis anemia cryman-gell, thalasemia neu ffibrosis systig. Byddwch hefyd yn cael eich holi am hanes eich teulu a'ch tarddiad, gan fod rhai cyflyrau etifeddol penodol yn fwy cyffredin yn ddibynnol ar hanes y teulu.

Dysgwch am ddosbarthiadau cyn geni ar gyfer parau, neu nosweithiau tadau. Po fwyaf yr ydych yn gwybod am yr esgor, y mwyaf y medrwch chi helpu.

Mae'r rhan fwyaf o ddynion yn aros gyda'u partneriaid yn ystod y cyfnod esgor, ond mae'n bwysig bod y ddau ohonoch yn hapus am hyn. Dysgwch am beth sy'n digwydd mewn esgor a beth mae'n ei olygu i fod yn bartner geni. Os byddai'n well gennych beidio â bod yn bresennol, siaradwch â'ch partner a gwrando ar sut mae hi'n teimlo. Efallai y byddwch yn gallu meddwl am gyfaill neu berthynas a allai fynd gyda hi yn eich lle.

Siaradwch am yr hyn yr ydych yn ei ddisgwyl wrth esgor a siaradwch am y cynllun geni. Llenwch y cynllun gyda'ch gilydd fel eich bod yn gwybod beth sydd arni hi eisiau a sut y gallwch chi helpu i gyflawni hyn. Gefnogwch hi os bydd hi'n newid ei feddwl yn ystod yr esgor. Byddwch yn hyblyg: iechyd eich partner a'r baban yw'r peth mwyaf pwysig , felly mae angen i gynlluniau geni newid ambell waith.

Eich teimladau

Er mai'r fenyw yw'r un sy'n cario'r babi nid yw'n golygu nad yw beichiogrwydd ddim yn cael unrhyw effaith ar y tad. P'un a yw'r beichiogrwydd wedi ei baratoi am fisoedd neu flynyddoedd, neu yn annisgwyl, mae'n debyg y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau. Mae baban yn golygu cyfrifoldeb newydd, beth bynnag yw eich oedran, ac o bosib nid ydych yn teimlo'n barod ar eu cyfer.

Gallech chi a'r ddarpar fam gael teimladau cymysg am y beichiogrwydd. Mae'n normal i'r ddau ohonoch deimlo fel hyn. Mae'r beichiogrwydd cyntaf yn ddigwyddiad pwysig iawn. Bydd yn newid eich bywydau a gall y newid hwn godi ofn hyd yn oed os yw hi'n rhywbeth yr ydych wedi bod yn edrych ymlaen ato.

Gall problemau ariannol fod yn bryder. Efallai y byddwch yn wynebu colli incwm am gyfnod, costau ychwanegol oherwydd y baban ac, os yw'r fam yn dychwelyd i'r gwaith, cost gofal i'r plentyn. Efallai eich bod yn poeni nad yw eich cartref yn iawn neu y byddwch yn teimlo rheidrwydd i aros mewn swydd nad ydych yn hoffi (gallai fod yn ddefnyddiol i edrych ar ba fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt a dechrau cynllunio ymlaen llaw).

Mae ambell ddyn yn teimlo ei fod wedi ei anghofio. Bydd sylw'r fenyw feichiog ar yr hyn sy'n digwydd y tu mewn iddi, ac efallai na fyddwch yn sylweddoli faint yr oeddech yn dibynnu ar ei sylw hi i deimlo'n hapus.

Rhyw yn ystod beichiogrwydd

Efallai y bydd eich unigrwydd yn cynyddu os nad yw hi ddymuno caru â chi, sy'n gallu digwydd yn ystod beichiogrwydd. Mae'n amrywio o fenyw i fenyw. Does dim rheswm meddygol dros osgoi rhyw, ond cadwch mewn cof:

  • gall ei bronnau fod yn dyner iawn yn yr wythnosau cynnar
  • peidiwch â chael rhyw os oes unrhyw waedu neu boen
  • gwnewch yn siwr ei bod hi yn gyfforddus - efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar osgo caru gwahanol wrth i'r beichiogrwydd fynd yn ei flaen

Dysgwch mwy am gael rhyw yn ystod beichiogrwydd. Os nad ydych chi'n cael rhyw, ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o fod yn agos, ond siaradwch am y peth.

Mae rhai dynion yn ei gweld hi'n anodd cael rhyw yn ystod beichiogrwydd. Gallent deimlo'n anghyfforddus ynglyn â'r newid yn siâp eu partner. Os yw hyn yn digwydd i chi, siaradwch am y peth, ond byddwch yn sensitif am sut mae eich partner yn teimlo. Efallai ei bod yn teimlo'n ansicr am ei chorff yn newid a gellir ei brifo os bydd yn credu nad ydych yn hoffi sut mae hi'n edrych. Ymddiriedwch mewn cyfeillion sydd eisoes yn dadau ac yn gwybod beth rydych chi'n mynd trwyddo.

Byddwch yn barod ar gyfer yr enedigaeth

Gall y rhestr hon fod yn ddefnyddiol i ddarpar dadau yn ystod yr wythnosau olaf:

  • gwnewch yn siwr y gellir cysylltu â chi trwy'r amser
  • penderfynwch sut y byddwch yn cyrraedd yr ysbyty (os ydych wedi trefnu genedigaeth mewn ysbyty)
  • os ydych yn defnyddio'ch car eich hun, gwnewch yn siwr ei fod yn gweithio a bod petrol ynddo, ac ewch am dro i weld pa mor hir mae'n cymryd i fynd o'ch ty i'r ysbyty
  • cofiwch bacio bag i chi'ch hunain sydd yn cynnwys byrbrydau, camera, ac eich ffôn neu arian mân ar gyfer ffônio

Gweld eich baban am y tro cyntaf

Gall wylio eich baban yn dod i'r byd fod yn brofiad anhygoel. Efallai bydd y bydwragedd yn rhoi'r baban i chi. Bydd rhai dynion ag ofn brifo'r creadur bach. Peidiwch â bod ag ofn. Daliwch y baban yn agos at eich corff.

Mae llawer o dadau yn profi emosiynau cryf iawn, mae rhai yn crio. Gall deimlo'n anodd mynd adref a gorffwys ar ôl profiad mor ddwys, felly ystyriwch beth allai fod o gymorth yn ystod yr amser yma.  Efallai y byddwch am ddweud wrth rywun am yr enedigaeth cyn i chi orffwys, ond wedyn gysgwch os gallwch chi. Pan fydd y baban yn dod adref (os cafodd ei eni mewn ysbyty), gallwch ddisgwyl nosweithiau di-gwsg am beth amser i ddod.

Dod â nhw adref

Efallai y gwelwch fod perthnasau a ffrindiau yn gallu helpu yn y dyddiau cynnar fel y gall mam y baban orffwys a bwydo'r baban. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar ôl genedigaeth anodd. Fodd bynnag, efallai eich bod yn byw ymhell oddi wrth berthnasau a dim ond chi sydd gyda'ch partner,  mae'n syniad da i gael wythnos neu ddwy i ffwrdd o'r gwaith os gallwch chi (dysgwch am absenoldeb tadolaeth - os ydych yn gymwys, bydd angen i chi wneud cais am absenoldeb tadolaeth cyn genedigaeth y baban). Meddyliwch am y canlynol:

  • Gall dderbyn gormod o ymwelwyr blino mam y babi ac yn ymyrryd ar yr adeg arbennig hon pan rydych yn dysgu am fod yn rhieni ac yn dod yn deulu
  • Gallech edrych ar ôl y baban fel gall mam y baban gael gorffwys bob dydd
  • Gwnewch y gwaith ty sylfaenol, ond peidiwch â theimlo bod rhaid i chi gadw'r lle yn lân iawn
  • Ceisiwch ddefnyddio'r amser hwn i ddod i adnabod eich baban - dysgu sut i newid clytiau ac ymdrochi eich baban yn ogystal â chofleidio a chwarae gydag ef neu hi
  • Os yw eich baban yn cael ei fwydo, gallech ddod a byrbryd a rhywbeth i yfed i'r fam wrth iddi fwydo; os mae'n bwydo gyda photel, gallech sterileiddio a llenwi'r poteli a rhannu'r bwydo
  • Byddwch yn ystyriol am ryw - gall gymryd wythnosau neu fisoedd cyn bod mam y baban yn teimlo'n gyfforddus, felly meddyliwch am drafod ffyrdd eraill o ddangos eich cariad at eich gilydd nes bod rhyw yn gyfforddus eto.

Gallwch ddysgu mwy am gorff eich partner ar ôl yr enedigaeth, gan gynnwys pwythau, dolur a gwaedu.

Eich partner yn teimlo'n isel

Bydd rhai mamau yn dioddef iselder a bydd angen llawer o gymorth ychwanegol, yn ymarferol ac yn emosiynol. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod sut i adnabod symptomau iselder ôl-enedigol a ble i gael cymorth.

Efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo'n isel. Y fenyw yw'r un sy'n wynebu'r newidiadau mwyaf, ond nid yw hynny'n golygu y dylech chi anwybyddu'ch teimladau chi eich hun. Mae angen cefnogaeth arnoch chi hefyd. Daliwch ati i siarad a gwrando ar eich gilydd, siaradwch â ffrindiau, a byddwch yn amyneddgar. Bydd pethau'n gwella gydag amser.

Mae dod yn rhiant, yn enwedig am y tro cyntaf, yn brofiad emosiynol. Trwy ddarllen yr holl wybodaeth yn y canllaw beichiogrwydd hwn, gallwch ddysgu am beth i'w wneud i helpu'r ddarpar fam er mwyn iddi fod yn hapusach ac yn iachach drwy gydol ei beichiogrwydd.

Dysgwch am ddiet iach yn ystod beichiogrwydd, bwydydd dylai hi eu hosgoi, gofal cyn-geni a beth sy'n digwydd yn y cyfnod esgor. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am sut i gynnig cymorth ymarferol drwy gymryd absenoldeb tadolaeth ar ôl i'r baban gael ei eni.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk